Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: canllawiau
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gweithredu lladd-dy sy'n trin anifeiliaid buchol (gwartheg, buail neu fyfflos) ddilyn y rheolau ar ddosbarthu carcasau.
Er mwyn gweithredu lladd-dy yn y UK mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan .
Os yw eich busnes yng Nghymru neu Loegr a’ch bod yn lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos (wedi’i gyfrifo ar sail cyfartaledd blynyddol treigl), mae’n rhaid i chi gofrestru â’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion. O dan y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion, mae’n rhaid i chi ddosbarthu carcasau yn ôl rheolau sydd mewn grym ledled yr Undeb Ewropeaidd.
Mae anifail buchol llawndwf yn anifail sy’n 8 mis oed neu drosodd os cafodd ei ladd ar ôl 31 Rhagfyr 2013, neu’n anifail â phwysau byw a oedd yn fwy na 300 cilogram os cafodd ei ladd cyn 1 Ionawr 2014.
Os ydych yn lladd llai o anifeiliaid na hyn yr wythnos ond eich bod am ddosbarthu carcasau eidion yn yr un ffordd, mae’n rhaid i chi gofrestru â’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion fel gweithredwr ar raddfa fach. Os na fyddwch yn cofrestru, ni allwch ddefnyddio’r graddfeydd dosbarthu sy’n gymwys i ladd-dai sy’n rhan o’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion. Os byddwch yn cofrestru, mae’n rhaid i chi eu defnyddio ar gyfer pob carcas eidion llawndwf rydych yn ei drin a chydymffurfio â holl ofynion eraill y cynllun hefyd.
O dan y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion, rhaid i chi ddosbarthu carcasau yn unol â rheolau sy’n ymwneud â:
- trin, pwyso a marcio/labelu carcasau
- hysbysu’r cyflenwr o ganlyniadau’r broses dosbarthu
- cadw cofnodion
- archwiliadau
- camau gorfodi a chosbau
Rheoliadau perthnasol
Rheoliadau
The (SI 2010/1090) as amended by the (SI 2013/3235)
The (SI 2011/1826 (W. 198)) as amended by the (SI 2012/948 (W. 125)) and by the (SI 2013/3270 (W. 320))
as amended by and