Bywyd yn y carchar

Printable version

1. Cyrraedd y carchar

Pan fydd rhywun yn cyrraedd y carchar, mae’n cael o leiaf un cyfweliad ac asesiad gyda gweithiwr proffesiynol cymwysedig er mwyn:

  • cael gwybod beth yw ei hawliau
  • cael cymorth gyda’i iechyd corfforol a meddyliol, er enghraifft, iechyd rhywiol neu broblemau cyffuriau ac alcohol
  • cael gwybod pa gyrsiau y gall eu dilyn yn y carchar
  • deall rheolau a gweithdrefnau’r carchar

Mae’r carcharor yn cael rhif carcharor ac mae ei eiddo’n cael ei gofnodi a’i roi yn rhywle diogel nes iddo gael ei ryddhau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Categorïau diogelwch

Mae carcharorion yn cael categori diogelwch yn seiliedig ar y canlynol:

  • pa mor debygol ydynt o geisio dianc
  • eu risg o achosi niwed i garcharorion eraill a staff y carchar

Gellir trosglwyddo carcharor i garchar arall sydd â chategori diogelwch gwahanol ar unrhyw adeg.

2. Breintiau a hawliau’r carcharor

Gall carcharorion sy’n dilyn rheolau ennill breintiau. Gelwir hyn yn ‘Gynllun Cymhellion a Breintiau Haeddiannol’. Efallai y bydd carcharor yn gallu:

  • cael mwy o ymweliadau gan deulu neu ffrindiau
  • cael gwario mwy o arian bob wythnos

Mae’r breintiau’n wahanol ym mhob carchar – gall staff egluro i’r carcharor sut mae’r cynllun yn gweithio.

Hawliau

Mae gan garcharorion hawliau, gan gynnwys:

  • gwarchodaeth rhag bwlio ac aflonyddu hiliol
  • gallu cysylltu â chyfreithiwr
  • gofal iechyd – gan gynnwys cymorth ar gyfer cyflwr iechyd meddwl

Dylai pob carcharor allu treulio rhwng 30 munud ac awr y tu allan yn yr awyr agored bob dydd.

Cosbau

Fel arfer, mae carcharor sy’n torri rheolau carchar yn cael ei gosbi. Gellir:

  • ei gadw yn ei gell am hyd at 21 diwrnod
  • rhoi hyd at 42 diwrnod ychwanegol yn y carchar iddo ar ben ei ddedfryd wreiddiol

Gall y carchar ddileu breintiau, er enghraifft tynnu teledu o gell.

3. Gofal iechyd yn y carchar

Mae gan garcharorion yr un hawl i safon o ofal iechyd a thriniaeth ag unrhyw un y tu allan i’r carchar.

Mae’r driniaeth am ddim ond rhaid iddi gael ei chymeradwyo gan feddyg carchar neu aelod o’r tîm gofal iechyd.

Nid oes ysbyty mewn carchardai, ond mae gan lawer ohonynt welyau i gleifion mewnol.

Y tîm gofal iechyd sy’n delio â’r rhan fwyaf o broblemau. Os na allant wneud hynny, gall y carchar wneud y canlynol:

  • gofyn i arbenigwr ymweld â’r carchar
  • trefnu triniaeth mewn ysbyty allanol

Gall y tîm gofal iechyd ofyn i feddyg teulu’r carcharor am ei gofnodion, ond dim ond os yw’r carcharor yn cytuno i hynny.

Cymorth a chefnogaeth arbenigol

Gall carcharorion gael cymorth arbenigol, er enghraifft:

  • os oes ganddo broblemau cyffuriau neu alcohol
  • os oes ganddo HIV neu AIDS
  • os yw’n anabl neu fod ganddo anhawster dysgu

Gwrthod triniaeth feddygol

Gall carcharor wrthod triniaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd y tîm gofal iechyd yn dewis rhoi triniaeth os nad yw’r carcharor yn gallu gwneud penderfyniadau ei hun (er enghraifft os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl).

Lle bynnag y bo modd, bydd y tîm gofal iechyd yn trafod hyn gyda theulu’r carcharor yn gyntaf.

4. Carcharorion agored i niwed

Mae staff wedi cael eu hyfforddi i nodi carcharorion sydd mewn perygl o gael eu bwlio, o ladd eu hunain neu o niweidio eu hunain. Efallai y bydd y carcharor yn cael ei reolwr achos ei hun a fydd yn gwneud yn siŵr:

  • ei fod yn cael ei holi am ei iechyd meddwl, er enghraifft os yw’n teimlo’n isel
  • yn cael cymorth rheolaidd gan arbenigwr iechyd

Mae gan y rhan fwyaf o garchardai hefyd ‘gynlluniau gwrando’ sy’n cynnig cymorth emosiynol yn gyfrinachol – fel arfer gan gyd-garcharorion.

