Call for evidence outcome

Ymateb y Llywodraeth a chrynodeb o'r ymatebion

Updated 10 December 2024

Maer ddogfen hon yn cynnwys crynodeb or ymatebion ir alwad am dystiolaeth ar ddiwygior system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer trydan gwastraff.

Cynhaliwyd yr alwad am dystiolaeth rhwng 28 Rhagfyr 2023 a 7 Mawrth 2024.

Diben yr alwad am dystiolaeth hwn yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau i gefnogi diwygiadau i Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 syn mynd y tu hwnt ir cynigion penodol a nodir yn yr ymgynghoriad ar asesiad effaith cysylltiedig a gyhoeddwyd ar 28 Rhagfyr. Bydd y dystiolaeth a gesglir yn llywio datblygiad polisi ehangach sydd 但r bwriad o gefnogir ymgyrch tuag at economi fwy cylchol ac ymrwymiadau Sero Net drwy sicrhau bod cynnyrch yn cael eu dylunio au gwaredu mewn ffordd syn lleihau effeithiau amgylcheddol.

Maer alwad am dystiolaeth hwn yn ystyried meysydd iw diwygio lle mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd yn atal cynigion polisi manwl rhag cael eu datblygu. Rydym wedi nodi nifer o syniadau, ac rydym yn croesawu eich barn arnynt yn ogystal 但 thystiolaeth ategol.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon yn ddiolchgar am yr ymatebion a ddaeth i law ir alwad am dystiolaeth hwn. Rydym yn parhau i ystyried yr holl gynigion a nodir yn yr alwad am dystiolaeth ar ymgynghoriad cysylltiedig, a byddwn yn nodi ein hymateb ir cynigion hynny yn 2025.

Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaeth gyffredin i ysgogi economi gylchol ar draws pob un or pedair gwlad. Gall dull or fath ysgogi twf economaidd, amddiffyn yr amgylchedd a chreu gwerth cymdeithasol.

Maer ymrwymiad hwnnw ir economi gylchol wedii ymgorfforin ddwfn yn strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon:

  • Yr Alban:
  • Cymru:
  • Gogledd Iwerddon:

Bydd llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth economi gylchol ar gyfer Lloegr y flwyddyn nesaf. Mae wedi ffurfio Tasglu Economi Gylchol, syn cynnwys aelodau o ddiwydiant, y byd academaidd, ar gymdeithas sifil o bob rhan or DU i arwain datblygiad y strategaeth honno.

Bydd trafodaethau rhwng y pedair gwlad ar ddatblygu polisi ar adnoddau materol a gwastraff syn ymwneud 但 chyfarpar trydanol a thrydan yn parhau gydar ymatebion ir ymgynghoriad ar alwad am dystiolaeth i lywior trafodaethau hynny. Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon yn nodi cynlluniau ar gyfer diwygiadau ehangach syn adlewyrchu eu blaenoriaethau strategol yn yr ymgyrch tuag at economi gylchol ledled y DU y flwyddyn nesaf.

Crynodeb or Ymatebion

Maer ddogfen hon yn crynhoir ymatebion a gafwyd i bob cwestiwn. Cawsom gyfanswm o 122 o ymatebion gwahanol; nid oedd pob ymateb yn ystyried pob cwestiwn. Cawsom ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, fel y nodir yn y tabl isod.

Gr典p ymatebwyr Rhif
Llywodraeth leol 25
Cynhyrchydd electronig 24
Corff Masnach neu sefydliad arall syn cynrychioli busnes 21
Unigolyn (h.y. ddim yn cynrychioli sefydliad) 13
Elusen neu fenter gymdeithasol 11
Cynllun Cydymffurfio Cynhyrchwyr 9
Sefydliad anllywodraethol 4
Dosbarthwr (gan gynnwys Marchnad Ar-lein) 3
Gweithredwr ailddefnyddio neu atgyweirio 3
Cwmni rheoli gwastraff 3
Gweithredwr neu ailbrosesydd gwastraff 3
Academaidd neu ymchwil 1
Gr典p cymunedol 1
Ymgynghoriaeth 1
Cyfanswm 122

Pennod 1: Adennill costau net yn llawn

Roedd y bennod hon yn ceisio tystiolaeth ynghylch a ddylai cost gweithgareddau rheoli gwastraff penodol syn ymwneud 但 chyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syrthio ar ysgwyddaur cynhyrchwyr ai peidio. Roedd hyn yn cynnwys a ddylai cynhyrchwyr ariannu cost cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sydd wedii dipion anghyfreithlon, wedii daflu fel sbwriel neu wedii waredun anghywir yn y bin gwastraff gweddilliol.

Cwestiwn 5: Gan ystyried y pwyntiau o blaid ac yn erbyn a nodir yn yr alwad am dystiolaeth, dewiswch pa rai or gweithgareddau canlynol y dylai cynhyrchwyr eu hariannu:

  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael ei daflu fel sbwriel
Ymateb Rhif
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol 51 (98%)
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon 42 (79%)
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael ei daflu fel sbwriel 43 (83%)

Ni atebodd unrhyw gynhyrchwyr na dosbarthwyr y cwestiwn hwn.

Cwestiwn 6: Rhowch dystiolaeth o gyfaint (tunelli) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn codi yn y DU a/neu yn 担l gwlad mewn gwastraff gweddilliol.

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at adroddiad yr astudiaeth Material Focus a nododd 155K tunnell, a dywedodd un arall fod hwn wedii ddiwygion ddiweddar mewn astudiaeth ddiwygiedig i rhwng 97,600 a 107,000 tunnell y flwyddyn. Darparodd nifer cyfyngedig o awdurdodau lleol ffigurau yn seiliedig ar eu sampl gwastraff gweddilliol. Amlygodd Resource Efficiency Wales adroddiad WRAP Cymru yn 2022 a oedd yn cynnwys ffiguraun nodi bod 1.7% or gwastraff gweddilliol a gesglir wrth ymyl y ffordd yn gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a 2.5% ar gyfer gwastraff gweddilliol bin du mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig.

Cwestiwn 7: Rhowch dystiolaeth o gyfaint (tunelli) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn codi yn y DU a/neu yn 担l gwlad mewn gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon.

Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn gallu darparu data ar hyn. Dyfynnodd un ymatebwr ddata 2023 gan Defra bod 50,000 o achosion o nwyddau gwynion wediu tipio anghyfreithlon a 18,000 o gynhyrchion trydanol eraill yn 2021 a 2022 allan o gyfanswm o 671,000 o achosion. Cyfeiriodd Resource Efficiency Wales at dudalen ystadegau Llywodraeth Cymru. Ar gyfer 2022 a 2023 roedd hyn yn dangos 2,072 o achosion o nwyddau gwynion wediu tipion anghyfreithlon ledled Cymru a 601 o achosion eraill wediu categoreiddio yn drydanol.

Cwestiwn 8: Rhowch dystiolaeth o gyfaint (tunelli o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff) sydd wedi cael ei daflu fel sbwriel.

Cafwyd ymatebion cyfyngedig ir cwestiwn hwn. Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at yr astudiaeth Material Focus syn amcangyfrif bod tua 5 miliwn o f棚ps yn cael eu taflu bob wythnos yn y DU.

Cwestiwn 9: Rhowch dystiolaeth or costau net fesul tunnell ar gyfer casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol.

