Closed consultation

Forced marriage consultation document (Cymraeg) (accessible version)

Updated 9 August 2021

This was published under the 2016 to 2019 May Conservative government

Applies to England and Wales

Maer ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 15 Tachwedd 2018.

Maer ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 23 Ionawr 2019.

Yngl天n 但r ymgynghoriad hwn

I: Y cyhoedd, yn benodol dioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod, y rheini ag arbenigedd ym maes priodas dan orfod, a gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Hyd: Rhwng 15 Tachwedd 2018 a 23 Ionawr 2019

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur ar ffurfiau amgen) at:

Interpersonal Violence Team, Public Protection Unit
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost: forcedmarriageconsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb: Er mwyn ein helpu ni i ddadansoddir ymatebion, cyflwynwch eich ymateb gan .

Anfonwch eich ymateb erbyn 23:00 ar 23 Ionawr 2019.

Os, am resymau eithriadol, na allwch chi ddefnyddior system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chin defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad ywn gydnaws 但r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word or ffurflen ai hanfon trwy e-bost neu ei phostio at:

Interpersonal Violence Team, Public Protection Unit
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost: forcedmarriageconsultation@homeoffice.gov.uk

Rhagair

Mae priodas dan orfod yn drosedd ddifrifol. Mae ein rhyddid i ddewis priod yn hawl dynol sylfaenol ni ellir byth cyfiawnhau gwadu hynny. Mae priodas heb ganiat但d yn drosedd a, phan fydd yn effeithio ar blant, mae hefyd yn ffurf ar gam-drin plant. Ar gyfer y gr典p neur grwpiau wediu gorfodi, gall priodas dan orfod arwain at unigedd, datblygiad cymdeithasol a chyfleoedd bywyd cyfyngedig, a thrais corfforol a rhywiol. Gall dioddefwyr priodas dan orfod fod o unrhyw oed, rhyw, ethnigrwydd a diwylliant. Mae pob prif ffydd yn ei gondemnio.

Ar gyfer y Llywodraeth, mae mynd ir afael 但 phriodas dan orfod yn flaenoriaeth lwyr, ac yn rhan allweddol or strategaeth mynd ir afael 但 thrais yn erbyn menywod a merched trawsLywodraethol. Fe wnaethom briodas dan orfod, a thorri gorchymyn amddiffyn priodas dan orfod, yn droseddau, a chyflwyno anhysbysrwydd gydol oes i ddioddefwyr. Trwy ariannu gan gynnwys Trais yn Erbyn Menywod a Girls Transformation Fund rydym yn cynnig cefnogaeth i brosiectau lleol syn helpu i fynd ir afael 但 phriodas dan orfod. A thrwy gyduned Priodas dan Orfod y Swyddfa Gartref ar Swyddfa Dramor a Chymanwlad rydym yn parhau i helpu dioddefwyr, gan gynnig cyngor i weithwyr proffesiynol a chodi ymwybyddiaeth or mater hwn. Mae hyn i gyd wedi helpu i annog y rheini sydd wedi dioddef y drosedd ofnadwy hon i godi eu llais.

Serch hynny, gwyddom fod priodas dan orfod yn parhau yn drosedd gudd. Gallai dioddefwyr barhau yn dawel, gan ofni unigedd neu waeth gan eu teulu a/neu gymuned. Dyna pam mae r担l y gweithwyr proffesiynol rheng flaen o fewn iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, a allai ddod ar draws arwyddion o briodas dan orfod, mor allweddol. Maen bosibl mai dim ond un cyfle i siarad ac achub dioddefwr posibl y byddan nhwn ei gael. Yn 2014, fe wnaethom gyhoeddi dau ddarn o arweiniad i arweinwyr a staff rheng flaen yn y sectorau hynny yn amlinellu eu cyfrifoldebau wrth fynd ir afael 但 phriodas dan orfod.

Gyda chymaint o wahaniaeth rhwng y cyffredinolrwydd ac adrodd am briodas dan orfod, maen iawn ein bod ni fel Llywodraeth yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gynyddur adrodd, rhwystro cyflawnwyr troseddau posibl a gwella amddiffyniadau i ddioddefwyr. Archwiliar ymgynghoriad hwn ddwy ffordd y gallwn wneud y pethau hynny: posibilrwydd o gyflwyno dyletswydd gyffredinol syn gofyn i weithwyr proffesiynol adrodd am achosion, a diweddarur arweiniad a gyhoeddwyd gennym yn 2014. Gwyddom fod hwn yn fater cymhleth a dyma pam ein bod ni eisiau clywed barnaur rheini syn arbenigwyr neu sydd wediu heffeithio ganddo.

Byddwn yn eich annog chi i ymateb ir ymgynghoriad hwn ac edrychaf ymlaen at glywed eich barnau. Trwy gydweithio, gwyddom y byddwn yn gallu gostwng, ac un dydd, rhoi diwedd ar y drosedd ofnadwy hon.

Y Gwir Anrhydeddus Sajid Javid AS

Ysgrifennydd Cartref

Cyflwyniad

Ceisiar ymgynghoriad hwn gasglu barnau a ywr angenrheidiol i gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd gyfreithiol newydd mewn perthynas ag achosion o briodas dan orfod ac, os ydyw, ar ba ffurf fyddai gofyniad adrodd or fath. Mae hefyd yn ceisio barnau ar sut y gellid gwella a chryfhaur arweiniad cyfredol ar briodas dan orfod.

Maer ymgynghoriad yn agored i bawb. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan ddioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod, y rheini gydag arbenigedd ym maes priodas dan orfod, a gweithwyr proffesiynol perthnasol, gan gynnwys y rheini syn gweithio o fewn gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu a gofal iechyd. Cwmpas daearyddol yr ymgynghoriad hwn yw Cymru a Lloegr.