Ysbytai seiciatrig

Gellir symud carcharor i ysbyty seiciatrig diogel er ei ddiogelwch ei hun. Fydd hyn ddim yn digwydd oni bai ei fod yn bodloni amodau penodol o dan .

Pan fydd y carcharor wedi gwella, bydd yn dychwelyd i’r carchar.

Os ydych chi’n poeni am garcharor

Os ydych chi’n poeni am garcharor:

  • rhowch wybod i aelod o staff y carchar pan fyddwch yn ymweld
  • cysylltwch â ‘Thîm Dalfa Fwy Diogel’ y carchar

Mae rhai carchardai’n rhedeg llinellau cymorth Dalfa Fwy Diogel cyfrinachol lle gallwch adael neges yn egluro eich pryderon. Dewch o hyd i garchar ac edrych ar yr adran cysylltu i gael manylion.

5. Beichiogrwydd a gofal plant yn y carchar

Gall merched sy’n rhoi genedigaeth yn y carchar gadw eu babi am y 18 mis cyntaf mewn uned mam a babi. Gall carcharor sydd â phlentyn dan 18 mis oed wneud cais i ddod â’u plentyn i’r carchar gyda nhw.

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn trefnu bod plant dros 18 mis yn derbyn gofal (er enghraifft gan rieni’r carcharor, neu ofal maeth).

Gwneud cais am le mewn uned mam a babi

  1. Gall y carcharor wneud cais am le mewn uned mam a babi pan fydd yn mynd i’r carchar.

  2. Bydd bwrdd derbyn yn penderfynu ai dyma’r peth gorau i’r plentyn.

  3. Os nad oes lle yn y carchar y mae’r fam yn mynd iddo gyntaf, efallai y bydd yn cael cynnig lle mewn uned arall.

  4. Os nad oes lle mewn unrhyw uned, rhaid gwneud trefniadau i ofalu am y plentyn y tu allan i’r carchar.

  5. Bydd y fam yn gallu apelio os bydd lle yn cael ei wrthod – bydd y carchar yn esbonio sut mae gwneud hynny.

  6. Bydd cynlluniau gwahanu yn cael eu llunio pan fydd y fam yn mynd i’r carchar os bydd y plentyn yn cyrraedd 18 mis cyn i’w dedfryd ddod i ben.

Ar gyfer carcharorion sydd â dedfryd o 18 mis neu fwy, bydd trefniadau’n cael eu gwneud fel arfer i ofalu am y plentyn y tu allan i’r carchar.

Carchardai gydag unedau mam a babi

Mae gan y carchardai canlynol unedau mam a babi:

  • Bronzefield
  • Eastwood Park
  • Styal
  • New Hall
  • Peterborough
  • Askham Grange

6. Addysg a gwaith yn y carchar

Mae cyrsiau fel arfer ar gael i helpu carcharorion i ddysgu sgiliau newydd, er enghraifft dysgu darllen ac ysgrifennu, defnyddio cyfrifiaduron a gwneud mathemateg sylfaenol. Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn cael Cynllun Dysgu Unigol sy’n rhestru cyrsiau a hyfforddiant.

Cymwysterau a sgiliau

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n arwain at gymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan gyflogwyr y tu allan i’r carchar, er enghraifft TGAU neu NVQ. Efallai y bydd carcharorion yn gallu dilyn cwrs dysgu o bell, er enghraifft gyda’r Brifysgol Agored.

Gall carcharor ddysgu sgiliau, er enghraifft gwaith coed, peirianneg neu arddio.

Gweithio yn y carchar

Mae llawer o garcharorion yn cael cyfle i weithio wrth gyflawni eu dedfryd, er enghraifft gwneud dillad a dodrefn neu beirianneg drydanol.

Gwneir hyn mewn gweithdai carchar ac fel arfer mae’n waith cyflogedig.

Gall carcharorion hefyd weithio o amgylch y carchar ei hun, er enghraifft mewn ceginau a golchdai.

Efallai y caniateir i garcharor ‘risg isel’ weithio yn y gymuned.

Gallwch gael gwybod pa gyfleoedd addysg a gwaith y mae pob carchar yn eu cynnig.