Nid oedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn gallu darparu data ar hyn. Darparodd un awdurdod lleol ffigur o 贈72.56 fesul tunnell ar gyfer gwaredu a ffigur arall a oedd yn cyfateb i 贈120 fesul tunnell. Amlygodd ymateb arall y gwahaniaethau mewn costau rhwng gwahanol ffrydiau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, gan ddarparu ffigur o 贈11,500 tunnell ar gyfer f棚ps.

Cwestiwn 10: Rhowch dystiolaeth or costau net fesul tunnell ar gyfer casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon

Nid oedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn gallu darparu data ar hyn. Darparodd un awdurdod lleol ffigur o 贈29 pe bain cael ei drin fesul un, a nododd un arall y byddai costaun amrywion sylweddol yn dibynnu ar y math o wastraff, lleoliad ac a oedd hyn yn rhan o broses glirio ehangach. Dywedodd un cwmni rheoli gwastraff y byddai oergelloedd wediu tipion anghyfreithlon yn costio 贈70.00 fesul tunnell fetrig, a setiau teledu a monitorau yn costio 贈300.00 fesul tunnell iw prosesu.

Cwestiwn 11: Rhowch dystiolaeth or costau net fesul tunnell ar gyfer casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff syn cael ei daflu fel sbwriel.

F棚ps oedd yr unig eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yr awgrymodd ymatebwyr eu bod yn cael eu taflu fel sbwriel. Roedd cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn amcangyfrif y gallai cost ailgylchu f棚ps wediu taflu fel sbwriel fod hyd at 贈20,000 fesul tunnell fetrig.

Cwestiwn 12: Rhowch dystiolaeth or mathau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gaiff eu cynnwys fel arfer mewn ffrwd gwastraff gweddilliol.

Nododd yr ymatebwyr fod eitemau trydanol bach yn fwyaf tebygol o fod yn y llif gwastraff gweddilliol, gan gynnwys eitemau fel tostwyr, tegelli, cynhyrchion gwallt a harddwch, ceblau, gwefrwyr, teganau, lampau, bysellfyrddau, consolau gemau, a microdonau, radios, ffonau, goleuadau, batris, brwsys dannedd trydan, teclynnau rheoli o bell a f棚ps.

Cwestiwn 13: Rhowch dystiolaeth or mathau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gaiff eu cynnwys fel arfer mewn gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon.

Nododd ymatebwyr fod eitemau mawr, mwy swmpus o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn fwyaf tebygol o gael eu tipion anghyfreithlon, gan gynnwys oergelloedd, peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri a setiau teledu mawr.

Cwestiwn 14: Rhowch dystiolaeth or mathau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gaiff eu cynnwys fel arfer mewn gwastraff syn cael ei daflu fel sbwriel.

Atebodd y rhan fwyaf or ymatebwyr fod f棚ps yn eitemau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael eu cynnwys fel arfer mewn gwastraff syn cael ei daflu fel sbwriel.

Pennod 2: dyrannu costau

Roedd y bennod hon yn ceisio barn ar sut maer rheoliadau presennol yn darparu ar gyfer gosod targedau casglu ac yn dosrannu rhwymedigaethau ariannol i gynhyrchwyr offer trydanol. Gofynnodd hefyd am farn ar ddull amgen o osod targedau, a elwir yn system ddyrannu, lle mae cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn cael eu dyrannu i awdurdodau lleol penodedig weithio gyda nhw.

Cwestiwn 15: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylem sefydlu proses dreigl tair blynedd ar gyfer pennu rhwymedigaethau ariannol cynhyrchwyr i greu mwy o sicrwydd yn y system? Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 45 (47%)
Anghytuno 7 (7%)
Ddim yn si典r 44 (46%)

Cwestiwn 16: Rhowch dystiolaeth ynghylch a fyddai gosod rhagolwg treigl tair blynedd yn rhoi mwy o sicrwydd yn y system ac yn annog y sector trin i fuddsoddi mwy.油

Dywedodd cynhyrchwyr ac awdurdodau lleol a oedd yn cytuno y gellir cael buddion ymylol o ragolwg treigl tair blynedd, gan y bydd yn rhoi syniad i gynhyrchwyr ac ailgylchwyr o ofynion ariannu a chyfaint yn y dyfodol. Fodd bynnag, nodwyd y bydd angen ystyried amgylchiadaur farchnad bob amser wrth osod y rhagolwg gwirioneddol ar gyfer blwyddyn gydymffurfio benodol ac felly gallai unrhyw dargedau ar gyfer y dyfodol fod yn ddangosol yn unig.

Dywedodd y rhai oedd yn ansicr ei bod yn aneglur sut y byddai symud i broses tair blynedd yn awtomatig yn creur amodau ar gyfer buddsoddiad newydd oni bai bod y targedau (neur deilliannau a ragwelir) yn cael eu gosod i fod yn fwy uchelgeisiol fel rhan or trawsnewid.

Cwestiwn 17: Rhowch dystiolaeth i ddangos a fyddai rhagolwg tair blynedd i osod rhwymedigaethau ariannol yn cael ei gefnogi gan hyd contract o dair blynedd o leiaf rhwng Cynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr a Chyfleusterau Casglu Dynodedig er mwyn annog y sector trin i fuddsoddi mwy?油

Dywedodd cynhyrchwyr ac awdurdodau lleol a gytunodd y byddai tymor tair blynedd ar gontractau Cynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr a Chyfleusterau Casglu Dynodedig yn creur sicrwydd ychwanegol sydd ei angen i annog buddsoddiad yn y sector trin. Hefyd, byddain sicrhau bod gan awdurdodau lleol system gasglu ar waith ac yn darparu llif cyson o ddeunydd i gyfleusterau ailgylchu.

Awgrymodd y rhai a oedd yn anghytuno na fyddai cynhyrchwyr eisiau contractau hirach gyda Chynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr heb sicrwydd gwarantau pris ac ni allai hyn gael ei gynnig gan Gynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr y gall eu haelodaeth ac felly eu cyfran or farchnad amrywion flynyddol.

Cwestiwn 18: Beth yw eich barn am y syniad o sefydlu system ddyrannu fel ffordd arall o osod rhwymedigaethau ariannol ar gynhyrchwyr a gwarantu y bydd gwasanaethau casglu Awdurdodau Lleol yn cael eu hariannu?油

Roedd cynhyrchwyr yn ffafrio system ddyrannu gan ystyried ei bod yn deg ac yn rhad, y byddain lleihau costau gweinyddol, y byddain darparu mecanwaith i bob Cynllun Cydymffurfio Cynhyrchwyr fod yn weithredol wrth gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac y byddain dileur angen am y System Cydbwyso Cynhyrchwyr.

Roedd awdurdodau lleol yn erbyn cyflwyno system ddyrannu fel yr oedd gweithredwyr trin. Roedd pryderon y gallai leihau cystadleuaeth yn y farchnad gan arwain at lai o arloesi, llai o welliannau yn y gwasanaethau a ddarperir a llai o gostau cystadleuol. Roeddent yn teimlo y dylair system barhau i fod yn farchnad rydd. Dywedodd rhai bod system ddyrannu wedii hystyried yn flaenorol ac nid oeddent yn si典r beth oedd wedi newid i gyfiawnhau ailagor y drafodaeth.

