Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau
Adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ar ffurf CSV.
Maer casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ystadegyn Cenedlaethol yw Mynegai Prisiau Tai y DU. Cyhoeddir bob chwarter.
Mae ailgyhoeddi data yn egluror amodau defnyddio. Trwy lawrlwythor data rydych yn cytuno ir amodau hynny.
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai nesaf
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2024 am 9.30am ddydd Mercher 21 Mai 2025. Gweler ycalendr dyddiadau rhyddhauam ragor o wybodaeth.
Nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon
Rydym wedi newid y ffordd y cyhoeddir nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon ac wedi cywiror ffordd rydym yn eu cynnwys yn ffiguraur DU. Rydym wedi cynhyrchu amcangyfrif misol trwy rannu cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y chwarter yng Ngogledd Iwerddon 但 3.
Yn flaenorol, roedd data chwarterol Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn nata nifer gwerthiannau misol y DU, a oedd yn arwain at ffigurau gwerthiant uwch nar disgwyl.
Diwygiadau data
Yn dilyn adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o fis Ionawr 2021 ymlaen i 20 Mawrth 2024, i wneud defnydd o ddata prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis, rydym wedi nodi gwall yng nghyfrifon trafodion arian parod a morgais ar gyfer datan rhychwantu Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi effeithio ar fynegeion a lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Cywirwyd cyfrif trafodion arian parod a morgais ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022 yn nata Mynegai Prisiau Tai y DU a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024 ac yn dilyn datganiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Newid methodoleg ar gyfer eiddo newydd
Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer a chyflenwad y trafodion tai, rydym wedi gwneud rhai newidiadau methodoleg. Mae prosesu eiddo a adeiledir or newydd wedi cael ei effeithio mwy na phrosesu hen eiddo. Cynghorir defnyddwyr y gall amcangyfrifon ar gyfer eiddo a adeiledir or newydd fod yn llai cynrychioliadol ac yn fwy tebygol o gael eu diwygio. Er mwyn helpu i roi sylw i hyn, rydym wedi cyfuno trafodion eiddo a adeiledir or newydd ar gyfer rhai misoedd yng Nghymru a Lloegr er 2020:
- Awst 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Orffennaf 2024 ac Awst 2024
- Medi 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Awst 2024 a Medi 2024
- Hydref 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Fedi 2024 a Hydref 2024
- Tachwedd 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Hydref 2024 a Thachwedd 2024
- Rhagfyr 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Dachwedd 2024 a Rhagfyr 2024
- Ionawr 2025 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir or newydd o Ragfyr 2024 ac Ionawr 2025
Nid yw Chwefror 2025 wedi ei effeithio gan nad ywr model ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf yn defnyddior dangosydd eiddo a adeiledir or newydd i ragfynegi prisiau eiddo oherwydd natur y prosesu.
Gallair newidiadau hyn arwain at wneud mwy o ddiwygiadau i amcangyfrifon cyhoeddedig nag arfer. Maer oedi cyffredinol syn gysylltiedig 但 chofrestru eiddo a adeiledir or newydd hefyd yn arwain at gyfan is o werthiannau eiddo a adeiledir or newydd sydd ar gael i gyfrifor pris cychwynnol ar amcangyfrif mynegai nag ar gyfer gwerthiannau hen eiddo. Felly rydym yn atal nifer y gwerthiannau wedi eu cadarnhau ar gyfer eiddo a adeiledir or newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf (neur ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon), fodd bynnag, nid oes gennym ddigon o werthiannau i sicrhau bod y model atchweliad a ddefnyddir i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU ar ystadegau cysylltiedig yn gadarn ac yn gywir. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eiddo a adeiledir or newydd fel arfer iw gweld yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Un or prif ffactorau syn penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddior dosbarthiad demograffig-gymdeithasol, a elwir Acorn (wedi ei gynhyrchu ai drwyddedu gan CACI Ltd), yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, gwnaethpwyd newid ir ffordd y caiff trafodion eiddo ar gyfer Prydain Fawr gyda dosbarthiad Acorn coll eu defnyddio yn y model atchweliad. Maer gwelliant hwn yn y fethodoleg yn cynyddu cydlyniant ar draws y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Ngwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU ac yng ngwybodaeth sicrhau ansawdd Acorn.
Yn natganiad Medi 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu diwygio o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU ir cyfnod diwygio arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a nodir ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir or newydd.
Cyn datganiad 19 Chwefror 2025, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Cyfrifwyd lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU trwy gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 cyfeirgyfres o eiddo a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchur gyfres amser llawn. Yn natganiad Chwefror 2025, Ionawr 2023 oedd y cyfnod cyfeirio newydd y byddai cyfraddau chwyddiant cyfnodau unigol yn ei ddefnyddio i gynhyrchur gyfres amser llawn. O ddatganiad 19 Chwefror 2025, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Mae ailgyfeirio yn symud y gyfres lefel prisiau ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad yn 担l newid canrannol cyson, ond nid yw cyfraddau chwyddiant yn cael eu heffeithio gan ailgyfeirio, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yng nghyfarwyddyd Ansawdd a methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cael ei ailgyfeirio oherwydd gall y mathau o eiddo syn cael eu gwerthu newid dros amser. Er enghraifft, rhwng 2015 a 2023 cynyddodd cyfran y trafodion eiddo syn gysylltiedig 但 gwerthiannau eiddo llai (er enghraifft, yn 担l cyfran roedd mwy o werthiannau o fflatiau nag eiddo sengl) a lleihaodd gwerthiannau yn yr ardaloedd drutach or DU yn 担l cyfran (er enghraifft, yn 担l cyfran roedd mwy o werthiannau yn yr Alban nag yn Llundain). Mae diweddaru cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2015 i Ionawr 2023 yn golygu y gall Mynegai Prisiau Tai y DU adlewyrchun well y newid a welwyd yn y math o eiddo syn cael ei werthu ar hyn o bryd. Mae hyn wedi arwain at newid ar i lawr o 7.9% ar gyfer y cyfan o gyfres lefelau prisiau cyfartalog y DU. Ni chafodd cyfraddau chwyddiant ar gyfer cyfres y DU eu heffeithio gan ailgyfeirio.
Chwefror 2025
Am Fynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Maer cyfarwyddyd canlynol yn cynnwys:
Adroddiadau a data wedi eu harchifo
Updates to this page
-
Added the September 2024 index.
-
Added the July 2024 index.
-
Added the March 2024 index.
-
Added the February 2024 index.
-
Added the January 2024 index.
-
Added the December 2023 index.
-
Added the November 2023 index.
-
Added the October 2023 index.
-
Added the September 2023 index.
-
Added the August 2023 index.
-
Added the July 2023 index.
-
Added the May 2023 index.
-
Added the April 2023 index.
-
Added the March 2023 index.
-
Added the February 2023 index.
-
Added the January 2023 index.
-
Added the December 2022 index.
-
Added the November 2022 index.
-
Added the October 2022 index.
-
Added the September 2022 index.
-
Added the August 2022 index.
-
Added the July 2022 index.
-
Added the June 2022 index.
-
Added May 2022 index.
-
Added the April 2022 index.
-
Added the March 2022 index.
-
Added February 2022 index.
-
Added January 2022 index.
-
Added December 2021 index.
-
Added November 2021 index.
-
Added October 2021 index.
-
Added September 2021 index.
-
Added August 2021 index.
-
Added July 2021 index.
-
Added June 2021 index.
-
Added May 2021 index.
-
Added April 2021 index.
-
Added March 2021 index.
-
Added February 2021 index.
-
Added January 2021 index.
-
Added December 2020 index.
-
First published.