Consultation outcome

Ymateb y Llywodraeth: Cynhaliaeth Plant: Ymgynghoriad Pwerau Mynediad a Gwybodaeth

Updated 26 March 2019

Cyflwyniad

1. Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012. Maer gwasanaeth diwygiedig wedi ei lunio i fod yn fwy cost effeithiol ac i ddatrys nifer or problemau oedd yn gysylltiedig gydar Asiantaeth Cynnal Plant (CSA).

2. Roedd y diwygiadau yn cynnwys system technoleg gwybodaeth (IT) newydd a seilior cyfrifiad o atebolrwydd cynhaliaeth plant ar wybodaeth am incwm rhiant dibreswyl gan Gyllid a Thollau EM (HMRC).Yn yr ymateb yma ir ymgynghoriad mae rhiant dibreswyl yn cyfeirio at y rhiant syn talu cynhaliaeth ir rhiant y maer plentyn cymwys yn byw gyda hwy am y rhan fwyaf o amser.

3. Mae gan CMS ystod o bwerau i gael gwybodaeth angenrheidiol i gyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant yn gywir a phan mae angen, ei orfodi. Roedd yr ymgynghoriad yma yn ceisio barnau ar newidiadau i ddwy elfen benodol or pwerau yma; cymhwyso gallu archwiliwr CMS i fynd i mewn i adeilad preifat ac ehangur rhestr gyfredol o sefydliadau sydd gan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth yn dilyn cais gan y CMS.

4. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008 adrannau 3-6 yn gosod dyletswydd ar unigolion a sefydliadau i roi gwybodaeth os yn ofynnol i wneud hynny ir Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau (neu Adran y Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon), i sicrhau:

  • y gellir adnabod ac olrhain y rhiant dibreswyl (pan bod angen)
  • y gellir cyfrifor swm o gynhaliaeth plant syn daladwy gan y rhiant dibreswyl
  • adennill swm o 担l-ddyledion cynhaliaeth plant gan y rhiant dibreswyl

5. Pan na roddir y wybodaeth sydd ei angen gan yr unigolion neu sefydliadau fel syn ofynnol o dan y Rheoliadau, mae adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991 (neu Erthygl 7 o Ddeddf Cynhaliaeth Plant (Gogledd Iwerddon) 1991) yn caniat叩u i archwiliwr, a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neur Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon iw gael drwy archwilio adeiladau penodol lle maen bosib fod y wybodaeth yn cael ei chadw.

6. Mae ein newidiadau arfaethedig yn anelu at symleiddior broses ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth, drwy leihaur angen i ymweld ag adeiladau ble y cedwir gwybodaeth, tran darparu diogelwch ir cyhoedd pan y bydd yn angenrheidiol i archwiliwr ymweld 但r adeilad i gael gwybodaeth.

7. Maer ymateb yma ir ymgynghoriad yn gosod allan sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn, ar 担l rhoi ystyriaeth briodol ir ymatebion ir ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion mewn perthynas 但 darpariaethau p典er mynediad, a newidiadau i gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol ar y rhestr o sefydliadau y maen ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i ni ar gais.

Crynodeb gweithredol

8. Ar 14 Ionawr 2019 fe gyhoeddodd y Llywodraeth Cynhaliaeth Plant: ymgynghoriad . Pwerau Mynediad a Gwybodaeth Cyflwynodd yr ymgynghoriad cyhoeddus yma gynigion gydar bwriad o wella ymhellach y broses o gasglu gwybodaeth a darparu diogelwch ir cyhoedd.

9. Pan gyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 14 Ionawr 2019 gwnaethom ysgrifennu at amrywiaeth o randdeiliaid yr oeddem yn rhagweld y byddai gan diddordeb yn y newidiadau yma gan eu gwahodd i ymateb ir ymgynghoriad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Chwefror 2019. Derbyniwyd 22 o ymatebion: dau gan sefydliadau a 20 gan unigolion preifat, or rhain nododd 13 eu bod yn rhieni dibreswyl ac un yn rhiant syn cael cynhaliaeth. Mae rhestr lawn or sefydliadau oedd wedi ymateb iw gweld yn Atodiad A.

10. Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd ymatebion i 5 cwestiwn am ein cynigion i ddiogelu ymhellach y pwerau mynediad i adeiladau yn adran 15 or Ddeddf Cynnal Plant 1991 ac i ehangur rhestr or rhai maen ofynnol iddynt gydymffurfio gyda cheisiadau am wybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008 i gynnwys darparwyr pensiwn a benthycwyr morgais.

11. Nid oedd yr holl ymatebwyr wedi dewis ateb y cwestiynau penodol a ofynnwyd, ac roedd yn well gan rai rhoi eu barn ar y cynigion yn gyffredinol. Ble maen bosibl, rydym wedi ceisio adlewyrchur ymatebion yma yn yr adrannau priodol. Roedd y mwyafrif o ymatebion a gafwyd gan rieni am amgylchiadau achosion unigol, ac felly tu hwnt i ystod yr ymghynghoriad.

12. Maer cyhoeddiad yma yn crynhoir prif bwyntiau a wnaed gan yr ymatebwyr ac yn rhoi ymateb llawn y Llywodraeth iddynt. Mae hefyd yn gosod allan sut y byddwn yn mynd 但r cynigion yma ymlaen er mwyn cyflawni amcanion ein Strategaeth Cydymffurfiaeth ac l-ddyledion Cynhaliaeth Plant newydd.

13. Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr o blaid y newidiadau. Roedd rhai ymatebwyr wedi codi pryderon na ddylai archwilwyr fod yn gwneud cais am warantau barnwrol. Rydym yn credu y bydd yn ychwanegu diogelwch angenrheidiol ir p典er mynediad presennol, gan ddiogelu pobl rhag y posibilrwydd o archwiliad diangen. Bydd y mesurau diogelwch ychwanegol hefyd yn sicrhau bod yr Adran yn cydymffurfion llawn gydar Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012.

14. Roedd un ymatebydd hefyd yn pryderu y byddair broses o wneud cais am warant farnwrol yn ymarferiad rhoi s棚l bendith. Rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i sicrhau bod y broses yn gytbwys ac yn deg. Bydd yr holl geisiadau am warantau barnwrol yn cael eu hystyried naill ai yn y Llys Ynadon (yng Nghymru a Lloegr), neu yn Llys Siryf (yn yr Alban).

15. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn awyddus am y gallu i apelio yn erbyn gwarant farnwrol. Bydd yr hawliau apelio presennol mewn cyswllt 但 phenderfyniadau a wnaed gan lys ynadon neu siryf neu siryf crynodeb yn parhau yn gymwys mewn perthynas 但 phenderfyniad i gyflwyno gwarant neu beidio (gweler, er enghraifft, adran 111A o Ddeddf Llys yr Ynadon 1980). Nid ydym yn bwriadu creu unrhyw hawliau apelio penodol ychwanegol mewn cysylltiad 但r pwerau newydd i gyflwyno gwarantau.

16. Yn olaf, nid oedd rhai ymatebwyr yn cytuno gydan cynnig i gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol yn y rhestr o sefydliadau y maen ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i ni, gan eu bod yn meddwl fod y wybodaeth a roddir gan CThEM (HMRC) yn ddigonol yn barod. Rydym fodd bynnag angen gwybodaeth gan y sefydliadau hyn mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft, i adnabod amrywiad ir cyfrifiad o incwm. Rydym yn teimlo fod hyn yn newid angenrheidiol a fydd er lles y sefydliadau dan sylw drwy wneud y broses yn symlach o lawer iddynt, a lleihaur angen in harchwilwyr eu hymweld.