Cwestiwn 19: Rhowch dystiolaeth or amcangyfrif o gostau a manteision ariannol sefydlu a gweithredu system or fath.油

Nid oedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn gallu darparu tystiolaeth ar gostau a buddion amcangyfrifedig system ddyrannu. Cyfeiriodd yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu at dystiolaeth o adroddiad Oakdene Hollins, syn dyfynnu bod systemau dyrannu yn Ffrainc, yr Eidal, Awstria, Sbaen ac Iwerddon yn costio rhwng 0.3-1.2mn. Maer costau hyn wedi bod ar waith ers dechrau systemau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. Gallai gweithredur cynllun dyrannu mewn ail gylch gael ei brisio 2-5 gwaith hyn.

Cwestiwn 20: Rhowch dystiolaeth o unrhyw ddulliau eraill, nad ydynt wediu disgrifio uchod a allai, yn eich barn chi, fod yn addas ar gyfer dyrannu rhwymedigaethau ariannol ar gynhyrchwyr.油

Teimlai llawer o gynhyrchwyr y dylair system fabwysiadu dull cylchol drwy ganiat叩u i gynhyrchwyr gofnodi unrhyw gyfarpar trydanol ac electronig a ddefnyddiwyd syn cael ei ddychwelyd atynt, ei uwchraddio neu ei adnewyddu, ac yna ei roi ar y farchnad eto iw wrthbwyso gydau rhwymedigaethau ariannol.油

Nododd ymatebwyr eraill fod y system bresennol yn gweithion dda ac awgrymwyd dim newidiadau ganddynt. Awgrymodd rhai bod angen gosod y ffi gydymffurfio ar lefelau uwch.

Pennod 3: Ailddefnyddio

Roedd y bennod hon yn ceisio safbwyntiau a thystiolaeth ar fesurau newydd y gellid eu cyflwyno i annog lefelau uwch o ailddefnyddio, drwy gymhellion mewnol, targedau, yn ogystal ag adrodd gorfodol ar lefelau gweithgarwch ailddefnyddio.

Cwestiwn 21: A ydych yn cytuno neun anghytuno y byddai rhoi mwy o bwysoliad ar dunelledd a gesglir gan Gynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr ar gyfer ailddefnyddio (neu baratoi i ailddefnyddio) tuag at eu targedau casglu, yn hytrach na thunelledd a gesglir ar gyfer ailgylchu yn cymell mwy o ailddefnyddio (neu baratoi ar gyfer ailddefnyddio) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff? ? Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 80 (73.3%)
Anghytuno 8 (7.3%)
Ddim yn si典r 21 (19.3%)

Cwestiwn 22: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 21.

Dywedodd y rhai a oedd yn cytuno y byddai pwysoliad uwch yn rhoi mwy o gymhelliant i gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr i annog ailddefnyddio cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn hytrach nag ailgylchu, yn enwedig os gwneir hynny gan gynhyrchwyr neu ar eu rhan.

Cododd y rhai a oedd yn ansicr bryderon ynghylch y posibilrwydd o ganlyniadau anfwriadol yn ymwneud 但 data dryslyd, twyll a risg o ysgogir canlyniadau amgylcheddol anghywir (er enghraifft, ymestyn oes cyfarpar trydanol ac electronig gyda risgiau effeithlonrwydd ynni isel neu ddiogelwch trydanol).

Cwestiwn 23: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylem gyflwyno targedau newydd ar gyfer ailddefnyddio (neu baratoi ar gyfer ailddefnyddio) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sydd wedi cael ei gasglu ar wah但n i fathau eraill o wastraff i gymell casglu mwy o gyfarpar iw ailddefnyddio (neu baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio)? Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 63 (58%)
Anghytuno 32 (29%)
Ddim yn si典r 14 (13%)

Cwestiwn 24: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 23.

Teimlair rhai a oedd yn cefnogi y gallai hyn ysgogi gwelliannau yn y llwybr casglu er mwyn lleihau difrod a sicrhau addasrwydd ar gyfer ailddefnyddio.

Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon y gallai cyflwyno targedau ailddefnyddio ysgogir ymddygiadau anghywir yn anfwriadol, a chynyddur tebygolrwydd o ddiffyg cydymffurfio a thwyll. Amlygwyd y gwahaniaeth rhwng ailddefnyddio o fewn a thu allan ir system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff hefyd gydag ailddefnydd sylweddol yn digwydd drwy amrywiol sianeli ar-lein, rhoddion elusennol, a rhoddion i ffrindiau a theulu. Nodwyd na ddylai cyfarpar gwaith gael ei reoli o fewn amgylchedd gwastraff yn ddelfrydol.

Argymhellodd eraill fod angen ystyriaeth bellach ynghylch sut y byddai targedaun cael eu gosod (pa ddata a thystiolaeth fyddai eu hangen), gan annog ymchwilio i lefel ailddefnyddio neu werthu offer ail-law syn digwydd ar hyn o bryd y tu allan ir system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (gan gynnwys mewn cyfleusterau ailgylchu nad ydynt yn gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy).

Cwestiwn 25:油Os ateboch cytuno ar gyfer cwestiwn 12, rhowch dystiolaeth i ddangos ar ba rai or grwpiau rhanddeiliaid isod y dylid gosod targedau er mwyn cael yr effaith fwyaf? Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cynhyrchwyr (drwy Gynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr)
  2. Manwerthwyr
  3. Awdurdodau lleol
  4. Manwerthwyr ac Awdurdodau Lleol
  5. Ddim yn si典r

Ceir crynodeb or ymatebion yn y tabl isod.

Gr典p Ymatebwyr Cynhyrchydd Manwerthwr ALl Manwerthwr ac ALl Ddim yn si典r
Academaidd neu ymchwil
Elusen neu fenter gymdeithasol 3 1 2 1
Gr典p cymunedol 1
Dosbarthwr (gan gynnwys Marchnad Ar-lein) 1
Unigolyn (h.y. ddim yn cynrychioli sefydliad) 4 2 4
Llywodraeth leol 19 5 3 2 4
Sefydliad anllywodraethol 2 1
Cynllun Cydymffurfio Cynhyrchwyr 3 1
Gweithredwr ailddefnyddio neu atgyweirio 3 1
Corff Masnach neu sefydliad arall syn cynrychioli busnes 5 1 1 2 1
Cwmni rheoli gwastraff 2 2
Gweithredwr neu ailbrosesydd gwastraff 1 1
Cyfanswm 44 12 5 12 6

Cwestiwn 26: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 25.

Roedd yr ymatebion wediu rhannun fras rhwng y rhai a oedd or farn y dylid lledaenu rhwymedigaethau drwyr gadwyn werth ar rhai a oedd or farn y dylent syrthio ar ysgwyddau cynhyrchwyr drwy aelodaeth ou cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr.

Cwestiwn 27: A ydych yn cytuno neun anghytuno y byddai rhwymedigaeth ar Gynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr i ddarparu gwasanaethau casglu am ddim i elusennau ailddefnyddio ar sector manwerthu elusennol ar gyfer cyfarpar a roddwyd, ac y bernir yn ddiweddarach ei fod yn anaddas iw ailddefnyddio, yn hyrwyddo ailddefnyddio mwy drwy ddileu rhwystr cost sylweddol ir sector?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 93 (88%)
Anghytuno 3 (3%)
Ddim yn si典r 10 (9%)

Cwestiwn 28: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 27.

