Consultation outcome

Ymgynghoriad mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus

Updated 8 December 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

1. Cyd-destun

Mae digwyddiadau brawychus 2021, yn gwbl briodol, wedi dod 但 thrais yn erbyn menywod a merched i flaen y gad o ran sylwr cyhoedd. Denodd y Cais am Dystiolaeth ar gyfer Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched y Llywodraeth dros 180,000 o ymatebion, ffigur rhyfeddol ar gyfer ymgynghoriad gan y llywodraeth. Roedd y rhan fwyaf or rhain gan fenywod unigol, yn aml iawn yn disgrifio eu profiadau eu hunain o gam-drin domestig a threisio. Ond roeddent hefyd yn cynnwys profiadau eraill a oedd yn ddirdynnol ir menywod dan sylw; profiadau y maen gwbl annerbyniol i fenyw eu profi. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, cael eich cam-drin yn eiriol neu weiddi arnoch yn y stryd, cael eich dilyn, derbyn ystumiau anweddus, neu gael eich cyffwrdd gan ddieithryn. Gelwir y rhain yn aml yn aflonyddu rhywiol cyhoeddus, neu aflonyddu ar y stryd.

Yn yr arolwg cenedlaethol cynrychioliadol o 2,000 o bobl a oedd yn rhan or Cais am Dystiolaeth, teimlai 44% or ymatebwyr fod aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn digwydd yn amlach yng Nghymru a Lloegr na phum mlynedd ynghynt (gan gynnwys 18% a oedd yn teimlo ei fod yn digwydd llawer mwy aml) o gymharu 但 10% a deimlai ei fod yn digwydd llai a 35% a deimlai na fu unrhyw newid.

Ym mis Mai 2022 cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ystadegau yn ymwneud 但 chanfyddiadau o ddiogelwch a phrofiadau o aflonyddu, yn seiliedig ar yr Arolwg Barn ar Farnau a Ffordd o Fyw a gynhaliwyd rhwng 16 Chwefror a 13 Mawrth 2022.[footnote 1] Canfu:

  • Roedd un o bob dwy fenyw ac un o bob chwe dyn yn teimlon anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar 担l iddi dywyllu mewn stryd dawel ger eu cartref.

  • Roedd 45% o fenywod a 18% o ddynion yn teimlon anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar 担l iddi dywyllu mewn man cyhoeddus prysur.

  • Roedd 82% o fenywod a 42% o ddynion yn teimlon anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar 担l iddi dywyllu mewn parc neu fan agored arall.

  • Roedd un o bob dwy fenyw rhwng 16 a 34 oed wedi profi un math o aflonyddu yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda 38% o fenywod rhwng 16 a 34 oed wedi profi galwadau ff担n, chwibanau, sylwadau rhywiol neu j担cs digroeso, a 25% wedi teimlo eu bod wedi cael eu dilyn.

  • Roedd 54% o bobl a ddywedodd eu bod yn teimlon anniogel yn ystod y dydd, a 46% a ddywedodd eu bod yn teimlon anniogel ar 担l iddi dywyllu, wedi newid eu hymddygiad, o ganlyniad, yn ystod y mis blaenorol.

Maer ffigurau hyn yn syfrdanol. Ac eto ni all niferoedd yn unig gyfleur ofn y mae menyw yn debygol oi deimlo pan yw hin cael ei cham-drin yn eiriol yn y stryd neun cael ei dilyn ar noson dywyll. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a mwy, mae menywod o bob cefndir wedi teimlo eu bod wediu grymuso i rannu sut maer profiadau hyn wedi teimlo iddynt a sut maent wedi effeithio ar eu bywydau. Maer ymateb hwn gan gymdeithas gyfan yn arwain at newid cymdeithasol gwirioneddol, y maer llywodraeth yn chwarae ei rhan lawn ynddo.

2. Camau anneddfwriaethol i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus

Fe wnaethom gyhoeddir Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched ym mis Gorffennaf 2021[footnote 2], a ddilynwyd gan y Cynllun Cam-drin Domestig cyflenwol ym mis Mawrth 2022[footnote 3].Nod y rhain yw sicrhau newidiadau mawr yn ymateb cymdeithas i drais yn erbyn menywod a merched, drwy fynd ar 担l y drwgweithredwyr, cefnogi dioddefwyr, blaenoriaethu atal a chryfhaur system sylfaenol. Maent yn cydnabod na ellir gweld aflonyddu rhywiol cyhoeddus ar ei ben ei hun, a thrwy gamau gweithredu fel ein buddsoddiad mewn ymchwil ir hyn syn gweithio i fynd ir afael 但 thrais yn erbyn menywod a merched, ein cymorth i athrawon gyflwynor cwricwlwm Perthnasoedd, Rhyw ac Iechyd, an cefnogaeth i benodir Dirprwy Brif Gwnstabl Maggie Blyth fel yr Arweinydd Heddlu Cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, ein nod yw mynd ir afael 但r ystod gyfan o droseddau trais yn erbyn menywod a merched.

Nodyn ar derminoleg: Maer term trais yn erbyn menywod a merched yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gamdriniaeth y gwyddom syn effeithion anghymesur ar fenywod a merched. Mae troseddau ac ymddygiad a gwmpesir gan y term hwn yn cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, cam-drin domestig, stelcian, cam-drin ar sail anrhydedd (gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, a lladd ar sail anrhydedd), yn ogystal 但 llawer o rai eraill, gan gynnwys troseddau a gyflawnir ar-lein. Er ein bod yn defnyddior term trais yn erbyn menywod a merched, mae hyn bob amser yn cyfeirio at holl ddioddefwyr unrhyw un or troseddau hyn.

Ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen camau gweithredu cadarn penodol i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Ers cyhoeddir Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched maer Llywodraeth wedi cymryd sawl cam i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus:

  • Ym mis Medi 2021, lansiwyd offeryn peilot gennym, StreetSafe[footnote 4], syn galluogir cyhoedd i roi gwybod yn ddienw am feysydd lle maent yn teimlon anniogel, fel y gall awdurdodau lleol ar heddlu gymryd camau ymarferol mewn ymateb, megis teledu cylch cyfyng a goleuadau stryd gwell, yn ogystal 但 defnyddio mwy o bresenoldeb heddlu. Mae oddeutu 19,000 o adroddiadau wediu gwneud hyd yma, sydd wedi galluogir heddlu i wneud mwy o batrolau wediu targedu, cynyddu eu presenoldeb a nodi poethfannau newydd.

  • Ym mis Hydref 2021, fe wnaethom gyhoeddi dyfarniadau o 贈23.5 miliwn i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol o dan Rownd 3 or Gronfa Strydoedd Mwy Diogel[footnote 5], i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i bawb drwy brosiectau i helpu menywod a merched i deimlon fwy diogel ar y strydoedd. Roedd y rhan fwyaf or prosiectaun ymwneud 但 gweithgarwch i atal troseddu megis mwy o wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng, yn ogystal 但 newid agweddau tuag at drais yn erbyn menywod a merched. Er enghraifft, roedd y prosiect Strydoedd Mwy Diogel gwerth 贈550,000 yn Sussex yn cynnwys ymgyrch gydar arwyddair Gwnewch y Peth Iawn, a oedd yn ceisio herio ymddygiad amhriodol ar ran rhai dynion.

  • Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom gyhoeddi canlyniadau ein cronfa Diogelwch Menywod yn y Nos gwerth 贈5 miliwn ar wah但n [footnote 6]. Dyfarnwyd cyllid i 22 o brosiectau i gyflawni mentrau a gynlluniwyd i wella diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus gydar nos, gan gynnwys yn economir nos. Er enghraifft, fe wnaethom ariannu Awdurdod Cyfunol Gorllewin Swydd Efrog i lansio ymgyrch Diogelwch Tr棚n i hyrwyddo mynediad i ddolen ar-lein gyda gwybodaeth diogelwch ar gyfer defnyddwyr cludiant cyhoeddus, megis olrhain bysiau, fel nad oes angen sefyll wrth safle bws yn unig mwyach wrth aros am fws gohiriedig.

  • Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Coleg Plismona becyn cymorth newydd, hygyrch i swyddogion yr heddlu[footnote 7], yn eu cynghori am y troseddau, y gorchmynion sifil a strategaethau ataliol eraill y gallant eu defnyddio mewn perthynas 但 gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

  • Ym mis Mawrth 2022, lansiwyd ein hymgyrch gyfathrebu Digon ledled Cymru a Lloegr. Nod yr ymgyrch yw targedu a herior ymddygiadau niweidiol syn bodoli o fewn y gymdeithas ehangach, addysgu pobl ifanc am berthnasoedd iach a chydsyniad, a sicrhau bod dioddefwyr yn gallu adnabod camdriniaeth a derbyn cefnogaeth. Maer ymgyrch yn ceisio grymuso gwylwyr i ymyrryd yn ddiogel, i annog cyflawnwyr i gwestiynu eu hymddygiad eu hunain, ac i annog dioddefwyr i geisio cefnogaeth. Mae wedi rhedeg ar draws teledu, hysbysfyrddau, cyfryngau cymdeithasol, radio a gwefan. Er ei fod wedi ymdrin ag ystod o niwed yn ymwneud 但 thrais yn erbyn menywod a merched, mae aflonyddu rhywiol cyhoeddus wedi bod yn un oi brif feysydd ffocws, ac roedd rhan gyntaf yr hysbyseb deledun portreadu dyn ifanc yn aflonyddu ar fenyw ifanc mewn man cyhoeddus, a chael ei herio am ei ymddygiad gan ei ffrindiau. Maer arwyddion cynnar yn dangos bod yr ymgyrch yn sicrhaur effaith a ddymunir gyda chynulleidfaoedd targed.

  • Ym mis Mawrth 2022, lansiwyd Rownd 4 or Gronfa Strydoedd Mwy Diogel[footnote 8], sydd yn cyfuno ac yn ehangu ar rowndiau blaenorol o gyllid Strydoedd Mwy Diogel a Diogelwch Menywod yn y Nos, gan dargedu troseddau cymdogaeth a thrais yn erbyn menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal 但 chynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol fel prif ffocws am y tro cyntaf.

  • Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi diweddariadau cyn bo hir iw ganllawiau cyfreithiol ar droseddau trefn gyhoeddus iw gwneud yn glir i erlynyddion sut y gellir defnyddio troseddau trefn gyhoeddus i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Rydym yn credu, gydai gilydd, y bydd y camau niferus hyn yn lleihau nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, yn cefnogir heddlu ac erlynyddion i fynd ir afael ag ef lle maen digwydd, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o fenywod a merched.

3. Y posibilrwydd o dramgwydd troseddol newydd

Rydym yn cydnabod, serch hynny, yr hoffai llawer o bobl i ni fynd ymhellach, gyda llawer o bobl yn awgrymu y dylair Llywodraeth greu trosedd newydd syn targedu aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn benodol. Yn y Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, fe wnaethom gadarnhau ein bod yn edrych yn ofalus i weld lle y gallai fod bylchau yn y gyfraith bresennol a sut y gallai trosedd benodol ar gyfer aflonyddu rhywiol cyhoeddus fynd ir afael 但r rheini. Nododd y strategaeth fod hwn yn faes cymhleth, ai bod yn bwysig i ni gymryd yr amser i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth bosibl yn gymesur ac wedii diffinion rhesymol. (Mae angen i ni hefyd sicrhau, wrth greu unrhyw drosedd, ei fod yn cael ei ddrafftio fel y gellir ei orfodi. Mae angen i unrhyw dramgwydd troseddol newydd alluogi asiantaethau gorfodir gyfraith i fynd ir afael 但r ymddygiad hwn, yn hytrach na chreu dryswch neu feichiau tystiolaethol ychwanegol i ymchwilwyr ac erlynwyr.)

Rydym hefyd wedi rhoi sylw manwl i sylwadau Comisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad ar ddeddfau troseddau casineb ym mis Rhagfyr 2021[footnote 9]. Dywedodd yr adroddiad ei bod yn werth ystyried a allai trosedd aflonyddu rhywiol cyhoeddus bwrpasol gynrychioli ymateb wedii dargedun well i aflonyddu rhywiol cyhoeddus na deddfwriaeth troseddau casineb (testun ei adroddiad). Nododd Comisiwn y Gyfraith fod trosedd or fath yn mynd y tu hwnt iw gylch gorchwyl, ac felly, nad oedd wedi rhoi ystyriaeth fanwl ir mater nac wedi ymgynghori ar ei gwmpas posibl. Argymhellodd yr adroddiad felly fod y Llywodraeth yn cynnal adolygiad or angen am drosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a pha ffurf y dylai unrhyw drosedd or fath fod arni.

Nodyn: rydym yn cyfeirio drwy gydol yr ymgynghoriad hwn at aflonyddu rhywiol cyhoeddus a brofir gan fenywod a merched. Maer rhan fwyaf o ddioddefwyr aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn fenywod. Ond gall dynion a bechgyn fod yn ddioddefwyr hefyd. Nid ywr troseddau drafft yr ydym yn eu cynnwys yn rhyw-benodol a gellid eu defnyddio i amddiffyn menywod a dynion. Rydym yn croesawun fawr ymatebion ir ymgynghoriad hwn gan ddynion a bechgyn, yn ogystal 但 chan fenywod a merched.

4. Deddfwriaeth bresennol

Mae troseddau presennol y gellir eu defnyddio mewn achosion o aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Mae trosedd aflonyddu eisoes yn bodoli o dan adran 2 o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 (Deddf 1997). Gall person syn dilyn cwrs o ymddygiad syn gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall, ac y maen gwybod neu y dylai wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu, wynebu hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy amhenodol. Mae Deddf 1997 yn datgan bod aflonyddu ar berson yn cynnwys eu dychryn neu achosi gofid iddynt. Mae hefyd yn nodi bod cwrs ymddygiad naill ain gwneud rhywbeth mwy nag unwaith tuag at un person arall neun gwneud rhywbeth o leiaf unwaith tuag at fwy nag un person arall.

Creodd Adran 4 o Ddeddf 1997 drosedd o roi rhywun mewn ofn trais. Maen darparu bod person y mae ei ymddygiad yn peri i berson arall ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn, yn euog o drosedd os ywn gwybod neu y dylai wybod y bydd ei ymddygiad yn achosi ir person arall ofnir canlyniad hwnnw ar bob un or achlysuron hynny. Gall person a geir yn euog or drosedd hon wynebu hyd at ddeng mlynedd yn y carchar.

Mae hyn yn golygu, yn y ddau achos, nad yw un weithred a gyfeirir at berson sengl wedii chynnwys yn y drosedd. Maer un peth yn wir am y ddwy drosedd stelcio ar wah但n a gr谷wyd gan Ddeddf 1997.

Creodd Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 (Deddf 1986) dair trosedd syn berthnasol yma ac y gellir eu defnyddio i fynd ir afael 但 gweithredoedd sengl:

  • Mae Adran 4 ofni neu gythruddo trais yn berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difr誰ol neu sarhaus tuag at berson arall (neun dosbarthu neun arddangos cynrychiolaeth weladwy iddynt gydar un effaith) syn fygythiol, difr誰ol neu sarhaus, a lle:

    • maer diffynnydd yn bwriadu ir achwynydd gredu y bydd trais anghyfreithlon uniongyrchol yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn ef neu rywun arall, neun bwriadu ysgogi trais gan yr achwynydd neu rywun arall; neu

    • maer achwynydd yn debygol o gredu y bydd trais or fath yn cael ei ddefnyddio neu ei ysgogi yn y modd hwn.

  • Mae Adran 4A aflonyddu, braw neu ofid bwriadol yn berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difr誰ol neu sarhaus tuag at berson arall (neun dangos cynrychiolaeth weladwy iddynt gydar un effaith), lle mai bwriad y diffynnydd yw achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid ir achwynydd, a dyna yn wir yr effaith a gynhyrchir.

Gall person a geir yn euog o dan adran 4 neu 4A o Ddeddf 1986 wynebu hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy ddiderfyn.

  • Adran 5 aflonyddu, braw neu ofid yn berthnasol pan yw person yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu sarhaus, neu ymddygiad afreolus (neun dangos cynrychiolaeth weledol gydar un effaith) o fewn clyw neu olwg person syn debygol y caiff aflonyddu, braw neu ofid ei achosi iddo o ganlyniad.

Gall person a geir yn euog o dan adran 5 wynebu dirwy o hyd at 贈1,000.

Maer Llywodraeth or farn bod amrywiaeth o fathau o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus a allai gael eu dal gan y troseddau hyn. Maer rhain yn cynnwys syllun barhaus ar rywun, cornelu neu ynysu rhywun, gwneud ystumiau neu sylwadau anweddus ar berson, neu eu dilyn mewn cerbyd. Pan luniwyd Deddf 1986 nid dymar mathau o ymddygiad y rhagwelwyd y byddain eu cynnwys. Ond os yw telerau Deddf yn cwmpasu ymddygiad penodol, nid ywr ffaith bod rhesymau eraill dros greur Ddeddf yn atal ei defnyddio ar gyfer yr ymddygiad hwnnw. Maer Llywodraeth or farn y gellir ei defnyddio yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos ar gyfer yr arferion hyn, ac maer CPS yn glir y gellir defnyddio Deddf 1986 i erlyn ymddygiad or fath.

Gellir defnyddio troseddau eraill eto, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos i fynd ir afael 但 mathau eraill o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus:

  • Mae Adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 ymosodiad rhywiol yn ymdrin 但 sefyllfaoedd lle mae person yn cyffwrdd 但 pherson arall yn fwriadol mewn ffordd rywiol, lle nad ywr achwynydd yn cydsynio i gael ei gyffwrdd ac nad ywr diffynnydd yn credun rhesymol bod yr achwynydd yn cydsynio. Gall person a geir yn euog o ymosodiad rhywiol gael ei ddedfrydu i uchafswm o ddeng mlynedd yn y carchar. Gellir defnyddior drosedd hon mewn perthynas 但 mathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus lle mae cyswllt corfforol yn gysylltiedig, megis byseddu.

  • Mae Adran 66 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 dinoethi yn ymdrin 但 sefyllfaoedd lle mae person yn dinoethi ei organau cenhedlun fwriadol, gydar bwriad y bydd rhywun yn eu gweld ac y caiff braw neu ofid ei achosi. Gall person a geir yn euog o hyn gael ei ddedfrydu i uchafswm o ddwy flynedd yn y carchar.

  • Gellir defnyddio adran 39 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, syn cwmpasur drosedd cyfraith gwlad o guro, hefyd mewn perthynas ag ymddygiad syn cynnwys rhywfaint o gyswllt corfforol. Nid oes angen ir cyswllt corfforol fod yn rhywiol.

5. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn

Barn y Llywodraeth felly yw bod ymddygiad syn gyfystyr ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus eisoes wedii gwmpasu gan droseddau presennol (yn amodol ar amgylchiadau unigol yr achos). Gwyddom fod gan eraill farn wahanol, ac rydym yn parchu hynny. Ni fyddair Llywodraeth yn ceisio creu trosedd newydd pe byddain creu gorgyffwrdd 但 throseddau newydd (oherwydd, er enghraifft, byddai hyn yn creu ansicrwydd a gwaith ychwanegol ir heddlu ac erlynwyr). Yn seiliedig ar ein dadansoddiad ein hunain bod ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus eisoes wedii gwmpasu gan droseddau presennol, ni allem felly gynnig creu trosedd hollol newydd.

Fodd bynnag, mae opsiwn o ychwanegu at drosedd sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu un newydd. Byddain bosibl darparu, os yw person yn cyflawni trosedd syn bodoli eisoes ac yn gwneud hynny ar sail rhyw yr achwynydd, yna gallent dderbyn dedfryd uwch na phe bai wedi cyflawnir drosedd heb y cymhelliant hwnnw. Byddai hyn yn osgoir problemau syn codi gyda throseddau syn gorgyffwrdd. Rydym yn cyflwyno dau fodel posibl o drosedd or fath yn yr ymgynghoriad hwn.

Fodd bynnag, nid ywr Llywodraeth wedi penderfynu a ddylai fod trosedd newydd or fath. Er y gallai ateb deddfwriaethol fod yn bosibl, nid yw o reidrwydd yn golygu mai dynar llwybr polisi cywir. Maen bosibl bod troseddau presennol (gan gynnwys sicrhau bod yr heddlun gwbl hyderus iw defnyddio) a mesurau anneddfwriaethol yn ffordd well o fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus, ac er, fel y nodwyd yn gynharach, rydym wedi cymryd sawl cam anneddfwriaethol, efallai fod rhai eraill y gallem eu cymryd hefyd.

Felly, yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ymgynghori ar y materion dilynol:

  • Yr egwyddor a ddylid cael deddf newydd syn ymdrin yn benodol ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus;

  • Pe bai deddf newydd or fath, ai un or ddau opsiwn a nodwyd gennym fyddair model cywir ar ei chyfer; ac

  • A oes unrhyw gamau anneddfwriaethol ychwanegol y dylair Llywodraeth eu cymryd (naill ain ychwanegol at drosedd newydd neu yn ei lle).

Rydym yn cynnwys y ddau opsiwn ar gyfer trosedd newydd posibl am ddau reswm. Yn gyntaf, rydym yn credu y bydd dangos sut y gallai trosedd newydd edrych yn helpu i wneud y materion egwyddor yn gliriach i ymatebwyr ac y gallai helpu ymatebwyr i wneud y sylwadau mwyaf gwybodus. Yn ail, ni fyddain gwneud synnwyr i gynnal dau ymarfer ymgynghori un ar yr egwyddor o drosedd newydd, ar ail ar ei natur. Os ywr Llywodraeth, yng ngoleunir ymatebion ir ymgynghoriad, yn bwriadu creu trosedd newydd, yna bydd ganddi ymatebion eisoes i helpu i lywio ei phenderfyniad ar sut olwg fyddai ar y drosedd newydd honno. Os nad ywr Llywodraeth yn bwriadu creu trosedd newydd, yng ngoleunir ymatebion ir ymgynghoriad, yna byddair mater o natur trosedd or fath yn diflannu.

Gall yr ymatebwyr hynny nad ydynt yn cefnogi creu trosedd newydd felly ddewis naill ai peidio ag ymateb ir cwestiynau hynny syn gofyn am natur unrhyw drosedd newydd, neu ymateb iddynt ar y sail mai dyma sut olwg yr hoffent ei gweld ar unrhyw drosedd newydd pe bai un yn cael ei gyflwyno serch hynny. Byddwn nin rhoi ystyriaeth fanwl ir holl ymatebion a ddaw i law. Maen bosibl hefyd y gallai unrhyw drosedd newydd edrych yn wahanol ir ddau fodel a gyflwynir, os ywr ymatebion a dderbynnir yn dangos y byddai model amgen yn fwy effeithiol.

Yn yr un modd, pan ofynnwn am gamau anneddfwriaethol ychwanegol y gallair Llywodraeth eu cymryd, rydym yn croesawu sylwadau gan ymatebwyr nad ydynt o blaid creu trosedd newydd ac syn gweld camau anneddfwriaethol ychwanegol fel dewis arall, a hefyd gan ymatebwyr sydd o blaid creu trosedd newydd, ond a fyddain dymuno gweld camau anneddfwriaethol ychwanegol hefyd.

Rydym yn cyfeirio yn y ddogfen hon at aflonyddu rhywiol cyhoeddus, gan ei fod yn derm a gydnabyddir yn gyffredin. Fodd bynnag, gall y term hwnnw awgrymu cymhelliant rhywiol, ac fel y nodir isod, maer modelau posibl ar gyfer trosedd newydd yn cynnwys unrhyw ymddygiad a ysgogir gan ryw y person arall, hyd yn oed os nad yw wedii ysgogi gan foddhad rhywiol. Felly byddai aflonyddu ar sail rhyw yn derm cyfreithiol mwy cywir.

Yn y ddau achos cyflwynwn destun y drosedd newydd bosibl, ac yna esboniad mewn Saesneg clir oi gynnwys. Fodd bynnag, fel erioed wrth ddehonglir ddeddfwriaeth, dylid ffafrio testun y drosedd (posibl) fel y disgrifiad awdurdodol.

6. Opsiwn 1

Testun cyfreithiol

Iw nodi: nid ywr cynnwys hwn yn cael ei gyfieithu ir Gymraeg, gan nad ywn debygol y caiff yr union ystyron sydd ynghlwm wrth ddrafftio statudol eu hailadrodd yn llawn mewn cyfieithiad, a byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol yn cael ei drafftio yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, maer disgrifiad Saesneg clir syn dilyn yn cael ei gyfieithu ir Gymraeg.

Intentional harassment, alarm or distress on account of sex

(1) A person (A) commits an offence under this section if

(a) A commits an offence under section 4A of the Public Order Act 1986

(intentional harassment, alarm or distress), and

(b) A carried out the conduct referred to in section 4A(1) of that Act

because of the relevant persons sex.

In this subsection the relevant person means the person to whom A intended to cause harassment, alarm or distress.

(2) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A

carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act

1986 for the purposes of sexual gratification.

(3) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A also carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act 1986 because of any other factor not mentioned in subsection (1)(b).

(4) A person who commits an offence under subsection (1) is liable

(a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding the general limit in a magistrates court, to a fine or to both;

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding

2 years, to a fine, or to both.

(5) If, on the trial on indictment of a person charged with an offence under

subsection (1), the jury find the person not guilty of the offence charged, they

may find the person guilty of the basic offence mentioned in that provision.

(6) References in this section to a person (A) carrying out conduct because of

another persons (Bs) sex include references to A doing so because of Bs presumed sex.

Disgrifiad Saesneg clir

Byddai Opsiwn 1 yn creu trosedd newydd a fyddain gymwys pan fo person yn cyflawni trosedd o dan adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, ac yn gwneud hynny oherwydd rhyw yr achwynydd. Byddai eu bod wedi cyflawnir drosedd oherwydd rhyw yr achwynydd yn golygu y gallair diffynnydd gael dedfryd hwy na phe na bai hynny wedi bod yn gymhelliant iddo.

Ein model cychwynnol ar gyfer hyn oedd y troseddau yn adrannau 29-32 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (ymosodiadau a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd, difrod troseddol, troseddau trefn gyhoeddus, neu aflonyddu, yn y drefn honno). Maer rhain yn berthnasol pan yw rhywun wedi cyflawni trosedd o dan y troseddau cyffredin o ymosod, difrod troseddol ac ati a bod y weithred wedii hysgogi gan elyniaeth y diffynnydd tuag at aelodaeth yr achwynydd o gr典p hiliol neu grefyddol neu gan elyniaeth tuag at y gr典p hwnnw yn ei gyfanrwydd. Yna gallair person gael dedfryd uwch nag y byddai wedii gael pe bai wedii ddyfarnun euog o dan y drosedd gyffredin gyfatebol. Maer rhain yn rhan o ddeddfwriaeth troseddau casineb. (Yn ogystal, mae Deddf Dedfrydu (2020) eisoes yn rhoir gallu i lys ymestyn dedfryd yn erbyn trosedd gyffredin, o fewn y gosb uchaf bresennol, ar gyfer troseddau casineb syn targedu dioddefwr ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.)

Mae gan Opsiwn 1 wahaniaethau hollbwysig i adrannau 29-32, er, yn benodol, nad oes angen ir diffynnydd gael ei ysgogi gan elyniaeth ar sail rhyw yr achwynydd. Bydd aflonyddu rhywiol cyhoeddus weithiaun seiliedig ar elyniaeth or fath, ond nid bob amser, a dyma un or rhesymau pam y daeth Comisiwn y Gyfraith ir casgliad na ddylid ychwanegu rhyw at ddeddfwriaeth troseddau casineb, a pham y maer Llywodraeth yn cytuno 但r casgliad hwnnw. Yn lle hynny, mae Opsiwn 1 yn dibynnu ar ymddygiad a wneir oherwydd rhyw y dioddefwr. Fel y cyfryw, ni fyddai Opsiwn 1 yn cynrychioli trosedd casineb a, phe bain cael ei ddeddfu, ni fyddain rhan o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

Mae Opsiwn 1 yn cymryd, fel ei fan cychwyn, ymddygiad syn dod o dan adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus.[footnote 10] Mae Adran 4A yn:

  • berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difr誰ol neu sarhaus, neu ymddygiad afreolus, tuag at berson arall, neu os ywn arddangos unrhyw ysgrifen, arwydd neu gynrychioliad gweladwy arall syn fygythiol, yn difr誰ol neun sarhaus tuag at y person hwnnw;

  • ei gwneud yn ofynnol mai bwriad y diffynnydd oedd achosi aflonyddwch, braw neu ofid ir achwynydd;

  • ei gwneud yn ofynnol ir achwynydd neu berson arall gael ei achosi aflonyddwch, braw neu ofid;

  • gallu bod yn berthnasol ni waeth ble maer diffynnydd a/neur achwynydd wediu lleolin gorfforol, oni bai bod y ddau ohonynt mewn annedd. Mewn man arall yn Neddf Trefn Gyhoeddus 1986 diffinnir annedd fel strwythur neu ran o strwythur a feddiannir fel cartref person neu fel llety byw arall (pun a ywr feddiannaeth ar wah但n neun cael ei rhannu ag eraill) ond [nad yw] yn cynnwys unrhyw ran nad yw wedii meddiannu felly, ac at y diben hwn mae strwythur yn cynnwys pabell, caraf叩n, cerbyd, llong neu strwythur dros dro neu symudol arall. Mae hyn yn golygu y gallair part誰on fod, er enghraifft, ar stryd, mewn man agored, ar gludiant cyhoeddus, mewn adeilad cyhoeddus neu mewn gweithle. Neu efallai bod un parti mewn annedd ar parti arall ddim er enghraifft person yn gweiddi sarhad trwy ffenestr agored eu cartref i berson ar y stryd y tu allan.

  • darparu ar gyfer dau amddiffyniad, syn golygu amgylchiadau lle na fyddair person yn cyflawnir drosedd. Y cyntaf yw os oedd y troseddwr mewn annedd ac nad oedd yn sylweddoli y byddai eu gweithredoedd yn cael eu clywed neu eu gweld gan berson y tu allan ir annedd honno neu unrhyw annedd arall. Yr ail yw os oedd ymddygiad y person a wnaeth y gweithredoedd yn rhesymol.

Mae adran 4A yn grynodeb yn unig, syn golygu mai dim ond yn y llys ynadon y gellir ei rhoi ar brawf, nid yn Llys y Goron. Mae hyn yn golygu mair uchafswm dedfrydau yw chwe mis yn y carchar [footnote 11], dirwy neur ddau. Yn y ddedfryd y mae Opsiwn 1 yn wahanol i adran 4A bresennol. Mae Opsiwn 1 yn darparu, os cyflawnodd y diffynnydd y drosedd oherwydd rhyw y person y cyfeiriwyd ei achos ato, yna gellir ei roi ar brawf ar dditiad hefyd h.y. yn Llys y Goron. Mae hyn yn golygu y gallent dderbyn uchafswm dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.

Mae Opsiwn 1 yn glir:

  • nad oes rhaid ir diffynnydd gael ei ysgogi gan yr awydd am foddhad rhywiol, er y gallai ef neu hi fod. Maen ddigon bod yr ymddygiad yn cael ei wneud oherwydd rhyw y person arall;

  • efallai y bydd gan y diffynnydd gymhellion ychwanegol, nad ydynt yn gysylltiedig 但 rhyw y dioddefwr; ac

  • y rhyw y maer diffynnydd yn rhagdybio sydd gan y person arall syn bwysig, hyd yn oed os ydynt mewn gwirionedd yn anghywir.

Maer drosedd hefyd yn darparu, os na chaiff prawf uwch Opsiwn 1 ei fodloni, y gallair person ddal i sefyll ei brawf o dan y drosedd gyffredin yn adran 4A pe bai teleraur drosedd honnon cael eu bodloni.

7. Opsiwn 2

Testun cyfreithiol

Iw nodi: nid ywr cynnwys hwn yn cael ei gyfieithu ir Gymraeg, gan nad ywn debygol y caiff yr union ystyron sydd ynghlwm wrth ddrafftio statudol eu hailadrodd yn llawn mewn cyfieithiad, a byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol yn cael ei drafftio yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, maer disgrifiad Saesneg clir syn dilyn yn cael ei gyfieithu ir Gymraeg.

Intentional harassment, alarm or distress on account of sex

(1) A person (A) commits an offence under this section if

(a) A commits an offence under section 4A of the Public Order Act 1986

(intentional harassment, alarm or distress), and

(b) A carried out the conduct referred to in section 4A(1) of that Act

because of the relevant persons sex.

In this subsection the relevant person means the person to whom A intended to cause harassment, alarm or distress.

(2) For the purposes of subsection (1)(b), the following are examples of conduct that might, in particular circumstances, be carried out because of a persons sex

(a) following a person;

(b) making an obscene or aggressive comment towards a person;

(c) making an obscene or offensive gesture towards a person;

(d) obstructing a person making a journey;

(e) driving or riding a vehicle slowly near to a person making a journey.

(3) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A

carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act

1986 for the purposes of sexual gratification.

(4) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A also carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act 1986 because of any other factor not mentioned in subsection (1)(b).

(5) A person who commits an offence under subsection (1) is liable

(a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding the general limit in a magistrates court, to a fine or to both;

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding

2 years, to a fine, or to both.

(6) If, on the trial on indictment of a person charged with an offence under

subsection (1), the jury find the person not guilty of the offence charged, they

may find the person guilty of the basic offence mentioned in that provision.

(7) References in this section to a person (A) carrying out conduct because of

another persons (Bs) sex include references to A doing so because of Bs presumed sex.

(8) In this section vehicle includes

(a) a mechanically propelled vehicle,

(b) a pedal cycle (whether electrically assisted or not), and

(c) a form of transport which is not mechanically propelled.

Disgrifiad Saesneg clir

Mae Opsiwn 2 yn cymryd Opsiwn 1 fel ei fan cychwyn, ond maen ychwanegu un elfen ychwanegol allweddol. Maen cynnwys rhestr o fathau o ymddygiad bygythiol, difr誰ol, sarhaus neu afreolus a allai gael eu cyflawni o dan amgylchiadau penodol oherwydd rhyw person. Maer rhestr yn enghreifftiol yn hytrach na hollgynhwysfawr, a gallai mathau o ymddygiad nad ydynt wediu cynnwys ynddi gael eu cynnwys yn y drosedd. Felly nid ywn gyfreithiol hanfodol ei gynnwys. Ond fe allai fod o gymorth i egluro pwrpas y drosedd i bobl a allai roi gwybod amdano ac i bart誰on o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Maer rhestr yn cynnwys:

  • dilyn rhywun;

  • gwneud sylw anweddus neu ymosodol tuag at rywun;

  • gwneud ystum anweddus neu ymosodol tuag at rywun;

  • rhwystro person syn gwneud taith (a elwir weithiau yn eu cornelu); neu

  • gyrru neu reidio cerbyd yn araf yn agos at berson syn gwneud taith. Diffinnir cerbyd fel cerbyd a yrrir yn fecanyddol (er enghraifft, car), beic pedalau (boed 但 chymorth trydanol ai peidio), neu fath o gludiant nad ywn cael ei yrrun fecanyddol (er enghraifft, sglefrfwrdd).

Maer mathau hyn o ymddygiad i gyd yn cynnwys gweithredoedd gan y diffynnydd pan fyddant ym mhresenoldeb corfforol yr achwynydd. Fel y drosedd adran 4A bresennol, nid yw Opsiynau 1 a 2 yn eithrio ymddygiad ar-lein, a gellid eu defnyddio iw erlyn. Ond nid dymar ymddygiad y maent wediu cynllunio iw wrthwynebu. Mae troseddau eraill a all fynd ir afael ag ymddygiad annerbyniol ar-lein, ac rydym yn gofyn ir Senedd greu troseddau pellach drwyr Mesur Diogelwch Ar-lein.

8. Cwestiynaur ymgynghoriad

1. Pa mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn y wlad hon yn eich barn chi?

2. Ydych chin credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus?

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Dddim yn gwybod

3. Os ydych yn credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a fyddai hyn oherwydd (ticiwch bob un syn berthnasol):

  • Byddain troseddoli ymddygiad nad yw eisoes yn droseddol.

  • Byddain codi ymwybyddiaeth bod yr ymddygiadau hyn yn anghyfreithlon.

  • Byddain atal pobl rhag cymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn.

  • Byddain annog mwy o bobl i riportio ir heddlu.

  • Byddain gwneud y gyfraith ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn gliriach ir heddlu ac eraill.

  • Arall (nodwch)

4. Os ydych yn credu y byddai deddf newydd yn troseddoli ymddygiad nad yw eisoes yn droseddol, nodwch pa ymddygiadau.

5. Os nad ydych yn credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a fyddai hyn oherwydd (ticiwch bob un syn berthnasol):

  • Mae troseddau eisoes yn mynd ir afael 但r ymddygiadau hyn.

  • Ni ddylid troseddolir ymddygiadau hyn.

  • Rheolir yr ymddygiadau hyn yn well trwy gamau anneddfwriaethol.

  • Byddain dod 但 chanlyniadau negyddol eraill (os felly, nodwch pa rai)

Byddai cwestiynau 6 13 yn berthnasol pe bai trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn cael ei chyflawni. Rydym yn croesawu ymatebion gan y rhai syn cefnogi ar rhai nad ydynt yn cefnogi trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

6. A fyddai Opsiwn 1 yn fodel hyfyw?

  • Byddai

  • Na fyddai (nodwch pam)

  • Ddim yn gwybod

7. A fyddai Opsiwn 2 yn fodel hyfyw?

  • Byddai

  • Na fyddai (nodwch pam)

  • Ddim yn gwybod

8. Os ydych yn ystyried y byddai Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 yn fodelau hyfyw, a ydych yn credu y byddair naill opsiwn neur llall yn fwy effeithiol? Eglurwch pam os gwelwch yn dda.

  • Ydw (byddai Opsiwn 1 yn fwy effeithiol)

  • Ydw (byddai Opsiwn 2 yn fwy effeithiol)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

  • Amherthnasol Nid wyf yn ystyried y byddai Opsiwn 1 nac Opsiwn 2 yn fodel hyfyw.

9. Ydych chin credu bod ffordd well o lunio trosedd aflonyddu rhywiol cyhoeddus na naill ai Opsiwn 1 neu Opsiwn 2?

  • Ydw (rhowch fanylion am sut olwg a allai fod ar drosedd or fath)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

10. Gan nodi nad ywr rhestr o ymddygiadau enghreifftiol yn Opsiwn 2 yn hollgynhwysfawr, a ydych chin credu ei bod yn cynnwys y mathau mwyaf cyffredin o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus?

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

Os Na, pa rai ychwanegol fyddech chin eu cynnwys?

11. A ydych yn ystyried y dylid eithrio unrhyw un or ymddygiadau enghreifftiol yn Opsiwn 2? Os felly, nodwch pam.

  • Dilyn person;

  • Gwneud sylw anweddus neu ymosodol tuag at berson;

  • Gwneud ystum anweddus neu ymosodol tuag at berson;

  • Rhwystro person rhag gwneud taith;

  • Gyrru neu reidio cerbyd yn araf yn agos at berson syn gwneud taith.

  • Ni ddylid eithrio unrhyw un ohonynt.

  • Ddim yn gwybod

12. A ydych yn ystyried mai uchafswm y ddedfryd a gynhwysir ywr un gywir?

  • Ydw

  • Nac ydw (nodwch beth ddylai fod yn eich barn chi yn lle hynny)

  • Ddim yn gwybod

13. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar Opsiynau 1 a 2?

14. A ydych yn credu y byddai cyflwyno trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus 但 goblygiadau i adnoddaur heddlu ar system cyfiawnder troseddol?

  • Ydw (rhowch fanylion pellach)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

A ydych yn credu bod y camau anneddfwriaethol y maer Llywodraeth ac awdurdodau statudol eraill wedi bod yn eu cymryd i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus fel y nodir yn adran 2 or ddogfen hon yn ddigonol? Rydym yn croesawu atebion gan y rhai syn credu y dylai fod trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus ar rhai nad ydynt yn credu hynny.

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

15. Os ydych yn credu nad ywr camau hynnyn ddigonol, pa gamau anneddfwriaethol ychwanegol ydych yn credu y dylair Llywodraeth ac awdurdodau statudol eraill eu cymryd?

16. Yn benodol, a oes unrhyw gamau anneddfwriaethol eraill y dylair Llywodraeth eu cymryd i fynd ir afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus syn digwydd yn economir nos?

  • Oes (nodwch ba rai)

  • Nac oes

  • Ddim yn gwybod

9. Sut i Ymateb

Fe dawr ymgynghoriad hwn i ben am 23:59 ar 1 Medi 2022.

Y ffordd orau o ymateb yw drwyr arolwg hwn:

Fodd bynnag, gallwch hefyd e-bostio ymatebion i publicsexualharassmentconsultation@homeoffice.gov.uk. Gallwch hefyd ddefnyddior cyfeiriad e-bost hwn i ofyn unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad.

  1. /government/publications/tackling-violence-against-women-and-girls-strategy

  2. /government/publications/tackling-domestic-abuse-plan

  3. /government/news/police-local-authoritiesgiven-extra-235m-for-safer-streets

  4. /government/news/millions-awarded-for-new-projects-to-keep-women-safe

  5. Proses ymgeisio rownd 4 y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel

  6. Neu, pe bair drosedd yn cael ei chyflawni yn dilyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a fyddain cynyddu uchafswm y ddedfryd y gellir ei rhoi gan lys ynadon o chwech i 51 wythnos, 51 wythnos fyddair ddedfryd. dedfryd uchaf.油