Consultation outcome

Ymateb y Llywodraeth a chrynodeb o'r ymatebion

Updated 10 December 2024

Dyma ymateb y llywodraeth a chrynodeb or ymatebion ir ymgynghoriad ar ddiwygior system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Ymgynghoriad ar y cyd oedd hwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon. Fei cynhaliwyd rhwng 28 Rhagfyr 2023 a 7 Mawrth 2024.

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar y canlynol:

  • Cyflwyno system casglu gwastraff cartrefi a ariennir gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.
  • Gwella rhwymedigaethau manwerthwyr i ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu ar gyfer cyfarpar mawr, gwella darpariaethau cymryd yn 担l yn y siop a chryfhau rhwymedigaethau cyfathrebu cwsmeriaid.
  • Dynodi marchnadoedd ar-lein yn fath newydd o gynhyrchydd a rhoir un rhwymedigaethau iddynt 但 gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr yn y DU o ran cofrestru, adrodd ar ddata a rhannu cost casglu a thrin offer a roddir ar farchnad y DU pan ddawn wastraff.
  • Creu categori newydd o gyfarpar ar gyfer f棚ps, er mwyn sicrhau bod costau casglu a thrin yr eitemau hyn yn cael eu hysgwyddo ar y rhai syn eu rhoi ar y farchnad yn unig.
  • Sefydlu Gweinyddwr Cynllun Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff newydd i ymgymryd 但 swyddogaethau penodol mewn perthynas 但 rhoir system ar waith, gan gynnwys rheoli gwasanaeth casglu newydd o gartrefi pe bai hynnyn cael ei weithredu ar 担l yr ymgynghoriad.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon yn ddiolchgar am yr ymatebion a ddaeth i law ir ymgynghoriad hwn. Rydym yn parhau i ystyried yr holl gynigion a nodir yn yr ymgynghoriad ar galwad am dystiolaeth cysylltiedig, a byddwn yn nodi ein hymateb ir cynigion hynny yn 2025.

Yn y tymor byr, byddwn yn gweithio gydan gilydd i ddwyn ymlaen y mesurau canlynol i fynd ir afael ag annhegwch yn Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 syn ymwneud 但 dosbarthu costau cyfrifoldeb cynhyrchwyr:

Categori newydd ar gyfer f棚ps

Diwygior rheoliadau presennol iw gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr f棚ps, cynhyrchion syn ymwneud 但 f棚ps syn cael eu gwerthu ar wah但n (er enghraifft, coiliau cyfnewid) a chynhyrchion eraill tebyg i e-sigar辿ts adrodd ar bwysaur cynhyrchion a roddir ar farchnad y DU mewn categori newydd o gyfarpar. Ar hyn o bryd, c但nt eu hadrodd o dan gategori 7 or rheoliadau syn ymwneud 但 theganau, cyfarpar hamdden a chwaraeon. Bydd rheoliadaun cael eu cyflwyno yn 2025 gyda newidiadau ir gofynion adrodd fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod targed casglu ar wah但n ar gyfer y categori newydd o 2026. Bydd rhwymedigaethau adrodd cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff hefyd yn cael eu diwygio i adlewyrchu cyflwyniad y categori newydd.

Rhwymedigaethau newydd ar gyfer Marchnadoedd Ar-lein

Diwygior rheoliadau presennol i osod rhwymedigaethau newydd ar Farchnadoedd Ar-lein fel eu bod yn cyfrannu at gost casglu, trin, ailddefnyddio ac ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn unol 但r rhwymedigaethau hynny syn berthnasol ar hyn o bryd i gwmn誰au a ddiffinnir fel cynhyrchwyr o fewn y rheoliadau presennol. Bydd y gofynion newydd yn berthnasol i farchnadoedd ar-lein yn unig o ran cyfarpar a roddir ar farchnad y DU gan eu gwerthwyr tramor.

Caiff y rheoliadau eu diwygio yn 2025 i gynnwys gofyniad ar farchnadoedd ar-lein i ymuno 但 chynllun cydymffurfio cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cymeradwy, talu ffi gofrestru ir rheoleiddiwr perthnasol ac adrodd ar ddata, drwy eu cynllun cydymffurfio, ar bwysaur offer a roddir ar farchnad y DU gan eu gwerthwyr tramor ym mhob un or categor誰au cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddata o dan y categori newydd arfaethedig ar gyfer f棚ps. Cyflwynir rhwymedigaethau adrodd trosiannol yn 2025 er mwyn sicrhau bod marchnadoedd ar-lein dan rwymedigaeth ariannol o ran gwerthiannau gan eu gwerthwyr tramor yn 2026. Bydd rhwymedigaethau yn unol 但r rhai a roddir ar fusnesau a ddiffinnir yn y rheoliadau fel cynhyrchwyr.

Cyflwynir taliadau newydd i dalu costau monitro cydymffurfiaeth marchnadoedd ar-lein cofrestredig gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelur Amgylchedd yr Alban, Cyfoeth Naturiol Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu cynnal ymgynghoriad wedii dargedu ar eu trefn codi ffioedd arfaethedig.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo i flaenoriaeth gyffredin i ysgogi economi gylchol ar draws pob un or pedair gwlad. Gall dull or fath ysgogi twf economaidd, amddiffyn yr amgylchedd a chreu gwerth cymdeithasol.

Maer ymrwymiad hwnnw ir economi gylchol wedii ymgorfforin ddwfn yn strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon:

  • Yr Alban:
  • Cymru:
  • Gogledd Iwerddon:

Bydd llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth economi gylchol ar gyfer Lloegr y flwyddyn nesaf. Mae wedi ffurfio Tasglu Economi Gylchol, syn cynnwys aelodau o ddiwydiant, y byd academaidd, ar gymdeithas sifil o bob rhan or DU i arwain datblygiad y strategaeth honno.

Bydd trafodaethau rhwng y pedair gwlad ar ddatblygu polisi ar adnoddau materol a gwastraff syn ymwneud 但 chyfarpar trydanol a thrydan yn parhau gydar ymatebion ir ymgynghoriad ar alwad am dystiolaeth i lywior trafodaethau hynny. Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon yn nodi cynlluniau ar gyfer diwygiadau ehangach syn adlewyrchu eu blaenoriaethau strategol yn yr ymgyrch tuag at economi gylchol ledled y DU y flwyddyn nesaf.

Crynodeb or Ymatebion

Cawsom gyfanswm o 320 o ymatebion gwahanol; nid oedd pob ymateb yn ystyried pob cwestiwn. Cawsom ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, fel y nodir yn y tabl isod.

Math o sefydliad Rhif
Llywodraeth leol 99
Cynhyrchydd Electronig 45
Unigolyn (h.y. ddim yn cynrychioli sefydliad) 45
Dosbarthwr (gan gynnwys marchnad ar-lein) 27
Corff masnach neu sefydliad arall syn cynrychioli busnes 20
Arall 14
Elusen neu fenter gymdeithasol 12
Cwmni rheoli gwastraff 12
Cynllun Cydymffurfio Cynhyrchwyr 11
Gr典p Cymunedol 9
Ymgynghoriaeth 7
Cyfleuster Triniaeth Awdurdodedig Cymeradwy 6
Gweithredwr ailddefnyddio neu atgyweirio 5
Sefydliad anllywodraethol 4
Academaidd neu ymchwil 3
(gwag) 1
Cyfanswm 320

Cafwyd tri ymateb yn fuan ar 担l ir ymgynghoriad ddod i ben. Rydym wedi ystyried y rhain ochr yn ochr 但r ymatebion eraill ir ymgynghoriad, er nad ywr tri wediu cynnwys yn y crynodebau ystadegol, gan gynnwys y tabl uchod.

Pennod 1: cynyddu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu system casglu o gartrefi wedii hariannu gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE).

Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau cymryd cyfarpar yn 担l eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr (er enghraifft, tostwyr, offer a theganau bach) o gartrefi?

Cwestiwn 7: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 6.

Roedd 64% yn cytuno y byddair cynnig hwn yn gostwng lefelau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol a gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon a chynyddu lefelau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ar gyfer ailgylchu. Darparwyd rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y byddai hyn yn lleihaur risg o danau batri.

Roedd 9% yn anghytuno 但r cynnig hwn.

