Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cyngor Dinas Belfast
Rhaglen Dinasyddion Creadigol Belfast 2024.
| Yn 2020 cyhoeddodd Cyngor Dinas Belfast strategaeth ddiwylliannol 10 mlynedd oedd wedi’i gyd-ddylunio, A City Imagining, er mwyn datblygu “a people-focused approach to cultural development by facilitating citizen, community and creative, cultural and heritage sector participation”. Yn y strategaeth roedd yna gynlluniau ar gyfer digwyddiad diwylliant, Belfast 2024, sef prosiect “sbarduno” blwyddyn o hyd a fwriadwyd i roi gwerthoedd y strategaeth ar waith, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau o fewn y strategaeth, a sadio’r momentwm tuag at greadigrwydd fel grym ar gyfer datblygu dinesig a rhanbarthol. Un peth oedd yn ganolog i Belfast 2024 oedd y rhaglen Dinasyddion Creadigol, sef ymgysylltiad cyhoeddus helaeth a pharhaus nid yn unig i gyd-ddylunio’r rhaglen, y themâu a’r gweithgareddau am y flwyddyn, ond i rymuso dinasyddion a chymunedau mewn gwirionedd. Trwy ddull cyllidebu cyfranogol o’r enw The Bank of Ideas, y dinasyddion oedd yn penderfynu’n uniongyrchol ar ddyrannu’r gyllideb, gan gynnig a dewis prosiectau creadigol ar gyfer y ddinas. Yn ogystal â throsglwyddo’r pŵer i wneud penderfyniadau, roedd y cynllun yn anelu at leihau’r rhwystrau oedd yn atal mynediad at gyllid er mwyn i ystod ehangach o ddinasyddion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill gymryd rhan.
Yn fersiwn gyntaf y cynllun yn 2024, cyflwynwyd 93 o syniadau i’r cyhoedd mewn diwrnod pleidleisio yn Neuadd y Ddinas, gyda mwy na 2000 o bleidleiswyr yn penderfynu beth ddylai fynd yn ei flaen. O ganlyniad, cynhaliwyd 28 o brosiectau a drefnwyd gan grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phractisau creadigol bach mewn cymunedau a chymdogaethau ledled Belfast.  Roedd y prosiectau’n cynnwys carnifal amrywiaeth, llyfrgell deithiol, theatr ryngweithiol aml-synhwyraidd i blant ag anableddau, a phrosiectau bioamrywiaeth oedd yn defnyddio creadigrwydd fel offeryn ar gyfer addysg gymunedol. Roedd y prosiectau hyn yn helpu dinasyddion a grwpiau ymylol i ddod yn fwy cysylltiedig â chymunedau lleol.
Mae’r ymagwedd a gymerwyd gan y ddinas, sef creu’r amodau ar gyfer cyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas trwy wrando, ymateb a grymuso cymunedau lleol, wedi cael ei chydnabod yn lleol ac yn rhyngwladol, gan ennill Gwobr Ymgysylltu Cymunedol Gwobrau Llywodraeth NILocal yn 2025 a chael ei chydnabod gan reithgor rhyngwladol Llywodraethau Lleol Dinasoedd Unedig fel yr arferion gorau o dan Agenda 21 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwylliant.