Response to the consultation on a Police Covenant for England and Wales (Welsh) (accessible version)
Updated 11 August 2021
Cyflwyniad
Cyfamod Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr - Ymateb ir ymgynghoriad
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref yng Nghynhadledd yr Uwch-arolygwyr ym mis Medi 2019 y byddai hin lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyfamod yr Heddlu, gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant, amddiffyniad corfforol a chefnogaeth i deuluoedd.
Ymrwymodd y Llywodraeth yn ei Maniffesto 2019 i gynnwys y Cyfamod yn y gyfraith.
Ar 26 Chwefror 2020 lansiwyd yr ymgynghoriad ar Gyfamod yr Heddlu i Gymru a Lloegr. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Ebrill. Oherwydd y pandemig Covid-19 derbyniwyd nifer fach o ymatebion ar 担l y dyddiad cau. O dan yr amgylchiadau ystyriwyd ei bod yn bwysig bod y rhain yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad. Derbyniwyd cyfanswm o 1113 o ymatebion ir holiadur. Cawsom ymatebion naratif hefyd gan nifer fach o grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
Nododd naw deg y cant or ymatebwyr eu bod yn cefnogir syniad o Gyfamod yr Heddlu.
Rydym hefyd yn cydnabod bod hon yn foment ganolog ar gyfer plismona ac rydym yn croesawur gydnabyddiaeth gan bartneriaid plismona bod cefnogi a gwarchod ein heddlu yn cynnwys creu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol, lle gall pobl o bob cefndir a diwylliant ffynnu. Maer Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio 但 phlismona i ehangu cynrychiolaeth a sicrhau nad yw amrywiaeth yn cael ei chynnwys yn unig ond ei bod yn cael ei hyrwyddon weithredol. Bydd hyn yn sicrhau y gall plismona barhau i ddenu a chadwr unigolion mwyaf talentog sydd ag ystod eang o sgiliau a phrofiad.
Dylid nodi bod y ddogfen ymgynghori yn pennu bod t但l a phensiynau y tu allan i gwmpas y cyfamod. Fodd bynnag, cyfeiriodd nifer sylweddol o ymatebwyr at y ddau yn eu hymatebion. Rydym wedi cynnwys rhai or sylwadau yn yr ymateb hwn i sicrhau ein bod yn adlewyrchun gywir bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, hyd yn oed pan ywr pynciau hynny y tu allan iw gwmpas.
Cyd-destun
Maer heddlun gwneud gwaith unigryw a rhyfeddol yn wyneb heriau a phwysau enfawr. Maer Llywodraeth wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Cyfamod yr Heddlu, sydd wedii ymgorffori yn y gyfraith, i gydnabod hyn a darparur amddiffyniad ar gefnogaeth y maent yn eu haeddu.
Y llynedd, amlygodd Adolygiad Rheng Flaen y Swyddfa Gartref (FLR) bryderon swyddogion a staff yr heddlu ar angen i wneud mwy iw helpu.
Nododd yr Adolygiad ystod eang o faterion, gan gynnwys:
- Swyddogion rheng flaen, staff a gwirfoddolwyr yn teimlo nad ydyn nhwn cael eu gwerthfawrogin ddigonol gan y system blismona ehangach;
- Datgysylltiad rhwng y rheng flaen ar rhai syn gwneud penderfyniadau uwch/cenedlaethol;
- Amheuaeth ynghylch mesurau llesiant, ac awydd i weld gweithredu ystyrlon ag effaith barhaol.
Amlygodd hyn yr angen am weithredu ar frys i sicrhau bod yr heddlun cael eu cefnogi au gwerthfawrogin llawn. Cyflwynwyd pecyn o fesurau ar unwaith mewn ymateb, ond maer Llywodraeth wedi parhau i chwilio am ddulliau i wneud mwy i wella llesiant yr heddlu a mynd ir afael 但r pryderon hyn.
Ym mis Medi 2019, comisiynodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu adolygiad brys o ddiogelwch swyddogion a staff ar ran yr holl Brif Gwnstabliaid. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar hyfforddiant diogelwch swyddogion, cyfarpar, adleoli a chynllunio gweithredol, ymchwiliadau i ymosodiadau ar swyddogion gan gynnwys y gofal a ddarperir ar 担l ymosodiad ar ymateb gan y system cyfiawnder troseddol, ac i ba raddau y maen darparu ataliad digonol.
Cyhoeddwyd canfyddiadaur adolygiad ar 2 Medi, 但 chyfanswm o 28 o argymhellion. Maer rhain yn canolbwyntio ar agweddau megis hyfforddiant diogelwch personol, cyfarpar amddiffynnol, llesiant, cefnogaeth rheolwr llinell a chanlyniadau cyfiawnder troseddol. Maen arbennig o bwysig ein bod, lle maen bosibl, yn edrych am gyfleoedd i symud ymlaen 但r argymhellion o dan gylch gwaith y Cyfamod ac yn defnyddior canfyddiadau i lywio ein datblygiad or gwaith hwn.
Ym mis Tachwedd 2019, lansiodd Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS) yr arolwg Llesiant a Chynhwysiant Cenedlaethol yr Heddlu cyntaf erioed. Nod yr arolwg oedd asesu cyflwr llesiant a chynhwysiant cyfredol ar draws pob un or 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr a sefydlu sut mae pobl yn teimlo yn y gwaith fel y gallair NPWS adeiladu darlun clir or hyn y mae angen cymryd camau pellach arno. Bydd canfyddiadaur arolwg hwn yn cael eu hystyried wrth i ni ddechrau gweithredur cyfamod.
Ym mis Ionawr 2020 cyhoeddwyd y Cyd-gytundeb ar Droseddau yn erbyn Gweithwyr Brys. Llofnodwyd y cytundeb gan Wasanaeth Erlyn y Goron, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, GIG Lloegr, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid T但n a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Maer cytundeb yn darparu ar gyfer fframwaith eang i sicrhau ymchwilio ac erlyn achosion yn fwy effeithiol lle mae gweithwyr brys yn dioddef trosedd, yn arbennig wrth weithredu darpariaethaur Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys (Troseddau) 2018 ac i nodir safonau y gall dioddefwyr y troseddau hyn eu disgwyl.
Gan adeiladu ar bob un or rhai uchod, cyflwyno Cyfamod yr Heddlu ywr cam nesaf i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr, ystyrlon a pharhaol ir rhai syn gweithio ym maes plismona. Mae cyfle i gyfuno rhywfaint o waith cyffrous sydd eisoes ar y gweill 但 phrosiectau sydd newydd eu nodi i wneud gwahaniaeth cynhwysfawr i fywydaur rhai syn gweithio neu sydd wedi gweithio o fewn y maes plismona.
Byddai Cyfamod yr Heddlu yn adeiladu ar waith syn bodoli eisoes i wella llesiant ac annog gwella cefnogaeth or fath. Mae ar wah但n i unrhyw benderfyniadau a phrosesau syn ymwneud 但 chyflogau ac amodau a darpariaethau pensiwn.
A oes cefnogaeth ir syniad o Gyfamod yr Heddlu?
I ba raddau ydych chin cytuno y byddain fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?

Cytunon gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytunon gryf
Wedii seilio ar 1,097 o ymatebwyr.
Roedd dros 90% or ymatebwyr naill ain cytuno neun cytunon gryf 但r syniad o Gyfamod yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedd cefnogaeth hefyd dros ddod 但 Lluoedd heblaw rhair Swyddfa Gartref o fewn cwmpas y Cyfamod. Yn ogystal, roedd ymateb clir gan yr ymatebwyr y dylair Cyfamod gwmpasu pawb syn gweithio o fewn y maes plismona mewn rhinweddau cyflogedig a gwirfoddol. Mae Cyfamod yr Heddlu yn ddatganiad cyhoeddus o gefnogaeth ir rhai syn gweithio ym maes plismona.
Pwy ymatebodd?
Roedd cyfran uchel or ymatebwyr yn swyddogion mewn swydd gydar grwpiau mwyaf nesaf yn staff yr heddlu ac yn swyddogion sydd wedi ymddeol. Derbyniwyd pump y cant or ymatebion gan aelodaur cyhoedd, yn ogystal 但 hynny roedd nifer fach o ymatebion gan weddwon yr heddlu, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) a theuluoedd yr heddlu.
Cefnogaeth ir Cyfamod fesul gr典p
I ba raddau ydych chin cytuno y byddain fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?
Cytunon gryf % | Cytuno % | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno % | Anghytuno % | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Swyddogion yr Heddlu [413] | 70.2 | 16.9 | 8.2 | 2.4 | 2.2 |
Staff yr Heddlu [220] | 67.7 | 26.4 | 4.1 | 0.9 | 0.9 |
Yr Heddlu Eraill* [43] | 74.4 | 20.9 | 4.7 | 0 | 0 |
Swyddogion/Staff yr Heddlu sydd wedi ymddeol [203] | 86.2 | 7.9 | 3.9 | 1 | 1 |
Y Cyhoedd [53] | 64.2 | 20.8 | 11.3 | 0 | 3.8 |
Teuluoedd yr Heddlu [27] | 92.6 | 0 | 7.4 | 0 | 0 |
Heb Ddatgan [120] | 64.2 | 23.3 | 7.5 | 1.7 | 3.3 |
*PCSOs [Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu] yn bennaf
DS: Mae dadansoddiadau canrannol ar gyfer gwirfoddolwyr a chyrff cynrychioliadol wediu cau allan oherwydd maint bach eu sampl. Allan or 14 gwirfoddolwr a ymatebodd ir cwestiwn i ba raddau ydych yn cytuno y byddain fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?, cytunodd 13 yn gryf a chytunodd un. Or pedwar corff cynrychioliadol a ymatebodd ir cwestiwn hwn, cytunodd y pedwar yn gryf.
Yn ogystal, derbyniwyd ymatebion naratif gan nifer o randdeiliaid plismona a chymdeithasau staff.
Pwy oedd yn cefnogi egwyddor y Cyfamod?
Daeth cefnogaeth i egwyddor y Cyfamod gan bob categori o ymatebwyr. Roedd y rhai a gytunodd yn gryf ag egwyddor y Cyfamod yn teimlo y dylai staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal 但 heddlu sydd wedi ymddeol, fod o fewn ei gwmpas. Mynegwyd pryder penodol ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn dilyn ymddeol, yn arbennig pan yw ymddeol ar sail afiechyd.
Roedd y mater ynghylch y ffaith bod swyddogion bob amser ar ddyletswydd yn thema a oedd yn codi dro ar 担l tro mewn ymatebion, a chodwyd cwestiynau ynghylch a yw hyn yn angenrheidiol mewn bywyd modern. Roedd awydd cryf i sicrhau bod effaith gronnol trawma meddyliol trwy gydol gyrfaoedd yn cael ei chydnabod.
Mae swyddogionyr heddlu yn ymrwymo i fod yn rhan o wasanaeth 24/7, ond mae gan y Llywodraeth r担l i fonitro, deall a lliniarur effeithiau.
Pwy nad oedd yn cefnogir Cyfamod?
Roedd cyfanswm o 35 or ymatebwyr (3%) yn anghytunon weithredol 但 chysyniad y Cyfamod ac roedd dros hanner y gr典p hwnnwn swyddogion mewn swydd. Y prif reswm a roddwyd oedd eu bod yn teimlo na fyddai unrhyw beth yn newid o ganlyniad ir Cyfamod. Nododd rhai nad oedd y Cyfamod drafft yn ddigon beiddgar. Awgrymodd nifer fach or gr典p hwn o ymatebwyr y dylai fod yn gymwys i swyddogion yr heddlu yn unig tra bod eraill am weld staff yr heddlun cael eu cynnwys cyn iddynt deimlo y gallent ei gefnogi.
A ddylid ei ymgorffori yn y gyfraith?
Roedd cefnogaeth i sylfaen ddeddfwriaethol ir Cyfamod ar y cyfan yn unol 但 chefnogaeth ir cyfamod. Mae rhai enghreifftiau o sylwadau yn cynnwys:
-
Mae deddfwriaeth yn gosod dyletswydd barhaus y tu hwnt i fynegiannau neu ddatganiadau egwyddor yn unig ac yn ymestyn y ddyletswydd i ystyried amddiffyn yr heddlu ir Weithrediaeth, y Deddfwrfa ar Farnwriaeth yn ogystal ag ar draws cymdeithas.
-
Gall y Cyfamod gynnig goruchwyliaeth o ddeddfwriaeth allweddol arall syn helpu i gadw teulur heddlu yn ddiogel megis polis誰au Iechyd a Diogelwch, Adnoddau Dynol. Yn y pen draw, maen creur gofynid i adolygu cynnydd a chydymffurfiaeth. Maen cynnig cyfle i herio safbwynt a gymerir pan fydd hyn yn briodol.
-
Dylair Cyfamod nodi ac ymgorffori r担l ceidwad o fewn y ddeddfwriaeth. Bydd y person hwnnwn dogfennu cynllun cenedlaethol a fydd yn cyflawni amcanion y Cyfamod, ac ar yr un pryd bydd yr unigolyn hwnnwn cael ei ddal yn atebol.
Or rhai a oedd yn teimlo na ddylid ei ymgorffori yn y gyfraith, roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys diffyg hyder y byddain gwneud unrhyw wahaniaeth mewn termau real. Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at y newidiadau a wnaed i gynlluniau pensiynaur heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan awgrymu nad oedd y newidiadau hyn yn arwydd o gefnogaeth ir heddlu.
Geiriad y Cyfamod
Roedd y gefnogaeth ir geiriad drafft yn llai eglur.
Drafft - Cyfamod yr Heddlu: Maer Cyfamod hwn yn cydnabod ac yn nodir aberthau a wneir gan y rhai syn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Heddlu, neu syn dal swydd Cwnstabl Arbennig. Fei bwriedir i sicrhau nad ydyn nhw au teuluoedd dan anfantais o ganlyniad ir ymrwymiad hwnnw ac maen ceisio lliniarur effaith maen ei chael ar fywyd o ddydd i ddydd. Maer Cyfamod yn cydnabod nad yw swyddogion yr heddlu yn gyflogeion ond yn hytrach maent yn dal swydd cwnstabl, syn dod 但 lefel uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb personol yn eu r担l i wneud cymunedaun fwy diogel trwy gynnal y gyfraith yn deg ac yn gadarn; atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; cadwr heddwch; amddiffyn a rhoi sicrwydd i gymunedau; ymchwilio i droseddu a dod 但 throseddwyr o flaen eu gwell. Rhaid iddynt hefyd gadw at god moeseg syn nodir safonau ymddygiad uchel a ddisgwylir gan bawb syn gweithio ym maes plismona yng Nghymru a Lloegr, ar ddyletswydd a heb fod ar ddyletswydd. Maer gydnabyddiaeth hon yn ymestyn i gyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a gweithredoedd unigolion wrth gefnogir heddluoedd. Mae cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni dyletswydd plismona yn unor wlad ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Nid oes gan hyn fwy o fynegiant nag wrth gynnal y Cyfamod hwn.
Cefnogaeth i eiriad drafft y Cyfamod fesul gr典p
I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod y Cyfamod drafft uchod yn cynrychiolich disgwyliadau?
Cytunon gryf % | Cytuno % | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno % | Anghytuno % | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Swyddogion yr Heddlu [416] | 36.8 | 36.3 | 15.9 | 7 | 4.1 |
Staff yr Heddlu [222] | 23.9 | 33.8 | 11.3 | 15.8 | 15.3 |
Yr Heddlu Eraill* [40] | 15 | 47.5 | 15 | 10 | 12.5 |
Swyddogion/Staff yr Heddlu sydd wedi ymddeol [202] | 45.5 | 32.2 | 8.9 | 10.9 | 2.5 |
Y Cyhoedd [53] | 28.3 | 35.8 | 13.2 | 13.2 | 9.4 |
Teuluoedd yr Heddlu [27] | 37 | 40.7 | 14.8 | 7.4 | 0 |
Heb Ddatgan [121] | 33.1 | 33.9 | 14 | 11.6 | 7.4 |
*Predominantly PCSOs [Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu] yn bennaf
DS: Mae dadansoddiadau canrannol ar gyfer gwirfoddolwyr a chyrff cynrychioliadol wediu cau allan oherwydd maint bach eu sampl. Allan or 14 gwirfoddolwr a ymatebodd ir cwestiwn i ba raddau ydych yn cytuno bod y Cyfamoddrafft uchod yn cynrychiolich disgwyliadau?, cytunodd 10 yn gryf a chytunodd tri. Or pedwar corff cynrychioliadol a ymatebodd ir cwestiwn hwn, cytunodddau ac anghytunodd dau.
Fe wnaeth y rhai a gytunodd yn gryf 但r geiriad roi neges glir y dylair Cyfamod gwmpasu staff a gwirfoddolwyr yn ogystal 但 swyddogion yr heddlu sydd wedi ymddeol a soniodd nifer y dylai hefyd gwmpasu heddluoedd nad ydynt yn rhair Swyddfa Gartref. Clywsom fod oddeutu 40% or rhai syn gweithio ym maes plismona yn staff a bod llawer or rhain mewn rolau rheng flaen megis Swyddogion Safleoedd Troseddau.
Teimlair rhai a oedd yn anghytuno nad oedd y drafft mor gryf 但 Chyfamod y Lluoedd Arfog. Roedd y rhai a oedd yn anghytunon gryf yn bennaf am weld staff yr heddlun cael eu cynnwys; roedd rhai yn teimlo bod angen iddo fod yn fwy beiddgar. Codwyd t但l a phensiynau fel rhesymau dros amheuaeth gan ymatebwyr. Soniwyd am y geiriau t但l, pensiwn, salari, cyflog a gwobr gan gyfanswm o 410 (37%) o ymatebwyr.
Clywsom fod y Cyfamod drafft yn nodir hyn a ddisgwylir gan yr heddlu ac nad ywn dweud digon am yr hyn y byddair Cyfamod yn ei wneud iw cefnogi o ran cefnogaeth ymarferol.
Yng ngoleunir adborth uchod, gwnaed newidiadau ir Cyfamod drafft:
Drafft newydd arfaethedig Cyfamod yr Heddlu
Maer Cyfamod hwn yn cydnabod yr aberthau a wneir gan y rhai syn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Heddlu, naill ai mewn swydd gyflogedig neu wirfoddol, pun ai fel swyddog neu fel aelod o staff. Fei bwriedir i sicrhau nad ydyn nhw au teuluoedd dan anfantais o ganlyniad ir ymrwymiad hwnnw ac maen ceisio lliniarur effaith ar eu bywyd o ddydd i ddydd neu yn eu mynediad at gyfiawnder.
Maen ofynnol bob amser i swyddogion yr heddlu gynnal egwyddorion pwysig plismona trwy gydsyniad, sef sylfaen eu perthynas hirsefydlog 但r cyhoedd. Gofynnwn i lawer iawn on heddlu ac rydym yn disgwyl ir safonau uchaf gael eu cynnal. Yn gyfnewid am hyn, mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu amddiffyniad a chefnogaeth ir heddlu.
Maer Cyfamod yn cydnabod bod gweithio o fewn maes plismona yn dod 但 lefel uchel o atebolrwydd personol, dyletswydd a chyfrifoldeb syn gofyn am ddewrder a risg bersonol ar ddyletswydd a heb fod ar ddyletswydd. Maer gydnabyddiaeth hon yn ymestyn i bawb syn cefnogi heddluoedd i gynnal egwyddorion ac arferion eu galwedigaeth. Mae cydnabod y rhai sydd wedi gwasanaethu mewn plismona yn unor wlad ac yn dangos gwerth eu haberth. Nid oes gan hyn fwy o fynegiant nag wrth gynnal y Cyfamod hwn.
Mae Cyfamod drafft yr Heddlu yn cael ei gadw ar lefel uchel er mwyn ei alluogi i fod yn ystwyth ac i ychwanegu them但u yn gyflym wrth ir angen esblygu.
Archwiliodd yr ymgynghoriad dair thema allweddol syn cael eu hystyried fel ffocws ir Cyfamod:
- Amddiffyniad Corfforol
- Iechyd a Llesiant
- Cefnogaeth i deuluoedd
Amddiffyniad Corfforol
I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddain fuddiol ir Cyfamod ganolbwyntio ar amddiffyniad corfforol?

Cytunon gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytunon gryf
Wedii seilio ar 1,093 o ymatebwyr
Gwelsom lefel uchel o gefnogaeth ar gyfer cynnwys amddiffyniad corfforol fel thema ir Cyfamod. Clywsom fod dyletswydd foesol i amddiffyn y rhai yr ydym yn gofyn iddynt wynebu niwed ar ein rhan. Soniodd y rhai a oedd yn gefnogol am:
- Safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant ac offer diogelwch personol
- Dull caffael cenedlaethol ar gyfer gwisg a chyfarpar
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) (Cyfeirir at Covid fel sbardun ar gyfer hyn)
- Gwell iechyd galwedigaethol
- Criwio dwbl
- Mynediad at gyfiawnder pan fydd ymosodiadau yn digwydd.
Byddai strategaeth gaffael genedlaethol ar gyfer darparu, safoni a chysondeb nwyddau a gwasanaethau gan gynnwys PPE, gwisgoedd a chyfarpar yn fuddiol i wasanaeth yr heddlu
Dylair holl gyfarpar diogelwch fod yn destun Asesiad Effaith Cydraddoldeb.
Gallwn ni ddisgwyl cyflawni ar ein gorau pan fyddwn nin teimlon ddiogel an bod yn derbyn gofal. Os ydym yn disgwyl ir rhai syn gweithio ym maes plismona gyflawni hyd at safonau uchel, maen gwneud synnwyr i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud i deimlon ddiogel, wediu cyfarparun dda ac os c但nt eu niweidio, y gallant ddisgwyl i gyfiawnder gael ei wneud. Nid oes gan hiliaeth le yn ein gwlad ac ni fyddwn nin ei oddef. Mae unrhyw un syn gweithio yn y teulu plismona yn haeddu cefnogaeth ac amddiffyniad, a pharch holl bobl Prydain.
Or rhai a oedd yn anghytunon gryf bod amddiffyniad corfforol yn bwysig o ran y Cyfamod, y rhesymau a roddwyd oedd bod iechyd meddwl yn peri mwy o bryder a bod anafiadau corfforol yn gwneud y penawdaun amlach. Dywedir bod yr effaith gronnol ar iechyd meddwl gyrfa o ddod i gysylltiad 但 straen a thrawma yn fater mwy taer. Mae cydnabyddiaeth ar draws lleoliadau gofal iechyd yn y DU y dylid rhoi parch i iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Iechyd a Llesiant
I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddain fuddiol ir Cyfamod ganolbwyntio ar iechyd a llesiant?

Cytunon gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytunon gryf
Wedii seilio ar 1,094 o ymatebwyr
Mae cefnogaeth gref i ganolbwyntio ar Iechyd a Lles. Nodwyd rhai them但u or ymatebion:
- Mae mynediad cyflym i ofal meddygol yn flaenoriaeth
- Dod i gysylltiad dro ar 担l tro 但r gwaethaf o ddynoliaeth. Roedd effaith gronnol mynychu digwyddiadau trawmatig 但 diffyg gwaith dilynol gan oruchwylwyr yn thema gyffredin.
- Wedi i ddigwyddiad difrifol ddod i ben, yn aml nid oes unrhyw s担n amdano eto a c mae diffyg 担l-drafod.
- Ni chymerir ymosodiadau o ddifrif.
- Diffyg seibiau a dim digon o amser hamddenol - bob amser ar ddyletswydd.
- Absenoldeb wedii ganslo a phatrymau gwaith anrhagweladwy.
- Cydbwysedd bywyd a gwaith.
- Darpariaeth afreolaidd o iechyd galwedigaethol
- Anghydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol rhwng Lluoedd.
Cyflwynwyd tystiolaeth i ategur syniad y dylid ystyried iechyd a llesiant swyddogion yn gyfannol. Ystyriwyd bod cefnogaeth ragweithiol ar gyfer iechyd meddwl a mynediad at adnoddau ffitrwydd corfforol o ansawdd da yn bwysig wrth atal problemau yn y dyfodol. Soniodd nifer o ymatebwyr y gall gweithlu iach a gefnogir arwain at well ymdrech ddewisol, gan arwain yn ei dro at welliannau mewn cyflawniad.
Mae llawer o elusennau heddlu syn darparu cefnogaeth ar gyfer iechyd a llesiant. Dylai pawb gael mynediad at y gwasanaethau hyn, nid dim ond y rhai syn talu ffioedd.
Nododd nifer o ymatebwyr fod mynediad amserol i iechyd meddygol yn broblem. Roedd rhywfaint o gefnogaeth i ystyriaeth arbennig gael ei rhoi ir rheini syn gweithio ym maes plismona a fyddain caniat叩u mynediad cyflymach i rai gwasanaethau iechyd estynedig megis cymorth iechyd meddwl. Gellid darparu hyn trwy wellar gwasanaethau a ddarperir gan elusennau ar hyn o bryd pe byddai modelau cyllidon cael sylw.
Swyddogion a staff sydd wedi ymddeol
Dywedodd ymatebwyr wrthym nad ywr materion a nodir uchod yn dod i ben ar 担l ymddeol. Nododd llawer or ymatebwyr a ddisgrifiodd eu hunain fel rhai sydd wedi ymddeol 担l-fflachiau i ddigwyddiadau ou gyrfa a achosodd broblemau iechyd meddwl parhaus, heb fynediad at gymorth pwrpasol.
Y rhai syn anghytuno 但 chynnwys Iechyd a Llesiant
Roedd pedwar ar hugain o ymatebwyr (2%) yn anghytuno 但 chynnwys Iechyd a Llesiant fel ffocws ar gyfer Cyfamod yr Heddlu. Nid oedd y rhesymau a roddwyd yn ymwneud ag iechyd a llesiant, ond 但 pherthnasedd y Cyfamod yn ei gyfanrwydd: naill ai nad oeddent yn teimlo y byddair Cyfamod yn cyflawni unrhyw welliannau go iawn neu, oni bai ei fod yn cynnwys staff yr heddlu, nid oedd yn bosibl rhoi sylwadau. Roedd hyn yn golygu bod nifer fach o ymatebwyr wedi dewis peidio 但 chefnogi unrhyw elfennau or Cyfamod.
Cefnogaeth i deuluoedd - beth ellir ei wneud?
I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y gallai Cyfamod yr Heddlu ychwanegu gwerth wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?

Cytunon gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytunon gryf
Wedii seilio ar 1,087 o ymatebwyr
Roedd yr ymatebion yn cynnwys cydnabyddiaeth gref bod canslo absenoldeb a phatrymau gwaith anrhagweladwy yn amharu ar fywyd teuluol a gwelwyd bod hyn yn tanseilio cefnogaeth i deuluoedd.
Mae penblwyddi a diwrnodau chwaraeon coll oherwydd absenoldeb wedii ganslo ac amserlenni gwaith anrhagweladwy yn ffordd o fyw, nid oes rhaid iddo fod fel hyn.
Soniodd rhai ymatebwyr am yr angen i gael rhwydwaith i gynorthwyo teuluoedd i ddelio 但 rhywfaint or straen unigryw syn deillio o waith yr heddlu.
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch anrhydeddau clywsom fod teimlad cryf o hyd mai dim ond i uwch swyddogion y rhoddir medalau er gwaethaf newidiadau/ymdrechion diweddar i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i rengoedd eraill.
Er bod pensiynau y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad, adlewyrchwyd cryfder y teimlad ynghylch newidiadau i bensiynau yn y ffordd yr oedd rhai ymatebwyr yn teimlo am gysyniad y Cyfamod.
Casgliad
Mae cefnogaeth amlwg i gael Cyfamod yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr, ir gefnogaeth honno ymestyn i rai heddluoedd nad ydynt yn rhair Swyddfa Gartref ac i bawb syn gweithio o fewn y maes plismona fod o fewn ei gwmpas. Ystyrir y bydd ymgorfforir Cyfamod yn y gyfraith yn ffordd o sicrhau ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth, wrth i adroddiadau blynyddol ir Senedd ddwyn cynnydd i ffocws. Maer gefnogaeth ar gyfer cyflwyno Cyfamod yn adlewyrchu canfyddiadaur FLR, Arolwg Cenedlaethol Llesiant a Chynhwysiant yr Heddlu ar Adolygiad o Ddiogelwch Swyddogion.
Daeth pwysigrwydd dull cynhwysol ir Cyfamod ar draws yn gryf iawn trwy gydol yr ymgynghoriad. Byddai cau allan unrhyw un gr典p or Cyfamod yn niweidiol ir cysyniad cyffredinol. Mae sylwadau gan grwpiau heblaw rhair Swyddfa Gartref syn nodir tebygrwydd iw profiad byw yn dangos pwysigrwydd archwilio ffyrdd o ymestyn cyrhaeddiad y Cyfamod er mwyn dod 但 nhw o fewn cwmpas.
Ystyriwyd yn gyffredinol bod y tri maes ffocws cychwynnol arfaethedig (amddiffyniad corfforol, iechyd a llesiant, a chefnogi teuluoedd) yn bwysig i blismona. Bydd yr angen am gefnogaeth bob amser yn esblygu ac felly maen hanfodol bod y Cyfamod yn ystwyth ac yn gallu ystwytho er mwyn ymateb i anghenion syn dod ir amlwg. Er mwyn cyflawni hyn, maen bwysig nad ywr ddeddfwriaeth wedii drafftio mor dynn fel ei bod yn atal gweithredoedd neu ymatebion i sefyllfaoedd newydd yn anfwriadol a allai fod yn ddymunol neun ddefnyddiol yn y dyfodol.
Byddai ymgorfforiyn yn y gyfraith y gofyniad ir Ysgrifennydd Gwladol adrodd wrth y Senedd ar y cynnydd a wneir ar y Cyfamod yn flynyddol (h.y. yn hytrach na darpariaeth fwy penodol neu gyfarwyddol o ran sylwedd neu effaith y Cyfamod) yn darparur hyblygrwydd angenrheidiol tra hefyd yn cynnal goruchwyliaeth ac yn canolbwyntio ar welliannau.
Mae llawer eisoes yn cael ei ddarparu yn y gofod Iechyd a Llesiant ac o ran Cefnogaeth i Deuluoedd trwy ystod o elusennau. Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu yn cael ei ariannu trwy grant ir Coleg Plismona ac maen gwneud gwaith rhagorol i fynd ir afael 但 materion llesiant ar lefel genedlaethol.
Gallai cyflwyno Cyfamod yr Heddlu ddod 但 chydlyniant i dirwedd cefnogaeth yr heddlu. Gallai strwythur llywodraethu cadarn gyda chynrychiolwyr or holl chwaraewyr allweddol ddarparu haen o gynllunio strategol ar draws y dirwedd. Gall fod yn heriol i rai elusennau llai gyrchu grantiau a dyraniadau cyllid untro eraill gan lywodraeth ganolog. Gallai llywodraethu da ddarparu gwell mynediad at grantiau ar gyfer elusennau llai.
Gallair Bwrdd Plismona Cenedlaethol (NPB) ddarparur llywodraethu ar gyfer cyflwynor adroddiad blynyddol ir senedd. Gallair NPB gomisiynu prosiectau i gyflawni set o amcanion wediu blaenoriaethu a chymryd perchnogaeth ar lunior adroddiad blynyddol ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.
Ymhlith y rolau allweddol a awgrymwyd gan ymatebwyr ir ymgynghoriad mae Comisiynydd y Cyfamod a Phrif Swyddog Meddygol Plismona ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cynigion
I. Dylai Llywodraeth Ei Mawrhydi ddeddfu ir Ysgrifennydd Cartref adrodd yn flynyddol wrth y Senedd ar y cynnydd ar y Cyfamod.
II. Dylai cwmpas y Cyfamod gynnwys pawb syn gweithio o fewn rolau plismona, neu sydd wedi ymddeol o rolau plismona, pun a ydynt yn gyflogedig neun gwirfoddolwr.
III. Bydd ffocws y Cyfamod yn y lle cyntaf ar:
- Amddiffyniad Corfforol
- Iechyd a Llesiant
- Cefnogaeth i Deuluoedd
IV. Dylid sefydlu strwythur llywodraethu, syn adrodd wrth fwrdd plismona lefel uchel.
V. Dylair bwrdd ystyried ymhellach fanteision sefydlu r担l newydd sef Prif Swyddog Meddygol Plismona ar gyfer Cymru a Lloegr.
VI. Dylair bwrdd archwilio opsiynau ar gyfer dod 但 gweithgarwch cyfredol o fewn cwmpas y Cyfamod ac ystyried y llywodraethu sydd ei angen i yrrur gweithgarwch hwnnw yn ei flaen.
VII. Dylai fod opsiwn i heddluoedd nad ydynt yn rhair Swyddfa Gartref ymuno 但r Cyfamod trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, fesul achos, a gytunir gydar adran berthnasol.
Crynodeb or ymatebion
Ymatebwyr:
赫姻典沿 o ymatebwyr | Cyfanswm yr ymatebion |
---|---|
Teulu | 16 |
赫姻典沿 | 4 |
Comisiynydd Heddlu a Throseddu | 9 |
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu | 34 |
Swyddog yr Heddlu | 416 |
Staff yr Heddlu | 223 |
Y Cyhoedd | 53 |
Gweddwr heddlu | 11 |
Swyddog yr heddlu sydd wedi ymddeol | 201 |
Staff sydd wedi ymddeol | 2 |
Heb ddatgan | 130 |
Gwirfoddolwr | 14 |
Cyfanswm | 1113 |
Cwestiwn 1 - I ba raddau ydych chin cytuno y byddain fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 799 | 193 | 70 | 16 | 19 |
Cwestiwn 3 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddain fuddiol ir Cyfamod gael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 770 | 211 | 81 | 13 | 19 |
Cwestiwn 5 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod y Cyfamod drafft uchod yn cynrychiolich disgwyliadau?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 379 | 386 | 143 | 116 | 75 |
Cwestiwn 7 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddain fuddiol ir Cyfamod ganolbwyntio ar amddiffyniad corfforol?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 502 | 307 | 168 | 89 | 27 |
Cwestiwn 10 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddain fuddiol ir Cyfamod ganolbwyntio ar iechyd a llesiant?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 718 | 251 | 83 | 29 | 13 |
Cwestiwn 13 - I ba raddau ydych chin credu y dylair Cyfamod gynnwys cefnogaeth i deuluoedd?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 676 | 319 | 82 | 9 | 12 |
Cwestiwn 17 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y gall hyfforddiant gyfrannu at ddiogelwch gwell?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 625 | 366 | 80 | 14 | 13 |
Cwestiwn 19 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod gan lywodraeth ran iw chwarae wrth osod safonau ar gyfer cyfarpar diogelwch ar gyfer plismona?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 652 | 271 | 96 | 55 | 20 |
Question 21 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y gallai safonau cenedlaethol cyson ar gyfer hyfforddiant diogelwch personol gyfrannu at wella diogelwch ym maes plismona?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 590 | 337 | 120 | 32 | 11 |
Cwestiwn 23 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod cyfarpar diogelwch personol ar gyfer swyddogion rheng flaen yn addas ar gyfer heddlu modern amrywiol?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 251 | 263 | 272 | 206 | 101 |
Cwestiwn 25 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y byddai Cyfamod yr Heddlu yn mynd ir afael 但 materion llesiant ar lefel genedlaethol?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 473 | 336 | 195 | 60 | 31 |
Cwestiwn 27 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y dylid rhoi mesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod y rhai syn gwasanaethu o fewn yr heddlu yn gallu cyrchu gofal meddygol yn gyflym ar gyfer materion syn codi o ganlyniad iw swydd?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 908 | 127 | 43 | 9 | 9 |
Cwestiwn 29 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod angen darpariaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer y rhai syn gweithio ym maes plismona?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 841 | 195 | 38 | 12 | 9 |
Cwestiwn 31 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod gan y sector preifat r担l wrth gefnogi anghenion llesiant yr heddlu?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 338 | 261 | 336 | 74 | 84 |
Cwestiwn 34 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod cymdeithas eisoes yn cydnabod yr aberthau a wneir gan yr heddlu au teuluoedd?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 84 | 155 | 187 | 402 | 269 |
Cwestiwn 37 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod cofebion, y system anrhydeddau, dyfarniadau sector yr heddlu a mathau eraill o gydnabyddiaeth yn bwysig wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 337 | 321 | 282 | 104 | 48 |
Cwestiwn 39 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno bod yr anrhydeddau/medalau sydd ar gael ir heddlu (gwobrau Dewrder, gwobraur Ymerodraeth, Medalau Heddlur Frenhines, Gwasanaeth Hir yr Heddlu a Medal Ymddygiad Da, Medal Gwasanaeth Hir y Cwnstabliaeth Arbennig) yn cydnabod yn briodol dewrder, gwasanaeth ac ymrwymiad y rhai syn ymwneud 但 phlismona?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 188 | 317 | 282 | 199 | 104 |
Question 41 - To what extent do you agree/disagree that honours are important in helping families to feel supported?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 259 | 348 | 306 | 116 | 56 |
Cwestiwn 43 - I ba raddau ydych chin cytuno/anghytuno y gallai Cyfamod yr Heddlu ychwanegu gwerth wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?
Cytunon gryf | Cytuno | Ddim yn cytuno nac yn anghytuno | Anghytuno | Anghytunon gryf | |
---|---|---|---|---|---|
Ymatebion | 402 | 437 | 192 | 30 | 26 |