Roedd 27% or ymatebwyr, cynhyrchwyr yn bennaf, yn ansicr ac yn argymell treialon i brofi dichonoldeb ac effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Cwestiwn 8: Gan gydnabod yr angen i gydbwyso amlder gwasanaeth ag effeithlonrwydd, pa mor aml y dylid darparu cylch casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Cwestiwn 9: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 8.

Roedd 47% or ymatebwyr yn ffafrio casgliadau bob mis, 25% yn wasanaeth ar gais, 21% bob pythefnos ac 8% o blaid cylchoedd casglu bob wythnos. Ni roddodd yr ymatebwyr dystiolaeth i gefnogi eu hatebion.

Cwestiwn 10: A fyddain fuddiol darparu ar gyfer gwahanol drefniadau iw cymhwyso mewn gwahanol ardaloedd yn 担l amgylchiadau, er enghraifft, ar gais mewn rhai ardaloedd a chylch casglu rheolaidd mewn ardaloedd eraill? Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb.

Roedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn cydnabod y byddain fuddiol darparu ar gyfer trefniadau casglu gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, gyda llawer yn nodi y byddai angen i gylchoedd casglu trefol fod yn amlach nar rhai mewn ardaloedd mwy gwledig.

Cwestiwn 11: Yn 担l beth ddylai eitemau syn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn gael eu diffinio:

  1. Pwysau
  2. Dimensiynau

Atebodd y rhan fwyaf or ymatebwyr y dylai eitemau syn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn gael eu diffinio yn 担l dimensiwn y cynnyrch. Atebodd lleiafrif y gallair ddau gael eu defnyddio fel meini prawf cymhwyso o bosibl

Cwestiwn 12: Nodwch unrhyw gynhyrchion a ddylai, oherwydd eu priodweddau, gael eu heithrio o wasanaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach o gartrefi.

Dywedodd llawer or ymatebwyr, gan gynnwys cnewyllyn o gynhyrchwyr lampau, y dylid eithrio lampau o gasgliadau cartrefi oherwydd eu breuder ar deunyddiau sydd ynddynt. Awgrymwyd hefyd y dylai deiliaid tai dynnu batris ou cyfarpar au rhoi mewn cynhwysydd ar wah但n, ynghyd ag eitemau syn cynnwys batris integredig fel f棚ps tafladwy.

Cwestiwn 13: Ar gyfer unrhyw gynhyrchion a restrir mewn ymateb i gwestiwn 12, pa fesurau y dylid eu rhoi ar waith i godi lefelau eu casglu ar wah但n er mwyn lleihau faint o wastraff gweddilliol syn cael ei waredu?

Ar gyfer lampau, awgrymwyd y dylid casglur eitemau hyn yn y siop gan adwerthwyr syn eu gwerthu yn lle.

Cwestiwn 14: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau cymryd cyfarpar yn 担l eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr?

Cwestiwn 15: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 14.

Roedd 68% or ymatebwyr yn cytuno dylai cynhyrchwyr ariannur gwaith o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr a bod hyn yn unol 但r egwyddor o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Nodwyd nad oes gan bawb fynediad i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac y byddair mesur hwn yn lleihau tipio anghyfreithlon. Roedd 19% or ymatebwyr yn anghytuno ac roedd 13% yn ansicr.

Cwestiwn 16: A ydych yn cytuno neun anghytuno mai Gweinyddwr Cynllun syn cael ei arwain gan gynhyrchwyr, ac yn cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth, sydd yn y sefyllfa orau i bennur mecanwaith mwyaf ymarferol ac effeithlon i reoli rhwymedigaethau cynhyrchwyr i ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig bach a mawr o gartrefi?

Cwestiwn 17: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i

gwestiwn 16.

Roedd 44% or ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai cynhyrchwyr gael rheolaeth dros Weinyddwr y Cynllun i sicrhau eu bod yn rheoli costau wrth gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Nodwyd hefyd y byddain fuddiol cael yr holl swyddogaethau iw canoli.

Roedd 39% or ymatebwyr yn ansicr ac 17% yn anghytuno. Nododd llawer or rhain y byddai angen mwy o eglurder ynghylch r担l Gweinyddwr y Cynllun ac y byddai angen cynrychiolaeth ehangach y tu hwnt i gynhyrchwyr er mwyn sicrhau agwedd gytbwys y tu hwnt i leihau costau.

Cwestiwn 18: A ydych yn cytuno neun anghytuno bod y gwaith mwyaf effeithlon a chost-effeithiol o gyflawnir rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff o gartrefi rheolaidd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a chasgliadau gwastraff ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn debygol o gael ei gyflawni drwy bartneriaethau rhwng Gweinyddwr y Cynllun ac Awdurdodau Lleol au partneriaid rheoli gwastraff?

Cwestiwn 19: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 18.

Roedd 48% or ymatebwyr yn cytuno mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparur gwasanaeth hwn. Roedd 40% or ymatebwyr yn ansicr, gyda llawer o gynhyrchwyr (ac eraill) yn awgrymu treialon wediu hariannu gan y diwydiant gydag awdurdodau lleol i sefydlun well y costau o ddarparu gwasanaeth llwyddiannus a lefel debygol y casgliadau a fyddain deillio o hynny.

Roedd awdurdodau lleol yn pryderu y dylair holl gostau a ysgwyddir fel partneriaid cyflawni posibl gael eu hariannu gan gynhyrchwyr. Hefyd, efallai na fydd gan rai awdurdodau lleol y capasiti i ymgymryd 但r r担l hon gan awgrymu y gallai fod angen darparwyr gwasanaethau eraill mewn rhai ardaloedd. Roedd 12% o ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 20: Os ateboch cytuno i gwestiwn 16, pa fesurau diogelu, os o gwbl, allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod costau a wynebir gan gynhyrchwyr wrth fodloni rhwymedigaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi yn adlewyrchu gwir gostaur ddarpariaeth drwy eu partneriaid gwasanaeth?

Ymhlith rhai or mesurau diogelu a grybwyllwyd oedd y dylai Gweinyddwr y Cynllun gadarnhau prawf o wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn perthynas 但 phroffil pob awdurdod lleol ac i anghydfodau gael eu setlo gan gyflafareddwr annibynnol.

Cwestiwn 21: A ydych yn cytuno neun anghytuno 但r dadansoddiad or cynnig hwn a nodir yn yr Asesiad Effaith cysylltiedig?

Cwestiwn 22: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 21.

Roedd 15% or ymatebwyr yn cytuno 但r dadansoddiad a nodir yn yr Asesiad Effaith. Roedd 46% or ymatebwyr yn ansicr. Roedd 39% or ymatebwyr yn anghytuno. Roedd rhai pryderon bod y costau a amcangyfrifwyd yn yr Asesiad Effaith yn rhy uchel, yn enwedig o ran cyfathrebu a sefydlu gweinyddwr y cynllun, a bod y dystiolaeth y seiliwyd y costau hyn arni yn gyfyngedig ac wedi dyddio.

Cwestiwn 23: A oes ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth casglu costeffeithiol ac effeithlon o gartrefi yn unol 但r hyn a ddisgrifir yng nghwestiwn 18, gyda phartneriaid cyflenwi eraill yn hytrach nag Awdurdodau Lleol, ac os felly, sut beth fyddai hynny?

Atebodd nifer sylweddol o ymatebwyr y dylid treialu mannau gollwng cymunedol yn lle gwasanaeth casglu o gartrefi, ochr yn ochr 但 nifer o awgrymiadau i dreialu mwy o logisteg wrth gefn lle byddai faniau dosbarthu yn casglu ar eu llwybrau arferol.

Cwestiwn 24: Rhowch unrhyw sylwadau eraill a thystiolaeth ategol ar y cynnig i gynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu gwasanaethau cymryd yn 担l) ariannu system o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ar garreg y drws a chasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr ar gais ar gyfer aelwydydd?

Codwyd rhai pryderon ynghylch cost bosibl system or fath ac a ellid cyfiawnhau hyn, o gofior dystiolaeth syn awgrymu na fyddair gyfradd gasglu mor uchel 但 hynny. Dywedodd eraill y gallai system or fath arwain at rywfaint o gyfarpar y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu casglu fel gwastraff yn lle hynny.

