Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion (ATCM): Symudodd dros filiwn o achosion Gweithdrefn Un Ynad o bapur i ddigidol
Cyflwynwyd y Weithdrefn Un Ynad (SJP) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015.

Maen caniat叩u i erlynwyr syn penderfynu a ddylid mynd ag achos drwyr weithdrefn ymdrin ag achosion syn ymwneud 但 diffynyddion syn oedolion a gyhuddwyd o droseddau llai na allant arwain at ddedfryd o garchar, gan gynnwys:
- goryrru
- gyrru heb yswiriant
- peidio 但 thalu am drwydded teledu
- peidio 但 thalu am docynnau tr棚n
Maen galluogi diffynyddion, erlynwyr ar llysoedd i ddod i ddatrysiad am f但n droseddau heb orfod mynychur llys (oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny).
Mae un ynad, gyda chyngor cyfreithiwr proffesiynol, yn delio ag achosion o dan SJP i ffwrdd o ystafell llys. Nid oes unrhyw erlynydd na diffynnydd yn bresennol a gallant ddelio 但r achos yn gyflym heb gymryd amser gwerthfawr yn y llys.
Cyn 2017, roedd achosion SJP yn dibynnu ar brosesau papur a thechnoleg hen ffasiwn a oedd yn golygu bod:
- staff y llys ac ynadon yn trin llawer o bapur 但 llaw
- oriau yn cael eu treulio yn mewnbynnu data 但 llaw a oedd hefyd yn cynyddur risg o gamgymeriadau dynol
- rhannu gwybodaeth yn aneffeithlon dros e-bost gan achosi oedi
- cost ir trethdalwr yn gysylltiedig ag argraffu a chludo ffeiliau o adeilad i adeilad.
Roedd angen moderneiddior system i ymdrin 但 throseddau diannod, digarchar yn fwy effeithlon.
Buddion
Trwy gyflwynor Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion (ATCM), gwasanaeth digidol a gr谷wyd i helpu i brosesu achosion SJP ar system rheoli achosion troseddol Y Platfform Cyffredin, rydym wedi trawsnewid y broses. Maer gwasanaeth modern, symlach hwn bellach yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon i lysoedd, erlynwyr ar cyhoedd.
Mae dros 1.1 miliwn o achosion SJP wediu cwblhaun ddigidol rhwng Ebrill 2017 a 31 Rhagfyr 2024 (ffynhonnell: data gwasanaeth Diwygio MI, Mawrth 2025), pob un yn elwa ar y canlynol:
- cyfiawnder cyflymach yn rhoi mwy o gapasiti i erlynwyr ac yn galluogi diffynyddion i symud ymlaen 但u bywydau yn gyflymach
- rhannu gwybodaeth yn gyflymach rhwng y llys, yr erlynydd ar diffynnydd
- y gallu i ryngweithio ag achosion yn fwy hygyrch ar unrhyw adeg a chael gwybod am gynnydd
- mwy o hyblygrwydd i ynadon a staff llys, syn golygu gallu delio 但r gwaith syn dod ir llys yn fwy effeithlon
- gwell cysondeb gwasanaeth yn cael ei ddarparu i bob rhanddeiliad, gyda Chanolfannau Gwasanaethaur Llysoedd ar Tribiwnlysoedd yn delio ag ymholiadau o ddydd i ddydd, yn hytrach na llysoedd unigol
- defnydd mwy effeithiol o gapasiti ffisegol y llys gan ddarparu gwell gwerth am arian ir trethdalwr
- cyhoeddi rhestrau achosion ar-lein a gwybodaeth ychwanegol ar gael i newyddiadurwyr, i gefnogi cyfiawnder agored
- gostyngiad sylweddol yng nghost ariannol argraffu a chludo ffeiliau papur
Ein trawsnewidiad digidol
Mae ATCM yn cynrychioli trawsnewidiad or system SJP. Maer platfform digidol bellach yn rheoli achosion ou derbyn yn y lle cyntaf hyd at benderfyniad yr ynadon, tran darparu mynediad tryloyw at ganlyniadau achos, atgyfeiriadau, a chostau a ddyfernir ir holl randdeiliaid yn y broses, yn ogystal 但 newyddiadurwyr.
Trwy greu platfform digidol o dan y Rhaglen Ddiwygio rydym wedi galluogi:
- rheoli achosion digidol or dechrau ir diwedd o ddechraur broses ir penderfyniad, gan alluogir holl randdeiliaid i gael mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn amser real
- uwchlwytho achosion digidol yn uniongyrchol gan erlynwyr gan gynnwys DVLA, Trwyddedu Teledu, TfL a heddluoedd lleol
- cyflwyno pledion ar-lein, lle gall diffynyddion uwchlwytho gwybodaeth ategol
- olrhain y cynnydd a wnaed gan achos mewn amser real
- system hysbysu awtomataidd ar gyfer penderfyniadau achos ir holl randdeiliaid syn ymwneud 但r broses, a hefyd i newyddiadurwyr
- gall newyddiadurwyr gael gwybodaeth fanwl (ffeithiaur erlyniad a lliniarur amddiffyniad) yn ddigidol
- mynediad digidol i ynadon i fewnbynnu penderfyniadau yn uniongyrchol ir system
- cymorth integredig gan Ganolfan Gwasanaethaur Llysoedd ar Tribiwnlysoedd
Mae hyn o fudd i amrywiaeth o bobl syn ymwneud 但r broses:
- Gall erlynwyr gan gynnwys yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, Trwyddedu Teledu, a heddluoedd bellach uwchlwytho achosion yn uniongyrchol ir system
- Gall diffynyddion gyflwyno pledion a chael mynediad at wybodaeth ategol ar-lein
- Gall ynadon a chynghorwyr cyfreithiol gael mynediad at fanylion achosion, cofnodi penderfyniadau, cynhyrchu gorchmynion a hysbysiadau, a diweddaru cofnodion gyrwyr i gyd trwy un platfform unedig.