Bydd Asesiad Effaith yn cael ei gynnal ar 担l yr ymgynghoriad hwn os ywr penderfyniadau polisi y maer Llywodraeth yn dueddol ou cymryd yn ei sgil yn golygu bod un yn angenrheidiol. Mae cwestiynau yngl天n ag effaith yr ymgynghoriad hwn. Serch hynny, nid bwriad y rhestr hon yw bod yn hollgynhwysol nac yn unigryw a chroesawir ymatebion gan unrhyw un sydd 但 diddordeb yn y pwnc a drafodir yn y papur hwn neu 但 diddordeb ynddo.

Cefndir

Mae priodas dan orfod yn briodas lle nad yw un neur ddau briod yn caniat叩u ir briodas ac wediu gorfodi iddi, neu lle mae gan un neur ddau briod ddiffyg gallu i roi caniat但d. Gallai gorfodaeth gynnwys trais, bygythiadau, neu wahanol fathau o bwysau (e.e. seicolegol, ariannol, neu emosiynol). Mae priodas dan orfod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr o dan adran 121 y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014. Maer drosedd hon yn gymwys pun a ywr seremoni briodasol yn rhwym yn gyfreithiol ai peidio.

Mae gwahaniaeth clir rhwng priodas dan orfod a phriodas wedii threfnu. Gyda phriodasau wediu trefnu, mae teuluoedd y ddau gr典p yn cymryd r担l arweiniol wrth drefnu priodas, ond maer dewis i dderbyn y trefniant ai peidio yn gorwedd gydar darpar briod. Serch hynny, gyda phriodas dan orfod maer dewis hwn wedii dynnu i ffwrdd oddi ar un neur ddau briod posibl.

Maer gyduned Priodas Dan Orfod y Swyddfa Gartref ar Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar briodas dan orfod i ddioddefwyr, gweithwyr proffesiynol ar rheini wrth risg, trwy linell gymorth cyhoeddus[footnote 1]. Yn 2017, darparodd yr uned gefnogaeth i 1,196 o achosion[footnote 2].

Maen her amcangyfrif cyffredinolrwydd priodas dan orfod yn y DU oherwydd natur gudd y drosedd. Amcangyfrifodd ymchwil a gynhaliwyd gan yr Adran dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd ar y pryd yn 2009 bod rhwng 5,000 a 8,000 o achosion o briodas dan orfod wediu hadrodd yn Lloegr yn y flwyddyn flaenorol.

Maer Adroddiad Trais yn Erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron diweddaraf yn dangos bod cynnydd yn yr atgyfeiriadau[footnote 3] o briodasau dan orfod y tynnwyd sylw atynt gan yr heddlu i Wasanaeth Erlyn y Goron, y bobl dan amheuaeth sydd wediu cyhuddo ar erlyniadau yn 201718, gyda chynnydd yng nghyfaint y collfarnau[footnote 4] . Hyd yma, mae pedair collfarn wedi bod o dan y drosedd priodas dan orfod ers ei chyflwyno yn 2014.

Er bod hyn yn galonogol, maer niferoedd yn parhau yn weddol fechan a cheir gwahaniaeth rhwng cyffredinolrwydd a amcangyfrifir o briodas dan orfod a nifer yr atgyfeiriadau at yr heddlu. Maer ymgynghoriad hwn yn edrych ar ffyrdd y gallair ymateb diogelu ir drosedd hon gael ei chryfhau i wella amddiffyn i ddioddefwyr, sicrhau bod y rhai syn cyflawni troseddau yn cael eu dwyn i gyfiawnder, ac yn y pendraw helpu i atal priodas dan orfod rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Strategaeth Llywodraeth i fynd ir afael 但 phriodas dan orfod

Maer Llywodraeth yn glir bod priodas dan orfod yn drosedd, ac os oes plentyn yn gysylltiedig, mae hefyd yn ffurf ar gam-drin plant. Mae mynd ir afael 但 phriodas dan orfod yn rhan allweddol o Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched traws-Lywodraethol. Maer Llywodraeth yn cydnabod bod mynd ir afael 但 phriodas dan orfod yn gofyn am ymdriniaeth wedii chydlynu.

Mae ystod o waith wedii ddatblygu gan Lywodraeth yn ystod blynyddoedd diweddar i helpu i fynd ir afael 但 phriodas dan orfod, gan gynnwys:

  • cyflwyno trosedd benodol ar gyfer priodas dan orfod a gwneud hin drosedd pan fydd rhywun yn torri Gorchymyn Gwarchod Priodas dan Orfod trwyr Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Plismona a Throsedd 2014;
  • cyflwyno anhysbysrwydd gydol oes i ddioddefwyr priodas dan orfod trwyr Ddeddf Plismona a Throsedd 2017;
  • cyhoeddi arweiniad amlasiantaeth statudol ar briodas dan orfod a chanllawiau arfer amlasiantaeth yn 2014, ynghyd 但 chyflwyno e-ddysgu am ddim; a
  • gwaith codi ymwybyddiaeth barhaus gan, a chefnogaeth oddi wrth, cyduned Priodas dan Orfod y Swyddfa Gartref ar Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Rhan A: Adrodd Gorfodol ar Briodas dan Orfod

Maen bwysig bod rhan hon yr ymgynghoriad yn cael ei hystyried yng nghyd-destun yr ystod o fesurau sydd eisoes wediu sefydlu i fynd ir afael 但 phriodas dan orfod. Ni fydd y ddyletswydd newydd ar ei phen ei hun yn atal priodas dan orfod, gwella cefnogaeth ac amddiffyniad i ddioddefwyr, nac yn sicrhau cosb i droseddwyr. Serch hynny, maer Llywodraeth eisiau deall a allai cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar briodas dan orfod, ar y cyd gyda gwaith ehangach, helpu i gyflawnir nodau hyn.

Adran 1: Cyflwyno dyletswydd

Gallai cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod arwain at nifer cynyddol o ddioddefwyr a dioddefwyr posibl yn cael eu hadnabod wrth yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol. Mae priodas dan orfod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr, pun a ywn digwydd yn y DU neun cynnwys (boed hynny fel y troseddwr neur dioddefwr) preswylydd y DU neu wladolyn tramor. Byddai hysbysur heddlu trwy adrodd gorfodol yn caniat叩u iddynt ymchwilio i ffeithiau pob achos a dylai gynyddu nifer y rhai syn cyflawni troseddau syn cael eu herlyn am y drosedd hon. Gallai cynnydd yn yr erlyniadau am briodasau dan orfod yn ei dro weithredu fel arf ataliol ac yn y pendraw atal priodas dan orfod rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Gwyddom fod rhwystrau rhag adrodd am briodas dan orfod ac ymchwilio iddi, gan gynnwys dibyniaeth ar ddioddefwyr neu dystion i adrodd wrth yr heddlu (o ystyried yr elfennau teuluol a chymunedol ir drosedd hon), ac atgyfeiriadau cyfyngedig gan weithwyr proffesiynol iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Maer Llywodraeth eisiau sicrhau bod achosion yn cael eu hadrodd yn briodol wrth yr heddlu gan weithwyr proffesiynol diogelu, er mwyn cynyddu ymchwiliadau ac erlyniadau posibl.

Serch hynny, maer Llywodraeth hefyd yn ystyriol y gallai risgiau fod yn gysylltiedig 但 chyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod. Os caiff ei weithredun afreolaidd, gallai dyletswydd ofodol danseilior ymddiriedaeth rhwng dioddefwyr ar gweithwyr proffesiynol diogelu. Mae angen hefyd i daror cydbwysedd cywir rhwng sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn adnabod yn briodol dioddefwyr a dioddefwyr posibl a pheidio 但 chreu system gwrth risg lle gallair holl achosion o briodasau dan orfod posibl gael eu hadrodd, a fyddain effeithio er gwaeth ar allur heddlu i flaenoriaethu achosion, ac o bosibl stigmateiddio cymunedau cyfan.

Byddain rhaid i unrhyw ddyletswydd newydd gael ei gweld yng nghyd-destun cyfrifoldebau ac arweiniad statudol cyfredol (er enghraifft, Working Together to Safeguard Children [footnote 5] (yn Lloegr) a Gweithio Gydan Gilydd i Ddiogelu Pobl[footnote 6] (yng Nghymru)), syn nodin glir y dylai unrhyw ymarferydd syn amau bod plentyn wedi dioddef cam-drin (o unrhyw ffurf), neu sydd wrth risg o gam-drin, wneud atgyfeiriad i ofal cymdeithasol plant.

Cwestiwn 1: A gredwch chi y byddai cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn gwellar ymateb diogelu ir drosedd hon?

  • Byddai
  • Na fyddai
  • Ddim yn gwybod

Adran 2: Sut y gellid fframior ddyletswydd

Pe bai dyletswydd yn cael ei chyflwyno, byddain rhaid rhoi ystyriaeth i sut y byddain cael ei fframio, gan gynnwys pwy fyddai angen cydymffurfio 但 hi ac i ba fath o achosion y byddain berthnasol. Er enghraifft, gallai dyletswydd adlewyrchur ymdriniaeth a gymerwyd ar gyfer dyletswydd orfodol i adrodd a gyflwynwyd yn 2015 ar gyfer anffurfio organau cenhedlu benywod[footnote 7] , neu fe allai gymryd ymdriniaeth ehangach trwy gymhwyso i ystod ehangach o weithwyr proffesiynol a/neu gasglu amrywiaeth eang o achosion.

2.1 Cwmpas

Achosion hysbys, a amheuir neu wrth risg o briodasau dan orfod?

Mae tri phrif opsiwn ar gyfer pa fathau o achosion y gellid eu hadrodd o dan y ddyletswydd newydd: fe allai fod yn gymwys i achosion hysbys, a amheuir neu wrth risg o briodasau dan orfod.

  • Mae achosion hysbys wediu diffinio fel y rheini sydd wediu datgelu gan y dioddefwr (ar 担l ir briodas ddigwydd) wrth weithiwr proffesiynol.
  • Diffinnir achosion a amheuir fel y rheini lle maer gweithiwr proffesiynol wedi arsylwi ar ffactorau risg syn arwain atynt yn credu y gallair unigolyn fod wedii orfodi/ei gorfodi i briodas.
  • Diffinnir achosion wrth risg fel y rheini lle cred gweithwyr proffesiynol y gallai unigolyn fod wrth risg o gael ei orfodi/ei gorfodi i briodas ond nad ywr drosedd wedi digwydd eto.

Yn ychwanegol at sicrhau bod camau priodol wediu cymryd lle mae trosedd wedi digwydd, byddai adrodd am achosion hysbys yn unig yn sicrhau bod camau diogelu priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw aelodau eraill y teulu (e.e. brodyr neu chwiorydd iau) a oedd yn cael eu hystyried wrth risg. Serch hynny, pe bai dyletswydd wedii chyfyngu i achosion hysbys yn unig byddain rhaid bod yn glir nad oedd hyn yn newid y sefyllfa mewn cysylltiad ag achosion a amheuir neu wrth risg ac y byddai angen i weithwyr proffesiynol gymryd camau priodol o hyd fel yr amlinellir yn yr arweiniad amlasiantaeth ar briodas dan orfod.

Byddai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer yr holl achosion a amheuir ac wrth risg o briodas dan orfod 但r potensial i gynnig cyfle i ymateb diogelu amlasiantaeth gael ei sefydlu i ddiogelur rheini wrth risg au hatal rhag cael eu gorfodi i briodas. Serch hynny, mae risgiau yn gysylltiedig 但r ymdriniaeth hon. Er enghraifft, maen hynod heriol llunio rhestr gyffredinol o ffactorau risg penodol; rhaid edrych ar achosion yn unigol i sicrhau bod asesiad risg yn cael ei deilwra i amgylchiadaur achos.

Gallai dyletswydd a oedd yn gymwys i achosion a amheuir a/neu wrth risg arwain at weithwyr proffesiynol yn mabwysiadu dehongliad eang iawn o risg, yn arwain at:

  • dargedu (anfwriadol) ar gymunedau penodol a allai beryglur gwaith cadarnhaol syn cael ei wneud gan Lywodraeth ac eraill i gefnogi cymunedau sydd wediu heffeithio wrth yrru newid;
  • cynnydd cyflym yn yr atgyfeiriadau, yn ei gwneud hin fwy heriol i achosion risg uchel gael eu hadnabod; a
  • ffocws anghymesur ar briodasau dan orfod oi gymharu 但 meysydd diogelu eraill.

Pan fydd dyletswydd wedii fframion ehangach yn cael ei chyflwyno, byddain rhaid rhoi ystyriaeth i sut i helpu i liniaru ar y risgiau hyn (gan gynnwys, er enghraifft, trwy hyfforddiant ac arweiniad cadarn).

Cwestiwn 2(a): Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodasau dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylai gymhwyso i:

  • Achosion hysbys (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)
  • Achosion a amheuir (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)
  • Achosion wrth risg (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)

Cwestiwn 2(b): Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno ar gyfer achosion a amheuir a/neu wrth risg, pa amddiffyniadau y credwch chi y gellid eu sefydlu i helpu i liniaru ar y risgiau a amlinellir uchod?

Plant a/neu oedolion?

Gallai dyletswydd orfodol i adrodd gael ei chymhwyso i rai dan 16 oed yn unig, y rhai 16 i 18 oed, dan 18 oed ac, ym mhob achos, i oedolion bregus hefyd, neu ir holl ddioddefwyr neu unigolion wrth risg.

Byddai cymhwysor ddyletswydd waeth beth yw oed yr unigolyn dan sylw yn sicrhau bod yr heddlu ac awdurdodau diogelu yn ymwybodol or holl ddioddefwyr posibl sydd wedi dod i gysylltiad 但r gwasanaethau cyhoeddus ac sydd wediu hadnabod fel rhywun sydd wedi bod neu sydd wrth risg o briodas dan orfod. Er enghraifft, gallai adrodd am riant a oedd wedii orfodi i briodas gefnogi asesiad risg mwy cadarn yn cael ei gynnal ou plant. Serch hynny, gallai gofyniad mor eang beryglu gosod baich anghymesur ar weithwyr proffesiynol, heb unrhyw fuddion diogelu clir. Yn ychwanegol, byddai dyletswydd sydd hefyd yn gymwys i oedolion yn ymadael or gofynion cyfrinachedd cyfredol ac fe allai fod yn wrthanogaeth i ddioddefwyr geisio cyngor a chymorth proffesiynol.

Ymdriniaeth amgen fyddai cymhwysor ddyletswydd i unrhyw un or rhai dan 16 oed yn unig/16 i 18 oed/dan 18 oed ac i oedolion bregus. Gallai anabledd neu salwch dysgu neu gorfforol ychwanegu at fregusrwydd unigolyn ac fe allai ei gwneud hin anos iddynt adrodd am y cam-drin neu adael sefyllfa gamdriniol. Serch hynny, gallai heriau tebyg yng nghyswllt cyfrinachedd a dioddefwyr yn ceisio cefnogaeth fod yn gymwys i oedolion bregus o hyd. Byddai cymhwysor ddyletswydd ir rhai dan 18 oed yn unig yn gyson 但r cyfrifoldebau statudol cyfredol sydd gan weithwyr proffesiynol i adrodd am gam-drin plant, gan gynnwys dyletswydd orfodol i adrodd am anffurfio organau cenhedlu benywod. Serch hynny, gallair rhai dan 18 oed barhau yn gyndyn i ddatgelu eu bod wediu gorfodi i briodas dan orfod, yn enwedig os oedd y ddyletswydd yn gofyn ir datgeliad gael ei gyfeirio yn awtomatig at yr heddlu yr hynaf ywr unigolyn, y mwyaf tebygol y gallai hyn fod. Gallai cyfyngu ar y ddyletswydd ir rhai dan 16 oed helpu i liniaru ymhellach ar y risg hon. Pe bai dyletswydd yn cael ei chyfyngu ir rhai dan 18 oed neu dan 16 oed, byddai gofyn ir gweithwyr proffesiynol adrodd achosion o briodasau dan orfod mewn oedolion yn briodol o hyd, yn enwedig os ydynt yn ystyried bod trosedd wedii chyflawni, fel yr amlinellir yn yr arweiniad amlasiantaeth ar briodas dan orfod.

Cwestiwn 3: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylid ei chymhwyso i bob achos yn cynnwys:

  • y rhai dan 16 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • y rhai 16 a 17 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • y rhai dan 18 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • oedolion bregus (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • oedolion eraill (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)

2.2. Pa weithwyr proffesiynol ddylai fod yn amodol ar ddyletswydd, ac at bwy y dylent gael eu cyfeirio?

Gallai ystod o unigolion ddod yn ymwybodol o achosion priodas dan orfod, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ar rheini syn gweithio yn y sector gwirfoddol a chymunedol.

Y gweithwyr proffesiynol syn fwyaf tebygol o ddod ar draws achosion o briodas dan orfod yw athrawon a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Gan hynny un ymdriniaeth fyddai i unrhyw ddyletswydd gymhwyso i athrawon a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol rheoledig.

Ymdriniaeth amgen fyddai i ddyletswydd gymhwyso ir unigolion hynny syn gweithio o fewn asiantaethau statudol fel y disgrifir uchod ar rheini syn gweithio mewn sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol byddai hyn yn cynnig y cyfle mwyaf i gasglu cynifer o achosion 但 phosibl. Serch hynny, mae fframio dyletswydd mor eang 但 hyn hefyd yn peryglu ymgysylltiad y bobl 但r gwasanaethau hyn, yn enwedig mewn perthynas 但r sector gwirfoddol a chymunedol. Fe allai fod yn fwy heriol hefyd sicrhau bod unigolion nad yw eu proffesiwn yn cael ei oruchwylio gan, er enghraifft, corff rheoleiddio, ddeall eu cyfrifoldebau o dan ddyletswydd.

Cwestiwn 4: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylai gymhwyso i:

  • athrawon (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)
  • gweithwyr proffesiynol iechyd rheoledig (gan gynnwys meddygon, nyrsys ayyb) (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)
  • gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol rheoledig
  • gweithwyr sector gwirfoddol a chymunedol (dylai/na ddylai/ddim yn gwybod)
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Maer Llywodraeth hefyd eisiau ystyried i bwy y dylid adrodd. Byddain rhaid i adroddiad a wneir o dan ddyletswydd orfodol i adrodd priodas dan orfod gael ei dilyn i fyny o safbwynt troseddol a diogelu, felly gellid ei wneud ir heddlu, gofal cymdeithasol, neur ddau. I ba bynnag asiantaeth y byddai adroddiad yn cael ei wneud, byddai angen ymateb diogelu amlasiantaeth (yn unol 但r arweiniad ehangach megis Working Together to Safeguard Children[footnote 8] (yn Lloegr) a Gweithio Gydan Gilydd i Ddiogelu Pobl [footnote 9] (yng Nghymru). Byddair Llywodraeth hefyd yn ei gwneud hin glir i weithwyr proffesiynol na ddylent oedi wrth wneud atgyfeiriad ar yr un pryd i ofal cymdeithasol plant os oes angen, ac y dylai achosion nad ydynt yn rhan or ddyletswydd gael eu cyfeirion briodol yn unol 但 chyfrifoldebau diogelu ehangach.

Cwestiwn 5: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, a gredwch chi y dylai adroddiadau gael eu gwneud i:

  • yr heddlu yn unig
  • gofal cymdeithasol yn unig
  • yr heddlu a gofal cymdeithasol ar y cyd
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cymru

Yng Nghymru, mae adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn i bartneriaid perthnasol[footnote 10] yr awdurdod lleol i hysbysur awdurdod lleol pan fydd ganddynt achos rhesymol i amau bod plentyn o fewn ardal yr awdurdod lleol yn blentyn wrth risg (h.y. yn profi neu wrth risg o gam-drin, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, ac ag anghenion ar gyfer gofal a chefnogaeth). Pe bai dyletswydd yn cael ei chyflwyno, byddair Llywodraeth yn sicrhau nad oedd gwrthdaro gydar trefniadau ehangach sydd wediu sefydlu yng Nghymru.

2.3 Amseru atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau lluosog

Pe bai dyletswydd yn cael ei chyflwyno, byddain rhaid ystyried hefyd pryd i wneud atgyfeiriadau. Un opsiwn fyddai i adroddiadau o dan y ddyletswydd gael ei gwneud adeg y datgelu. Byddai hyn yn gyson 但 dyletswyddau cyfredol ar weithwyr proffesiynol i adrodd am gam-drin plant, gan gynnwys dyletswydd orfodol i adrodd am anffurfio organau cenhedlu benywod.

Serch hynny, mae ymdriniaethau amgen ar gael y gellid eu hystyried (yn enwedig, er enghraifft, pe bair ddyletswydd yn cynnwys achosion a amheuir neu oedolion). Gallai ymdriniaethau gwahanol gynnwys, er enghraifft:

  • dyletswydd i adrodd dim ond pan fydd yr unigolyn dan sylw wedi rhoi caniat但d; neu
  • gofyniad ir adroddiad gael ei wneud ar foment priodol o fewn cyfnod o amser penodol (er enghraifft o fewn un mis ir datgeliad cychwynnol, er mwyn caniat叩u ir gweithiwr proffesiynol sicrhau yn ystod y cyfnod hwnnw bod unrhyw effaith negyddol posibl ir unigolyn neur teulu yn cael ei liniaru).

Cwestiwn 6: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno yna ydych chin meddwl y dylai adroddiadau gael eu gwneud:

  • ar bwynt y datgeliad cychwynnol (h.y. ar unwaith/cyn gynted 但 phosibl)
  • o fewn cyfnod amser penodol (e.e. un mis) (nodwch chi beth ydych chin meddwl fyddair cyfnod amser priodol)
  • dim ond os/pan fydd yr unigolyn yn rhoi caniat但d
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Yn ychwanegol, rhaid rhoi ystyriaeth ir ffaith y gallair unigolyn fod mewn cysylltiad gyda sefydliadau lluosog dros gyfnod o amser a chan hynny efallai y bydd angen datgelu mwy nac unwaith. Gallai dyletswydd syn gofyn am adroddiadau drachefn gan wahanol sefydliadau fod 但 goblygiadau ar gyfer unigolyn a allai gael ei anghymell rhag defnyddio gwasanaethau ar 担l adroddiadau drachefn ac (os ywr ddyletswydd wedii fframion eang) 但r potensial i fod yn ddiangen. Ir gwrthwyneb, maen bwysig adnabod y gallai amgylchiadau unigolyn newid, felly gallai dyletswydd syn cefnogi adroddiadau lluosog fod yn offeryn defnyddiol.

