Consultation outcome

Summary of responses (Welsh version)

Updated 8 November 2021

Rhagair

Rhagymadrodd

Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd rhwng 12/07/2021 a 09/08/2021 er mwyn casglu barn y diwydiant ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliad (EC) 543/2008, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011 a Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011.

Maer adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniadaur arolwg ymgynghori ar prif them但u a nodwyd yn yr adborth ysgrifenedig.

Cafwyd cyfanswm o wyth ymateb ir ymgynghoriad gan un unigolyn a busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi. Ar draws yr wyth ymatebydd, cynrychiolwyd sefydliadau yng Nghymru, Lloegr ar Alban yn yr ymatebion.

Dymar sefydliadau a ymatebodd ir ymgynghoriad hwn:

  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr
  • NFU Cymru
  • Lakeside Food Group
  • Stara Foods (UK Ltd)
  • Y Gymdeithas Masnach Cig Ryngwladol
  • Awdurdod Iechyd Porthladd Llundain
  • Cyngor Dofednod Prydain

Yr ymatebion ir ymgynghoriad

Ein cwestiwn ni: Oeddech chi neuch sefydliad yn ymwybodol or safonau marchnata a nodir yn Rheoliad (EC) 543/2008 ac a orfodir gan Reoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011?

Atebodd pob ymatebydd eu bod yn ymwybodol or safonau marchnata a nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Ein cwestiwn ni: Fyddech chi ar eich ennill o gael canllaw ynghylch cydymffurfio cyn ir dull newydd o wneud gwiriadau ar safonau marchnata cig dofednod gael ei gyflwyno?

Atebodd pob ymatebydd yr hoffen nhw gael canllawiau cydymffurfio cyn i wiriadau ar safonau marchnata gael eu cyflwyno.

Ein cwestiwn ni: Ydych chin rhag-weld unrhyw faterion yn y fan ar lle o ran sicrhau bod y cig dofednod syn cael ei brosesu yn eich sefydliad(au) chi neuch aelodau neur sefydliadau rydych chin eu cynrychioli yn cydymffurfio, os bydd ein cynnig yn dod i rym?

Dywedodd rhai or ymatebwyr nad oedden nhwn rhag-weld unrhyw faterion uniongyrchol ynghylch cydymffurfiaeth cig dofednod syn cael ei brosesu pan gyflwynir y gyfres lawn o wiriadau PMMR.

Pwysleisiodd ambell un or ymatebwyr fod angen darparu canllawiau clir ir diwydiant ar cyrff rheoleiddio cyn gweithredur ddeddfwriaeth hon.

Ein cwestiwn ni: Beth ywr rhwystrau allweddol, os oes rhai o gwbl, rhag cyflwynor gwiriadau hyn y dylen ni fod yn ymwybodol ohonynt?

Atebodd rhai ymatebwyr nad oedden nhwn gweld unrhyw rwystrau rhag cyflwynor gwiriadau hyn. Nododd y rhan fwyaf or ymatebwyr eu bod yn cefnogir dull seiliedig ar risg a gynigiwyd yn y ddogfen ymgynghori.

Atebodd rhai ymatebwyr mai un rhwystr i gyflwynor gwiriadau hyn fyddair adnoddau rheoleiddio sydd ar gael i weithredu newidiadau PMMR a chynnal gwiriadau mewn modd amserol, sef staffio ac oedi mewn porthladdoedd i gynnal y gwiriadau.

Atebodd rhai ymatebwyr hefyd yr hoffen nhw weld system o wiriadau syn sicrhau tegwch a chysondeb rhwng rhanbarthau a busnesau, yn ogystal 但 sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol yn gyson ledled Prydain Fawr.

Atebodd un or ymatebwyr: the nature of business model for imported poultry makes it challenging [sef rhoir gwiriadau ar waith], a large % of produce arrives chilled in mixed consignment on lorries that have multiple delivery points, with multiple final customers.

Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod am ddeall beth fyddair gwiriadaun ei olygu cyn gallu ateb y cwestiwn hwn yn llawn.

Ein cwestiwn ni: Pa mor aml, yn eich barn chi, y dylid cynnal gwiriadau mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau, i asesu safonau marchnata, heb achosi gormod o faich ar eich busnes chi/y busnesau rydych chin eu cynrychioli?

Roedd y rhan fwyaf or ymatebwyr or farn y dylai amlder y gwiriadau ddilyn dull syn seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth busnesau bwyd.

Atebodd rhai ymatebwyr eu bod yn credu y dylair gwiriadau ddigwydd bob dydd.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwirio uchafswm o un llwyth yr wythnos (mewn safleoedd rheoli ar y ffin).

Ein cwestiwn ni: Ydych chin credu y dylai amlder y gwiriadau newid, gan ddibynnu ar y risg o beidio 但 chydymffurfio mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau?

Atebodd y rhan fwyaf or ymatebwyr ydw. Atebodd y rhan fwyaf or ymatebwyr eu bod o blaid dull seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth pob busnes. Ychwanegodd un ymatebydd: the legislation should allow competent authorities to carry out targeted checks when systemic issues are identified.

Mynegodd rhai ymatebwyr hefyd y bydden nhwn disgwyl ir gwiriadau hyn fod yn hyblyg ac yn gymesur.

Atebodd un ymatebydd na fyddai dull one size fits all yn briodol ac y dylid asesu ystyriaethau fel trwybwn y busnes pan fydd gwaelodlin yn cael ei sefydlu.

Ein cwestiwn ni: Sut, yn eich barn chi, y dylid sefydlur waelodlin ar gyfer amlder y gwiriadau?

Atebodd rhai ymatebwyr y dylid defnyddio gwiriadau untro i sefydlu gwaelodlin cydymffurfiaeth. Yna dylid asesu gwiriadau yn y dyfodol yn seiliedig ar lefel y gydymffurfiaeth a ganfuwyd yn ystod yr ymarfer i sefydlur waelodlin.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwneud hyn fesul gwlad (ar gyfer mewnforion).

Ein cwestiwn ni: Yn achos mewnforion, beth ywch barn chi ar ddefnyddio dull risg SPS i bennu amlder y gwiriadau o dan y PMMR?

Nododd rhai ymatebwyr eu bod yn gweld defnyddio dull risg SPS fel ffordd gymesur a phragmatig o bennu lefel y gwiriadau (PMMR). Ychwanegodd rhai y dylair ddeddfwriaeth ganiat叩u ir amlder gael ei gynyddun briodol os ceir problemau neu ddiffyg cydymffurfiaeth ar gyfer mewnforion.

Atebodd rhai ymatebwyr y dylai archwiliadau ar fewnforion gael eu hasesu ar yr un lefel 但 chig dofednod a gynhyrchir yn ddomestig a chael eu seilio ar gydymffurfiaeth hanesyddol.

Ein cwestiwn ni: Ydych chin credu mai dull syn seiliedig ar risg ar gyfer amlder gwiriadaur PMMR a ddylai gael ei ddefnyddio ar gyfer cig dofednod syn cael ei fewnforio or UE a thrydydd gwledydd eraill?

Atebodd pob ymatebydd ydw.

Dywedodd un ymatebydd yr hoffai weld arolygwyr rhanbarthol yn cael eu hanfon ir cyrchfannau terfynol i wneud gwaith gwirio er mwyn atal oedi ar y ffin.

Ein cwestiwn ni: Mae gwiriadau cynhwysiad d典r yn un o ofynion y ddeddfwriaeth. Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu farn ar sut maer profion hyn yn cael eu rhoi ar waith?

Mynegodd un ymatebydd bryderon am y cynnig i ddisodli ffioedd sefydlog ar gyfer gwiriadau cynhwysiad d典r. Atebodd ymatebwyr yr hoffen nhw gael mwy o eglurder ynghylch sut y bydd y cymal codi t但l hyblyg yn gweithio.

Mynegodd un ymatebydd fod gwiriadau cynhwysiad d典r yn bwysig ar gyfer toriadau penodol: IE 0207 1310 00 Chilled chicken breast / thigh boneless and also 2007 1410 00 Frozen chicken breast & thigh.

Ein cwestiwn ni: Fyddai gennych chi ddiddordeb dod i gyfarfod bwrdd crwn i drafod y broses o roi gwiriadaur PMMR ar waith ymhellach?

Atebodd y rhan fwyaf or ymatebwyr y byddai, dywedodd un na fyddai.

Ein cwestiwn ni: Oes gennych chi sylwadau pellach ar y bwriad i roir gwiriadau hyn ar waith?

Tynnodd y rhan fwyaf or ymatebwyr sylw at yr angen am eglurder ynghylch pwy syn mynd i gynnal y gwiriadau a sut.

Dywedodd ymatebwyr fod y dirwedd ddeddfwriaethol newydd yn gymhleth i gwmn誰au lywio drwyddi. Er bod y diwydiant yn croesawu cynigion i gynnwys darpariaethau i wneud y rheoliadaun glir, maen hanfodol bod yna gysondeb ar draws y gweinyddiaethau datganoledig.

O ran mewnforion, awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnal gwiriadau mewndirol mewn gweithfeydd torri, warysau neu gyfleusterau manwerthu er mwyn atal oedi ar y ffin. Mynegodd un ymatebydd bryderon bod proseswyr mewn trydydd gwledydd yn anwybyddur gyfraith ynghylch gwiriadau cynhwysiad d典r gan fynegi y dylai camau cadarn a chyflym ddilyn os ceir hyd i ddiffyg cydymffurfiaeth.

Ychwanegodd un ymatebydd fod angen mwy o eglurder ynghylch pryd y defnyddir cyfuniad o ddulliau oeri.

Nododd sawl ymatebydd fod dyddiad cau yr ymgynghoriad pedair wythnos yn ystod y gwyliau yn ei gwneud yn anodd casglu digon o dystiolaeth ac adborth i gymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad.

Ein cwestiwn ni: Oes unrhyw welliannau pellach yr hoffech eu gweld yn cael eu hystyried wrth ir PMMR gael eu hadolygu yn y dyfodol?

Cafwyd ymatebion manwl a dynnodd sylw at nifer o faterion yr hoffai ymatebwyr eu gweld yn cael eu hystyried mewn adolygiadau yn y dyfodol. Amlinellir y rhain isod.

Dileur cyfeiriad at niferoedd yn y ddeddfwriaeth syn ymwneud 但 nifer yr ieir ar cyfraddau stocio yn Atodiad V(b) ac Atodiad V(c)ii o Reoliad (EC) 543/2008.

Adolygiad or gofynion yngl天n 但 dwysedd stocio ac oedrannau lladd syn berthnasol i wahanol dermau marchnata er mwyn sicrhau eu bod yn fwy perthnasol i systemau cynhyrchu modern.

Pe bair llywodraeth yn gwneud gorchymyn cartrefu oherwydd achosion hysbysadwy o ffliw adar, dywedodd nifer o ymatebwyr yr hoffen nhw weld y geiriad yn cael ei ddiwygio i egluro bod cyfnod y rhanddirymiad o 12 wythnos yn cael ei gymhwyso fesul diadell, syn gyson 但r ddarpariaeth a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017.

Ystyried dull syn seiliedig ar risg ar gyfer arolygiadau ar y fferm i gynhyrchwyr cig maes fel bod modd lleihaur rhain i unwaith y flwyddyn pan fo cydymffurfiaeth dda yn cael ei dangos yn gyson, gan gysylltu hyn ag arolygiadau sicrwydd er mwyn osgoi dyblygu ymweliadau

Dylai termau a ddefnyddir i ddisgrifio proteinau penodol fel cyw i但r, cig eidion, cig oen, porc, neu doriad penodol o gig fel st棚c gael eu rhestru yn y ddeddfwriaeth fel termau sydd wediu cadw ar gyfer cynhyrchion cig yn unig.

Y camau nesaf

Mewn ymateb ir ymgynghoriad, bellach rydym yn nodi camau nesaf y Llywodraeth i wneud diwygiadau ir PMMR i adlewyrchu dull wedii seilio ar risg. Mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i gydweithion agos i gysonir gwelliannau arfaethedig. Byddai hynnyn fodd ir tair gweinyddiaeth ddatganoledig roi dull cyson, wedii seilio ar risg, ar waith ar draws Prydain Fawr, gan greur baich lleiaf posibl ir diwydiant. Ni fydd gofynion y PMMR yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu diwygio gan eu bod ar hyn o bryd yn cyd-fynd 但r UE, yn unol 但r gofynion o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd canllawiau ynghylch rhoir PMMR ar waith yn cael eu drafftio au hanfon ir diwydiant cyn ir drefn wirio newydd ddod i rym.