Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr')

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda. Cadarnhewch pa fathau o ID ffotograffig y gallwch eu defnyddio ac ym mha etholiadau y mae angen i chi ddangos un.

Os nad oes gennych ID ffotograffig sy’n caniatáu i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am ‘Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr’ am ddim. Dogfen bapur â’ch llun arni yw hon y gallwch ei defnyddio i gadarnhau pwy ydych chi wrth bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. 

Mae rheolau gwahanol ynghylch .

Ni allwch ddefnyddio eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr fel prawf adnabod am resymau eraill, er enghraifft i brofi beth yw eich oedran. 

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd i wneud cais

Dim ond os byddwch yn pleidleisio yn bersonol a bod yr amodau canlynol yn berthnasol i chi y mae angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr:

  • nid oes gennych ID ffotograffig a dderbynnir  
  • nid ydych yn edrych fel y ffotograff ar eich ID mwyach  
  • mae’r enw ar eich ID ffotograffig yn wahanol i’ch enw ar y gofrestr etholiadol

Os yw’r enw ar eich ID ffotograffig yn wahanol, gallwch gofrestru i bleidleisio eto neu fynd â dogfen gyda chi i bleidleisio sy’n profi eich bod wedi newid eich enw.

Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio er mwyn gwneud cais.

Gwneud cais am ID ffotograffig i bleidleisio 

Gofynnir am y canlynol: 

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cais o hyd. Bydd angen i chi ddarparu dogfennau eraill i brofi pwy ydych chi, er enghraifft tystysgrif geni, cyfriflen banc a bil cyfleustodau. 

Os bydd angen help arnoch i dynnu llun, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Beth mae angen i chi wybod

Bydd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn ddilys am gyhyd ag y byddwch yn dal i edrych fel y llun ar eich tystysgrif. Gallwch barhau i’w defnyddio os byddwch yn symud i ardal arall. 

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch hefyd wneud cais am dystysgrif awdurdod pleidleisiwr drwy’r post.

Bydd angen i chi argraffu, llenwi ac anfon y ffurflen i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Cael help i wneud cais

Gallwch chi gael help i wneud cais gan eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae canllaw hawdd ei ddeall am wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Os byddwch yn colli neu’n difrodi eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr

Os byddwch yn colli neu’n difrodi eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, rhaid i chi wneud cais am dystysgrif newydd.