Cwestiwn 25: Mae cynhyrchwyr syn gosod llai na phum tunnell o gyfarpar ar farchnad y DU bob blwyddyn wediu heithrio o rwymedigaethau ariannol o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff. A ywr trothwy pum tunnell hwnnwn dal yn briodol?

Cwestiwn 26: Os ateboch nac ydy i gwestiwn 25, pa drothwy tunelledd syn briodol? Rhowch dystiolaeth i gefnogi trothwy amgen.

Roedd 66% or ymatebwyr yn anghytuno bod y trothwy hwn yn briodol ac roedd 19% arall yn ansicr. Dim ond 15% or ymatebwyr oedd yn cytuno bod y trothwy tunelledd hwn yn dal i fod yn briodol.

Ni chynigiodd yr ymatebwyr drothwy tunelledd amgen.

Cwestiwn 27:A oes dulliau amgen nad ydynt yn rheoleiddiol y gellid eu sefydlu i gynyddu casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ar wah但n o gartrefi iw ailddefnyddio ai ailgylchu? Os felly, disgrifiwch sut bethau fyddair dulliau hyn.

Awgrymodd rhai ymatebwyr rai dulliau rheoleiddio amgen megis cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer nwyddau trydanol bach. Roedd dulliau anrheoliadol eraill yn cynnwys cynyddu ymgyrchoedd cyfathrebu dan arweiniad cynhyrchwyr i wneud defnyddwyr yn fwy ymwybodol ou hopsiynau gwaredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Pennod 2: cynyddu seilwaith casglu dosbarthwyr

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau am ffyrdd o wella rhwymedigaethau dosbarthwyr o ran casglu mwy o wastraff trydanol gan eu cwsmeriaid.

Cwestiwn 28: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai manwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd ddarparu gwasanaeth casglu wrth ddosbarthu am ddim, syn ei gwneud yn ofynnol i gyfarpar domestig mawr fel peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd a setiau teledu gael eu dychwelyd am ddim?

Roedd 76% or ymatebwyr yn cytuno y dylai gwerthwyr ar y rhyngrwyd a manwerthwyr ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu, gan nodi y byddai hyn yn arwain at lefelau uwch o gasglu ar gyfer offer mawr. Cydnabuwyd bod eitemau a ddychwelir i fanwerthwyr yn fwy tebygol o fod yn addas iw hailddefnyddio.

Roedd 17% or ymatebwyr yn anghytuno y dylair gwasanaeth hwn fod am ddim ac y dylai manwerthwyr allu codi ffi wedii chapio am y gwasanaeth fel bod y gost yn amlwg ir defnyddiwr ac nad yw wedii hymgorffori ym mhris y cynnyrch.

Roedd 7% or ymatebwyr yn ansicr.

Cwestiwn 29: Os ateboch cytuno i gwestiwn 28, a ddylid pennu amserlen resymol ar gyfer casglur eitem nad oes ei hangen er mwyn caniat叩u ar gyfer amgylchiadau lle nad yw ar gael iw chasglu ar adeg dosbarthu?

Roedd 64% or ymatebwyr yn ansicr. Roedd 22% or ymatebwyr yn cytuno y dylid pennu amserlen resymol ac roedd 14% or ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 30: Beth ddylair amserlen hon fod?

Atebodd 49% or ymatebwyr y dylai fod yn 10 diwrnod. Atebodd 18% or ymatebwyr y byddai 2 ddiwrnod yn amserlen resymol. Atebodd 26% or ymatebwyr y dylai fod yn 5 diwrnod. Atebodd 17% arall or ymatebwyr na ddylid pennu amserlen resymol.

Cwestiwn 31: A ddylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai pan fydd eitem fawr yn cael ei chasglu?

Roedd 66% or ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai. Nid oedd 18% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, tra bod 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 32: A ddylai manwerthwyr syn gwerthu offer newydd ir cartref fel rhan o gegin newydd hefyd orfod mynd 但r hen offer or cartref yn rhad ac am ddim?

Cwestiwn 33: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 32.

Roedd 83% or ymatebwyr yn cytuno y dylai fod yn ofynnol hefyd i fanwerthwyr ceginau fynd 但r hen offer i ffwrdd yn rhad ac am ddim ac y dylent fod yn ddarostyngedig ir un rhwymedigaethau 但 manwerthwyr eraill. Ni chynigiodd yr ymatebwyr unrhyw dystiolaeth sylweddol i gefnogi eu hymateb.

Roedd 8.5% or ymatebwyr yn anghytuno 但 hyn ac roedd 8.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 34: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylem ymestyn y gofynion cymryd yn 担l presennol ar gyfer manwerthwyr mawr o sail 1:1 i 0:1, hynny yw, fel nad oes yn rhaid prynu eitem er mwyn ir rhwymedigaeth cymryd yn 担l fod yn berthnasol?

Roedd 60% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn iw gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gwared ar eu nwyddau trydanol diangen. Roedd 24% yn anghytuno, gan gynnwys llawer o ymatebion y manwerthwyr, y dylid ymestyn y rhwymedigaeth i sail 0:1 ac roedd 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 35: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai rhwymedigaeth or fath fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhesymol o ran faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff syn cael ei ddychwelyd gan bob deiliad t天?

Roedd 75% or ymatebwyr yn cytuno y dylai rhwymedigaeth or fath fod yn amodol ar derfynau rhesymol. Roedd 14% yn ansicr ac roedd 11% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 36: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylair diffiniad o fanwerthwr mawr fod yn unrhyw fusnes sydd 但 throsiant blynyddol o dros 贈100k o gyfarpar trydanol ac electronig?

Cwestiwn 37: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 36.

Roedd 59% or ymatebwyr yn cytuno 但r diffiniad hwn, gan nodi mai dymar diffiniad a ddefnyddiwyd ers 2019.

Roedd 25% or ymatebwyr yn ansicr ac roedd 16% or ymatebwyr yn anghytuno 但r diffiniad hwn.

Cwestiwn 38: Os ateboch anghytuno i gwestiwn 36, beth ddylai trothwy amgen fod?

Ni chafodd y cwestiwn hwn ei ateb yn helaeth. Awgrymodd 2 ymatebydd y dylid gosod y trothwy trosiant blynyddol ar nifer uwch (贈0.5 miliwn ac 贈1 miliwn yn y drefn honno). Awgrymodd 1 ymatebydd y dylai fod yn seiliedig ar nifer y cyfarpar a werthwyd.

Cwestiwn 39:A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid cyfyngur rhwymedigaeth i fanwerthwyr yn cymryd eitemau syn debyg ir rhai a werthir yn eu siopaun unig?

Cwestiwn 40: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 39.

Roedd 75% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan ddadlau y byddain annheg i siopau gymryd eitemau yn 担l nad ydynt yn eu gwerthu yn y siop.

Roedd 13% or ymatebwyr yn anghytuno, gyda rhai yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn 担l.

Dywedodd 12% arall or ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Cwestiwn 41: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid defnyddio rhwymedigaeth amgen yn ller rhwymedigaeth i gymryd yn 担l 0:1 sydd ar gael i werthwyr ar y rhyngrwyd, fel talu i gynllun, tebyg ir cynllun cymryd yn 担l presennol, er mwyn cefnogi lefelau uwch o gasglu ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu?

Cwestiwn 42: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 41.

Roedd 59% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan nodi oherwydd y cyfyngiadau logistaidd y gallai gwerthwyr ar y rhyngrwyd eu hwynebu wrth gynnig gwasanaeth cymryd yn 担l 0:1 y gallai fod yn fwy effeithlon iddynt dalu i gynllun yn lle hynny. Teimlair ymatebwyr fod yn rhaid i gynllun or fath gynnig dewis amgen cadarn ac effeithiol ac nid llwybr cydymffurfio amgen rhad. Roedd 27% yn ansicr ac roedd 14% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 43: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid gwellar gofynion gwybodaeth presennol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth am eu dewisiadau ailgylchu pan fydd cynnyrch yn cael ei werthu?

Roedd 89% or ymatebwyr yn cytuno, gan nodi nad ywr gofyniad gwybodaeth presennol yn ddigon cryf a bod cyfathrebun glir i ddefnyddwyr beth yw eu hopsiynau ailgylchu yn hanfodol i gynyddu lefelau ailgylchu.

Dim ond 5.5% or ymatebwyr oedd yn anghytuno 但 hyn ac roedd 5.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 45: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid symud y pwynt cyfrifoldeb cynhyrchydd i eiddor manwerthwr neur gwerthwr ar y rhyngrwyd, fel siop y manwerthwr, man storio mewn swmp, man dosbarthu?

Cwestiwn 46: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 45.

Roedd 47% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, er eu bod wedi mynegi barn y dylai gwasanaeth or fath fod yn amodol ar y meintiau lleiaf posibl i wrthsefyll effeithiau carbon casgliadau amlach. Dywedodd 28% arall or ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Roedd 25% or ymatebwyr, cynhyrchwyr yn bennaf, yn anghytuno, gan ddadlau bod llawer o fanwerthwyr eisoes yn trefnu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, yn aml drwy eu cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff dewisol, ac felly dylair ddyletswydd i gasglu ou safleoedd fod gydau cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac nid dyletswydd syn disgyn ar ysgwyddau bob cynhyrchydd.

Cwestiwn 47: A oes unrhyw rwymedigaethau eraill y dylem eu gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau casglu?

Cwestiwn 48: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 47.

Roedd llawer or ymatebion yn canolbwyntio ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr ou hopsiynau ailgylchu, gan gynnwys labelu cynnyrch yn glir a mwy o gyfathrebu yn y siop. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys targedau casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gorfodol iw gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd.

Cwestiwn 49: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni gael rhwymedigaethau cymryd yn 担l pan fyddant yn hwyluso cyflenwir cynnyrch i ddeiliad y t天?

Cwestiwn 50: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 49.

Roedd 81% or ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai rhwymedigaethau a chostau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff fod yr un fath ar draws gwahanol actorion, pun a ywr gwerthwr yn defnyddio sianeli dosbarthu ar-lein ai peidio. Roedd 12% arall yn ansicr, gan nodi bod angen gwneud mwy o waith i gadarnhau sut y byddai hyn yn gweithion ymarferol heb ychwanegu costau sylweddol at gasglu a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i gynhyrchwyr. Roedd 7% or ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 51: Am ba hyd y bydd angen ir diwydiant addasu ir cynigion a nodir uchod? Dewiswch un or opsiynau canlynol:

a. Hyd at 12 mis

b. 12 i 18 mis

c. 18 i 24 mis

d. 24 i 48 mis

Cwestiwn 52: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 51.

Ymateb Rhif
Hyd at 12 mis 87 (33%)
12 i 18 mis 42 (16%)
18 i 24 mis 49 (19%)
24 i 48 mis 84 (32%)

Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogir ymatebion hyn.

Pennod 3: rhwymedigaethau ar gyfer marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch dynodi marchnadoedd ar-lein fel categori newydd o gynhyrchydd, fel eu bod yn cyfrannu at gostau casglu ar wah但n a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn briodol yn unol 但 chyfran marchnad eu gwerthwyr tramor ym mhob categori o gyfarpar o fewn y rheoliadau.

Cwestiwn 53: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai fod yn ofynnol i Farchnadoedd Ar-lein gyflawni rhwymedigaethaur cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cwestiwn 54: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 53.

Roedd 87% or ymatebwyr yn cytuno, gan nodi bod llawer iawn o nwyddau trydanol yn cael eu rhoi ar y farchnad drwy farchnadoedd ar-lein a bod angen i ni sicrhau chwarae teg rhwng cynhyrchwyr syn gwerthu nwyddau trydanol drwy sianeli dosbarthu gwahanol. Roedd 7% yn ansicr a 6% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 55: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai fod yn ofynnol i dai cyflawni fodloni rhwymedigaethaur cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cwestiwn 56: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 55.

Roedd 84.5% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan ddadlau bod tai cyflawni yn darparu swyddogaeth debyg i farchnadoedd ar-lein ac felly y dylent fod yn ddarostyngedig ir un rhwymedigaethau. Roedd 9.5% yn ansicr a dim ond 6% or ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Cwestiwn 57: A ydych yn cytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni allu defnyddio data pwysau amcangyfrifedig gan ddefnyddio protocol y cytunwyd arno gydar rheoleiddwyr amgylcheddol i ddechrau?

Cwestiwn 58: Os ateboch cytuno ar gyfer cwestiwn 57, rhowch dystiolaeth i egluro pam na ellir darparur union ddata.

Roedd 37% or ymatebwyr yn anghytuno 但 hyn, gan ddweud y dylent orfod defnyddio data manwl gywir, fel mathau eraill o gynhyrchwyr. Teimlwyd hefyd y dylai marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni eisoes fod 但 hwylustod mynediad i ddata manwl gywir. Roedd 35% or ymatebwyr yn ansicr. Roedd 29% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan ddweud y dylid caniat叩u data pwysau amcangyfrifedig am gyfnod cyfyngedig o leiaf, gan y gallai fod yn anoddach i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni gael mynediad at y data hwn.

Cwestiwn 59: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni o ganlyniad i gael eu diffinio fel cynhyrchwyr?

Cwestiwn 60: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 59.

Nododd y rhan fwyaf or ymatebwyr y byddai costau ychwanegol yn debyg i gostau cynhyrchwyr newydd syn gosod cyfarpar trydanol ac electronig ar y farchnad. Dywedwyd na fyddain rhaid iddynt gydymffurfio 但 rhannau or rheoliadau megis sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei farcio 但r symbol bin ar olwynion wedii groesi allan.

Cwestiwn 61: Pa ffyrdd eraill, os o gwbl, y dylair llywodraeth eu hystyried i fynd ir afael 但r broblem o werthwyr ar-lein nad ydynt yn cydymffurfio 但r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff?

Cwestiwn 62: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 61.

Awgrymodd ymatebwyr fod angen mwy o gamau gorfodi i fynd ir afael 但 diffyg cydymffurfio ymhlith gwerthwyr ar-lein, gan gynnwys mwy o ddefnydd o sancsiynau sifil.

Pennod 4: Creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer f棚ps

Roedd y rhan hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer f棚ps. Byddai hyn yn sicrhau y byddai costau casglu a thrin f棚ps yn disgyn yn deg ar ysgwyddaur rhai syn eu cynhyrchu.

Cwestiwn 63:A ydych yn cytuno 但r cynnig i greu categori newydd ar gyfer f棚ps?

Roedd 91% or ymatebwyr yn cytuno 但r cynnig i greu categori newydd ar gyfer f棚ps, gan nodi bod costau ailgylchu anwedd yn llawer drutach na mathau eraill o gyfarpar ar hyn o bryd, ac nad ywn cael ei dalu bob amser gan y rhai syn eu cynhyrchu. Roedd 6% yn ansicr a dim ond 3% or ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Cwestiwn 64: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i gynhyrchwyr, cynlluniau cydymffurfio a rheoleiddwyr o ganlyniad i greu categori newydd ar gyfer f棚ps?

Awgrymwyd y byddai costau uwch i gynhyrchwyr f棚ps o ran costau cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr, casglu data, rhwymedigaethau cyfran or farchnad, ymgysylltu 但 chynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, marcio a labelu. Ir gwrthwyneb, nodwyd hefyd y gallai fod gostyngiad mewn costau i gynhyrchwyr cynhyrchion categori 7 eraill oherwydd bod y rheoliadau presennol yn gosod f棚ps yn y categori hwnnw a allai olygu eu bod yn cyfrannu at y gost o gasglu a thrin f棚ps.

Cwestiwn 65: A oes unrhyw fesurau eraill, y tu hwnt ir rhai ar gyfer eco-fodiwleiddio a thaflu sbwriel a nodir yn yr alwad am dystiolaeth, yn eich barn chi, y dylair llywodraeth eu cymryd i leihau effaith f棚ps ar yr amgylchedd?

Roedd llawer or ymatebwyr yn ffafrio gwahardd f棚ps untro. Nodwyd hefyd fod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ynghylch sut i gael gwared ar eu f棚ps gwastraff yn briodol, yn ogystal 但 mwy o gamau gorfodi i atal defnyddwyr rhag taflu sbwriel.