Ymatebion

Newidiadau pwerau mynediad

Fe ofynnom ni

17. Ydych yn cytuno bod digon o rybuddion o fewn y broses arfaethedig i hysbysur meddiannydd y gwneir cais am warrant barnwrol os gwrthodir mynediad ir adeilad heb reswm da? Os nad ydych, rhowch eich rhesymau.

Fe ddywedoch chi

18. Roedd rhywfaint o gytundeb bod yna ddigon o rybuddion o fewn y broses arfaethedig tra dywedodd eraill na ddylai fod angen gwarant o gwbl gan eu bod yn teimlo na ddylai fod unrhyw reswm dros gael mynediad i adeilad.

Beth ydym yn ei wneud

19. Ble maer Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) angen gwybodaeth at ddiben cyfrifo cynhaliaeth plant, efallai y bydd angen i archwiliwr ymweld ag adeilad i geisio cael y wybodaeth yma.

20. Yr adeiladau y gellir eu harchwilio ywr rhai nad ydynt yn cael eu defnyddion gyfan gwbl fel t天 annedd ac mae gan yr archwiliwr seiliau rhesymol dros amau yw:

  • adeilad ble maer rhiant dibreswyl yn cael neu wedi cael ei gyflogi ynddo
  • adeilad ble maer rhiant dibreswyl yn cyflawni neu wedi cyflawni masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes
  • adeilad ble mae gwybodaeth yn cael ei gadw gan berson (A) y mae gan yr archwiliwr seiliau rhesymol dros amau bod ganddynt wybodaeth am riant dibreswyl sydd wedi ei gael yn sgil masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes (A) ei hun

21. Ble mae archwiliwr yn bwriadu cynnal ymweliad, byddant yn:

  • anfon llythyr o fwriad i ymweld 但r adeilad. Bydd y llythyr yn cynnwys rhybudd y gellir gwneud cais am warrant farnwrol os gwrthodir mynediad ir adeilad. Bydd hefyd yn rhybuddio y gellir ystyried erlyniad
  • bydd y llythyr yn nodi amser ar gyfer ymweliad yr archwiliwr a ystyrir i fod yn gyfleus o fewn oriau busnes yr adeilad penodol yna

22. Mewn achosion eithriadol yn unig fydd cais am warrant farnwrol yn cael ei wneud ble naill ai gwrthodir mynediad in harchwilwyr neu fod ganddynt reswm i amau y byddai mynediad iddynt ir adeilad yn cael ei wrthod. Yn yr achos yma, bydd yr archwiliwr yn cynghorir meddiannydd ou dyletswydd i ddarparur wybodaeth ofynnol. Byddant hefyd yn eu cynghori y gallai gwrthod mynediad parhaus arwain at gais ir llys am warant farnwrol.

Fe ofynnom ni

23. Ydych yn cytuno y gall archwilwyr ofyn am warant os yw mynediad ir adeilad yn wreiddiol yn cael ei wrthod, neu os ywr archwiliwr yn ystyried y bydd yn debygol o gael ei wrthod? Os na, rhowch eich rhesymau.

Fe ddywedoch chi

24. Roedd yr ymatebion a gawsom yn datgan yn bennaf nad oedd unrhyw reswm i archwilwyr gael mynediad i adeilad neu eu bod yn pryderu y byddai gwarant farnwrol yn arwain at fynediad dan orfod ir adeilad.

25. Codwyd pryder y byddair cynnig gwarant farnwrol yn ymarferiad rhoi s棚l bendith, gan ei gwneud yn rhy hawdd i fynd i mewn i adeilad.

Beth ydym yn ei wneud

26. Ein bwriad wrth ymestyn y rhestr o sefydliadau yn y Rheoliadau Gwybodaeth yw symleiddior broses ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth, drwy leihaur angen i ymweld ag adeiladau ble cedwir gwybodaeth.

27. Lle maen angenrheidiol i archwiliwr ymweld ag adeilad i gael gwybodaeth, maer warant farnwrol yn darparu diogelwch ychwanegol ir cyhoedd. O dan y broses bresennol, lle gwrthodir mynediad ir adeilad ir archwiliwr, mae gennym seiliau i erlyn y meddiannydd yn syth ar 担l iddynt wrthod.