Yn gyffredinol, roedd pawb yn cytuno 但r cynnig yng Nghwestiwn 27, gydar ymatebion yn nodi y byddai hyn yn cynyddu gallu adwerthwyr elusennol i gynyddu nifer yr eitemau trydanol ail-law y maent yn eu gwerthu, gan fod costau syn gysylltiedig 但 chael gwared ar eitemau trydanol a roddwyd na ellir eu hailwerthu yn rhwystr sylweddol i gynyddu gwerthiant nwyddau trydanol ail-law.

Cododd rhai ymatebwyr bryderon ynghylch logisteg, a allai elusennau ailddefnyddio ddod yn llai craff pe bai gwasanaeth casglu am ddim ar gael iddynt. Cododd rhai ymatebwyr bryderon ynghylch gorfodi i liniarur twf posibl mewn gweithrediadau ailddefnyddio anghyfreithlon.

Cwestiwn 29: A ydych yn cytuno neun anghytuno y byddai mynediad at ddata gan fanwerthwyr ac Awdurdodau Lleol ar faint o gyfarpar ail-law a geir yn y cyfleusterau casglu hyn iw ailddefnyddio (ac o ganlyniad, syn cael ei ddargyfeirio o system cyfrifoldeb cynhyrchwyr cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff) yn rhoi cipolwg newydd sylweddol a defnyddiol ar faint o gyfarpar syn cael ei ailddefnyddio nad ywn cael ei ystyried yn wastraff?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 84 (83%)
Anghytuno 10 (10%)
Ddim yn si典r 7 (7%)

Cwestiwn 30: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 29.

Yn gyffredinol, roedd pawb yn cytuno 但 cheisio casglu data ailddefnyddio. Awgrymwyd hefyd y dylid cymhwysor ddyletswydd i gasglu data ailddefnyddio ar gynhyrchwyr, ac y gellid defnyddio data ailddefnyddio or fath i wrthbwyso rhwymedigaeth cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff y cynhyrchydd (neur adwerthwr cynhyrchydd), fel bod y ddau yn cael eu cymell i leihau costau drwy ailddefnyddio mwy.油

Cwestiwn 31: Rhowch dystiolaeth (gan gynnwys o ffynonellau rhyngwladol) o fecanweithiau posibl eraill i gynyddu lefelau ailddefnyddio a pharatoi ar gyfer ailddefnyddio ar draws amrywiaeth eang o gynnyrch.油

Argymhellwyd nifer o syniadau i gynyddu ailddefnyddio. Roedd y rhain yn cynnwys; ymgyrchoedd cyfathrebu ynghylch ailddefnyddio, dylunio cynnyrch ar gyfer ailddefnyddio dylunio modiwlaidd, cydrannau safonol, a dadgydosod hawdd ar gyfer atgyweirio neu adnewyddu, atal cynhyrchwyr rhag defnyddio darfodiad bwriadus, canolfannau ailddefnyddio cymunedol a arweinir ac a ariennir gan gynhyrchwyr, rheoliadau a pholis誰au syn cymell neun gorfodi ailddefnyddio ac atgyweirio cynnyrch, dileu neu leihau TAW ar gyfarpar wedii addasu at ddibenion gwahanol, a gwaharddiadau ar waredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i safleoedd tirlenwi.

Pennod 4: Symud i economi fwy cylchol

Roedd y bennod hon yn ceisio safbwyntiau ar gymhwyso egwyddor eco-fodiwleiddio er mwyn cymell cynhyrchwyr i ddylunio eu cynnyrch yn fwy cynaliadwy, yn unol 但 nifer o feini prawf penodedig. Byddair rhai syn cynhyrchu cynhyrchion mwy cynaliadwy yn cael eu gwobrwyo drwy rwymedigaeth ariannol lai o gymharu 但r rhai syn cynhyrchu cynhyrchion llai cynaliadwy.

Roedd y bennod hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylai busnesau syn defnyddio modelau busnes economi gylchol, megis prydlesu, gael eu heithrio rhag rhwymedigaethau ariannol syn cefnogi casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi.

Cwestiwn 32: A ydych yn cytuno neun anghytuno y gallai rhoi system eco-fodiwleiddio ar waith yn system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff y DU gymell dylunio cynnyrch mwy cynaliadwy?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 57 (54%)
Anghytuno 39 (37%)
Ddim yn si典r 10 (9%)

Cwestiwn 33: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 32.

Roedd 54% or ymatebwyr yn cytuno y gallai rhoi system eco-fodiwleiddio ar waith yn system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff y DU gymell dylunio cynnyrch mwy cynaliadwy, gan adael 37% yn anghytuno a 9% yn ansicr. Roedd bron pob un or cynhyrchwyr a ymatebodd yn anghytuno. Teimlair rhan fwyaf o sefydliadau a oedd yn anghytuno mair ffordd orau o gyflawni amcanion dylunio cynnyrch cynaliadwy yw drwyr ddeddfwriaeth eco-ddylunio berthnasol yn hytrach nar system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.油

Rhybuddiodd ymatebwyr ar ddwy ochr y ddadl yn erbyn cymhlethdod y system, faint o amser cyn y gellir gwireddu buddion, ar ansicrwydd ynghylch gwerth yn erbyn y costau. Roedd galwadau am ragor o ymchwil ac ymgysylltu 但r diwydiant cyn i hyn gael ei roi ar waith.油

Cwestiwn 34: Os ydych yn cytuno 但 chwestiwn 32, pa rai or dulliau canlynol fyddech chin fwyaf tebygol ou cefnogi:

  1. System newydd o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr lle mae ffioedd amrywiol, yn seiliedig ar unedau a roddir ar y farchnad (POM), yn cael eu modiwleiddio drwy weithredu cosb (ffi uwch) neu fonws (ffi is).
  2. Cynnal y system bresennol o osod rhwymedigaethau ar sail dull cyfran or farchnad (yn 担l pwysau) ond gydar gyfran honno or farchnad wedii modiwleiddio i wobrwyo cynhyrchwyr y mae eu cynnyrch yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf, gan leihau eu costau cydymffurfio ou cymharu 但r rheini syn cynhyrchu cynnyrch mwy niweidiol.
  3. Y naill neur llall or dulliau uchod.
Ymateb Rhif
System newydd o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr lle mae ffioedd amrywiol, yn seiliedig ar unedau a roddir ar y farchnad (POM), yn cael eu modiwleiddio drwy weithredu cosb (ffi uwch) neu fonws (ffi is) 11 (16%)
Cynnal y system bresennol o osod rhwymedigaethau ar sail dull cyfran or farchnad (yn 担l pwysau) ond gydar gyfran honno or farchnad wedii modiwleiddio i wobrwyo cynhyrchwyr y mae eu cynnyrch yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf, gan leihau eu costau cydymffurfio ou cymharu 但r rheini syn cynhyrchu cynnyrch mwy niweidiol. 28 (40%)
Y naill neur llall or dulliau uchod 30 [44%]

Roedd 16% yn cefnogi system newydd o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr lle mae ffioedd amrywiol, yn seiliedig ar unedau a roddir ar y farchnad (POM), yn cael eu modiwleiddio drwy weithredu cosb (ffi uwch) neu fonws (ffi is).

