Ap COVID-19 y GIG
Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023. Roedd yn ffordd gyflym o weld a oeddech chi mewn perygl o’r coronafeirws (COVID-19) ac yn ffordd hawdd o rybuddio eraill os gwnaethoch chi brofi'n bositif.
Lawrlwythwch ap COVID-19 y GIG
Mae ap COVID-19 y GIG ar gael i’w lawrlwytho am ddim yng Nghymru a Lloegr.
Os ydych chi’n byw yn un o’r ddwy wlad ac yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch chi lwytho’r ap i lawr ar eich ffôn.
Mae’r ap yn cynnwys nifer o nodweddion i helpu eich diogelu chi ac eraill, gan gynnwys:
- cael rhybuddion sy’n rhoi gwybod a ydych o COVID-19
- gwiriwr symptomau
- y cyngor diweddaraf yn seiliedig ar eich amgylchiadau
- gwybodaeth gyffredinol am COVID-19
- cofnodi canlyniad positif (o brawf y GIG neu y gwnaethoch dalu amdani) i hysbysu eraill os ydynt mewn perygl
Bydd yr ap yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Gall y canllawiau fod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr.
Caiff yr ap ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd gyda swyddogaethau newydd a gwelliannau. Mae’r fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys y nodweddion a’r cyngor diweddaraf felly mae’n bwysig eich bod yn ei diweddaru.
Ar gyfer eich statws brechu, defnyddiwch ar wahân (Lloegr yn unig).
Cael help gyda’r ap
Mae’r ap ar gael mewn 12 iaith wahanol a gallwch ddewis yr iaith yn y gosodiadau.
Rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gallu defnyddio ap COVID-19 y GIG.
Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio Bluetooth Ynni Isel (BLE) i ddeall y pellter, dros amser, rhwng defnyddwyr yr ap. Fel arfer, byddwch yn cael hysbysiad cysylltiad gyda chanllawiau os ydych chi wedi bod o fewn 2 fetr i rywun am 15 munud neu fwy sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 ers hynny.
Os bydd unigolyn yn cael canlyniad positif am COVID-19, yn rhoi gwybod am y canlyniad yn yr ap, ac yn cytuno i rannu ei ID ar hap, bydd yr ap yn cyfrifo’r risg i ddefnyddwyr yr ap a ddaeth i gysylltiad ag ef/hi yn yr ychydig ddiwrnodau diwethaf – gyda’r wybodaeth hon, bydd yr ap yn penderfynu a ddylid anfon hysbysiad cysylltiad at ddefnyddiwr.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’r ap yn gweithio.
Sut mae’r ap yn diogelu eich data
Mae ap COVID-19 y GIG yn diogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod rhag defnyddwyr eraill yr ap – ac yn diogelu eu preifatrwydd a’u manylion adnabod hwythau yn yr un modd. Mae’r ap yn defnyddio ID ar hap, ac nid oes modd i’r GIG na’r llywodraeth ei ddefnyddio i ganfod pwy ydych chi, na gyda phwy rydych chi wedi treulio amser. Dyna pam mae eich cofnodion brechu a’ch pàs COVID yn ymddangos ar wahân yn ap y GIG (Lloegr yn unig).