28. Mae ychwanegu gwarant farnwrol ir broses mynediad yn caniat叩u meddiannwyr i wneud cynrychiolaethau yn y gwrandawiad gwarant am pam na ddylai archwiliwr gael mynediad iw hadeilad. Yna bydd y Llys yn gwneud penderfyniad annibynnol pun ai yw mynediad yn briodol.

Sut y gwneir cais am warant farnwrol?

Adeiladau yng Nghymru a Lloegr

29. Rydym yn cynnig y dylai archwiliwr wneud cais am warant farnwrol ir Llys Ynadon yng Nghymru a Lloegr.

30. Os bydd y cais am warant farnwrol yn cael ei roi, bydd meddiannydd yr adeilad yn cael cyfnod o o leiaf 21 diwrnod i wneud cynrychiolaethau. Os gwneir cynrychiolaethau bydd dyddiad yn cael ei drefnu ar gyfer gwrandawiad wyneb yn wyneb yn y Llys Ynadon. Os na fydd cynrychiolaethau yn cael ei wneud o fewn cyfnod o 21 diwrnod, bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed gan Ynad dros y ff担n. Bydd yr Ynad yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael a gwneud penderfyniad pun ai i roir warrant ai peidio.

Adeiladau yn yr Alban

31. Yn yr Alban bydd cais am warant farnwrol yn cael ei wneud drwy gais crynodeb a bydd unai Siryf neu Siryf Crynodeb yn ei ystyried.

32. Os bydd y llys yn derbyn y cais, bydd gwarant gw天s/bygyla yn cael ei llofnodi a fydd yn nodi dyddiad, amser a lleoliad ar gyfer gwrandawiad y cais. Bydd y meddiannydd yn cael cyfnod rhybudd o 21 diwrnod or gwrandawiad. Gall y meddiannydd fynychur gwrandawiad os ydynt yn dymuno neu gael eu cynrychiolin gyfreithiol.

Beth fydd yn digwydd os rhoddir gwarant farnwrol

33. Os rhoddir y warant, bydd cyswllt pellach yn cael ei wneud gydar meddiannydd i gadarnhau:

  • bod gwarant syn caniat叩u mynediad iw hadeilad wedi cae ei wneud; a
  • trefnu bod ymweliad yn cael ei wneud cyn gynted 但 phosib.

34. Bydd y warant yn caniat叩u mynediad i un set o adeilad ar gyfer archwiliad yn unig. Bydd angen gwarantau ar wah但n lle maen bosib fod y wybodaeth yn cael ei chadw mewn sawl eiddo.

Fe ofynnom ni

35. Ydych yn cytuno bod hyd oes o un mis, or diwrnod y rhoddir y warant farnwrol yn gyfnod rhesymol o amser? Os ddim, rhowch eich rhesymau.

Fe ddywedoch chi

36. Roedd rhywfaint o gytundeb bod hyd oes o un mis yn rhesymol. Roedd eraill yn teimlo mai pum diwrnod ddylai fod y cyfnod uchaf.

Beth ydym yn ei wneud

37. Ein bwriad yw darparu hyd oes o un mis ar gyfer y warant farnwrol gan y bydd yn caniat叩u amser digonol i gysylltu gyda meddiannydd yr adeilad i drefnu ymweliad ar adeg syn gyfleus iddynt.

38. Rydym hefyd yn cynnig y gall yr archwiliwr wneud cais am warant farnwrol bellach os nad ydynt yn gallu defnyddior warant yn y cyfnod amser o un mis.

Fe ofynnom ni

39. Ydych yn cytuno nad oes angen hawliau apelio?

Fe ddywedoch chi

40. Roedd yr ymatebwyr o blaid cael hawliau apelio ac roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y dylair hawliau yma fod ar gael bob amser waeth beth ywr sefyllfa.

