Adroddiad crynodeb ymateb
Updated 9 July 2025
1. Trosolwg
Ar 28 Chwefror 2025, lansiodd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ar y cynnig i gyfnewid trwyddedau ceir â Moldofa. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 51²è¹Ý ac roedd ar agor tan 28 Mawrth. Roedd ar gael i’r cyhoedd a’r diwydiant fynegi eu barn ar y newidiadau arfaethedig. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys un cwestiwn, sef:
Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw reswm pam na ddylai’r DVLA gyfnewid trwyddedau gyrru ceir a gyhoeddwyd ym Moldofa am y drwydded Prydain Fawr gyfatebol?
2. Cyflwyniad
Dim ond am 12 mis y mae trwyddedau gyrru a gyhoeddwyd gan wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn ddilys ar gyfer gyrru ym Mhrydain Fawr. Ar ôl y cyfnod hwn, rhaid i’r gyrrwr gael trwydded Prydain Fawr.
Mae cyfraith Prydain Fawr yn darparu ar gyfer dynodi gwledydd neu diriogaethau y tu allan i’r AEE at ddiben cyfnewid trwyddedau gyrru. Mae gorchmynion dynodi eisoes ar waith ar gyfer 21 o wledydd eraill. Mae hyn yn golygu y gellir cyfnewid trwyddedau i yrru categorïau penodol o gerbydau a gyhoeddwyd gan eu hawdurdodau am drwydded gyfwerth ym Mhrydain Fawr heb yr angen i sefyll prawf gyrru yma.
Yn dilyn ceisiadau gan eu llywodraethau priodol, mae DVLA wedi ystyried caniatáu i drwyddedau ceir a gyhoeddwyd ym Moldofa gael eu cyfnewid am y rhai cyfatebol ym Mhrydain Fawr os bydd deiliaid y trwyddedau hynny’n dod i fyw yma.Â
Mae safonau trwyddedu a phrofi cyfredol Moldofa mewn perthynas â cheir wedi’u hasesu a’u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).
3. Crynodeb gweithredol
Derbyniwyd 1,066 o ymatebion, gyda 895 yn cefnogi’r cynnig. Ystyriwyd y materion a godwyd yn yr ymatebion a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig, fodd bynnag nid yw’r dystiolaeth ar gyfer y materion hyn yn glir. Yng ngoleuni’r dystiolaeth o’r asesiad o safonau profi ym Moldofa a’r manteision posibl i ddeiliaid trwyddedau, mae’r llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r cynnig. Fel gyda phob cytundeb cyfnewid trwyddedau gyrru, bydd trefniadau’n cael eu monitro a’u hadolygu os nodir materion.
4. Ymatebion i’r ymgynghoriad
Cafwyd 1,066 o ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n llawer uwch na’r arfer ar gyfer y math hwn o ymgynghoriad. Roedd y mwyafrif helaeth (84%) o’r ymatebion yn gadarnhaol ac yn gefnogol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod llawer o ddeiliaid trwyddedau Moldofa eisoes yn byw ym Mhrydain Fawr. Amcangyfrifir bod nifer y deiliaid trwydded Moldofa sy’n byw ym Mhrydain Fawr ac sydd wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro ym Mhrydain Fawr tua 4,300 y flwyddyn. [footnote 1]
I support the proposal to allow the exchange of Moldovan driving licences for British licences without additional testing. Moldovan drivers have training standards compatible with those in the United Kingdom, and this change would help thousands of people continue their activities legally, avoiding unnecessary costs and time losses. This process would reduce bureaucracy and contribute to the easier integration of Moldovan citizens into British society.
Cafwyd y rhan fwyaf o’r ymatebion cadarnhaol gan unigolion sy’n ddinasyddion Moldofa sy’n byw ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd. Ymhlith y prif bwyntiau a amlygwyd yn yr ymatebion roedd ‘osgoi treuliau diangen’ (credir bod hyn yn ymwneud â’r ffioedd am wneud cais am drwydded dros dro a chost profion theori ac ymarferol) ac ‘oedi’ (rydym yn cymryd yn ganiataol bod hyn yn ymwneud â’r amseroedd aros ar gyfer archebu prawf gyrru). Yn ogystal, teimlwyd y byddai’r polisi’n caniatáu i ddinasyddion Moldofa integreiddio i gymdeithas Prydain yn fwy llyfn.
I am writing to express my strong support for the proposed exchange of Moldovan car driving licences in the UK, as this change would have a significant impact not only on me but also on my entire family, who have been living in the UK for many years. Having a valid driving licence is essential for work, family responsibilities, and day-to-day life. However, securing a driving test has become extremely challenging due to high demand, long waiting times, and rising costs. These obstacles make it difficult to focus on obtaining a licence, despite the fact that driving is a necessity for me and my family. Allowing the exchange of Moldovan licences would remove these barriers, making a huge difference in our daily lives. It would enable us to continue contributing to the community and economy without unnecessary delays. Recognising the skills and experience of Moldovan drivers is a practical and fair step that would positively impact many people in similar situations. I sincerely hope this proposal moves forward, as it would greatly benefit individuals, families, and the wider community.
I support the proposal to allow the exchange of Moldovan driving licences for British ones without additional testing. Moldovan driver training standards are comparable to those in the UK, and this change will help thousands of people continue to operate legally, avoiding unnecessary costs and loss of time. This process will reduce bureaucracy and facilitate the easier integration of Moldovan citizens into British society.
Er bod y mwyafrif helaeth o’r ymatebion yn gadarnhaol, roedd yr ymatebion negyddol sy’n weddill yn ymwneud â dybiaeth o safonau gwael yn arferion profi Moldofa.
From previous experience of dealing with the knowledge and lack of experience from other foreign drivers who have been allowed to exchange their licence instead of taking another test, it is not making our roads safer. It is downright dangerous, and we will see the repercussions of this between fraudulent licences being obtained and the lack of knowledge, experience or background education and study is beyond a joke. This cannot be allowed to happen. We have dangerous drivers who are not keeping up to date with the highway code or road traffic act and it is putting us all in danger.
Fe wnaeth un cwmni cludo nwyddau ddarparu ymateb a nododd y rhesymau dros safonau gyrru gwael ym Moldofa a’r gyfradd ddamweiniau uchel, gan amlygu’r ffaith bod rhai newidiadau wedi bod i’r profion theori ac ymarferol yn 2024.
In 2024 Moldova simplified obtaining a driving licence rules and at the same time made major changes to their driving test, which was also simplified, and the theory and practical standards were reduced. As a person that has been to Moldova, I can speak from experience that driver ability and safety are very low priorities to Moldova despite the increase in spending on road safety.
Oherwydd bod asesiad gwreiddiol y DVSA wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr 2022, teimlwyd y dylai’r wybodaeth ddiweddaraf hon gael ei hasesu eto gan y DVLA a’i chyflwyno i’r DVSA i’w dadansoddi. Yna aseswyd y newidiadau trwyddedu a phrofi a daeth y ddwy asiantaeth i’r casgliad bod gwelliannau yn y drefn drwyddedu ym Moldofa, yn enwedig ar gyfer profi theori a digideiddio trwyddedau gyrru. Ychwanegodd y DVSA nad oedd y newidiadau’n datrys eu pryderon ynghylch cynnwys technegol y profion gyrru ymarferol ar gyfer categorïau heblaw Categori B (ceir). Cadarnhaodd y DVSA y dylem barhau â chydnabyddiaeth gydfuddiannol ar gyfer Categori B yn unig, sy’n adlewyrchu ein cynnig.
Hoffai’r DVLA ddiolch i bawb a ymatebodd.
5. Datgelu gwybodaeth
Ni ofynnodd yr un o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad am i’w hymateb gael ei drin yn gyfrinachol.
6. Ymateb y Llywodraeth
Bydd DVLA yn diwygio’r gyfraith cyn gynted â phosibl i ganiatáu i yrwyr sydd â thrwydded i yrru ceir ym Moldofa ei chyfnewid am drwydded Brydeinig gyfwerth os daw’r gyrrwr yn byw ym Mhrydain Fawr.
Hyd nes bod hyn yn digwydd, gall y rhai sydd newydd ddod i fyw yma o Foldofa barhau i yrru ym Mhrydain Fawr ar sail eu trwydded ddomestig am hyd at 12 mis. Er mwyn sicrhau hawl gyrru parhaus y tu hwnt i’r cyfnod 12 mis hwnnw, rhaid cael trwydded yrru Prydain Fawr trwy basio prawf gyrru Prydain Fawr. I sefyll prawf gyrru, rhaid cael trwydded yrru dros dro Prydain Fawr, er na fyddai amodau trwydded dros dro yn berthnasol tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol o 12 mis.
-
Mae’r ffigur o tua 4,300 wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio tystiolaeth ystadegol dros gyfnod o 5 mlynedd lle mae dinasyddion Moldofa sy’n byw ym Mhrydain Fawr wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro ym Mhrydain Fawr. ↩