Pennod 5: Llywodraethur cynllun

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu gweinyddwr cynllun newydd.

Cwestiwn 66: A ydych yn cytuno neun anghytuno 但r egwyddor o sefydlu Gweinyddwr Cynllun syn cael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth, ac syn cael ei arwain gan gynhyrchwyr i gyflawni swyddogaethau penodol yn y system ddiwygiedig ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Cwestiwn 67: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 66.

Roedd 51% or ymatebwyr yn cytuno. Roedd y rhan fwyaf or rhai a gytunodd yn cydnabod gwerth yn yr arbedion o ran maint ac effeithlonrwydd mewn rhai elfennau cyfrifoldeb cynhyrchwyr syn cael eu cyflawnin ganolog, yn cael eu cydlynu neu eu pennu.

Cytunwyd hefyd i raddau helaeth y dylai Gweinyddwr y Cynllun gael ei arwain gan gynhyrchwyr, er bod cydnabyddiaeth y byddai angen cynnwys rhanddeiliaid eraill hefyd. Roedd 35% or ymatebwyr yn ansicr, gan nodi diffyg eglurder ynghylch y diffiniad o gynllun syn cael ei arwain gan gynhyrchwyr ac yn codi pryderon ynghylch didueddrwydd a thryloywder cynllun or fath.

Roedd 14% or ymatebwyr yn anghytuno gan nodi y gallai Gweinyddwr y Cynllun arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol ac felly cost ychwanegol ir system.

Ar draws yr ymatebwyr, roedd thema bod angen i unrhyw gorff or fath gael ei ddwyn i gyfrif gan y llywodraeth, a ddylai osod meini prawf cymeradwyo clir.

Cwestiwn 68: Os gwnaethoch anghytuno 但 chwestiwn 66, nodwch fanylion dull gweithredu amgen ar gyfer swyddogaethau arfaethedig Gweinyddwr y Cynllun.

Ni chynigiodd llawer or ymatebwyr ddewis amgen yn lle Gweinyddwr y Cynllun, ond yn hytrach roeddent yn ystyried y dylair Cynllun fod yn atebol ir llywodraeth, gyda set o ddangosyddion perfformiad clir y dylid ei werthuso yn eu herbyn. Awgrymodd lleiafrif or ymatebwyr y dylai Gweinyddwr y Cynllun fod yn gorff cyhoeddus, yn gweithredu er budd y cyhoedd a thrwy seilwaith cynghorau lleol, gyda rhywfaint o gyfranogiad gan gynhyrchwyr.

Cwestiwn 69: Pa rai or swyddogaethau canlynol ydych chin meddwl y dylai Gweinyddwr y Cynllun eu cyflawni?

  • Rheolir system Cydbwyso Cynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cartrefi (a rhai nad ydynt yn deillio o gartrefi os oes angen)
  • Gweinyddu Cynllun Cymryd yn 担l Dosbarthwyr (iw ddefnyddio gan y dosbarthwyr hynny nad oes yn rhaid iddynt gynnig gwasanaeth cymryd cyfarpar yn 担l yn y siop o dan y system newydd)
  • Datblygu a gweinyddu methodoleg ffi cydymffurfio mewn ymgynghoriad 但r holl gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, iw chymeradwyo gan y Llywodraeth
  • Darparu tystiolaeth a rhagolygon or cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi syn debygol o godi cyflwyno argymhellion ir Llywodraeth i lywior gwaith o osod rhwymedigaethau ariannol blynyddol ar gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr ar gyfer casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi
  • Eco-fodiwleiddio cefnogir llywodraeth gyda mesurau newydd posibl y gellid eu defnyddio gyda chategor誰au o gynnyrch penodol, gan gynnwys datblygu methodoleg i seilior modiwleiddio arni
  • Asesu ac adrodd ar berfformiad amgylcheddol y system yn y dyfodol yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol gydag argymhellion ir llywodraeth ar fesurau i wellar perfformiad hwnnw

Roedd dros 90% or ymatebwyr o blaid i weinyddwr y cynllun ysgwyddor holl swyddogaethau hyn. Roedd cefnogaeth ar gyfer asesu perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol, rheolir PBS a rhagweld deilliannau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn 98% neun uwch.

Cwestiwn 70: A oes unrhyw swyddogaethau ychwanegol y dylai Gweinyddwr y Cynllun eu cyflawni, yn ogystal 但r rheini a nodir yng nghwestiwn 69?

Dyma rai swyddogaethau ychwanegol a awgrymwyd gan yr ymatebwyr:

  • Gweithredu fel adnodd canolog ar gyfer casglu tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio ar raddfa fawr gan gynhyrchwyr cofrestredig, ac adrodd gyda thystiolaeth i reoleiddwyr;
  • Monitro costeffeithiolrwydd y system;
  • Casglu, cydgrynhoi a sicrhau bod data ar gasglu, ailddefnyddio ac ailgylchu or cynllun ar gael ir cyhoedd ac yn haws ei ddefnyddio;
  • Dwyn gweithredwyr cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a chynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr i gyfrif o ran dehongli rheoliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a darparu dehongliad hygyrch ir cyhoedd;

Cwestiwn 71: Rhowch unrhyw sylwadau eraill am r担l Gweinyddwr y Cynllun.

Roedd pwyslais ar y corff yn cael ei werthuson rheolaidd yn erbyn set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol wediu diffinion glir. Roedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn cytuno y dylai gael ei arwain gan y diwydiant a chynnwys cynrychiolaeth ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Awgrymwyd hefyd y dylid cyfeirio ato fel Gweinyddwr y System Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff er mwyn osgoi dryswch gyda Chynlluniau Cydymffurfiaeth Cynhyrchwyr.

Cwestiwn 72: Pa rai or dangosyddion perfformiad amgen a restrir yn yr adran uchod ydych chin cytuno neun anghytuno y dylid eu cynnwys yn y system yn y dyfodol?

Nifer neu bwysau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol. 221 (87%)
Hwylustod ailgylchu. 198 (78)
Faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sydd mewn gwastraff syn cael ei dipion anghyfreithlon ym mhob un or gwledydd. 161 (63%)
Lefel ymwybyddiaeth defnyddwyr o werth ar cyfleoedd ar gyfer ailddefnyddio neu ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. 182 (72%)
Asesu effaith carbon y system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn y DU yn rheolaidd. 194 (76%)
Asesu perfformiad economi gylchol y system. 195 (77%)
Gwella ansawdd prosesau trin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. 196 (77%)
Faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gaiff ei ddargyfeirio iw ailddefnyddio. 232 (91%)

Cwestiwn 73: A oes unrhyw fesurau llwyddiant eraill y dylair llywodraeth eu hystyried i asesu perfformiad y system?

Roedd bron pob un or ymatebwyr or farn nad oedd unrhyw fesurau ychwanegol ir rhai a gofnodwyd eisoes.

Atodiad 1: Crynodeb manylach or ymatebion

Pennod 1: cynyddu casgliadau o gartrefi

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu system casglu o gartrefi wedii hariannu gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff.

Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau cymryd cyfarpar yn 担l eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr (er enghraifft, tostwyr, offer a theganau bach) o gartrefi?

Ymateb Rhif
Cytuno 64%
Anghytuno 9%
Ddim yn si典r 27%

Dim ond 20% o gynhyrchwyr oedd yn cytuno 但r cynnig hwn ac roedd 71% yn ansicr. Nodwyd y gallai costau sefydlu system casglu o gartrefi fod yn drech nar manteision ac y dylid sefydlu treialon i brofi ei dichonoldeb. Yn yr un modd, roedd 38% o ddosbarthwyr hefyd yn ansicr ac yn adleisior argymhelliad ar gyfer treialon.

Mewn cyferbyniad, roedd 88% o ymatebion awdurdodau lleol yn cytuno 但r cynnig, gyda llawer yn nodi bod angen opsiynau gwaredu mwy cyfleus ar ddeiliaid tai ar gyfer eu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Roedd Cwmn誰au Rheoli Gwastraff a chyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy hefyd yn fwy tebygol o gefnogir cynnig hwn, gyda 92% a 67% yn y drefn honnon cytuno y byddair cynnig hwn yn sbarduno mwy o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gesglir yn briodol, ynghyd 但 manteision eraill megis lleihaur risg o danau.

