Consultation outcome

Government response to consultation and summary of public responses (Welsh, accessible)

Updated 2 October 2023

Ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd ir afael 但 defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau

Ymateb y llywodraeth

Cyhoeddwyd: 30 Awst 2023

Crynodeb gweithredol

1. Ar 18 Ebrill 2023, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd ir afael 但 defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Mehefin 2023. Maer adroddiad hwn yn crynhoi barn yr ymatebwyr am y cynigion, ymateb y llywodraeth ar camau nesaf.

2. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am newidiadau arfaethedig ir gyfraith ar gyllyll, gan gynnwys cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am y cynigion canlynol:

i. Cynnig 1: Cyflwyno gwaharddiad wedii dargedu at fathau arbennig o gyllyll twca a chyllyll mawr syn ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol heb unrhyw bwrpas ymarferol.

ii. Cynnig 2: A ddylid rhoi pwerau ychwanegol ir heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn o hyd arbennig sydd ym meddiant pobl yn gyfreithlon os ywr heddlun eu canfod yn gyfreithlon ar eiddo preifat ac mae ganddynt le rhesymol i amau bod yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trosedd.

iii. Cynnig 3: A oes angen cynyddur uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd (a141 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac a1 Deddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959) ar drosedd o werthu eitemau llafn i rai dan 18 oed (a141A Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) i ddwy flynedd, i adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn.

iv. Cynnig 4: A ddylair System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol wedi eu gwahardd.

v. Cynnig 5: A oes angen trosedd ar wah但n o fod ym meddiant eitemau llafn gydar bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch nar trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol o dan a1 PCA 1953.

3. Datblygwyd y cynigion hyn i fynd ir afael 但 defnyddio cyllyll twca mewn troseddaun dilyn pryderon gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) bod y broblem ar gynnydd ar y strydoedd. Wrth drafod 但r heddlu, ni leisiwyd pryder penodol am gleddyfau, ac mewn trafodaeth 但r NPCC, fe wnaethom gytuno ar gyfer yr ymgynghoriad hwn i ganolbwyntio ar gyllyll sombi a chyllyll twca. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu hyn pe bai angen gweithredol i ni ehangur gwaharddiad i gynnwys cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

4. Roedd yr ymgynghoriad ar agor ir cyhoedd. Ysgrifennwyd at dros 150 o randdeiliaid yn uniongyrchol i wahodd eu mewnbwn, gan godi ymwybyddiaeth or ymgynghoriad drwyr cyfryngau, y Senedd ac amrywiol grwpiau rhanddeiliaid. Cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad, mi fuom yn siarad 但 phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol a busnesau a sefydliadau y byddair cynigion yn effeithion uniongyrchol arnynt. Gwrandawyd yn fanwl ar farn pobl y mae troseddau cyllyll au heffaith ddychrynllyd wedi effeithion uniongyrchol arnynt.Roedd hyn er mwyn gallu ystyried ystod eang o farn ar gyfer datblygu polisi.

5. Maer cynigion yn ymwneud 但 materion datganoledig, sydd ond yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Byddai unrhyw gynigion deddfwriaeth a ystyrir i fod yn angenrheidiol yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ond byddwn yn gweithion agos 但r gwledydd datganoledig ar sut y gallai cynigion penodol fod yn berthnasol neu effeithio ar yr Alban a Gogledd Iwerddon.

6. Derbyniwyd cyfanswm o 2,544 ymateb ir ymgynghoriad. Nid oedd pawb wedi ateb pob cwestiwn; felly maer ffiguraun seiliedig ar yr atebion a dderbyniwyd i bob cwestiwn drwyr arolwg ar-lein ac e-bost. Maer ymatebion i gyd wedi eu dadansoddi au hystyried yn llawn wrth baratoir ymateb hwn gan y llywodraeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymrodd amser i ymateb.

7. Gallai pobl ymateb ir ymgynghoriad naill ai drwy arolwg ar-lein ar gov.uk neu drwy e-bostio blwch post yr ymgynghoriad yn machetes-knives- consultation@homeoffice.gov.uk. Derbyniwyd y mwyafrif llethol or ymatebion ar-lein ond roedd rhai aelodau or cyhoedd, heddluoedd a rhai syn gweithio yn y diwydiant wedi ymateb drwy e-bost.

8. Dadansoddwyd nifer yr ymatebion a dderbyniwyd drwy bob cyfrwng fel a ganlyn:

  • Arolwg ar-lein: 2,393 (94%)

  • E-bost: 151 (6%)

9. Or 2,544 ymateb a dderbyniwyd, cyflwynwyd tua 42 ar ran sefydliadau gydar gweddill wedi dod gan aelodaur cyhoedd, gan gynnwys ymarferwyr yn ymateb fel unigolion.

10. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys busnesau, elusennau, sefydliadaun gweithio gyda phlant mewn perygl, anturiaethwyr awyr agored, casglwyr, cymdeithasau garddio, amgueddfeydd ac asiantaethau gorfodaeth.

11. Maer llywodraeth wedi dadansoddir ymatebion i gyd, a grynhoir yn y ddogfen hon. Roedd y rhan fwyaf or ymatebion o blaid y cynigion. Fodd bynnag, roedd nifer wedi codi pryderon ynghylch cynigion 1 a 2 a byddwn yn trafod y rhain yn fanwl nes ymlaen yn y ddogfen.