- Mae newyddiadurwyr yn cael mwy o wybodaeth ac nid oes rhaid iddynt deithio ir llysoedd yn bersonol er mwyn adrodd ar achosion
Rhannu gwybodaeth yn well
Mae mynediad ir system syn seiliedig ar r担l yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth syn berthnasol iw hanghenion y mae defnyddwyr yn ei gweld, gan ddileur angen am ddogfennaeth bapur a lleihau mewnbynnu data 但 llaw.
Mae tryloywder yn cael ei gynnal trwy gyhoeddi rhestrau llys ar-lein, tra bod newyddiadurwyr yn gallu cael mynediad at restrau gwrandawiadau a chofnodion llys sydd ar ddod, gan alluogi craffu ac adrodd ar ganlyniadau ir cyhoedd.
Maer nifer syn defnyddior gwasanaeth digidol wedi bod yn uchel, gyda nifer yr achosion digidol rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2023 yn mwy na dyblu. (ffynhonnell Gwybodaeth rheoli gwasanaethau diwygio cyhoeddus a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023.
Ers mis Ebrill 2022, mae 80% or bobl sydd wedi defnyddior gwasanaeth un ynad wedi bod yn fodlon 但r gwasanaeth a gawsant.
Cydweithio
Rydym wedi ymgynghori a chydweithio 但 nifer o bartneriaid cyfiawnder i ddylunio, profi a gweithredur Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion, y system ddigidol a ddatblygwyd i weinyddu achosion y Weithdrefn Un Ynad ar-lein:
- heddluoedd lleol ar gyflwyno a darparu mae erlynwyr heddlu bellach yn gallu uwchlwython uniongyrchol ir system a hunanwasanaethu
- holl bartneriaid y system gyfiawnder troseddol
- erlynwyr nad ydynt yn heddlu (NPPs) - maer rhain bellach yn ddigidol yn ddiofyn a bydd y broses cynefino ar gyfer NPPs yn cyflymu yn 2025/2026
- Canolfannau Gwasanaethaur Llysoedd ar Tribiwnlysoedd i gynnig y cymorth ar cyngor gorau ar gyfer achosion parhaus i bob rhanddeiliad
- ynadon, cynghorwyr cyfreithiol ar farnwriaeth fel partner hanfodol i ddarparu system symlach
Cael cymorth
Mae Canolfannau Gwasanaethaur Llysoedd ar Tribiwnlysoedd (CTSC) yn darparu cymorth cynhwysfawr i bob defnyddiwr. Mae gwelliannau allweddol yn cynnwys:
- cefnogaeth benodedig i ddiffynyddion, erlynwyr, a newyddiadurwyr
- lefelau gwasanaeth cyson ar draws pob rhyngweithiad
- lleihau amseroedd aros o dros awr i 15 munud ar gyfer ymholiadau dros y ff担n
- system hunan-gymeradwyo ar-lein newydd ar gyfer manylion trwydded yrru
Adborth a mewnwelediadau
Dywedodd Andrew Morris, Pennaeth Dros Dro Gweithrediadau Cyfreithiol Cymru: Maen cynyddu hyblygrwydd, maen defnyddio amser yn effeithlon, yn well ir amgylchedd, ac yn arbed lle yn y llys ar gyfer delio 但 throseddau mwy difrifol.
Pwysleisiodd Rheolwr Uned Gweithrediadau Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, Debbie Taylor, yr effaith: Cyn ATCM ar Platfform Cyffredin, roedden nin gwneud 600 o achosion SJP yr wythnos. Ym mis Hydref 2024, mae bellach wedi cynyddu i 650 o achosion yr wythnos - ac rydym ar y trywydd iawn i gynyddu i fil erbyn mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2025.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn bwriadu parhau i ddatblygur system gan gynnwys:
- cwblhaur broses o gyflwyno gwasanaeth digidol i bob heddlu ledled y wlad gan ymgysylltu ag erlynwyr newydd nad ydynt yn heddlu gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd a chwmn誰au trafnidiaeth
- cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o gynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y system
- gwella mynediad ir cyfryngau a mesurau tryloywder cyhoeddi mwy o ddata nag erioed or blaen, yn ogystal 但 gwahodd newyddiadurwyr i arsylwi sesiynau SJP
- datblygu opsiynau hunanwasanaeth gwell i ddefnyddwyr
- gweithredu gwelliannau technolegol parhaus
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
drwy danysgrifio in e-hysbysiadau an cylchlythyrau.
Gallwch ddarllen mwy am sut maer Weithdrefn Un Ynad yn gweithio drwy fynd i: