Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref 2025 os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.
Os ydych yn cofrestru ar ôl 5 Hydref 2025, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr neu e-bost atoch gyda dyddiad cau gwahanol ar gyfer anfon eich Ffurflen Dreth. Bydd hyn 3 mis o’r dyddiad ar y llythyr neu’r e-bost.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych wedi cofrestru o’r blaen
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad o’r blaen, ond ni wnaethoch anfon Ffurflen Dreth y llynedd, bydd yn rhaid i chi gofrestru eto er mwyn ailactifadu eich cyfrif.
Os ydych yn aros am Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.
Cyn i chi ddechrau
Dylech wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth cyn cofrestru.