12. Cododd nifer o them但u allweddol, gan gynnwys:

i. Pryderon y byddai gwahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twcan cael effaith negyddol ar angen cyfreithlon pobl i fod ym meddiant a defnyddio cyllyll. Roedd y rhai a oedd yn erbyn y gwaharddiad yn credu y dylai deddfwriaeth a chamaur llywodraeth ganolbwyntio ar dargedu troseddwyr yn lle cyflwyno mesurau a fyddain effeithio ar bawb ac a allai amharu ar ddefnydd cyfreithlon.

ii. Cynigiodd rair farn na ddylai unrhyw gyfyngiadau ar gyllyll twca amharu ar weithgareddau cyfreithlon rhai sydd eisiau defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith ond y byddent o blaid gwaharddiad pe bair ddeddfwriaeth yn canolbwyntion glir dim ond ar gyllyll twca syn ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac nid fel offer amaethyddol neu offer iw defnyddio yn yr awyr agored.

iii. Lleisiodd rai, gan gynnwys casglwyr a grwpiau ail-greu golygfa, bryderon y byddai eitemau o ddiddordeb hanesyddol yn cael eu gwahardd fel canlyniad anfwriadol i wahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr, gan awgrymu y dylair ddeddfwriaeth gynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys neu ddiddordeb hanesyddol. Awgrymodd rai hefyd y dylid eithrio eitemau wedi eu saern誰on draddodiadol 但 llaw, tebyg ir amddiffyniad presennol ar gyfer cleddyfau gyda llafnau crwm neu ar dro.

iv. Pryderon y gallai p典er yr heddlu i atafaelu eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat arwain at ir heddlu gymryd meddiant ar hap o eiddo preifat gan ddinasyddion syn ufudd ir gyfraith.

v. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr syn gweithio gyda phobl ifanc, y gallai cynigion 3-5 effeithion negyddol ar bobl ifanc sydd efallain cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i garior eitem.

13. Trafodwn y them但u hyn yn fwy manwl yn yr adrannau canlynol syn ystyried yr ymatebion i bob un or cynigion yn ymgynghoriad y llywodraeth.

14. Maer llywodraeth yn ddiolchgar am bob ymateb ac wedi ystyried pob barn, safbwynt a thystiolaeth yn ofalus. Maer ymatebion wedi goleuor mesurau arfaethedig a bydd y llywodraeth yn mynd ati i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer y cynigion canlynol pan fydd amser seneddol yn caniat叩u.

i. Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll syn ymddangos i fod wedi cael eu dylunio nid fel offer gwaith ond i edrych yn fygythiol ac addas ir pwrpas o ymladd.

ii. P典er newydd ir heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os ywr heddlu yn yr eiddon gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trosedd.

iii. Cynyddur uchafswm cosb am y trosedd o fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i ddwy flynedd.

iv. Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gydar bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

15. Hefyd, bydd y llywodraeth yn gofyn ir Cyngor Dedfrydu ystyried diwygior Canllawiau Dedfrydu ar fod ym meddiant eitemau llafn ac arfau ymosodol fel y byddai bod ym meddiant arf wedii wahardd yn cael ei drin yn fwy difrifol na bod ym meddiant arf heb fod wedii wahardd.

16. Byddwn yn parhau i drafod 但 phartneriaid allweddol wrth i ni ddatblygu a gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaeth.

Ymatebion ir Ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chin cytuno y dylair llywodraeth gymryd camau pellach i fynd ir afael 但 throseddau cyllyll, ac yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill mewn troseddau?

1. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or ymatebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

2. Or 2,388 a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 53% yn cytuno y dylair llywodraeth gymryd camau pellach i fynd ir afael 但 throseddau cyllyll, yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill. Roedd y 47% arall yn anghytuno bod angen cymryd camau pellach.

3. Or rhai a atebodd Nac ydw ir cwestiwn, eu prif bryderon oedd na fyddai newid y gyfraith yn cael fawr ddim effaith ar droseddau cyllyll neu y byddai gwneud mwy i geisio datrys troseddau cyllyll yn cael effaith niweidiol ar rai sydd angen defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

Cynnig 1 - Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll syn awgrymu nad oes unrhyw ddefnydd ymarferol iddynt ac syn ymddangos i fod wedi cael eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas ir pwrpas o ymladd.

Cwestiwn 2: Ydych chin cytuno 但r cynnig?

4. Fe wnaethom holi barn am ychwanegu rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca at y rhestr o arfau sydd wedi eu gwahardd o dan a141 CJA 1988. Gofynnwyd ir ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

5. Roedd cyfanswm o 2,443 o atebion ir cwestiwn hwn.

6. Or rhai a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 893 (37%) yn cytuno 但r cynnig i wahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca syn ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas ar gyfer ymladd, gyda 1,550 (63%) yn nodi nad oeddent yn cytuno ar cynnig.

7. Y rheswm mwyaf cyffredin dros beidio 但 bod o blaid y cynnig oedd y byddain effeithio ar bobl oedd angen defnyddio cyllyll a chyllyll twcan gyfreithlon at ddibenion gwaith a hamdden. Roedd rhain poeni na fyddent yn gallu defnyddio cyllyll twca mewn amgylcheddau gwledig lle na fyddain ymarferol nan ddymunol defnyddio offeryn p典er arall yn eu lle. Roedd eraill yn poeni y byddair gwaharddiad yn effeithio ar anturiaethwyr awyr agored wrth wneud gweithgareddau ller oedd angen arf twca i glirio clwt o dir ar gyfer gwersylla, ayyb.

8. Roedd ymatebwyr hefyd yn ansicr pa mor effeithiol fyddair newid hwn i wellar broblem o droseddau cyllyll gan fynegi barn y dylair llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion ar rai syn defnyddio cyllyll fel arfau, yn lle ar fesurau fydd yn effeithio ar y boblogaeth ehangach.

9. Roedd nifer helaeth o ymatebwyr hefyd yn dadlau y byddai ychwanegur math yma o gyllyll at y rhestr o arfau ymosodol yn agored i ddehongliad; roeddent fellyn pwysleision gryf bod angen bod yn glir ar y diffiniadau ar disgrifiadau or math o gyllyll a chyllyll twca y maer llywodraeth yn bwriadu eu gwahardd.

10. Roedd sylwadau gan rai a atebodd ydw ir cwestiwn yn cynnwys y farn nad oes dim angen neu fawr ddim angen i bobl fod yn berchen ar y cyllyll a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad. Roedd eraill or farn bod modd dod o hyd i, a defnyddio, cyllyll eraill.

Cwestiwn 3: Gan edrych ar y nodweddion cyffredin syn perthyn ir cyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, ydych chin cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at:

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

d) Unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol.

11. Holwyd barn pobl am y tair nodwedd a ddisgrifir uchod yn rhannau a), b) ac c) y cwestiwn hwn. Maer nodweddion hyn, syn gyffredin mewn cyllyll sombi, yn ymddangos i fod yn ddeniadol i rai sydd eisiau defnyddio arf twca fel arf ymosodol yn lle offeryn gwaith nifer o ymylon torri syn cyfuno ymylon llyfn a danheddog, tyllau a siapiau syn debycach i gyllell ffantasi na chyllell waith. Roedd rhai syn gweithio yn y diwydiant yn dadlau bod y nodweddion hyn yn eu gwneud yn anaddas ir amrywiol ddibenion ymarferol a chyfreithlon y dyluniwyd cyllyll twca ar eu cyfer.

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

12. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

13. Roedd cyfanswm o 2,386 o atebion ir cwestiwn hwn.

14. Or rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd y rhan fwyaf (68%) yn meddwl y dylai disgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog. Roedd y 32% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys ymylon torri llyfn a danheddog.

15. Roedd ymatebwyr a oedd yn erbyn cynnwys y nodwedd yma yn y disgrifiad or cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn dadlau bod angen ymylon llyfn a danheddog yn y rhan fwyaf o gyllyll a chyllyll twca awyr agored a bod y ddwy fath o ymyl yn cael eu cynnwys am reswm da, er enghraifft i dorri canghennau neu weiren. Ar y llaw arall, dadleuair rhai o blaid fod angen i unrhyw ddiffiniad cyfreithiol fod mor benodol 但 phosib.

16. Roedd nifer fach o atebion ar-lein (125) a atebodd ydw neu nac ydw ir cwestiwn hwn yn ymddangos i fod wedi dehongli bod y cwestiwn yn gofyn a ddylai fod gan lafn ymyl lefn neu ddanheddog.

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

17. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

18. Roedd cyfanswm o 2,330 o atebion ir cwestiwn hwn.

19. Or rhai a atebodd ar-lein ir cwestiwn hwn, meddyliai 70% na ddylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem fel bod 但 mwy nag un twll. Roedd y 30% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys nifer o dyllau.

20. Roedd y rhai nad oedd yn teimlo y dylai disgrifiad gynnwys nodwedd gyda mwy nag un twll yn dadlau y byddain effeithio ar ddefnyddio cyllyll yn gyfreithlon. Roedd enghreifftiau o ddefnydd cyfreithlon yn cynnwys tyllau yn y llafn i leihau pwysaur gyllell, iw gwneud yn haws iw chario. Dywedodd lawer hefyd nad oeddent yn meddwl bod ffocws ar nifer y tyllaun effeithiol i ddatrys y broblem o droseddau cyllyll.

21. Dadleuai rai syn gweithio yn y diwydiant mai mwyan byd o dyllau sydd yn y llafn, y lleiaf effeithiol yw fel offeryn gwaith ar lleiaf tebygol y byddai gan arf twca a ddyluniwyd fel offeryn gwaith nifer o dyllau. Roedd tua 5% or rhai a atebodd ydw a 21% or rhai a atebodd nac ydw ir cwestiwn hwn yn ymddangos i naill ai rannur farn yma neun ansicr pa wahaniaeth yr oedd nifer benodol o dyllaun ei wneud i lafn ac fellyn ansicr pam y dylid ei gynnwys fel nodwedd.

22. Dywedodd rai bod angen bod yn glir ynghylch ble y byddair tyllau yn y gyllell, a fyddain cynnwys tyllau yn y carn a / neu yn y llafn.

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

23. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

24. Roedd cyfanswm o 2,353 o atebion ir cwestiwn hwn.

25. Or rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd 73% yn cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at fod yr eitem o hyd arbennig.

26. Un pryder a leisiwyd gan 27% or rhai a atebodd na ir cwestiwn hwn oedd y byddain effeithion andwyol ar rai sydd 但 rheswm cyfreithlon dros ddefnyddior cyllyll hyn. Rheswm arall a roddodd 26% or rhai a atebodd na oedd y byddai cynnwys hyd yn y disgrifiad yn aneffeithiol i ddatrys troseddau cyllyll.

27. Roedd y rhai nad oedd yn cytuno ar gynnwys hyd fel nodwedd yn y disgrifiad yn dadlau mai hiran byd oedd y gyllell, yr anoddaf y byddai iw chuddio; fellyr lleiaf tebygol y byddair eitem yn cael ei defnyddio mewn troseddau. Roedd eraill yn erbyn ffocws ar hyd am reswm hollol wahanol: roeddent yn meddwl y gellid defnyddio eitemau o unrhyw hyd mewn troseddau ac, felly, y dylair llywodraeth fynd yn bellach ac ystyried cyfyngu ar eitemau o unrhyw hyd.

d) A oes unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol?

28. Roeddem eisiau rhoi cyfle ir ymatebwyr rannu unrhyw nodweddion eraill y teimlent oedd angen eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol. Roedd hwn yn gwestiwn testun rhydd.

29. Roedd cyfanswm o 1,394 o atebion ir cwestiwn hwn.

30. Or rhai a atebodd y cwestiwn, awgrymodd 127 nodwedd arall, gyda 127 o atebion pellach yn gwneud awgrymiadau ar y polisi. Ni ystyriwyd bod atebion eraill a gafwyd yn cynnig nodwedd wahanol y gallair llywodraeth ystyried ei chynnwys mewn unrhyw ddisgrifiad.

31. Roedd y nodweddion eraill a awgrymwyd yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: lliwr llafn, pigau ar y carn, ongl neu si但p y llafn, pwysaur llafn, deunydd y llafn a llafn wedii wneud i edrych fel rhywbeth arall.

Cwestiwn 4: Gan edrych ar hyd y mathau o gyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, gwahoddwn farn am beth ddylair lleiafswm hyd fod:

a) 8 (20.32cm)

b) 9 (22.86cm)

c) 10 (25.4 cm)

d) Unrhyw hyd arall?

32. Roedd hwn yn gwestiwn amlddewis a gallair ymatebwyr ddewis un opsiwn.

Roedd cyfanswm o 1,847 o atebion ir cwestiwn hwn.

33. Or rhai a atebodd:

  • dewisodd 22% opsiwn a;

  • dewisodd 1% opsiwn b;

  • dewisodd 5% opsiwn c; a

  • dewisodd 72% opsiwn d.

34. Or rhai a ddewisodd opsiwn d, dywedodd 23% na ddylid cael lleiafswm hyd ac felly na ddylair llywodraeth nodi hyd fel nodwedd yn y disgrifiad.

35. Gwnaed cyfanswm o 129 o awgrymiadau ar gyfer hyd arall. Roedd y rhain yn amrywio o gyn fyrred 但 1cm i 2,000 modfedd. Gwnaed nifer fach o awgrymiadau rhwng 2 a 5 modfedd ac felly hefyd rhwng 12 a 24 modfedd.

Cwestiwn 5: Hoffem ddeall a oes angen, a beth ywr angen presennol yn y DU am gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr.

36. Nid ywr llywodraeth yn ystyried gwahardd cyllyll twca gyda defnyddiau cyfreithlon fel amaethyddiaeth ayyb. Roeddem fellyn ceisio deall beth yr ystod lawn o ddefnyddiau cyfreithlon.

37. Roedd cyfanswm o 2,104 o atebion ir cwestiwn hwn.

38. Yn fyr, tynnwyd sylw at y defnyddiau cyfreithlon canlynol: amaeth, coedwigaeth, gwersylla, crefft y gwyllt, garddio, pysgota, deifio, saethu a chadwraeth, clirio afonydd ayyb a chasglu cyllyll o ddiddordeb arbennig neu gyllyll hynafol.

Ymateb y llywodraeth

39. Safiad y llywodraeth ar hyn yw bod angen gwneud mwy i ddatrys y defnydd o gyllyll twca a chyllyll sombi mewn troseddau. Ar 担l ystyried yr atebion yn fanwl, bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno gwaharddiad ar rai mathau o gyllyll mawr syn ymddangos i fod yn apelio at rai sydd eisiau eu defnyddio fel arfau ymosodol er enghraifft cyllyll sombi neu fathau penodol o gyllyll twca.

40. Nodar llywodraeth fod rhai wedi dadlau y dylai unrhyw ddiffiniad fod yn eang ac nid yn rhy benodol. Fodd bynnag, rhaid i ni roi eglurder i asiantaethau gorfodaeth, gwerthwyr, mewnforwyr a pherchnogion yn gyffredinol iw helpu i asesu a yw eitem sydd eisoes yn eu meddiant, yn ystyried cael yn eu meddiant, neu ei gweithgynhyrchu a gwerthu, yn gyfreithlon neu wedii gwahardd. Hefyd, ni all unrhyw ddiffiniad cyfreithlon fod mor eang fel bon cynnwys eitemau llafn sydd y tu allan i sg担p y gwaharddiad hwn.

41. Maer llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried disgrifiad or eitemau y dymunwn eu gwahardd. Ar 担l cael adborth gan ymatebwyr, rydym yn edrych ar y nodweddion canlynol:

  • Ymylon torri llyfn a danheddog

  • Blaen pigog miniog

  • Hyd y llafn

  • Tyllau yn y llafn

  • Nodweddion eraill pigau, ymwthiadau, bachau

42. Ymyl dorri lefn / ddanheddog: Roedd llawer yn poeni y byddair disgrifiad or cyllyll twca ar cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn cynnwys ymyl ddanheddog. Roeddent yn poeni y gallai cyllyll ag un ymyl ddanheddog, fel cyllyll bara a rhai cyllyll caws, gael eu gwahardd. Ein meddwl ar hyn o bryd yw er mwyn i eitemau llafn gael eu gwahardd o dan ein cynigion, byddain rhaid iddynt fod ag ymyl lefn a danheddog, yn ogystal 但 rhai or nodweddion eraill yn y disgrifiad.

43. Mwy nag un twll: Yn 担l yr arbenigwyr diwydiant a ymatebodd, mae un twll yn aml yn nodwedd o gyllyll awyr agored a rhai mathau o gyllyll twca, a bod y twll yno er mwyn gallu hongian y gyllell. Rydym felly wedi cynnwys mwy nag un twll yn y disgrifiad gydar bwriad o osgoi cynnwys cyllyll a chyllyll twca a ddefnyddir yn gyffredin, ac a ddyluniwyd, fel offer gwaith.

44. Hyd: Roedd y rhan fwyaf a atebodd y cwestiwn hwn yn dadlau y gallai cyllyll o unrhyw hyd fod yn beryglus ou defnyddio fel arfau ymosodol ac na ddylai hyd fod yn berthnasol ir disgrifiad o gyllyll twca a chyllyll y dymunwn eu gwahardd, oherwydd byddai nodi unrhyw hyd yn cyfyngu ar effaith y ddeddfwriaeth ac ar bweraur heddlu i atafaelur eitemau.

45. Credwn fod angen i ni nodi isafswm hyd ar gyfer eitemau iw hatafaelu o dan y gwaharddiad er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol, fel gwahardd cyllyll gwaith sydd eu hangen ar gyfer tasgau pob dydd. Ein bwriad yw nodir hyd hwn fel 8 modfedd oherwydd dymar hyd byrraf ar ail opsiwn a ffafrir fwyaf gan yr ymatebwyr.

46. Nodweddion eraill: Rydym wedi ystyried yr awgrymiadau a wnaed ar gyfer nodweddion ychwanegol, fel lliw, deunydd a phwysau. Awgrymodd rai y dylid cynnwys geiriau a delweddau syn ysgogi trais. Fodd bynnag, credwn fod y nodweddion y cynigiwn iddynt fod yn y disgrifiad yn taror cydbwysedd iawn rhwng cynnwys ystod ehangach o ddyluniadau ond heb fod yn rhy benodol, ac ar yr un pryd yn rhoi eglurder i werthwyr, perchnogion, prynwyr, asiantaethau gorfodaeth ar llysoedd ar adnabod yn ddigamsyniol a yw eitem wedii gwahardd neu beidio.

47. Maer llywodraeth hefyd yn ystyried a ddylid cynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys hanesyddol.

48. Isod rhoddwn enghreifftiau or mathau o gyllyll yr ystyriwn eu cynnwys o fewn sg担p y gwaharddiad.

Cyllell dwca sombi 20 / 50cm.

Cyllell dwca anialwch 17.3 / 44cm.

Cyllell hela ffantasi 15 / 38cm.

Cyllell ffantasi 10.5 / 26.5cm.

Cyllell dwca-kukri hybrid 9.5 / 24.13cm.

Cyllell Rambo 9 / 22.86 cm.

Cyllell dwca Cytlas 18 / 45.72cm.

49. Isod rhoddir enghreifftiau or math o lafnau na fwriadwn eu cynnwys yn sg担p y gwaharddiad. Soniwyd am y llafnau hyn gan rai a oedd yn poeni y gallair gwaharddiad gynnwys yr offer gwaith cyfreithlon hyn.

Cyllyll twca gyda blaenau aflem yn bennaf.

Bilygau a phladuron gydag un ymyl dorri

Llifau llaw a chyllyll gydag un math o ymyl dorri llyfn neu ddanheddog

Maguro Bocho (cyllell diwna)

Llifau a chyllyll dwy handlen, hyd yn oed os oes ganddynt ddau fath o ymyl dorri neu dyllau yn y llafn

50. Maer llywodraeth yn ffyddiog y bydd y manylebau hyn yn gadael ir rhan fwyaf o bobl syn defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith am resymau cyfreithlon barhau i wneud hynny, ac y bydd rhai syn defnyddio cyllyll syn cael eu cynnwys yn y gwaharddiad am resymau cyfreithlon yn gallu dod o hyd i opsiynau eraill syn addas.

51. Byddwn yn parhau i adolygur rhestr o arfau ymosodol a waherddir, gan gynnwys a oes angen gweithredol i ni ehangur gwaharddiad yn y dyfodol i gynnwys rhai cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

Cynnig 2 Y p典er i atafaelu a chadw / dinistrio rhai mathau o eitemau llafn a gedwir ar eiddo preifat os ywr heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon a gyda lle rhesymol i amau y gallent gael eu defnyddio mewn troseddau difrifol.

Cwestiwn 6: Ydych chin cytuno bod y p典er newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur?

52. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

53. Roedd cyfanswm o 2,379 o atebion ir cwestiwn hwn.

54. Or atebion a gawsom ir cwestiwn hwn, roedd 58% yn anghytuno 但r cynnig a 42% yn cytuno bod y p典er newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur.

55. Y prif bryderon a leisiwyd oedd y gallair p典er fod yn agored i ddehongliad ac y gallair heddlu ei ddefnyddion fympwyol neun anghywir, ar posibilrwydd y gallai effeithio ar bobl syn defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

56. Roedd atebion eraill o blaid p典er a allai helpu i atal troseddau yn y dyfodol a gwarchod dioddefwyr trais neu droseddu yn y dyfodol. Nodwyd hefyd y gallair p典er fod yn ddefnyddiol iawn mewn sefyllfaoedd cam-drin domestig lle y mae risg sylweddol ond, ar hyn o bryd, dim pwerau i atafaelu arfau.

57. Roedd yr atebion hefyd yn awgrymu bod angen cael hawl i unioni cam i herio penderfyniad yr heddlu (gwnaed sylwadau pellach ar y pwynt hwn wrth ateb C8).

Cwestiwn 7: Gwahoddwn farn ynghylch a ddylair pwerau gynnwys unrhyw gyllell ar eiddo preifat neu ddim ond cyllyll o hyd arbennig.

a) Unrhyw gyllell ar eiddo preifat

b) Cyllyll o hyd arbennig

58. Roedd hwn yn gwestiwn aml-ddewis a gallair ymatebwyr ddewis un opsiwn. Derbyniwyd cyfanswm o 1,548 o ymateb ir cwestiwn hwn, gyda 996 yn dewis peidio ag ateb y cwestiwn.

  • dewisodd 32% opsiwn a;

  • dewisodd 29% opsiwn b; a

  • ni ddewisodd 39% unrhyw opsiwn.

59. Roedd rhai ymatebwyr, gan gynnwys rhai a ddewisodd opsiwn a neu b, yn meddwl y dylid cael trydydd opsiwn i gynnwys y farn nad oedd yr ymatebwr yn cytuno gydar un or ddau opsiwn ac na ddylair cynnig gynnwys unrhyw gyllell.

60. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn a wedi gwneud sylwadau y byddai defnyddior p典er i atafaelu unrhyw gyllell yn cynnwys unrhyw gyllell y gellid ei defnyddio mewn trosedd gan osgoi unrhyw fannau gwan o ran hyd y gyllell.

61. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn b wedi gwneud sylwadau pe bair p典er yn cael ei ddefnyddio i atafaelu pob cyllell, y byddain cynnwys cyllyll cegin.

Cwestiwn 8: Gwahoddwn farn gan ymatebwyr ynghylch a ddylid cael hawl i apelio ir llysoedd er mwyn adennill eitem a atafaelwyd neu a ddylair hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlun unig.

62. Gofynnwyd am farn pobl ynghylch a ddylid cael hawl i apelio ir llysoedd neu hawl i unioni cam er mwyn adennill eitem a atafaelwyd gan yr heddlu.

63. Roedd cyfanswm o 1,933 wedi ateb y cwestiwn hwn. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd cytundeb y dylid cael hawl i apelio. Yr ail ymateb mwyaf cyffredin oedd gan rai a gytunodd y dylai fod gan bobl hawl i apelio, ond nid oeddent yn glir beth a fyddair opsiwn gorau ganddynt o wneud hyn. Dywedodd 107 or ymatebwyr yn gwbl glir eu bod yn meddwl y dylair hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlun unig.

64. Lleisiwyd pryderon a oedd gan y llysoedd gapasiti i ddelio ag apeliadau or fath.

Ymateb y llywodraeth

65. Maer llywodraeth eisiau sicrhau bod gan yr heddlur pwerau angenrheidiol i dorri lawr ar droseddau cyllyll. Fodd bynnag, fel y gwelwn o astudiaethau achos 1-3 yn y ddogfen ymgynghori, ar hyn o bryd os ywr heddlun dod o hyd i gyllell dwca neu eitem gyfreithlon arall gyda llafn yng nghartref rhywun a gyda lle rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trais neu drosedd difrifol, nid oes ganddynt unrhyw bwerau os na chredir fod yr eitem yn dystiolaeth mewn ymchwiliad troseddol.

66. Bydd y llywodraeth fellyn cynnig cyflwyno pwerau newydd ir heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os ywr heddlu yn yr eiddon gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y bydd yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trais neu drosedd difrifol.

67. Maer llywodraeth yn glir y gellid ond defnyddior p典er hwn os ywr heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon ac y gellid ond atafaelu unrhyw eitem gyda llafn os oes gan yr heddlu le rhesymol i amau y gellid defnyddior eitem mewn trais neu drosedd difrifol. Byddair cyfrifoldeb yn llwyr ar yr heddlu i gyfiawnhau eu hamheuaeth bod yr eitem yn debygol o gael ei defnyddio mewn trosedd. Lleisiwyd nifer or pryderon gan ymatebwyr a oedd yn rhagdybio y byddair heddlun cael pwerau i fynd i mewn i eiddo i chwilio am eitemau llafn y gellid eu defnyddio mewn trosedd. Nid hynnyr ydym yn ei gynnig. Byddair heddlu ond yn gallu defnyddior p典er hwn os oeddent eisoes yn yr eiddon gyfreithlon, er enghraifft os oedd ganddynt eisoes b典er i fynd ir eiddo mewn cysylltiad 但 throsedd.

68. Maer llywodraeth yn cynnig y dylid ymdrin ag unrhyw wrthwynebiadau i atafaelu o dan y p典er hwn drwy broses gwynion fewnol yr heddlu gan yr heddlu perthnasol neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Os ywr achwynydd yn anghytuno 但 phenderfyniad yr heddlu neur IOPC, byddain bosib apelio i lys.

69. Byddwn yn parhau i ddatblygur cynnig hwn gan ystyried y pryderon a leisiwyd, ac yn deddfu pan fydd amser seneddol yn caniat叩u.

Cynnig 3 Cynyddur uchafswm cosb am y troseddau o werthu, ayyb, arfau ymosodol peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i 2 flynedd.

Cwestiwn 9: Ydych chin meddwl bod y troseddau o werthu cyllyll i rai dan 18 oed, a gwerthu arfau ymosodol wedi eu gwahardd, mor ddifrifol fel y dylair uchafswm cosb fod yn ddwy flynedd?

70. Fe wnaethom holi barn yr ymatebwyr am gynyddur uchafswm cosb am y trosedd o werthu cyllyll, a gwerthu arfau ymosodol peryglus wedi eu gwahardd, i bobl dan 18 oed, i 2 flynedd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

71. Roedd cyfanswm o 2,348 o atebion ir cwestiwn hwn.

72. Roedd y mwyafrif (59%) yn cytuno 但r cynnig hwn.

73. Roedd nifer o ymatebwyr a feddyliai nad oedd yr uchafswm cosb o ddwy flynedd yn ddigon ac y dylair uchafswm cosb fod yn fwy.

74. Dywedodd rai na ddylid cosbi rhai syn gwerthu cyllyll a gwneud y gwiriadau angenrheidiol os ywr person syn prynur gyllell yn defnyddio ID rhywun arall neu ID ffug.

75. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr syn gweithio gyda phobl ifanc, y gallair cynnig hwn effeithion negyddol ar bobl ifanc sydd efallain cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i garior eitem.

Ymateb y llywodraeth

76. Pwrpas y mesur hwn yw cynyddur uchafswm cosb am yr achosion mwyaf difrifol o werthu cyllyll i rai dan 18 oed. Ni fwriedir ir mesur hwn gael ei ddefnyddio i gyhuddo gwerthwyr a gymrodd bob cam rhesymol i gadarnhau oed y person, a heb unrhyw reswm i gredu bod yr unigolyn dan 18 oed. Maer gyfraith bresennol eisoes yn cynnwys amddiffyniad diwydrwydd dyladwy os ywr gwerthwr yn gallu dangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gadarnhau oed.

77. Bydd y mesur hefyd yn dod 但r trosedd o fewn cylch gwaith pwerau PACE, syn allweddol fel bor heddlun gallu ymchwilio i rai or troseddau mwyaf difrifol, er enghraifft rhai syn gwerthu cyllyll yn breifat i rai dan 18 oed, neu syn gwerthu arfau wedi eu gwahardd drwyr cyfryngau cymdeithasol neu apiau negeseua personol.

78. Nodwn y pryderon a leisiodd rai y gallai pobl ifanc fregus gael eu lled-orfodi i gario a chyflenwi cyllyll ac y gallair cynnig hwn effeithio arnynt yn negyddol. Fodd bynnag, bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried yr amgylchiadau a ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

79. Maer llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunanamddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, maen drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau or fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

80. Bydd y llywodraeth yn cynnig cynyddur uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol wedi eu gwahardd, ar trosedd o werthu eitemau llafn i ran dan 18 oed, i ddwy flynedd pan fydd amser seneddol yn caniat叩u.

Cynnig 4: A ddylair System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd.

Cwestiwn 10: A ddylair System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol pobl sydd ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd?

81. Gofynnwyd am farn ymatebwyr ynghylch a ddylid trin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllell wedii gwahardd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

82. Roedd cyfanswm o 2,333 o atebion ir cwestiwn hwn.

83. Roedd y mwyafrif (65%) yn cytuno 但r cynnig hwn, gyda sylwadau gan rain s担n am yr effaith hollol andwyol y mae troseddau cyllyll yn ei gael ar fywydau a chymunedau ac y bydd y newid hwn yn adlewyrchu difrifoldeb y trosedd yn well.

84. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr syn gweithio gyda phobl ifanc, y gallair cynnig hwn effeithion negyddol ar bobl ifanc sydd efallain cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i garior eitem.

Ymateb y llywodraeth

85. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Lleisiwyd pryderon tebyg am gynnig 3. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

86. Maer llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, maen drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau or fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

87. Bydd y llywodraeth yn gofyn ir Cyngor Dedfrydu ystyried diwygior canllawiau dedfrydu ar fod ym meddiant o eitemau llafn / arfau ymosodol i drin bod ym meddiant o arf wedii wahardd yn gyhoeddus yn fwy difrifol.

Cynnig 5 - Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gydar bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

Cwestiwn 11: Ydych chin cytuno 但r cynnig?

88. Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylair llywodraeth gyflwyno trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gydar bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un or atebion canlynol gan egluror rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

89. Roedd cyfanswm o 2,361 o atebion ir cwestiwn hwn.

90. Roedd y mwyafrif (64%) a atebodd y cwestiwn yn cytuno 但r cynnig hwn. Roedd rhai a oedd o blaid y cynnig hwn yn dadlau nad ywr gyfraith bresennol yn cydnabod pa mor ddifrifol yw cario cyllell gydar bwriad o godi ofn ai bod yn fwy tebygol y gallair sefyllfa waethygu gan arwain at niwed neu fygythiad i fywyd. Pwysleisiodd ymatebwyr fod angen gweithredu cyn ir digwyddiad o fygwth person arall ddigwydd.

91. Roedd rhain cytuno 但r cynnig ond gan rannur farn eu bod yn meddwl y byddain anodd profi bwriad i beryglu bywyd neu achosi ofn trais wrth gario eitem llafn.

92. Roedd rhai hefyd or farn bod y gyfraith bresennol eisoes yn darparu ar gyfer hyn; roedd y mwyafrif a wnaeth y sylwadau hyn wedi dewis nac ydw fel ateb ir cwestiwn hwn.

93. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr syn gweithio gyda phobl ifanc, y gallair cynnig hwn effeithion negyddol ar bobl ifanc sydd efallain cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i garior eitem.

Ymateb y llywodraeth

94. Bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno trosedd ar wah但n o fod ym meddiant eitemau llafn gydar bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch nar trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol, pan fydd amser seneddol yn caniat叩u.

95. Credwn fod bwlch yn y gyfraith ar gyllyll rhwng bod ym meddiant syml o gyllell, a bod ym meddiant a bygwth person arall. Maer cynnig hwn yn adlewyrchur gyfraith bresennol ar arfau tanio sydd wedii gweithredun effeithiol gan erlynwyr. Rydym yn disgwyl ir cynnig hwn helpur heddlu i fynd ir afael 但 thrais cyn ir niwed ddigwydd a lle y mae tystiolaeth, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol, o ymddygiad gwawdio neu fygythiol.

96. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol ac yn ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

97. Maer llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, maen drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau or fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

Busnes a Masnach

98. Roedd cwestiynau eraill yr ymgynghoriad yn casglu gwybodaeth gan y sector busnes a masnach yn ogystal 但 barn pobl am nodweddion a warchodir. Defnyddir yr atebion ir cwestiynau hyn i ddiweddarur asesiadau effaith perthnasol.

99. Maer llywodraeth wedi nodir pryderon a leisiwyd a bydd yn ystyried goblygiadau llawn y cynigion hyn mewn Asesiad or Effaith ar Gydraddoldeb. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gallair cynigion hyn effeithio mwy ar bobl gyda rhai nodweddion a warchodir nag eraill, ond ystyriwn fod modd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol yn foddhaol neu eu cyfiawnhaun wrthrychol fel ffordd gymesur o gyflawnir nod cyfreithlon o geisio datrys troseddu difrifol.

Methodoleg Ddadansoddir Ymgynghoriad

  • Roedd geiriad y cwestiynau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yr un fath ag yng nghwestiynaur ymgynghoriad llawn ar gov.uk.

  • Rydym wedi dadansoddir ymatebion a bun rhaid i ni hefyd lunio barn am ba ohebiaeth oedd yn cael ei chyfrin ymateb ffurfiol. Penderfynwyd peidio 但 chynnwys ymatebion anghyflawn / rhannol ir arolwg ar-lein ar y sail nad oedd yr ymatebwr wedi cyflwynor datan ffurfiol ac efallai heb fwriadu iw ymateb gael ei ddarllen.

  • Cafodd data or ymatebion ir cwestiynau meintiol (caeedig) (hynny yw, rhai a oedd yn gwahodd ymatebwyr i ddewis ateb) ei dynnu allan ai ddadansoddi. Cafodd pob ymateb ansoddol hefyd (hynny yw, ymatebion i gwestiynau agored neu os oedd ymatebwr wedi cyflwyno llythyr neu e-bost yn lle ateb cwestiynau penodol) hefyd eu logio au dadansoddi. Gwnaed hyn drwy godior ymatebion er mwyn adnabod them但u a oedd yn codin aml. Maer canfyddiadau wedi eu hadrodd yn y ddogfen hon.

  • Mae elfen o oddrychedd wrth godio atebion ansoddol ac mae hyn wedii leihau drwy weithredu mesurau sicrhau ansawdd ychwanegol.

  • Derbyniwyd nifer o ymatebion manwl ir ymgynghoriad oedd ddim yn cadw at y strwythur ffurfiol ar cwestiynau a ofynnwyd. Cafodd y rhain eu bwydo i ymateb y llywodraeth.

  • Maer canrannau i gyd wedi eu cyfrifo ir rhif cyfan agosaf.

  • Roedd gwahanol gwestiynau wedi derbyn nifer wahanol o ymatebion. Maer ffigurau fellyn seiliedig ar yr ymatebion ysgrifenedig i bob cwestiwn.

  • Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhai cwestiynau aml-ddewis a rhai testun rhydd. Rydym wedi cynnwys yr ymatebion mwyaf cyffredin ir cwestiynau testun rhydd.

  • Roedd llawer or ymatebion testun rhydd yn gwneud mwy nag un pwynt. Er enghraifft, roedd llawer or ymatebion testun rhydd yn nodi nifer o fanteision, neu nifer o broblemau. Gallair canrannau ar gyfer faint o ymatebion oedd yn mynegi pob barn felly adio i fwy na 100%.

Os oes gennych unrhyw g典yn neu sylw am broses yr ymgynghoriad, dylech gysylltu 但r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.