Cwestiwn 8: Gan gydnabod yr angen i gydbwyso amlder gwasanaeth ag effeithlonrwydd, pa mor aml y dylid darparu cylch casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Ymateb Rhif
Bob wythnos 8%
Bob pythefnos 21%
Bob mis 47%
Ar gais 25%

Dywedodd 93.5% o gynhyrchwyr mai gwasanaeth casglu misol fyddai orau, gan nodi nad yw gwaredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mor aml 但 ffrydiau gwastraff eraill.

Dywedodd 45.2% o unigolion y byddain well ganddynt wasanaeth bob mis, o gymharu 但 33.3% a oedd yn ffafrio gwasanaeth ar gais.

Cwestiwn 14: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau cymryd cyfarpar yn 担l eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr?

Ymateb Rhif
Cytuno 68%
Anghytuno 19%
Ddim yn si典r 13%

Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy, 87% o awdurdodau lleol ac 86% o unigolion yn cytuno 但r cynnig hwn, gan nodi y byddai hyn yn lleihaur risg o dipio anghyfreithlon ac yn sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn mynd i mewn ir sianeli gwaredu cywir.

Dim ond 20% o gynhyrchwyr a 39% o ddosbarthwyr oedd yn cytuno y dylair gwasanaeth hwn fod am ddim, ac yn dadlau y dylai casgliadau swmpus awdurdodau lleol a chasgliadau adwerthwyr wrth ddosbarthu ar gyfer offer mawr gael eu cynnig fel gwasanaeth y codir t但l amdano, yn amodol ar ffi wedii chapio.

Cwestiwn 16: A ydych yn cytuno neun anghytuno mai Gweinyddwr Cynllun syn cael ei arwain gan gynhyrchwyr, ac yn cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth, sydd yn y sefyllfa orau i bennur mecanwaith mwyaf ymarferol ac effeithlon i reoli rhwymedigaethau cynhyrchwyr i ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig bach a mawr o gartrefi?

Ymateb Rhif
Cytuno 44%
Anghytuno 17%
Ddim yn si典r 39%

Roedd 77.8% o gynhyrchwyr yn cytuno y dylai hyn gael ei arwain gan gynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rheoli costau cyflawni eu rhwymedigaethau statudol.

Roedd cymysgedd ehangach o safbwyntiau ymhlith awdurdodau lleol gyda 38.2% yn cytuno a 50% yn ansicr. Nodwyd y byddai angen i Weinyddwr y Cynllun fod yn atebol ir llywodraeth ac ystyried buddiannau nid dim ond y cynhyrchwyr.

Cwestiwn 18: A ydych yn cytuno neun anghytuno bod y gwaith mwyaf effeithlon a chosteffeithiol o gyflawnir rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff o gartrefi rheolaidd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a chasgliadau gwastraff ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn debygol o gael ei gyflawni drwy bartneriaethau rhwng Gweinyddwr y Cynllun ac Awdurdodau Lleol au partneriaid rheoli gwastraff?

Ymateb Rhif
Cytuno 48%
Anghytuno 12%
Ddim yn si典r 40%

Roedd 67.9% o gynhyrchwyr yn ansicr ac yn ffafrio treialon, y byddent yn eu comisiynu, i brofi a oedd gan awdurdodau lleol y gallu i reolir gwasanaeth yn effeithiol. Teimlwyd hefyd na ddylai cynhyrchwyr gael eu cyfyngu i ddefnyddio awdurdodau lleol a gallu archwilio partneriaid cyflenwi eraill.

Roedd 59.2% o awdurdodau lleol yn cytuno, ond dywedodd llawer y dylid pennu trefniadau manwl yn lleol a bod angen gwneud rhagor o waith i sefydlu sut y dylair trefniadau hynny gyd-fynd 但 chwmn誰au rheoli gwastraff, cyfleusterau trin a sefydliadau ailddefnyddio.

Cwestiwn 20: Os ateboch cytuno i gwestiwn 16, pa fesurau diogelu, os o gwbl, allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod costau a wynebir gan gynhyrchwyr wrth fodloni rhwymedigaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi yn adlewyrchu gwir gostaur ddarpariaeth drwy eu partneriaid gwasanaeth?

  • Yn ogystal 但 Gweinyddwr y Cynllun yn sefydlu prawf o wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn perthynas 但 phroffil pob awdurdod lleol ac i anghydfodau gael eu setlo gan gyflafareddwr annibynnol, nododd ymatebwyr hefyd y canlynol, mesurau diogelu eraill, er enghraifft i gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gael ei drosglwyddo i gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn rhad ac am ddim.
  • Gweithredu gwasanaeth dros gyfnod o 4 blynedd o leiaf. Mewn ardaloedd anghysbell efallai y bydd gwasanaeth dod 但 gwastraff (banciau casglu) yn fwy priodol. Diffiniad o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach iw gytunon lleol. Gallai treialon sefydlu a yw bandio costau awdurdodau lleol yn ymarferol (gwledig neu drefol).

Cwestiwn 24: Rhowch unrhyw sylwadau eraill a thystiolaeth ategol ar y cynnig i gynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu gwasanaethau cymryd yn 担l) ariannu system o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ar garreg y drws a chasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr ar gais ar gyfer aelwydydd?

Ni ddaeth unrhyw them但u cyffredin ir amlwg or cwestiwn hwn. Amlygodd rhai grwpiau bryderon ynghylch y costau yn ogystal 但 diffyg tystiolaeth ar fanteision ymylol y cynllun. Codwyd hefyd y potensial i ddargyfeirio cynnyrch o lwybrau ailddefnyddio.

Cwestiwn 25: Mae cynhyrchwyr syn gosod llai na phum tunnell o gyfarpar ar farchnad y DU bob blwyddyn wediu heithrio o rwymedigaethau ariannol o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff. A ywr trothwy pum tunnell hwnnwn dal yn briodol?

Roedd 66% or ymatebwyr yn anghytuno bod y trothwy hwn yn briodol ac roedd 19% arall yn ansicr. Teimlai 80% o gynhyrchwyr fod y trothwyn amhriodol iw gymhwyson gyfartal ar draws pob categori a nodwyd bod 5 tunnell o f棚ps, neu lampau, yn wahanol iawn i 5 tunnell o oergelloedd, er enghraifft, o ran cyfeintiau a chostau iw trin.

Dim ond 15% or ymatebwyr oedd yn cytuno bod y trothwy tunelledd hwn yn dal i fod yn briodol.

Ymateb Rhif
Ydy 45 (15%)
Nac ydy 193 (66%)
Ddim yn si典r 54 (19%)

Pennod 2: cynyddu seilwaith casglu dosbarthwyr

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch ffyrdd o wellar rhwymedigaethau a roddir ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau cyfleustra i ddeiliaid tai syn ceisio cael gwared ar wastraff trydanol.

Cwestiwn 28: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai manwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd ddarparu gwasanaeth casglu wrth ddosbarthu am ddim, syn ei gwneud yn ofynnol i gyfarpar domestig mawr fel peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd a setiau teledu gael eu dychwelyd am ddim?

Roedd 76% or ymatebwyr yn cytuno y dylai gwerthwyr ar y rhyngrwyd a manwerthwyr ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu. Roedd 58% o gynhyrchwyr yn cytuno ac yn dweud y byddain arwain at lefelau uwch o gasglu ar gyfer offer mawr. Cydnabuwyd bod eitemau a ddychwelir i fanwerthwyr yn fwy tebygol o fod yn addas iw hailddefnyddio. Fodd bynnag, roedd rhai cynhyrchwyr yn meddwl y dylai barhau i fod yn wasanaeth y codir t但l amdano, ond gyda ffi wedii chapio.

Roedd 48% o ddosbarthwyr yn anghytuno 但r cynnig hwn gan ddadlau y byddai dileur gallu i godi t但l yn arwain at orfod codi eu prisiau, fel treth anweledig i bob cwsmer yn hytrach na dim ond y rhai syn defnyddior gwasanaeth mewn gwirionedd. Awgrymwyd hefyd nad ywr cynnig hwn yn angenrheidiol ochr yn ochr 但r cynnig i gynhyrchwyr ariannu casglu gwastraff swmpus o gartrefi.

Cwestiwn 29: Os ateboch cytuno i gwestiwn 28, a ddylid pennu amserlen resymol ar gyfer casglur eitem nad oes ei hangen er mwyn caniat叩u ar gyfer amgylchiadau lle nad yw ar gael iw chasglu ar adeg dosbarthu?

Roedd 22% or ymatebwyr yn cytuno y dylid pennu amserlen resymol.

Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy yn cytuno 但 phennu amserlen resymol, ynghyd 但 68% o gynhyrchwyr. Dim ond traean or dosbarthwyr oedd yn cytuno 但 hyn.

Roedd y rhan fwyaf or ymatebwyr yn ansicr, gan gynnwys 89% o awdurdodau lleol a 91% o gwmn誰au rheoli gwastraff.

Cwestiwn 30: Beth ddylair amserlen hon fod?

Atebodd 18% or ymatebwyr y byddai 2 ddiwrnod yn amserlen resymol. Atebodd 26% or ymatebwyr y dylai fod yn 5 diwrnod. Atebodd 49% or ymatebwyr y dylai fod yn 10 diwrnod. Atebodd 17% arall or ymatebwyr na ddylid pennu amserlen resymol.

Cwestiwn 31: A ddylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai pan fydd eitem fawr yn cael ei chasglu?

Roedd 66% or ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai o faint. Roedd hyn yn cynnwys 71% o gynhyrchwyr a 74% o awdurdodau lleol. Nid oedd 18% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, tra bod 16% arall yn ansicr.

Roedd rhaniad cyfartal ymhlith manwerthwyr o 41% a gytunodd y dylid ymestyn y gwasanaeth i gynnwys eitemau bach a 41% nad oeddent yn cytuno.

Cwestiwn 34: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylem ymestyn y gofynion cymryd yn 担l presennol ar gyfer manwerthwyr mawr o sail 1:1 i 0:1, hynny yw, fel nad oes yn rhaid prynu eitem er mwyn ir rhwymedigaeth cymryd yn 担l fod yn berthnasol?

Roedd 60% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn iw gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gwared ar eu nwyddau trydanol diangen. Roedd hyn yn cynnwys yr holl ymatebion i gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, 70% o gynhyrchwyr a 74% o awdurdodau lleol.

Roedd 24% yn anghytuno y dylid ymestyn y rhwymedigaeth i sail 0:1, gan gynnwys 53% o fanwerthwyr, a dywedodd rhai ohonynt y byddair rhwymedigaeth newydd hon yn gosod costau newydd ar eu busnes, yn ogystal 但 chreu problemau o ran storio.

Roedd 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 36: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylair diffiniad o fanwerthwr mawr fod yn unrhyw fusnes sydd 但 throsiant blynyddol o dros 贈100k o gyfarpar trydanol ac electronig?

Roedd 59% or ymatebwyr yn cytuno 但r diffiniad hwn, gan gynnwys 74% o gynhyrchwyr ac 87.5% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, a oedd yn teimlo bod y diffiniad hwn yn briodol, gan y defnyddiwyd ers 2019. Cymysg oedd barn y dosbarthwyr, gyda dim ond 29% yn cytuno 但r diffiniad presennol, 33% yn anghytuno a 38% arall yn ansicr. Dywedodd rhai dosbarthwyr y dylair trothwy hefyd ystyried ffactorau eraill megis maint y siop.

Cwestiwn 38: Os ateboch anghytuno i gwestiwn 36, beth ddylai trothwy amgen fod?

Dim ond canran fach or rheini a ymatebodd ir ymgynghoriad a atebodd y cwestiwn hwn. Awgrymodd 2 ymatebydd y dylid gosod y trothwy trosiant blynyddol ar nifer uwch (贈0.5 miliwn ac 贈1 miliwn yn y drefn honno). Awgrymodd 1 ymatebydd y dylai fod yn seiliedig ar nifer y cyfarpar a werthwyd.

Cwestiwn 39:A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid cyfyngur rhwymedigaeth i fanwerthwyr yn cymryd eitemau syn debyg ir rhai a werthir yn eu siopaun unig?

Roedd 75% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan ddadlau y byddain annheg i siopau gymryd eitemau yn 担l nad ydynt yn eu gwerthu yn y siop. Roedd hyn yn cynnwys 88% o gynhyrchwyr a 100% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr. Roedd 83.3% o gwmn誰au rheoli gwastraff hefyd yn cytuno, gyda rhai yn ystyried ei bod yn bwysig bod y sgiliau ar systemau syn cefnogi gwerthu eitemau penodol manwerthwyr yn cael eu defnyddio i reolir eitemau hynny o ddyluniad tebyg yn ddiogel pan c但nt eu dychwelyd.

Roedd 92% o fanwerthwyr yn cytuno, er bod rhai yn awgrymu bod angen cynnig mwy o eglurder ynghylch beth syn gyfystyr 但 chynnyrch tebyg.

Roedd 13% or ymatebwyr yn anghytuno, gyda rhai yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn 担l.

Dywedodd 12% arall or ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Cwestiwn 41: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid defnyddio rhwymedigaeth amgen yn ller rhwymedigaeth i gymryd yn 担l 0:1 sydd ar gael i werthwyr ar y rhyngrwyd, fel talu i gynllun, tebyg ir cynllun cymryd yn 担l presennol, er mwyn cefnogi lefelau uwch o gasglu ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu?

Roedd 59% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan nodi oherwydd y cyfyngiadau logistaidd y gallai gwerthwyr ar y rhyngrwyd eu hwynebu wrth gynnig gwasanaeth cymryd yn 担l 0:1 y gallai fod yn fwy effeithlon iddynt dalu i gynllun yn lle hynny. Roedd hyn yn cynnwys 86% o gynhyrchwyr, 78% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 54% o awdurdodau lleol. Teimlair ymatebwyr fod yn rhaid i gynllun or fath gynnig dewis amgen cadarn ac nid llwybr cydymffurfio amgen rhad.Roedd 58% o gwmn誰au rheoli gwastraff hefyd yn cytuno, gan ddweud i raddau helaeth nad yw gwerthwyr ar y rhyngrwyd yn y sefyllfa orau i gasglu yn y man dosbarthu oherwydd dibyniaeth uchel ar gludwyr ac y byddai casgliadau penodedig yn ddrud iawn. Dylid casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cymysg bach drwy lwybrau awdurdodau lleol, wediu hariannun rhannol gan werthwyr ar y rhyngrwyd.

Cytunodd 48% or dosbarthwyr, gan nodir angen am chwarae teg.

Dim ond 14% or ymatebwyr oedd yn anghytuno 但 hyn ac roedd 27% arall yn ansicr.

Cwestiwn 43: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid gwellar gofynion gwybodaeth presennol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth am eu dewisiadau ailgylchu pan fydd cynnyrch yn cael ei werthu?

Roedd 89% or ymatebwyr yn cytuno, gan nodi nad ywr gofyniad gwybodaeth presennol yn ddigon cryf a bod cyfathrebun glir i ddefnyddwyr beth yw eu hopsiynau ailgylchu yn hanfodol i gynyddu lefelau ailgylchu. Roedd hyn yn cynnwys 93% o gynhyrchwyr, 90% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 98% o awdurdodau lleol. Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy hefyd yn cytuno ac yn dweud bod angen gwneud defnyddwyr yn fwy ymwybodol ou hopsiynau ailgylchu.

Roedd 67% or dosbarthwyr yn cytuno. Fodd bynnag, teimlai rhai ohonynt, er bod angen addysg gyhoeddus ar ailgylchu, na ddylai manwerthwyr yn unig ysgwyddor cyfrifoldeb o gyfathrebu hyn ir cyhoedd.

Dim ond 5.5% or ymatebwyr oedd yn anghytuno 但 hyn ac roedd 5.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 45: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylid symud y pwynt cyfrifoldeb cynhyrchydd i eiddor manwerthwr neur gwerthwr ar y rhyngrwyd, fel siop y manwerthwr, man storio mewn swmp, man dosbarthu?

