Dal a thrin dofednod: newidiadau arfaethedig i ddulliau a ganiateir
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Cawsom 103 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Byddwn yn diwygio’r gyfraith i ganiatáu i gywion ieir a thyrcwn gael eu codi gerfydd eu coesau, yn unol â’r canllawiau statudol presennol ar gyfer Prydain Fawr. Byddwn hefyd yn egluro’n glir yn y gyfraith:
-
ni ddylid dal, codi na chario ieir dodwy, cywion ieir, na thyrcwn sy’n pwyso 5kg neu lai gerfydd un goes yn unig
-
ni ddylid codi na chario tyrcwn sy’n pwyso mwy na 5kg wyneb i waered, boed hynny gerfydd y coesau neu fel arall
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am newidiadau arfaethedig i sut y gallwch drin ieir yn gyfreithlon i’w cludo fel rhan o weithgareddau masnachol.
Rydyn ni’n cynnig gwneud y gyfraith yn gliriach er mwyn i chi allu dal ieir wrth ddwy goes, yn unol â chanllawiau lles sefydledig.
Rydym hefyd eisiau casglu rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
yr amser a gymerir i ddal ieir gan ddefnyddio gwahanol ddulliau mewn gwahanol systemau cadw dofednod
-
sut mae tyrcwn yn cael eu dal a’u trin ar hyn o bryd
-
sut i gasglu data yn y ffordd orau i ddeall y cysylltiadau rhwng dulliau dal, gofynion adnoddau dynol a lles anifeiliaid
Gallwch ddarllen y fersiwn Saesneg o’r wybodaeth hon.