Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Sgipio cynnwys

Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu

Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran, a ble’r ydych yn byw.

Os ydych yn gyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 os ydych yn gyflogedig ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:

Os ydych yn hunangyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:

  • incwm gros o £1,000 neu lai

  • incwm gros dros £1,000, ond gydag elw o lai na £6,845

Gallwch hefyd dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig gyda swydd benodol. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn un o’r canlynol:

  • arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad

  • landlord ac yn gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

  • gweinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl

  • person sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes, a heb gael ffi na chomisiwn

Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:

  • ydych yn ennill llai na £125 o gyflogaeth

  • oes gennych elw sy’n llai na £6,845 o hunangyflogaeth

Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac i gael gwybod a fyddai o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fyddai o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych yn ddi-waith

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 os ydych yn ddi-waith ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:

  • nid ydych yn hawlio budd-daliadau

  • nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae’n rhaid i chi naill ai:

  • fod wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol 

  • fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi’u talu am o leiaf 3 blynedd

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae’n rhaid i’r ddau beth canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael 

  • rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Nododd yr arweiniad fod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch wneud cais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y 6 mis nesaf, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:

Cael help i gyfrifo pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu

Defnyddiwch i gael gwybod:

  • a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

  • pa fath o gyfraniadau gwirfoddol y gallwch eu talu