Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab)
Labordy Canlyniadau Llywodraeth, Rhannu Data, a Gweithio mewn Partneriaeth (SoF).
Mae Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab) yn ganolfan ymchwil a pholisi yn Ysgol Lywodraeth Blavatnik, Prifysgol Rhydychen, a sefydlwyd trwy bartneriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cenhadaeth y GO Lab yw galluogi’r llywodraeth i bartneru’n fwy effeithiol â’r sectorau preifat a chymdeithasol i wella bywydau pobl. Mae’r GO Lab yn cynnig canolfan gydweithredol i wella proses ddysgu’r llywodraeth yn sgil comisiynu sydd wedi’i seilio ar ganlyniadau trwy ymchwil o’r radd flaenaf, curadu a rhannu data, ac ymgysylltu’n ymatebol â pholisïau.
Trwy fentrau fel INDIGO (y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Data ar Effaith a Chanlyniadau Llywodraethau), mae gwaith y GO Lab yn dangos sut y gall penderfyniadau dan arweiniad data ategu perthnasoedd gweithio effeithiol ar draws sectorau. Mae INDIGO yn gydweithrediad data byd-eang sy’n rhannu data yn agored ac yn dryloyw am bartneriaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae menter INDIGO yn cynnwys cynnal cymuned o ymarferwyr, system ar gyfer rhannu data a setiau data agored sydd wedi’u cynllunio i wasanaethu fel nwyddau cyhoeddus, megis set ddata gynhwysfawr ar bartneriaethau canlyniadau cymdeithasol, a chanlyniadau a gyflawnir gan brosiectau’r Gronfa Cyfleoedd Bywyd.
Y gwersi allweddol
Mae rhannu data agored rhwng cyrff y gymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn creu cronfa dystiolaeth gyffredin ac yn gwella cyd-ddealltwriaeth, gan rymuso’r gymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill yr un pryd i ddeall ac ymgysylltu â mentrau’r llywodraeth yn well.