Roedd 40% yn cefnogi cynnal y system bresennol o osod rhwymedigaethau ar sail dull cyfran or farchnad a gaiff ei modiwleiddio i wobrwyo cynhyrchwyr y mae eu cynnyrch yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf, gan leihau eu costau cydymffurfio ou cymharu 但r rheini syn cynhyrchu cynnyrch mwy niweidiol. Dewisodd pob un or cynhyrchwyr a ymatebodd ond un yr opsiwn hwn.

Pleidleisiodd 44% or ymatebwyr dros y naill neur llall or dulliau uchod, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn nodedig yn Llywodraethau Lleol. Adlewyrchwyd hyn ar draws pob categori o ymatebwyr.油

Cwestiwn 35: Pa rai or metrigau canlynol y dylem ni eu defnyddio i flaenoriaethu cynnyrch ar gyfer eco-fodiwleiddio?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cyfanswm pwysaur cynnyrch (mewn tunelli).
  2. Cyfanswm faint a werthwyd (mewn unedau) ar farchnad y DU.
  3. Dwysedd carbon y cynnyrch.
Ymateb Rhif
Cyfanswm pwysaur cynnyrch (mewn tunelli). 21%
Cyfanswm faint a werthwyd (mewn unedau) ar farchnad y DU. 42%
Dwysedd carbon y cynnyrch. 37%

Cwestiwn 36: Pa rai or meini prawf canlynol y dylid eu defnyddio fel sail effeithiol ar gyfer eco-fodiwleiddio:油

  1. Cynnwys wedii ailgylchu
  2. Modd ailgylchu
  3. Modd atgyweirio
  4. Gwydnwch
  5. Effeithlonrwydd ynni
  6. Sylweddau peryglus
Ymateb Rhif
Cynnwys wedii ailgylchu 54 (67%)
Modd ailgylchu 65 (80%)
Modd atgyweirio 63 (78%)
Gwydnwch 59 (73%)
Effeithlonrwydd ynni 53 (65%)
Sylweddau peryglus 47 (58%)

Roedd lledaeniad cymharol gyfartal o ran ffafriaeth ar draws y chwe maen prawf, 油gyda modd atgyweirio ac ailgylchun cael pleidleisiau ychydig yn uwch. Dewisodd cynhyrchwyr cyfarpar electronig yn arbennig y meini prawf modd ailgylchu fel sail effeithiol ar gyfer eco-fodiwleiddio. Roedd pleidleisiau elusennau, mentrau cymdeithasol, Cynlluniau Cydymffurfiaeth Cynhyrchwyr, llywodraeth leol a chyrff masnach wediu gwasgarun gyfartal.

Cwestiwn 37: A oes unrhyw feini prawf eraill, heblawr rhai a nodir yng nghwestiwn 36, a fyddain berthnasol yn eich barn chi? Nodwch beth allair rhain fod.

Y meini prawf eraill a gynigiwyd oedd:

Dwysedd carbon, cynaladwyedd, effaith ar draws cylch oes, deunyddiau yn y cynnyrch, defnydd o ddeunyddiau crai hanfodol (CRM); deunyddiau gwrthdaro; gwybodaeth iw hailddefnyddio neu ei hailweithgynhyrchu; darfodiad bwriadus; busnesau cylchol, er enghraifft prydlesu neu hurbwrcasu yn erbyn bod yn berchen arno; modiwlaeth; defnydd o ddeunyddiau adnewyddadwy; defnyddio PoPS ac Atalyddion Fflamau wediu Brominadu; ailgylchu deunydd yn y DU; galw am ddeunydd; pa mor hanfodol yw cynnyrch i economir DU.

Cwestiwn 38: Sut dylid dilysu cydymffurfiad 但 meini prawf eco-fodiwleiddio mewn ffordd syn cydbwyso cost 但 chyfanrwydd y system?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:

  1. Hunanddatgan
  2. Datganiad trydydd parti
  3. Awdurdodau yn rheoli neun archwilio o flaen llaw
Ymateb Rhif
Hunanddatgan 48 (58%)
Datganiad trydydd parti 25 (30%)
Awdurdodau yn rheoli neun archwilio o flaen llaw 11 (13%)

Dewisodd tua 70% o gynhyrchwyr hunanddatgan gydag 20% arall yn dewis rheolaeth neu archwiliad ymlaen llaw.

Cwestiwn 39: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai eco-fodiwleiddio gael ei gefnogi gan labeli gorfodol er mwyn i ddefnyddwyr allu gweld i ba raddau maer cynnyrch wedi bodloni meini prawf penodol ar gyfer eco-ddylunio?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 65 (61.5%)
Anghytuno 31 (29%)
Ddim yn si典r 10 (9.5%)

Roedd 61.5% or ymatebwyr yn cytuno y dylai eco-fodiwleiddio gael ei gefnogi gan labeli gorfodol er mwyn i ddefnyddwyr allu gweld i ba raddau maer cynnyrch wedi bodloni meini prawf penodol ar gyfer eco-ddylunio.

Roedd gwahaniaethau nodedig o ran barn. Roedd 100% o ymatebwyr llywodraeth leol yn cytuno. Adlewyrchwyd hyn hefyd gan gyrff anllywodraethol a grwpiau Cymunedol, gan gynnwys 91% o unigolion. Roedd 62.5% or cynlluniau Cydymffurfiaeth Cynhyrchwyr hefyd yn cytuno 但 hyn.油

Ar y llaw arall, roedd 29% or ymatebwyr yn anghytuno gan gynnwys 100% or cynhyrchwyr a ymatebodd. Roedd 9.5% or ymatebwyr yn ansicr.油

Cwestiwn 40: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 39.

Tynnodd llawer or ymatebwyr sylw at yr angen i ddefnyddwyr gael gwybodaeth glir fel y gallent wneud penderfyniadau gwybodus. Soniwyd hefyd am fynegai atgyweirio Ffrainc mewn nifer o ymatebion. Roedd ymatebwyr eraill yn cwestiynur cysylltiad rhwng labelu syn dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, y doreth o ofynion labelu a mynediad rhai defnyddwyr at y wybodaeth labelu, er enghraifft drwy godau QR.

Cwestiwn 41:油Os ateboch cytuno i gwestiwn 39, ym mha fformat ydych chin meddwl y dylid dangos yr wybodaeth hon?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cod QR (neu dag electronig arall)
  2. Label ffisegol

Fformat arall

Ymateb Rhif
Cod QR (neu dag electronig arall) 29 (40%)
Label ffisegol 53 (74%)
Fformat arall 5 (7%)

Cwestiwn 42:油A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai cynhyrchion sydd ar gael ar y farchnad gan ddefnyddio modelau busnes economi gylchol gael eu heithrio or gwaith o gyfrifo rhwymedigaethau casglu a thrin a roddir ar gynhyrchwyr oherwydd y byddant yn gyfrifol am y cynnyrch unigol pan ddawn wastraff beth bynnag?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 50 (52%)
Anghytuno 22 (23%)
Ddim yn si典r 24 (25%)

Cwestiwn 43: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 42.

Roedd 52% or ymatebion yn cytuno y dylai cynhyrchion sydd ar gael ar y farchnad gan ddefnyddio modelau busnes economi gylchol gael eu heithrio or gwaith o gyfrifo rhwymedigaethau casglu a thrin a roddir ar gynhyrchwyr, oherwydd y byddant yn gyfrifol am y cynnyrch unigol pan gaiff eu dychwelyd atynt ar ddiwedd cytundeb hurio neu brydlesu. Ni fyddain codi fel gwastraff cartrefi. Roedd hyn yn cynnwys 87% o gynhyrchwyr.

Awgrymodd y rhan fwyaf o gynhyrchwyr a chymdeithasau masnach y dylai gwaharddiad or fath fod yn berthnasol i unrhyw gynhyrchydd syn cael cyfarpar trydanol ac electronig ail-law ar gyfer adnewyddu neu ail-weithgynhyrchu (yn hytrach nar gwneuthurwr gwreiddiol yn unig), gydar swm net yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar ffactor pwysoli ailddefnyddio priodol. Hoffai eraill weld diffiniad clir o fodel busnes economi gylchol syn osgoi gwyrddgalchi.

Ar y llaw arall, roedd 23% or ymatebwyr yn anghytuno 但r rhan fwyaf or ymatebwyr o Lywodraeth Leol, a 25% yn ansicr.油

Dywedodd ymatebwyr Llywodraeth Leol yn glir na ddylair system symud costau cyffredinol iddynt ar ddiwedd eu hoes ac y dylair costau aros gydar cynhyrchydd. Dylair system hefyd ystyried unrhyw ddigwyddiad lle nad ywr cynhyrchydd dan rwymedigaeth yn masnachu mwyach.

Pennod 5: Cynyddu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff busnesau

Roedd y bennod hon yn ceisio barn a thystiolaeth am ffyrdd y gellid diwygior system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff busnes i fusnes iw gwneud yn haws i fusnesau sicrhau bod eu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn cael ei gasglun briodol iw ailgylchu neu ei ailddefnyddio, gyda chostau cysylltiedig yn cael eu hariannu gan gynhyrchwyr.

Cwestiwn 44: A ydych yn cytuno neun anghytuno bod y system busnes i fusnes bresennol (B2B) (cyfarpar trydanol ac electronig neu gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, sydd wedii gynllunio at ddefnydd busnes, diwydiant neu broffesiynol yn unig, yn hytrach na defnydd yn y cartref) yn fecanwaith effeithiol lle gall defnyddwyr ddychwelyd cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i gynhyrchwyr er mwyn ei drin yn briodol?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 13 (14%)
Anghytuno 58 (64%)
Ddim yn si典r 20 (22%)

Cwestiwn 45: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 44.

Roedd y rhan fwyaf or ymatebwyr, ar draws pob categori, a oedd yn anghytuno, yn rhannur farn bod y system B2B bresennol yn feichus ac yn gymhleth. Roedd hyn yn cynnwys 95% o gynhyrchwyr ac 89% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr. Roedd y grwpiau hyn yn amlygu bod dryswch ynghylch pwy syn gyfrifol am ariannur gwaith o gasglu ac ailgylchu B2B, gan nodi mai dim ond canran fach o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff B2B syn cael ei gasglu o fewn y system bresennol o gyfrifoldeb cynhyrchwyr.

Roedd pob cyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy ar rhan fwyaf o gwmn誰au rheoli gwastraff hefyd yn rhannur farn hon, gan nodi faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff B2B y nodwyd ei fod yn mynd drwyr system.

Thema gyffredin arall ymhlith ymatebwyr yw y bydd angen dull gwahanol o hyd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff B2B, o ystyried bod natur cyfarpar masnachol a diwydiannol yn wahanol i gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff defnyddwyr. Nodwyd mewn sawl achos bod gan gyfarpar or fath werth pan nad oes ei angen mwyach ar y defnyddiwr busnes terfynol, a fydd am gadwr gwerth hwnnw yn hytrach na throsglwyddor cyfarpar i gynhyrchwyr.

Cwestiwn 46:油A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylem ymestyn yr egwyddor o gyfrifoldeb cynhyrchwyr i safle defnyddwyr busnes (a safleoedd eraill nad ydynt yn safleoedd cartref) a chyflwyno system cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff busnes i fusnes (B2B)?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 67 (72%)
Anghytuno 7 (8%)
Ddim yn si典r 19 (20%)

Cwestiwn 47: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 46.

Roedd pob dosbarthwr a chwmni rheoli gwastraff yn cytuno 但 hyn mewn egwyddor. Dywedodd cwmn誰au rheoli gwastraff y byddain rhaid datrys materion yn ymwneud 但 chyfarpar defnydd deuol (h.y. cyfarpar a ddyluniwyd at ddefnydd y cartref ar tu allan ir cartref, e.e. gliniaduron), ac y dylid caniat叩u ir deiliaid terfynol wneud eu trefniadau eu hunain o ran cael eu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff wedii gasglu. Roedd eraill yn cytuno ond yn pwysleisio bod yn rhaid cael cyfyngiadau amgylcheddol ac ymarferol ar gyfer casglu eitemau cyfaint isel gan fusnesau unigol.油

Gwnaeth 92% o gynhyrchwyr electronig a gytunodd dynnu sylw at yr angen am system B2B gyfunol newydd, a fyddain cymell ailddefnyddio ac yn cynyddu ailgylchu. Roedd 8% o gynhyrchwyr yn ansicr ac yn codi amheuon ynghylch sut y byddai busnesau gyda chymysgedd o wahanol gategor誰au o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gynhyrchwyr gwahanol yn rheolir broses o wahanur categor誰au ar gost ir cynhyrchwyr dan sylw.

Roedd 20% or ymatebwyr yn ansicr. Awdurdodau lleol oedd y rhain yn bennaf (78%), a gododd problemau gan gynnwys cymhlethdod posibl y system. Dadleuwyd y byddai system syml, a oedd yn gweithredun rhad ac am ddim, yn fwyaf effeithiol.油

Cwestiwn 48:油A oes amgylchiadau (er enghraifft, ar gyfer mathau penodol o gynnyrch) lle dylai cynhyrchwyr unigol fod yn gyfrifol am gost casglu a thrin y cynhyrchion y maent yn eu rhoi ar y farchnad pan fyddant yn dod yn wastraff?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Oes
  2. Nac oes
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Oes 54 (66%)
Nac oes 2 (2%)
Ddim yn si典r 26 (32%)

Roedd 96% o gynhyrchwyr ac 87.5% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn cytuno. At hynny, cytunodd 100% o ddosbarthwyr a 100% o gwmn誰au rheoli gwastraff hefyd.

Cwestiwn 49: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 48.

Roedd enghreifftiau a roddwyd gan ymatebwyr ar draws y categor誰au uchod a ddylai fod y tu allan ir rhwymedigaeth yn cynnwys cynhyrchion a gyflenwir drwy fodelau busnes cylchol, syn cael eu dychwelyd at y cynhyrchydd iw hatgyweirio, eu hailweithio neu eu hailweithgynhyrchu. Cyfeiriwyd at fodelau dolen gaeedig yn y sector TG fel enghraifft. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys cyfarpar trydanol ac electronig trwm uwchlaw trothwy pwysau penodol y byddai system gyfrifoldeb gyfunol ar ei gyfer yn dod 但 dyraniad cost annheg ar draws cynhyrchwyr mewn categori penodol o gyfarpar.

Cwestiwn 50:油A ydych yn cytuno y byddai system ller oedd cynhyrchwyr yn ariannu cost casglu gan y defnyddiwr busnes, gyda gohebiaeth ddigonol i gefnogi hynny, yn ddigon i ysgogi lefelau uwch o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff busnesau i mewn ir system?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 64 (72%)
Anghytuno 10 (11%)
Ddim yn si典r 15 (17%)

Roedd 100% o gynhyrchwyr ac 78% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn cytuno.

Cwestiwn 51: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 50.

Fel tystiolaeth, dyfynnwyd arolwg Recolight a ganfu, lle cynigir casgliad gwastraff wedii ariannu i ddefnyddwyr busnes, fod hyn yn arwain at gyfraddau casglu sylweddol uwch. Dadleuwyd hefyd mair ffordd orau o reoli cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff trwm yw gan y defnyddiwr busnes terfynol, o ystyried bod gan gyfarpar or fath werth materol fel arfer.

At hynny, roedd 75% o ymatebwyr llywodraeth leol yn cytuno. Y rhesymau allweddol a roddwyd oedd nad ywr system B2B bresennol yn hawdd ei defnyddio nac yn hawdd i fusnesau gael mynediad iddi, gan arwain at dipio anghyfreithlon. Byddai system gasglu wedii hariannu gan gynhyrchydd yn uniongyrchol or busnes terfynol yn ateb delfrydol er mwyn sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff busnesaun cael ei yrru i mewn ir system ai drin yn briodol.油

Cwestiwn 52: A oes unrhyw amgylchiadau lle na fyddain briodol efallai i gynhyrchwyr ariannu casgliadau gan fusnesau?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Oes
  2. Nac oes
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Oes 48 (55%)
Nac oes 22 (25%)
Ddim yn si典r 18 (20%)

Cwestiwn 53: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 52.

Atebodd 96% o gynhyrchwyr electroneg yn gadarnhaol i gwestiwn 52, gan grybwyll cyfarpar trydanol ac electronig trwm dros 100kg, gan fod hyn fel arfer 但 gwerth sgrap cynhenid neu y bydd angen trefniadau cludo penodol arno, neu y bydd yn destun gweithgareddau ailddefnyddio neu atgyweirio. Dadleuwyd y dylai cyfarpar trydanol ac electronig trwm fod yn destun cyfrifoldeb cynhyrchwyr unigol yn lle hynny, er mwyn atal cynhyrchwyr rhag ysgwyddo cyfran anghymesur o gostaur farchnad.

Roedd amgylchiadau eraill yn cynnwys casglu llai o gyfarpar trydanol ac electronig B2B er mwyn sicrhau bod casgliadau o fudd amgylcheddol ac economaidd. Amlygodd ymatebwyr eraill hirhoedledd rhywfaint o gyfarpar trydanol ac electronig B2B syn ei gwneud yn anodd i rai cynhyrchwyr.油

Atebodd chwarter yr ymatebwyr na, ond ni roddwyd sylwadau na barn arwyddocaol i gefnogi hyn.

Cwestiwn 54:油A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid gwahardd cynhyrchwyr a dosbarthwyr rhag anfon eitemau cyfan o gyfarpar trydanol (fel stoc dros ben) i safleoedd tirlenwi neu losgi?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 104 (99%)
Anghytuno 0 (0%)
Ddim yn si典r 1 (1%)

Roedd cefnogaeth unfrydol bron ir cynnig hwn gan bob categori o ymatebwyr.

Cwestiwn 55: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 54.

Dywedodd llawer or ymatebwyr fod anfon stoc dros ben i safleoedd tirlenwi neu losgi yn gwrth-ddweud amcanion yr hierarchaeth wastraff ar economi gylchol. Teimlwyd y dylid blaenoriaethu stoc heb ei werthu ar gyfer ei ailwerthu, ei ailddefnyddio neu ei roi. Nododd rhai or ymatebwyr efallai y bydd angen gwneud eithriadau pan fydd y cynnyrch yn peri risg i iechyd a diogelwch neu risg gemegol.油

Cwestiwn 56:油Pe bai gwaharddiad yn cael ei roi ar waith, a ydych yn rhagweld unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ailgyfeirio stoc drydanol nad oes ei hangen i unrhyw un or llwybrau canlynol?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  • Ailwerthu
  • Atgyweirio neu adnewyddu
  • Ailddefnyddio
  • Ailgylchu
Ymateb Rhif
Ailwerthu 52%
Atgyweirio neu adnewyddu 33%
Ailddefnyddio 48%
Ailgylchu 45%

Atebodd 33 o ymatebwyr y cwestiwn. Dewisodd rhai ymatebwyr ddewis nifer o atebion.

Cwestiwn 57: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 56.

Teimlai 100% o gynhyrchwyr electronig y gallai gwaharddiad effeithio ar ailwerthu, gan y gallai fod problemau gydag eitemau syn ymwneud 但 diogelwch a gwarantau. Dadleuwyd bod diogelu brandiau yn arwain at ddinistrio cynnyrch ond na ddylai hyn arwain at dirlenwi neu losgi. Yn lle hynny, dadleuwyd bod angen cyfathrebu er mwyn caniat叩u i gynhyrchwyr gael mynediad at opsiwn cynaliadwy ac wedii ailgylchu ar gyfer diogelu brandiau.

Cwestiwn 58:油Beth yw eich safbwyntiau am bolis誰au eraill i wellar system B2B? Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb.

Awgrymodd rhai or ymatebwyr fod rhai rhwystrau y mae angen mynd ir afael 但 nhw er mwyn cael system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff B2B weithredol. Mae hyn yn cynnwys ofnau diwylliannol ynghylch preifatrwydd data a seiberddiogelwch, cadwyni cyflenwi anuniongyrchol, a symud i fwy o fodelau hurio a phrydlesu.

Amlygodd eraill y ffaith bod cwmpasu defnydd deuol a chyfarpar trydanol ac electronig B2B yn arwain at drin rhywfaint o gyfarpar trydanol ac electronig fel cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cartref pan fon annhebygol iawn o fynd i mewn ir ffrwd gwastraff cartref, megis unedau aerdymheru mawr. Awgrymwyd felly y dylid rhoir gorau i ddefnydd deuol a dylair diffiniad o B2B a B2C ganolbwyntio ar sut mae cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei werthu neun codi. Awgrymodd ymatebwyr eraill y gallai targedau penodol B2B ysgogi perfformiad.

Pennod 6: gwella safonau trin

Roedd y bennod hon yn ceisio barn a thystiolaeth ar fesurau sydd 但r nod o wella safonau trin ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, gan gynnwys adolygur targedau ailgylchu ac adennill presennol, darparu gwell gwybodaeth i weithredwyr trin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, a ffyrdd o adennill mwynau mwy allweddol.

Cwestiwn 59: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid adolygur cyfraddau adfer ac ailgylchu ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i sicrhau bod y targedau hynnyn parhaun ddigon heriol ac yn gyraeddadwy?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 89 (98%)
Anghytuno 2 (2%)

Cwestiwn 60: Rhowch fanylion y ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddiwyd i gefnogi eich ateb a thystiolaeth ynghylch i ba raddau y cyrhaeddir ac y rhagorir ar y targedau presennol.

Roedd cefnogaeth unfrydol bron i adolygur targedau ailgylchu ac adfer presennol ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. Nodwyd nad oedd y rhain wediu diweddarun sylweddol ers 2006 a bod newidiadau o ran trin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (er enghraifft o lygryddion organig parhaus (POPs) mewn cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff), ac y gallai datblygiadau mewn prosesau trin a thechnoleg olygu y gallair targedau presennol fod yn rhy anodd neun rhy isel yn dibynnu ar y categori.

Cwestiwn 61: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai fod yn ofynnol i Gyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy adrodd yn flynyddol ar i ba raddau y maent wedi cyrraedd y targedau ailgylchu ac adfer hynny, ac y dylai archwiliad annibynnol ategu eu hadroddiad?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 77 (91%)
Anghytuno 4 (4.5%)
Ddim yn si典r 4 (4.5%)

Cwestiwn 62: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 61.

Cwestiwn 63: Rhowch dystiolaeth o gostau tebygol adrodd ac archwilio cyfraddau ailgylchu ac adfer annibynnol.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr, ar draws categor誰au, yn gryf o blaid mesurau or fath i gynyddu tryloywder a hyder rhanddeiliaid mewn cyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy. Roedd y sector trin hefyd yn cefnogi adrodd blynyddol (67%) er nad mor gryf. Roedd traean or cyfleusterau trin awdurdodedig yn anghytuno gan awgrymu y byddai gofyn am archwiliadau annibynnol yn ychwanegu costau sylweddol, anghyfiawn, at gyfleusterau trin awdurdodedig. Maent hefyd yn nodi y byddai archwiliadaun amharun ormodol ar weithrediad y cyfleusterau, ac yn ychwanegol at archwiliadau a wneir gan reoleiddwyr au cwsmeriaid.

Amcangyfrifwyd y byddai archwiliad annibynnol yn costio tua 贈5,000 fesul archwiliad.

Cwestiwn 64: A ydych yn cytuno neun anghytuno y byddai cyflwyno targedau adfer unigol ar gyfer deunyddiau penodol, gan gynnwys mwynau allweddol, yn arwain at adfer y deunyddiau hynny ar galw amdanynt, gan gyfrannu at uchelgeisiau Sero Net ar Economi Gylchol, a chefnogi diogelwch cyflenwad deunyddiau penodol ar yr un pryd?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 63 (70%)
Anghytuno 14 (16%)
Ddim yn si典r 13 (14%)

Cwestiwn 65: Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 64.

Yn gyffredinol, cytunodd cynhyrchwyr electronig y byddai targedau unigol yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, amlygodd pob un nad oes sylfaen dystiolaeth ddigon cryf eto, y byddai angen ei datblygu cyn y gellid gosod unrhyw dargedau adfer deunydd defnyddiol.油

Roedd un corff masnach yn anghytuno, gan ddadlau na fyddai targedaun ysgogi newidiadau perfformiad oherwydd cyfyngiadau mewn seilwaith ac oherwydd bod cynhyrchion electroneg wediu cynllunio ar gyfer marchnadoedd byd-eang, nid y DU yn unig.油

Amlygodd y cwmn誰au rheoli gwastraff ar cyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy a oedd yn anghytuno nad ydym yn gwybod union ddadansoddiad mwynau na ddeunyddiau unigol mewn cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cyrraedd mewn swmp iw prosesu. Nododd un bod rhywfaint o ddeunydd syn deillio o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn cael ei brosesu ymlaen llaw mewn purfeydd tramor, a fyddai y tu allan i gylch gwaith rheoleiddwyr. Awgrymwyd bod y llywodraeth yn creu targed cyffredinol ar gyfer adfer mwynau allweddol, yn hytrach na thargedau penodol ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, yn unol 但 dull yr UE.

Nododd eraill fod y farchnad ar gyfer deunyddiau allweddol wediu hailgylchu yn anaeddfed iawn, felly byddai angen eglurder ynghylch pa ddeunyddiau y gellir eu targedun realistig yn y DU. Nodwyd hefyd y risg y gallai targedau unigol arwain at ailgylchu cyfarpar, pan fyddai modd ei ailddefnyddio.油

Cwestiwn 66:油Os ydych yn cytuno 但 chwestiwn 64: a fyddech yn cefnogi cyflwyno adroddiadau ar ddeunyddiau penodol i ffurfio sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol cyn gosod targedau yn y dyfodol?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Cytuno
  2. Anghytuno
  3. Ddim yn si典r
Ymateb Rhif
Cytuno 36 (51%)
Anghytuno 6 (8%)
Ddim yn si典r 29 (41%)

Cwestiwn 67: Os ateboch cytuno i gwestiwn 66, a ddylair targedau hyn fod yn orfodol neu beidio?油

  1. Gorfodol
  2. Ddim yn orfodol
Ymateb Rhif
Gorfodol 29 (52%)
Ddim yn orfodol 27 (48%)

Cwestiwn 68:油Mae angen cyfleusterau trin arnom i ddangos bod cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn cael ei reolin gadarn, gan gynnwys tynnu deunydd peryglus penodedig a llygryddion organig parhaus. A oes unrhyw sylweddau a chydrannau eraill y dylid eu hychwanegu at y rhestr gyfyngedig? Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb.油

Ni awgrymodd y rhan fwyaf or ymatebwyr unrhyw sylweddau na chydrannau eraill y dylid eu cyfyngu. Fodd bynnag, cododd y rhan fwyaf o gwmn誰au rheoli gwastraff a chyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy sylweddau perfflworoalcyl a pholyfflworoalcyl (PFAS) fel pryder ac yn her benodol i gyfleusterau trin. Awgrymodd un perfflworooctan sylffonad PFOS. Awgrymodd un corff masnach perthnasol y dylid adolygur sylweddau syn peri pryder mawr iawn (SVHCs) o dan REACH a nododd atalyddion fflamau wediu brominadu fel pryder ychwanegol.油

Cwestiwn 69:油Yn eich barn chi, beth ywr prif rwystrau i wellar broses o adfer deunyddiau yn well wrth drin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Dewiswch un or opsiynau canlynol:油

  1. Rhwystr gwybodaeth
  2. Rhwystr technolegol
  3. Arall
Ymateb Rhif
Rhwystr gwybodaeth 2 (3%)
Rhwystr technolegol 37 (51%)
Arall 33 (46%)

Cwestiwn 70: Os ateboch arall i gwestiwn 69, nodwch beth fyddai hynny.

Dywedodd nifer o ymatebwyr fod rhwystrau gwybodaeth a thechnolegol. Soniodd eraill am reoleiddio a gorfodi anghyson. Cyfeiriwyd hefyd at ddyluniad cynnyrch, hwylustod datgymalu a phrosesau ailgylchu cyfredol ynghyd 但r ffocws ar adennill deunyddiau gwerth uwch yn hytrach na gwerth is.

Cwestiwn 71:油Pa wybodaeth ydych chin meddwl y dylai fod yn ofynnol i gyflenwyr cynnyrch ei darparu i helpu gweithredwyr trin gwastraff i gynyddur broses o adfer deunyddiau neu gydrannau penodol sydd iw gweld yn aml mewn cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Awgrymodd rhai ymatebwyr na ddylai fod angen unrhyw wybodaeth ychwanegol. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod deunydd cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn cael ei ailgylchu ar raddfa fawr, felly nid ywn bosibl gwirio gwybodaeth unigol ar gyfer pob cynnyrch. Y peth hanfodol ar gyfer casgliadau yw ei bod yn amlwg pa gydrannau peryglus sydd wediu cynnwys, yn ogystal ag a oes batri y tu mewn ir cynnyrch.