Byddain rhaid i unrhyw ddyletswydd fynd ir afael hefyd 但r her o wybod pryd, ar draws sefydliadau lluosog, y mae unigolyn wedii adrodd. Ar gyfer dyletswydd fyddain gofyn am un adroddiad yn unig i weithio, byddai angen rhannu gwybodaeth yn ddigonol a chysylltiadau rhwng y gwahanol gyrff i sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol a allai dderbyn datgeliad gan y dioddefwr yn gwybod pa adroddiad sydd eisoes wedii wneud. I fynd ir afael 但r her hon, ymdriniaeth amgen fyddai gofyn i adroddiad gael ei wneud unwaith o fewn pob proffesiwn (er enghraifft, gallai achos gael ei adrodd unwaith gan feddyg ac unwaith gan athro, i gyfyngu ar feichiau ac ar yr un pryd yn hyrwyddo ymdriniaeth amlasiantaeth). Byddai hyn yn golygu pe bai gweithiwr proffesiynol yn ymwybodol bod unigolyn arall oi broffesiwn eisoes wedi adrodd achos yn unol 但 gofynion y ddyletswydd yna ni fyddai gofyn gwneud ail adroddiad.

Cwestiwn 7: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylai ofyn i adroddiad gael ei wneud:

  • unwaith fesul proffesiwn
  • unwaith fesul gweithiwr proffesiynol unigol
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

2.4 Canlyniadau methu adrodd

Elfen hanfodol o unrhyw ddyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod fyddair canlyniadau a allai ddilyn pe bai unigolyn yn methu cydymffurfio 但r ddyletswydd.

Pe bai dyletswydd yn cael ei chyflwyno, byddain bwysig i unrhyw ganlyniadau posibl am fethu cydymffurfio daror cydbwysedd cywir rhwng bod yn gadarn a bod yn gymesur, ac iddi fod yn bosibl i amgylchiadaur achos penodol gael eu hystyried hyd y gellir.

Un opsiwn fyddai i fethu cydymffurfio 但r ddyletswydd gael ei ystyried gan y rheoleiddiwr/cyflogwr proffesiynol perthnasol. Byddair ymdriniaeth hon yn sicrhau lle byddai unigolyn yn methu cydymffurfio byddai cwmpas i gamaur rheoleiddiwr/cyflogwr ystyried amgylchiadaur achos penodol. Er enghraifft, gallai camau amrywio o rybudd, i ail-hyfforddi neu oruchwyliaeth, i ddiswyddo neu wahardd, gan ddibynnu ar yr opsiynau syn agored ir rheoleiddiwr/cyflogwr a difrifoldeb methiant yr unigolyn i gydymffurfio. Ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, gallai panel addasrwydd i ymarfer ystyried yr achos i bennu a yw wedi amharu ar addasrwydd y cofrestrydd i ymarfer. Os ystyriant fod addasrwydd y cofrestrydd i ymarfer wedii amharu arno maen bosibl y byddant yn cyhoeddi cosb, gan gynnwys dilead or gofrestr berthnasol.

Opsiwn amgen fyddai bod y methiant i gydymffurfio yn drosedd. Byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw enghraifft o fethiant i gydymffurfio 但r ddyletswydd yn cael ei thrin yn gadarn, serch hynny fe allai hefyd beryglu ymateb anghymesur lle, er enghraifft, mair camau mwyaf priodol fyddai ailhyfforddi.

Cwestiwn 8: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylai methiant i gydymffurfio 但 hi:

  • gael ei hystyried gan y rheoleiddiwr proffesiynol perthnasol/cyflogwr
  • yn drosedd
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Effaith

Gwyddom y bydd gan y rheini a fydd angen cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd orfodol i adrodd ystod o gyfrifoldebau diogelu yn barod. Rydym eisiau sicrhau na fyddai unrhyw ofynion newydd yn gosod beichiau anghymesur arnynt. Gan hynny:

Cwestiwn 9: Pa dystiolaeth neu wybodaeth sydd gennych chi ar y cynnydd disgwyliedig yn yr adroddiadau ir heddlu yn sgil cyflwyno adrodd gorfodol ar briodas dan orfod a sut ydych chin meddwl y byddent yn amrywio gydar gwahanol gynigion?

Cwestiwn 10: Pa dystiolaeth neu wybodaeth sydd gennych chi ar ba mor hir y byddain ofynnol i atgyfeirio achos o briodas dan orfod a amheuir wrth yr heddlu, faint o amser y byddair heddlu yn ei dreulio yn ymchwilio i achos or fath, ac unrhyw gostau eraill i asiantaethau statudol wrth gydymffurfio 但r ddyletswydd?

Cwestiwn 11: A fyddai unrhyw oblygiadau eraill ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen o gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod?

  • Byddai [amlinellwch]
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 12: A fyddai unrhyw oblygiadau cydraddoldeb i gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ac, os felly, sut y gellir mynd ir afael 但r rhain?

  • Byddai [amlinellwch sut y gellid mynd ir afael 但r rhain]
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiynau ehangach

Cwestiwn 13: A oes unrhyw fuddion i gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod na thynnir sylw atynt yn yr ymgynghoriad hwn?

  • Oes [amlinellwch]
  • Na

Cwestiwn 14: A oes unrhyw risgiau i gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod na thynnir sylw atynt yn yr ymgynghoriad hwn?

  • Oes [amlinellwch]
  • Na

Rhan B: Arweiniad ar Briodas dan Orfod

Er mwyn helpu i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a sefydliadau diogelu perthnasol yn deall, yn adnabod, ac yn ymateb yn briodol ac yn effeithiol i briodas dan orfod, maer Llywodraeth wedi sicrhau bod ystod o ddeunyddiau ar gael. Maer rhain yn cynnwys arweiniad penodol ar briodas dan orfod, a gyhoeddwyd yn 2014:

  • Hawl i Ddewis: Arweiniad statudol amlasiantaeth ar gyfer delio gyda phriodas dan orfod[footnote 11] maen gymwys i bob person neu gorff syn defnyddio swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas 但 diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion bregus. Paratoir yr arweiniad hwn ai gyhoeddi yn unol 但r darpariaethau yn adran 63Q Deddf Cyfraith Teulu 1996. Mae Adran 63Q (2) Deddf 1996 yn gofyn i unrhyw un syn defnyddio swyddogaethau cyhoeddus y maer arweiniad yn cael ei roi iddo ystyried yr arweiniad wrth ymgymryd 但r swyddogaethau cyhoeddus hynny; a
  • Arweiniadau arfer amlasiantaeth: ymdrin ag achosion priodas dan orfod[footnote 12] syn cynnig cyngor cam wrth gam i weithwyr rheng flaen.

Rydym eisiau edrych ar sut y gellid gwellar arweiniad, ac yn benodol byddem yn croesawu barnau ar yr isod:

Cwestiwn 15: A oes unrhyw ddiwygiadau sylweddol y gellid eu gwneud ir arweiniad statudol a fyddain helpu i atal priodas dan orfod a diogelu a chefnogi dioddefwyr?

Cwestiwn 16: A oes unrhyw ddiwygiadau sylweddol y gellid eu gwneud ir arweiniad arfer a fyddain helpu i atal priodas dan orfod ac yn diogelu ac yn cefnogi dioddefwyr?

Fel yr amlinellir uchod, ar hyn o bryd mae dau brif ddarn o arweiniad Llywodraeth ar briodas dan orfod: cyngor cam wrth gam i weithwyr proffesiynol rheng flaen, ac arweiniad ir holl unigolion a chyrff syn defnyddio swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas 但 diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion bregus. Er mwyn helpu i sicrhau bod y wybodaeth berthnasol ar briodas dan orfod ar gael yn rhwydd, un opsiwn ar gyfer yr arweiniad wedii ddiweddaru fyddai cynhyrchu un darn o arweiniad yn addas iw ddefnyddio gan y ddwy gynulleidfa.

Cwestiwn 17: A ydych chin meddwl y dylair arweiniad amlasiantaeth statudol ar arweiniadau arfer gael eu cyfuno i ddarparu un ddogfen glir i weithwyr proffesiynol?

  • Dylai
  • Na ddylai
  • Ddim yn gwybod

Mae priodas dan orfod yn ffurf ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd[footnote 13], a gwyddom y gallai dioddefwyr ar rheini wrth risg o briodas dan orfod brofi neu fynd ymlaen i brofi ffurfiau ehangach o gam-drin megis cam-drin domestig neu drais rhywiol. O ystyried y croesi rhwng y materion hyn, fe allai fod yn fuddiol ir arweiniad gynnwys mwy o wybodaeth ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd yn gyffredinol.

Cwestiwn 18: Ydych chin meddwl y dylair arweiniad gael ei ehangu i gynnwys gwybodaeth ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 18a: Os ydych chi, a oes gwybodaeth a chyngor penodol ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd yr ydych chin meddwl y dylid eu cynnwys?

Cwestiwn 19: A oes unrhyw ffactorau eraill y credwch chi y dylid eu hystyried mewn perthynas 但r arweiniad ar briodas dan orfod?

Holiadur

Byddem yn croesawu ymatebion ir cwestiynau a ganlyn a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.

Cwestiwn 1: A gredwch chi y byddai cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn gwellar ymateb diogelu ir drosedd hon?

  • Byddai
  • Na fyddai
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 2(a): Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, ydych chin meddwl y dylai gymhwyso i:

  • Achosion hysbys (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • Achosion a amheuir (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • Achosion wrth risg (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)

Cwestiwn 2(b): Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno ar gyfer achosion a amheuir a/neu wrth risg, pa amddiffyniadau y credwch chi y gellid eu sefydlu er mwyn helpu i liniaru ar y risgiau a amlinellir uchod?

Cwestiwn 3: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, a gredwch chi y dylai gymhwyso i achosion syn cynnwys:

  • y rhai dan 16 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • 16 a 17 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • y rhai dan 18 oed (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • oedolion bregus (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • oedolion eraill (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)

Cwestiwn 4: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, a gredwch chi y dylai gymhwyso i:

  • athrawon (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • gweithwyr proffesiynol iechyd rheoledig (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol rheoledig (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • gweithwyr sector gwirfoddol a chymunedol (ydw/nac ydw/ddim yn gwybod)
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cwestiwn 5: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, a gredwch chi y dylai ofyn i adroddiadau gael eu gwneud ir:

  • heddlu yn unig
  • gofal cymdeithasol yn unig
  • yr heddlu a gofal cymdeithasol ar y cyd
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cwestiwn 6: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno yna a gredwch chi y dylai adroddiadau gael eu gwneud:

  • adeg y datgelu cychwynnol (h.y. ar unwaith/cyn gynted 但 phosibl)
  • o fewn cyfnod o amser penodol (e.e. un mis) (nodwch beth ydych chin meddwl fyddain gyfnod amser priodol)
  • dim ond os/pan fydd unigolyn yn rhoi caniat但d
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cwestiwn 7: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod yn cael ei chyflwyno, a gredwch chi y dylai ofyn i adroddiad gael ei wneud:

  • unwaith fesul proffesiwn
  • unwaith fesul gweithiwr proffesiynol unigol
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cwestiwn 8: Pe bai dyletswydd orfodol i adrodd yn cael ei gyflwyno ar gyfer priodas dan orfod, a ydych chin meddwl y dylai methiant i gydymffurfio 但 hi gael ei ystyried:

  • gan y rheoleiddiwr proffesiynol perthnasol/cyflogwr
  • yn drosedd
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)
  • ddim yn gwybod

Cwestiwn 9: Pa dystiolaeth neu wybodaeth sydd gennych chi ar y cynnydd disgwyliedig mewn adroddiadau ir heddlu yn sgil cyflwyno adrodd gorfodol ar briodas dan orfod a sut y credwch chi y byddent yn amrywio gydar gwahanol gynigion?

Cwestiwn 10: Pa dystiolaeth neu wybodaeth sydd gennych chi ar ba mor hir fyddain ofynnol i gyfeirio achos o briodas dan orfod a amheuir wrth yr heddlu, faint o amser y byddair heddlu yn ei dreulio yn ymchwilio i achos or fath, ac unrhyw gostau eraill i asiantaethau statudol yn sgil cydymffurfio 但r ddyletswydd?

Cwestiwn 11: A fyddai unrhyw oblygiadau eraill ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen o gyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod?

  • Byddai [amlinellwch]
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 12: A fyddai goblygiadau cydraddoldeb yn sgil cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ac, os felly, sut y gellid mynd ir afael 但r rhain?

  • Byddai [amlinellwch sut y gellid mynd ir afael 但r rhain]
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 13: A oes unrhyw fuddion yn sgil cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod na thynnwyd sylw atynt yn yr ymgynghoriad hwn?

  • Oes [amlinellwch]
  • Na

Cwestiwn 14: A oes unrhyw risgiau yn sgil cyflwyno dyletswydd orfodol i adrodd ar gyfer priodas dan orfod na thynnwyd sylw atynt yn yr ymgynghoriad hwn?

  • Oes [amlinellwch]
  • Na

Cwestiwn 15: A oes unrhyw ddiwygiadau sylweddol y gellid eu gwneud ir arweiniad statudol a fyddain helpu i atal priodas dan orfod a diogelu a chefnogi dioddefwyr?

Cwestiwn 16: A oes unrhyw ddiwygiadau sylweddol y gellid eu gwneud ir arweiniad arfer a fyddain helpu i atal priodas dan orfod a diogelu a chefnogi dioddefwyr?

Cwestiwn 17: A gredwch chi y dylair arweiniad amlasiantaeth statudol ar arweiniad arfer gael eu cyfuno i gynnig un ddogfen glir i weithwyr proffesiynol?

  • Dylai
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 18: A gredwch chi y dylair arweiniad gael ei ehangu i gynnwys gwybodaeth ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd?

  • Dylai
  • Na
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 18a: Os ydych chi, a oes gwybodaeth a chyngor penodol ar drais/cam-drin ar sail anrhydedd y credwch chi y dylid eu cynnwys?

Cwestiwn 19: A oes unrhyw ffactorau eraill y credwch chi y dylid eu hystyried mewn perthynas 但r arweiniad ar briodas dan orfod?

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun.

Teitl swydd neu yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb ir ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod or cyhoedd)
Dyddiad
Enw cwmni/sefydliad (os yn berthnasol)
Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn
Cyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth

Os ydych yn cynrychioli gr典p, dywedwch enwr gr典p a rhoi crynodeb or bobl neu sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.



Manylion cyswllt a sut i ymateb

Er mwyn ein helpu ni i ddadansoddir ymatebion, cyflwynwch eich ymatebion gan

Anfonwch eich ymateb erbyn 23:00 ar 23 Ionawr 2019.

Os, am resymau eithriadol, nad ydych chin gallu defnyddior system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chin defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad ywn gydnaws 但r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word or ffurflen ai hanfon ar e-bost at:

Interpersonal Violence Team, Public Protection Unit
5th Floor, Fry Building
Home Office
2 Marsham Street
London,
SW1P 4DF

e-bost: forcedmarriageconsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu 但r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Cop誰au ychwanegol

Mae cop誰au papur pellach or ymgynghoriad hwn ar gael or cyfeiriad hwn ac mae ar gael ar-lein hefyd.

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol or cyhoeddiad hwn gan forcedmarriageconsultation@homeoffice.gov.uk

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoir ymatebion ir ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi erbyn Gwanwyn 2019. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb or bobl a sefydliadau y maent yn eu cynrychioli wrth ymateb.

Cyfrinachedd

Gallai gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb ir ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neui datgeli yn unol 但r trefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf y rhain yw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 1998 ar Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych chi eisiau ir wybodaeth y byddwch yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Cod Ymarfer statudol y maen rhaid i awdurdodau cyhoeddus cydymffurfio 但 hwy ac syn delio, ymhlith pethau eraill, gyda rhwymedigaethau hyder. O ganlyniad, byddain ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam yr ydych yn ystyried fod y wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelur wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn ich esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo ei hun, yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesuch data personol yn unol 但r Ddeddf Diogelu Data a gan amlaf bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd part誰on.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannaur Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu 但 rhanddeiliaid wrth ddatblygu polis誰au a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.

  1. 020 7008 0151 Forced marriage guidance

  2. Forced Marriage Unit statistics 2017

  3. Maer data yn cynnwys pob achos sydd wediu nodi fel priodas dan orfod ac nid dim ond y rheini syn perthyn i drosedd priodas dan orfod a gyflwynwyd yn 2014.油

  4. Working together to safeguard children guidance

  5. Mandatory reporting of female genital mutilation: procedural information

  6. Working together to safeguard children guidance

  7. Diffinia Adran 162(4) y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bartneriaid perthnasol fel a ganlyn: (a) y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn disgyn o fewn ardal yr awdurdod lleol; (b) unrhyw awdurdod lleol arall y maer awdurdod yn cytuno y byddain briodol cydweithredu ag ef o dan yr adran hon; (c) yr Ysgrifennydd Gwladol ir graddau y maer Ysgrifennydd Gwladol yn ymgymryd 但 swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 y Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 mewn perthynas 但 Chymru; (d) unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf syn ofynnol gan drefniadau o dan adran 3(2) y Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 i weithredu fel partner perthnasol yr awdurdod; (e) Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn disgyn o fewn ardal yr awdurdod; (f) ymddiriedolaeth GIG syn darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod; (g) Gweinidogion Cymru ir graddau y maen nhwn ymgymryd 但 swyddogaethau o dan Ran 2 y Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000; (h) unrhyw berson, neu bobl o ddisgrifiad or fath, y gallair rheoliadau nodi.油

  8. Mae trais/cam-drin ar sail anrhydedd yn derm ymbar辿l syn cwmpasu troseddau neu weithredoedd yn enw amddiffyn neu ddiogelu anrhydedd y teulu neur gymuned.油