Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Trawsnewid y GIG
Cydweithredu yn llunio iechyd pobl ar gyfer y dyfodol.
Trwy ddeialog agored a phartneriaethau 但r gymdeithas sifil, mae Cenhadaeth Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthin adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr syn addas at y dyfodol.
Gosododd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr ar waith i lywio datblygiad y Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, syn troir miloedd o fewnwelediadau a gasglwyd yn gynllun gweithredu clir. Gall y gymdeithas sifil chwarae rhan hanfodol wrth ategur tair sifft sylfaenol: or ysbyty ir gymuned, o analog i ddigidol ac o driniaeth i atal.
Maer Cynllun Iechyd 10 Mlynedd yn cynnwys nod penodol o sicrhau mair GIG ywr partner gorau posibl ar darparwr gofal iechyd cyhoeddus mwyaf cydweithredol yn y byd. Drwy arloesi or gwaelod i fyny ac ar lawr gwlad y byddwn nin gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Ochr yn ochr 但 gosod strategaeth, bydd gan y Cynllun nod penodol o harneisio partneriaethau 但 buddsoddwyr, diwydiant, llywodraeth leol, cyflogwyr, busnesau bach a chanolig, mudiadau gwirfoddol ac undebau llafur. Bydd dyfnhaur berthynas 但 phartneriaid yn y gymdeithas sifil yn helpu i gyflawni nodaur Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, gan gynnwys trwy feithrin model Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth.
Yr uchelgais yw defnyddio nifer o ddarparwyr yn y GIG, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a mentrau cymdeithasol. Lle mae arloesedd mor gyflym yn digwydd heddiw o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, maer llywodraeth am ehangu eco-system y darparwyr. Er enghraifft, mae yna botensial enfawr i ystod eang o ddarparwyr gynnig gwerth gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth. Y nod sydd gennym yw sefydlu Canolfan Iechyd Cymdogaeth ym mhob cymuned, sef siop un stop ar gyfer gofal i gleifion ar man y bydd timau aml-ddisgyblaeth yn gweithredu ohono. Bydd Canolfannau Iechyd Cymdogaeth yn cydleoli gwasanaethaur GIG, yr awdurdodau lleol ar sector gwirfoddol i helpu i greu arlwy syn ateb anghenion y boblogaeth yn holistig.