Roedd 47% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, er eu bod wedi mynegi pryderon ynghylch y gwasanaeth hwn yn amodol ar y meintiau lleiaf posibl i leihau effeithiau carbon casgliadau amlach.

Roedd 25% or ymatebwyr yn anghytuno, gan ddadlau bod llawer o fanwerthwyr eisoes yn trefnu casgliad cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, yn aml drwy eu cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff dewisol, ac felly dylair ddyletswydd i gasglu ou safleoedd fod gydau cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac nid dyletswydd syn disgyn ar ysgwyddau bob cynhyrchydd. Dim ond 7% o gynhyrchwyr oedd yn cytuno 但r cynnig hwn.

Roedd 46% o ddosbarthwyr yn anghytuno 但r cynnig, gyda rhai ohonynt yn dweud, os ywr Llywodraeth am symud pwynt cyfrifoldeb cynhyrchwyr i fanwerthu ar garreg drws, byddai angen ymgorffori cysyniad EPR yn llawn, gan olygu y bydd angen i gynhyrchwyr ddigolledun llawn yr holl randdeiliaid syn gweithredu casgliadau.

Cwestiwn 47: A oes unrhyw rwymedigaethau eraill y dylem eu gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau casglu?

Roedd llawer or ymatebion yn canolbwyntio ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr ou hopsiynau ailgylchu, gan gynnwys labelu cynnyrch yn glir a mwy o gyfathrebu yn y siop. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys targedau casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gorfodol iw gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd.

Cwestiwn 49: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni gael rhwymedigaethau cymryd yn 担l pan fyddant yn hwyluso cyflenwir cynnyrch i ddeiliad y t天?

Roedd 81% or ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai rhwymedigaethau a chostau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff fod yr un fath ar draws gwahanol actorion, pun a ywr gwerthwr yn defnyddio sianeli dosbarthu ar-lein ai peidio. Roedd hyn yn cynnwys 91% o gynhyrchwyr, 89% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 71% o ddosbarthwyr.

Roedd 7% or ymatebwyr yn anghytuno a 12% arall yn ansicr, gan nodi bod angen gwneud mwy o waith i gadarnhau sut y byddai hyn yn gweithion ymarferol heb ychwanegu costau sylweddol at gasglu a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i gynhyrchwyr.

Pennod 3: rhwymedigaethau ar gyfer marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch dynodi marchnadoedd ar-lein fel categori newydd o gynhyrchydd, fel eu bod yn ariannol gyfrifol am y cyfarpar trydanol ac electronig a roddir ar y farchnad drwy eu platfformau pan ddawn wastraff.

Cwestiwn 53: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai fod yn ofynnol i Farchnadoedd Ar-lein gyflawni rhwymedigaethaur cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cafodd y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol bron ar draws y diwydiant.

Roedd 100% o gwmn誰au rheoli gwastraff, 92% o awdurdodau lleol, 98% o gynhyrchwyr a 90% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn cytuno 但 hyn, gan nodi bod llawer iawn o nwyddau trydanol yn cael eu rhoi ar y farchnad drwy farchnadoedd ar-lein a bod angen i ni sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr syn gwerthu nwyddau trydanol drwy sianeli dosbarthu gwahanol.

Roedd 83% o ddosbarthwyr hefyd yn cytuno 但r cynnig hwn am yr un rhesymau.

Roedd 6% or ymatebwyr yn anghytuno 但 hyn ac roedd 7% arall yn ansicr.

Cwestiwn 55: A ydych yn cytuno neun anghytuno y dylai fod yn ofynnol i dai cyflawni fodloni rhwymedigaethaur cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Roedd gan y cynnig hwn gefnogaeth eang ar draws y diwydiant gydag 84.5% or ymatebwyr yn cytuno. Roedd hyn yn cynnwys 93% o gynhyrchwyr, 78% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 85.5% o ddosbarthwyr.

Roedd y rhan fwyaf yn dadlau bod tai cyflawni yn darparu swyddogaeth debyg i farchnadoedd ar-lein ac felly y dylent fod yn ddarostyngedig ir un rhwymedigaethau.

Dim ond 6% or ymatebwyr oedd yn anghytuno 但 hyn ac roedd 9.5% arall yn ansicr. Ni roddodd y rhai a oedd yn anghytuno unrhyw sylwadau pellach.

Cwestiwn 57: A ydych yn cytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni allu defnyddio data pwysau amcangyfrifedig gan ddefnyddio protocol y cytunwyd arno gydar rheoleiddwyr amgylcheddol i ddechrau?

Roedd 29% or ymatebwyr yn cytuno 但 hyn, gan ddweud y dylid caniat叩u data pwysau amcangyfrifedig am gyfnod cyfyngedig o leiaf, gan y gallai fod yn anoddach i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni gael mynediad at y data hwn. Roedd hyn yn cynnwys 67% o gwmn誰au rheoli gwastraff.

Roedd 37% or ymatebwyr yn anghytuno 但 hyn, gan ddweud y dylent orfod defnyddio data manwl gywir, fel mathau eraill o gynhyrchwyr. Roedd llawer or rhai a anghytunodd yn gynhyrchwyr (81%) a oedd yn dadlau y dylent fod yn ddarostyngedig ir un gofynion data 但 mathau eraill o gynhyrchwyr. Teimlwyd hefyd y dylai marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni eisoes fod 但 mynediad hawdd i ddata manwl gywir.

Cwestiwn 59: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni o ganlyniad i gael eu diffinio fel cynhyrchwyr?

Nododd y rhan fwyaf or ymatebwyr y byddai costau ychwanegol yn debyg i gostau cynhyrchwyr newydd syn gosod cyfarpar trydanol ac electronig ar y farchnad. Dywedwyd na fyddain rhaid iddynt gydymffurfio 但 rhannau or rheoliadau megis sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei farcio 但r symbol bin ar olwynion wedii groesi allan.

Cwestiwn 61: Pa ffyrdd eraill, os o gwbl, y dylair llywodraeth eu hystyried i fynd ir afael 但r broblem o werthwyr ar-lein nad ydynt yn cydymffurfio 但r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff?

Awgrymodd y rhai a ymatebodd fod angen mwy o gamau gorfodi i fynd ir afael 但 diffyg cydymffurfio ymhlith gwerthwyr ar-lein, gan gynnwys mwy o ddefnydd o sancsiynau sifil.

Pennod 4: Creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer f棚ps

Roedd y rhan hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer f棚ps. Byddai hyn yn sicrhau y byddai costau casglu a thrin f棚ps yn disgyn yn deg ar ysgwyddaur rhai syn eu cynhyrchu.

Cwestiwn 65: A oes unrhyw fesurau eraill, y tu hwnt ir rhai ar gyfer eco-fodiwleiddio a thaflu sbwriel a nodir yn yr alwad am dystiolaeth, yn eich barn chi, y dylair llywodraeth eu cymryd i leihau effaith f棚ps ar yr amgylchedd?

Roedd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys cynhyrchwyr, cyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy , cwmn誰au rheoli gwastraff ac awdurdodau lleol o blaid gwaharddiad ar f棚ps untro. Nodwyd hefyd fod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ynghylch sut i gael gwared ar eu f棚ps gwastraff yn briodol, yn ogystal 但 mwy o gamau gorfodi i atal defnyddwyr rhag taflu sbwriel.

Pennod 5: Llywodraethur cynllun

Roedd yr adran hon or ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu gweinyddwr cynllun newydd.

Cwestiwn 68: Os gwnaethoch anghytuno 但 chwestiwn 66, nodwch fanylion dull gweithredu amgen ar gyfer swyddogaethau arfaethedig Gweinyddwr y Cynllun.

Awgrymodd lleiafrif or ymatebwyr y dylai Gweinyddwr y Cynllun fod yn gorff cyhoeddus, yn gweithredu er budd y cyhoedd a thrwy seilwaith cynghorau lleol, gyda rhywfaint o gyfranogiad gan gynhyrchwyr.

Ni chynigiodd llawer or ymatebwyr ddewis amgen yn lle Gweinyddwr Cynllun, ond yn hytrach, pwysleisiwyd y dylair Cynllun fod yn atebol ir llywodraeth a bod angen set glir o ddangosyddion perfformiad, y bydd yn cael ei werthuso yn eu herbyn.