Beth ydym yn ei wneud

41. Rydym wedi ystyried hyn yn ofalus iawn ac wedi bod mewn trafodaethau gydar Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ar Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban i ystyried ychwanegu hawliau apelio newydd.

42. Mae yna hawliau apelio cyffredinol syn codi mewn perthynas 但 phenderfyniadau a wneir gan llys ynadon neu lys Siryf. Gweler, er enghraifft, adran 111A o Ddeddf Llys yr Ynadon 1980 ac adran 110 o Ddeddf Diwygior Llysoedd (Yr Alban) 2014. Bydd yr hawliau apelio yma yr un mor berthnasol i benderfyniad i gyflwyno gwarant neu beidio dan y darpariaethau newydd. Yn ein barn ni, maer hawliau apelio presennol yma yn ddigonol.

43. Felly, rydym yn bwriadu mynd ymlaen heb ychwanegu unrhyw hawliau apelio pellach yn yr achosion yma. Newidiadau gwybodaeth

Fe ofynnom ni

44. Oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas 但 chynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn ir rhestr o bersonau a sefydliadau sydd gan ddyletswydd i roi gwybodaeth ir Ysgrifennydd Gwladol?

Fe ddywedoch chi

45. Gofynnodd rhai ymatebwyr pam y byddem yn gofyn i fenthycwyr morgais a darparwyr pensiwn am wybodaeth, gan nodi na ddylem ymofyn gwybodaeth ariannol bellach y tu hwnt i wybodaeth a ddarparwyd gan CThEM (HMRC).

Beth ydym yn ei wneud

46. Rydym yn bwriadu mynd ymlaen i ychwanegu benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol ir rhestr or rhai y maer Adran yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth syn berthnasol ar gyfer cyfrifo cynhaliaeth plant. Drwy gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol, maen gwneud y broses iddynt gyflenwir wybodaeth y gofynnwyd amdani ir Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn llawer mwy syml. Yn flaenorol, byddai rhaid i archwiliwr fod wedi ymweld 但u hadeilad. Byddant nawr yn gallu ymateb i geisiadau am wybodaeth drwy ddulliau diogel electronig. Mae hyn yn llawer mwy cyfleus ac yn llai ymwthiol ir sefydliadau hyn.

47. Enghraifft o pryd y gallwn ofyn am wybodaeth gan y sefydliadau hyn yw er mwyn:

  • canfod os yw rhiant sydd ag 担l-ddyledion cynhaliaeth plant yn berchen ar unrhyw eiddo. Os byddwn yn sefydlu eu bod yn berchen eiddo, efallai y byddwn yn ystyried rhoi gorchymyn codi t但l ar yr eiddo
  • canfod os oes gan riant bensiwn galwedigaethol efallai y gallwn wneud gorchymyn didynnu o enillion ohono i helpu i gasglu 担l-ddyledion cynhaliaeth plant sydd heb eu talu

Camau nesaf

48. Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau ir Rheoliadau Gwybodaeth 2008 ar Ddeddf Cynnal Plant 1991 (yr olaf drwy bwerau yn y Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 syn caniat但u ar gyfer diwygiad o ddeddfwriaeth sylfaenol).

49. Y bwriad yw y bydd Gogledd Iwerddon yn mynd a diwygiadau cyfatebol ymlaen ir Rheoliadau Gwybodaeth. Ni fydd y newidiadau ir pwerau mynediad fodd bynnag yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon gan fod y darpariaethau Deddf Diogelu Rhyddid 2012 ond yn ymestyn i Ogledd Iwerddon cyn belled eu bod yn berthnasol i faterion eithriedig neu faterion ar gadw. Gan fod cynhaliaeth plant yn fater datganoledig, ni ellir defnyddior pwerau yn y Ddeddf yma i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth cynhaliaeth plant ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Atodiad A Sefydliadau a ymatebodd ir ymgynghoriad

Parenting Northern Ireland
Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban