Preventing the use of SIM farms for fraud: consultation (accessible Welsh)
Updated 18 December 2023
Am yr ymgynghoriad hwn
At
Maer ymgynghoriad hwn yn agored ir cyhoedd ac mae wedii dargedu tuag at ddioddefwyr a busnesau sydd wedi dioddef twyll, gan gynnwys twyll negeseuon testun a galwadau ff担n sgam.
Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai hynny a allai gael eu heffeithio gan y cynigion, pe baent yn dod yn ddeddfwriaeth, gan gynnwys gweithredwyr telathrebu, busnesau, sefydliadau gorfodir gyfraith, grwpiau defnyddwyr, yn ogystal 但 chyrff anllywodraethol syn canolbwyntio ar ddioddefwyr twyll, rhyddid sifil a grwpiau hawliau dynol.
Hyd
6 wythnos o 3 Mai 2023 tan 14 Mehefin 2023
Ymholiadau i:
SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Ebost: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk
Sut i ymateb
Anfonwch eich ymateb erbyn 17:00 ar 14 Mehefin 2023 drwy ebost i SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk
Ffyrdd eraill o ymateb
Os nad ydych yn gallu ymateb drwy ebost, gallwch lawrlwytho fersiwn PDF or ffurflen ar-lein ai chyflwyno drwy ebost neu drwyr post.
Os oes arnoch angen gwybodaeth mewn fformat arall, anfonwch ebost i: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk. Dywedwch wrthym pa fformat y mae arnoch ei angen. Bydd o gymorth i ni os gallwch ddweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio.
Efallai na fyddwn yn gallu dadansoddi ymatebion nad ydynt wediu cyflwyno yn y fformatau hyn a ddarparwyd.
Papur ymateb
Cyhoeddir ymateb ir ymgynghoriad hwn ar cais am dystiolaeth ar gov.uk pan fydd yr ymgynghoriad wedii gwblhau.
Rhagair gan y Gweinidog
Fel Ysgrifennydd Cartref, diogelur cyhoedd yw fy mhrif flaenoriaeth ar drosedd fwyaf yn y DU yw twyll. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Strategaeth Dwyll syn amlinellu uchelgais y llywodraeth i sicrhau gostyngiad o 10% yn lefelau twyll 2019, i lawr i 3.33 miliwn o achosion o dwyll erbyn diwedd 2024. Er mwyn gwneud hyn, maen hollbwysig ein bod yn atal sgamiau rhag cyrraedd pobl yn y lle cyntaf.
Mae twyllwyr yn defnyddio technoleg a chyfryngau telathrebu sydd on cwmpas ym mhobman o ddydd i ddydd, er enghraifft negeseuon testun a galwadau ff担n, i gysylltu 但 phobl er mwyn eu twyllo a chael gafael ar eu harian. Er mwyn atal y niwed ariannol ac emosiynol dinistriol y mae hyn yn ei achosi, rhaid i ni atal troseddwyr rhag cael mynediad at unrhyw offeryn syn caniat叩u iddynt anfon niferoedd mawr o negeseuon yr un pryd neu wneud galwadau ff担n sgam.
Dyma pam rwyf yn lansior ymgynghoriad hwn ar wahardd cyflenwi a defnyddio ffermydd SIM yn y DU. Er mwyn sicrhau bod y cynigion yn addas ar gyfer y dyfodol, rydym hefyd yn gofyn pa dechnolegau eraill ddylai gael eu gwahardd er mwyn atal troseddwyr rhag gallu eu defnyddio i gyflawni twyll.
Maer cynigion hyn yn paratoir ffordd ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol i wellar ymateb i dwyll syn cael ei alluogi gan gyfryngau telathrebu, er mwyn sicrhau bod ein hasiantaethau gorfodir gyfraith un cam ar y blaen o hyd ac nad oes gan droseddwyr le i guddio.
Y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman CB AS Ysgrifennydd Gwladol
Crynodeb Gweithredol
Mae ffermydd SIM yn ddyfeisiau syn gallu dal cannoedd o gardiau SIM, ac anfon miloedd o negeseuon testun sgam i gael miliynau o bunnoedd drwy dwyll gan bobl y DU. Yn ogystal ag anfon negeseuon testun sgam, mae troseddwyr yn defnyddior dyfeisiau hyn i gynnal ymgyrchoedd galwadau ff担n sgam ac i bostio niferoedd mawr o negeseuon camarweiniol, anwir neu we-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae troseddwyr yn eu defnyddio i guddio data cyfathrebiadau wrth wneud galwadau ff担n neu negeseuon testun, gan wneud ymchwiliadaun llawer anos. Defnyddir ffermydd SIM yn aml yn groes i delerau gwasanaeth gweithredwyr telathrebu i anfon traffig cyfreithlon ar gyfraddau sylweddol is na phe baent yn defnyddior llwybrau priodol.
Maen bosibl bod rhai cwmn誰au syn gwneud defnydd cyfreithlon or dechnoleg, ond nid oes llawer ohonynt ac ni ddylai fod angen iddynt ddefnyddio mwy na phedwar cerdyn SIM, yn seiliedig ar nifer y gweithredwyr ffonau symudol yn y DU. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd gennym bod unrhyw achosion defnydd cyfreithlon ar gyfer dyfeisiau syn caniat叩u defnyddio mwy na phedwar cerdyn SIM, ac ar gyfer pob achos or fath mae opsiynau amgen yn bodoli.
Maer ymgynghoriad hwn yn amlinellu cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi a meddu ar ffermydd SIM (dyfeisiau ar gyfer mwy na phedwar cerdyn SIM) yn y DU. Yn ogystal, rydym yn gofyn a ddylid cynnwys technolegau eraill syn cael eu defnyddio bron yn gyfan gwbl i gyflawni twyll. Rydym hefyd yn gofyn am fewnbwn yngl天n 但n diffiniad o ffermydd SIM er mwyn sicrhau ei fod yn gofnod cywir or dyfeisiau syn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac am farn yngl天n 但n hopsiwn i gymhwysor mesur dim ond i ddyfeisiau sydd 但 mwy na phedwar slot.
Er mwyn sicrhau y gallwn ymateb i fygythiadau newydd y byddwn yn eu canfod yn y dyfodol, maer ymgynghoriad hefyd yn gofyn a ddylair Llywodraeth allu diweddarur rhestr o dechnolegau ac eitemau gwaharddedig drwy is-ddeddfwriaeth.
Er mwyn lliniaru unrhyw gostau syn codi or cynigion, rydym yn gofyn a ddylem bennu cyfnod i ganiat叩u i sefydliadau werthusor prosesau ar dechnoleg y maent yn ei defnyddio a phontio i ddulliau amgen.
Yn ogystal, rydym yn lansio cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a data fel bod modd gwneud amcangyfrifon cywirach or effeithiau ar fusnesau. Caiff arfarniad manwl ei gwblhau, a darperir Asesiad Effaith llawn yn dilyn yr ymgynghoriad.
Cefndir
Y bygythiad y mae twyll yn ei achosi ir cyhoedd yn y DU
Fel y nodwyd yn y Strategaeth Dwyll yn ddiweddar, mae twyll yn cynyddu fel cyfran o droseddau, ac mae bellach yn gyfrifol am dros 40% or amcangyfrif o droseddau yng Nghymru a Lloegr.[footnote 1] Yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2022 amcangyfrifir bod 3.7 miliwn o droseddau twyll, ac roedd 1 o bob 15 oedolyn wedi dioddef twyll. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2022 roedd 18% wedi dioddef twyll ar fwy nag un achlysur.[footnote 2] Mae cost twyll yn aruthrol. Amcangyfrifwyd bod twyll yn erbyn unigolion yng Nghymru a Lloegr wedi costio o leiaf 贈6.8 biliwn i gymdeithas yn 2019/20.[footnote 3] Mae hyn yn cynnwys arian a gollwyd gan ddioddefwyr, cost cefnogi dioddefwyr, a chostau adfer, ymchwilio ac erlyn twyllwyr.
Un rheswm dros y cynnydd cyflym hwn yn y raddfa, ar niwed a achosir gan dwyll, yw cymhlethdod a soffistigeiddrwydd cynyddol yr offer sydd ar gael i dwyllwyr yn y DU a thramor. Mae troseddwyr yn aml yn camddefnyddio rhwydweithiau telathrebu i dargedu pobl a thwyllo dioddefwyr ar raddfa fawr. Yng nghyfnod Mehefin-Awst 2022, dywedodd tri chwarter pobl y DU eu bod wedi derbyn neges amheus, ar ffurf neges destun, neges wedii recordio neu alwad llais byw i ff担n symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn fwy na 40.8 miliwn o oedolion yn y DU.[footnote 4] Amcangyfrifir bod 700,000 wedi mynd ymlaen i ddilyn cyfarwyddiadaur sgamiwr, gan roi eu hunain yn agored i golled ariannol a thrallod emosiynol sylweddol.
Astudiaeth achos: Sgam Neges Destun Methu 但 Danfon Pecyn
Roedd Gemma*, merch 20 oed, wedi colli ei mam yn ddiweddar, a chafodd neges destun sgam yn honni ei fod gan y Post Brenhinol. Cliciodd ar y ddolen, rhoddodd ei manylion, a thalodd ffi ailddanfon. Y diwrnod canlynol cafodd alwad ff担n gan rywun yn honni ei fod yn galw or FCA. Dywedwyd wrthi bod rhywun wedi dwyn ei chyfrineiriau ac yn ceisio trosglwyddo arian oi banc, ac y dylai drosglwyddo ei harian i gyd i gyfrif diogel. Yn ei brys trosglwyddodd 贈9,200 yr oedd wedi ei etifeddu gan ei mam, ac ar 担l sylweddoli ei bod wedi cael ei thwyllo mae wedi dioddef gorbryder a phyliau o banig.
Beth allai gwahardd ffermydd SIM ei wneud yma?
Byddai gwahardd ffermydd SIM yn helpu i atal troseddwyr rhag anfon miloedd o negeseuon sbam fel hyn. Maer Strategaeth Dwyll yn cynnwys mesurau i roi pwerau ir rheoleiddwyr orfodi banciau a chwmn誰au ariannol i ad-dalu dioddefwyr fel Gemma, gan leihau niwed emosiynol ac ariannol.
*newidiwyd yr enw
Negeseuon testun sgam
Negeseuon testun ywr math mwyaf cyffredin o negeseuon amheus. Mae mwy na 6 o bob 10 person yn dweud eu bod wedi cael negeseuon testun amheus. Mae nifer yr adroddiadau am alwadau ff担n amheus yn llai, ond yn dal yn arwyddocaol: dywedodd 21% or ymatebwyr eu bod wedi cael galwadau byw amheus iw ffonau symudol ac 19% iw llinellau tir[footnote 5]. Mae negeseuon testun sgam yn cael eu holrhain yn aml i ffermydd SIM a thechnolegau eraill syn caniat叩u i droseddwyr anfon nifer fawr o negeseuon sgam gydai gilydd. Maer Llywodraeth wedi ymrwymo i atal troseddwyr rhag camddefnyddio technolegau ac offer, er enghraifft ffermydd SIM, a diogelu ein rhwydweithiau telathrebu rhag pobl syn ceisio twyllor cyhoedd yn y DU.

Y sefyllfa gyfreithiol bresennol
Nid ywr ddeddfwriaeth bresennol yn atal troseddwyr rhag cael a defnyddio ffermydd SIM, a thechnolegau eraill tebyg. Maer Ddeddf Twyll yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflenwi neu feddu ar eitemau, gan gynnwys ffermydd SIM, os bwriedir eu defnyddio ar gyfer twyll. Er hyn, maen anodd iawn cadarnhau bod unigolyn syn meddu, yn gwneud neun cyflenwi ffermydd SIM yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer twyll. Yn yr un modd, nid ywr Ddeddf yn gofyn i fewnforwyr, gweithgynhyrchwyr neu werthwyr wirio defnydd bwriadedig or ddyfais.
Dan Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006, mae gan Ofcom ar Ysgrifennydd Gwladol bwerau i osod cyfyngiadau os yw eitem yn ymyrryd 但 thelegraffiaeth ddi-wifr. Nid ywr pwerau hyn yn gymwys i droseddu neu ddiogelwch gwladol (dim ond ymyriant di-wifr), syn golygu nad ywn bosibl eu defnyddio i atal camddefnyddio telegraffiaeth ddi-wifr i gyflawni twyll, er enghraifft mynd ir afael 但 ffermydd SIM.
Mae hyn yn golygu nad yw troseddwyr, sydd eisoes 但u bryd ar dorrir gyfraith, yn wynebu unrhyw rwystrau wrth iddynt gaffael ffermydd SIM i gyflawni eu gweithgareddau troseddol. Dyma pam rydym yn cyflwyno mesurau newydd iw gwneud mor anodd ag syn bosibl i droseddwyr gael a defnyddio ffermydd SIM yn y DU.
Gall ffermydd SIM hefyd fod ar ffurf ap symudol sydd naill ain cynnig talu i ddefnyddwyr am negeseuon SMS di-d但l nad ydynt wedi eu defnyddio neu syn gosod maleiswedd syn dwyn eu dyraniad SMS bob mis. Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddodd y Llywodraeth God Ymarfer[footnote 6] gwirfoddol a oedd yn amlinellu gofynion diogelwch a phreifatrwydd sylfaenol ar gyfer gweithredwyr siopau apiau a datblygwyr apiau. Nod y Cod Ymarfer ar gyfer
Gweithredwyr Siopau Apiau a Datblygwyr Apiau yw diogelu defnyddwyr rhag apiau maleisus ac apiau wediu datblygun wael a bydd yn mynd ir afael 但 risgiau fersiynau ap o ffermydd SIM. Rydym yn monitro gweithrediad hyn a byddwn yn ystyried beth arall y mae angen ei wneud er mwyn tarfu ar y fersiwn ap o ffermydd SIM, gan gynnwys drwy ddefnyddior mesurau perthnasol a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori hon.
Ymgynghoriad: Bygythiad ffermydd SIM a thechnolegau tebyg ir cyhoedd yn y DU
Diffiniad o ffermydd SIM
Mae nifer o wahanol enwau ar gyfer ffermydd SIM, gan gynnwys blychau SIM, pyrth SIM, pyrth System Fyd-eang Cyfathrebu Symudol (GSM), pyrth Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP), a phyrth SMS.
Maer rhain yn ddyfeisiau syn trosi cyfathrebiadau llinell sefydlog (rhyngrwyd neu rwydwaith ff担n cyhoeddus analog) yn gyfathrebiadau symudol. Eu prif ddefnydd yw derbyn galwadau ff担n neu negeseuon SMS syn cael eu hanfon dros y rhyngrwyd au hail- drawsyrru dros rwydweithiau symudol i allu cyrraedd ffonau symudol.[footnote 7] Gall busnesau eu defnyddio i sicrhau cysylltiad di-dor wrth symud drwy ardaloedd lle mae signal annigonol; neu i ddiwallu anghenion cyfathrebu tymor byr heb fod angen gosod llinell sefydlog barhaol i safleoedd dros dro. Mae galwad neu neges destun a anfonir or dyfeisiau hyn yn ymddangos ir rhwydwaith symudol fel pe bain deillio o ff担n symudol sydd wedii chofrestru ir rhwydwaith hwnnw.[footnote 8]
Yn y b担n, dim ond pedwar gweithredwr ffonau symudol sydd yn y DU, ac mae pob darparwr arall yn cael ei gario gan eu gwasanaethau hwy. Mae hyn yn golygu nad ywn ofynnol i ddyfeisiau sydd 但 phum slot SIM neu fwy sicrhau cysylltedd di-dor. Gellir eu defnyddion wahanol, er enghraifft i gael mynediad ir rhwydwaith dro ar 担l tro i anfon negeseuon testun torfol, i wneud llawer o alwadau, neu i gael mynediad ir rhyngrwyd drwy lawer o gysylltiadau. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym fellyn diffinio ffermydd SIM fel dyfeisiau sydd 但 mwy na phedwar slot.
Rydym yn cydnabod bod y diffiniad uchod yn cyfeirio at ddyfeisiau ffisegol yn bennaf, ac y gallai fod yn colli iteriadau eraill or dechnoleg, gan gynnwys cyfuniadau posibl o galedwedd ffisegol a meddalwedd rhithwir. Felly, er mwyn sicrhau ein bod wedi cofnodi pob iteriad o fferm SIM yn gywir, rydym yn gwahodd eich barn am y diffiniad hwn.
Cwestiynau i ymgyngoreion:
C1. A ydych yn cytuno 但 diffiniad y llywodraeth o fferm SIM, fel dyfais syn cynnwys mwy na phedwar cerdyn SIM?
C2. Pa dechnoleg arall allai gael ei chyflwyno dan y gwaharddiad hwn a sut y dylid disgrifio hyn?
Y bygythiad
Yn aml iawn mae negeseuon testun sgam yn cael eu holrhain yn 担l i ffermydd SIM, sydd weithiaun gallu dal cannoedd os nad miloedd o gardiau SIM. Mae ffermydd SIM ar gael mewn marchnadoedd ar-lein poblogaidd, am brisiau isel, ac ychydig iawn o brofion a wneir i wirio cefndir y prynwr. Mae hyn yn eu gwneud yn opsiwn atyniadol, hawdd cael gafael arnynt a chost isel i droseddwyr syn anfon nifer fawr iawn o negeseuon testun i we-rwydo[footnote 9] am ddata sensitif, fel manylion banc.
Mae ffermydd SIM yn caniat叩u i droseddwyr ddefnyddio holl alluoedd cardiau SIM mewn niferoedd mawr iawn ac am gost isel. Yn ogystal ag anfon niferoedd mawr o negeseuon testun sgam, mae hyn yn cynnwys cynnal ymgyrchoedd galwadau ff担n sgam a phostio negeseuon camarweiniol, anwir neu we-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol ar raddfa fawr. Gall y dechnoleg hefyd ganiat叩u i droseddwyr guddio cyfathrebiadau drwy ddangos data Adnabod Llinell y Galwr (CLI) anghywir a lleoliad galwr anghywir.
Mae ffermydd SIM yn cael eu hysbysebun agored ar farchnadoedd ar-lein poblogaidd iw prynu au mewnforio ir DU. Maer rhan fwyaf o farchnadoedd yn gwneud ychydig iawn o brofion, os o gwbl, i wirio pwy yw eu cwsmeriaid. Golyga hyn ei bod yn hawdd iawn i droseddwyr gael ffermydd SIM, am gost isel, au defnyddio i dargedur cyhoedd yn y DU.
Nid ywn bosibl dweud faint yn union o ffermydd SIM syn cael eu defnyddio, ond mae ystadegau twyll yn dangos bod y defnydd o ffermydd SIM ymhlith y pum prif fath o dwyll telathrebu yn 2021.[footnote 10] Er enghraifft, darganfu un ymchwiliad gan yr heddlu fod pum SIM wedi anfon dros 900,000 o negeseuon mewn un fferm SIM rhwng Ebrill a Hydref mewn un flwyddyn.
Mae negeseuon sgam yn dal i fynd drwy hidlyddion y rhwydwaith ffonau symudol. Mae hyn oherwydd bod technegau ffermydd SIM yn esblygun gyflym mewn ymateb i ymdrechion iw canfod. Mae rhai darparwyr ffermydd SIM yn cynnig dulliau i wrthweithio strategaethau canfod, er enghraifft meddalwedd arbenigol syn efelychur ffordd y mae pobl yn defnyddio cardiau SIM yn eu ffonau symudol (meddalwedd Efelychu Ymddygiad Dynol). Er enghraifft, gallai cardiau SIM yn y fferm SIM alw neu anfon neges i gardiau SIM eraill yn y blwch, gan wneud i ymddygiad y cerdyn SIM ymddangos yn fwy normal. Mae dulliau or fath yn ceisio osgoir mesurau rheoli sydd mewn lle gan weithredwyr ffonau symudol a gwneud ffermydd SIM yn llawer anos iw canfod.
Mae negeseuon cymhwysiad-i-berson (A2P), er enghraifft negeseuon atgoffa am apwyntiad wediu hawtomeiddio, syn ysgogi dilysu dau ffactor neu anfon niferoedd mawr o negeseuon SMS fel rhan o ymgyrchoedd marchnata, yn rhan gynyddol bwysig or farchnad SMS gyffredinol. Er bod hyn yn groes ir telerau gwasanaeth telathrebu fel arfer, mae rhai cyfranogwyr diegwyddor hefyd yn sianelu negeseuon A2P drwy ffermydd SIM er mwyn lleihau eu costau, gan achosi colledion i weithrediad cyfreithlon y darparwr.
Er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol ar gyfer ein cynigion, rydym yn gofyn am farn a thystiolaeth am y bygythiadau hyn a bygythiadau eraill syn cael eu hachosi gan ffermydd SIM.
Cwestiynau i ymgyngoreion
C3. Pa droseddau y mae ffermydd SIM yn cael eu defnyddio er mwyn eu hwyluso?
C4. A oes gennych unrhyw ddata neu enghreifftiau i ddangos maint defnydd anghyfreithlon ohonynt?
Defnydd cyfreithlon
Rydym wedi nodi set gyfyngedig o achosion defnydd cyfreithlon ar gyfer dyfeisiau syn dal pedwar cerdyn SIM neu lai, er enghraifft er mwyn sicrhau cysylltedd di-dor wrth symud drwy ardaloedd lle nad oes signal digonol, neu i ddiwallu anghenion cyfathrebu tymor byr heb fod angen gosod llinell sefydlog barhaol i safleoedd dros dro.
Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltun helaeth ar draws y diwydiant, ac 但 sefydliadau gorfodir gyfraith, ac nid ydym wedi nodi unrhyw achos o ddefnydd cyfreithlon ar gyfer ffermydd SIM (syn cael eu diffinio fel dyfeisiau 但 mwy na phedwar slot). Nid oes angen ffurfwedd or fath ar gyfer unrhyw un or achosion defnydd cyfreithlon uchod, ac ym mhob achos maen debyg bod opsiynau eraill yn bodoli.
Ar hyn o bryd maen gyfreithlon yn y DU i fusnesau neu ddefnyddwyr brynu, gosod a defnyddio ffermydd SIM at ddefnydd personol, mewn gosodiad a elwir yn Byrth GSM Defnydd Untro. Fodd bynnag, fel y cadarnhawyd gan y Goruchaf Lys ar 8 Mawrth 2023, mae angen trwydded Ofcom er mwyn eu gosod mewn fformat masnachol aml-ddefnyddiwr (a elwir yn COMUG). Nid yw Ofcom erioed wedi rhoi trwydded, syn golygu nad ywn gyfreithlon i weithredu COMUG. Er hyn, mae gwerthu ffermydd SIM, y maen hawdd eu sefydlu fel COMUG, yn parhau heb gyfyngiadau, ac maent yn cael eu gwerthun agored mewn marchnadoedd ar-lein, syn golygu bod troseddwyr yn dal i allu cael gafael arnynt yn hawdd au defnyddio. Maer ffordd y defnyddir COMUG yn caniat叩u iw gweithredwyr guddio data cyfathrebiadau pe baent yn dewis gwneud hynny. O ganlyniad, maen anos i sefydliadau gorfodir gyfraith ymchwilio i droseddwyr a nodi a lleoli pobl syn wynebu risg o niwed.
Rydym yn gwahodd gwybodaeth am ddefnydd cyfreithlon ar gyfer ffermydd SIM nad ydynt wediu rhestru uchod.
Cwestiynau i ymgyngoreion:
C5. A ydych yn ymwybodol o ddefnydd cyfreithlon o ffermydd SIM nad yw wedii grybwyll yn y ddogfen hon?
C6. A oes gennych ddata neu enghreifftiau i ddangos maint y defnydd cyfreithlon ohonynt?
C7. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio ffermydd SIM?
a) Ydy
b) Nac ydy
Mae troseddwyr hefyd yn defnyddio technolegau eraill i dargedu eu dioddefwyr
iSpoof
Roedd gwefan iSpoof yn cynnig gwasanaethau a oedd yn galluogir rhai hynny a oedd yn cofrestru ac yn talu ffi i wneud galwadau wediu ffugio, anfon negeseuon wediu recordio a rhyng-gipio cyfrineiriau untro. Roedd hyn yn galluogi troseddwyr i ffugio bod yn fusnesau cyfreithlon y mae pobl yn ymddiried ynddynt, a chynnal ymosodiadau teilwra cymdeithasol.
Roedd gan iSpoof tua 59,000 o ddefnyddwyr, a achosodd 贈48 miliwn o golledion i 200,000 o ddioddefwyr yn y DU. Collodd un dioddefwr 贈3 miliwn, ac roedd y swm cyfartalog a oedd yn cael ei ddwyn yn 贈10,000.
Yn y 12 mis cyn Awst 2022, cafodd tua 10 miliwn o alwadau twyllodrus eu gwneud yn fyd- eang drwy ddefnyddior gwasanaeth.
Roedd twyllwyr yn talu rhwng 贈150 a 贈5,000 y mis i ddefnyddio gwasanaeth iSpoof, gan gysylltu, ar brydiau, ag 20 o bobl bob munud, yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, yr Iseldiroedd, Awstralia, Ffrainc ac Iwerddon.
Arweiniwyd yr ymchwiliad gan yr Heddlu Metropolitanaidd ar y cyd 但 Heddlu Dinas Llundain, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodir gyfraith yn Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Lithwania, yr Iseldiroedd, Wcr叩in ac Unol Daleithiau America.
Rydym yn ymwybodol bod dulliau eraill ar gael i droseddwyr i gysylltu 但u dioddefwyr ac wrth i dechnoleg ddal i ddatblygu bydd mwy yn dod ir amlwg yn y dyfodol. Mae achos iSpoof yn ddiweddar yn dangos bod y rhain yn gallu bod ar sawl ffurf, ac nad ydynt yn gyfyngedig i ddyfeisiau ffisegol. Mae hefyd yn dangos bod y technolegau sydd ar gael i dwyllwyr yn mynd y tu hwnt i SMS, gan ymestyn i wneud galwadau llais wediu ffugio, anfon negeseuon wediu recordio a rhyng-gipio cyfrineiriau untro.
Er bod iSpoof wedii gau erbyn hyn, maen dangos sut y mae troseddwyr yn gallu addasu, a hynnyn gyflym iawn. Dyma pam rydym yn gofyn am farn yngl天n 但 thechnolegau eraill syn cael eu defnyddio gan dwyllwyr.
Cwestiynau i ymgyngoreion
C8. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar- lein neu all-lein, y gellir eu defnyddio i wneud pethau tebyg i ffermydd SIM? Pa mor hawdd fyddai hi i newid ir rhain?
C9. A ydych yn gwybod am unrhyw ddefnydd cyfreithlon or eitemau a nodwyd yn C8?
a) Ydw
b) Nac ydw
C10. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai or eitemau a nodwyd yn C8?
a) Ydy
b) Nac ydy
C11. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar-lein a/neu all-lein, y gellir eu defnyddio i anfon negeseuon testun sgam a/neu wneud galwadau sgam?
a) Ydw
b) Nac ydw
C12. A ydych yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd cyfreithlon or eitemau a nodwyd yn C11?
a) Ydw
b) Nac ydw
C13. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai or eitemau a nodwyd yn C11?
a) Ydy
b) Nac ydy
Trosedd newydd arfaethedig
Rydym yn bwriadu creu trosedd a fydd yn gwahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, gosod neu logi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU. Bydd y ddeddfwriaeth yn rhestrur technolegau a nodwyd gan yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys ffermydd SIM.
Rydym yn cynnig y byddai hyn yn drosedd atebolrwydd caeth, hynny yw, na fyddai angen dangos bod y cyhuddedig yn gwybod, neu bod ganddo le rhesymol i amau, y byddair fferm SIM yn cael ei defnyddio mewn trosedd, gan gynnwys twyll. Rydym yn cynnig y byddair drosedd hon yn arwain at gosb o ddirwy anghyfyngedig, ond na fyddai risg o garchar. Rydym yn gwahodd barn yngl天n 但 pha mor gymesur yw hyn.
Y bwriad yw bod y drosedd yn gymwys i bob rhan or DU. Er bod canfod, ymchwilio ac erlyn twyll wediu datganoli, mae polisi telathrebu a pha ddyfeisiau a gwasanaethau cyfathrebu syn gyfreithlon yn fater wedii gadw yn 担l i Senedd y DU. Fodd bynnag, mae rheoleiddio technolegau ehangach wedii ddatganoli mewn rhai rhannau or DU ac rydym yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau datganoledig yngl天n 但 hyn.
Rydym yn awyddus i glywed barn yngl天n 但r drosedd arfaethedig ac a oes dulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai ddiogelur cyhoedd yn well rhag negeseuon testun sgam torfol.
Cwestiynau ir ymgyngoreion
C14. I ba raddau rydych yn cytuno 但r cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU?
a) Ydw cytunon llwyr
b) Ydw cytuno yn rhannol/ nid pob agwedd ar y gwaharddiad
c) Nac ydw anghytuno
d) Ddim yn gwybod
C15. A ddylai hon fod yn drosedd atebolrwydd caeth (h.y. bod y troseddwr yn cael ei ddal yn atebol am weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM pun a yw wedi ymddwyn 但r bwriad i gyflawni trosedd ynteu ag esgeulustod)?
C16. A ddylair gosb am y drosedd hon fod yn ddirwy anghyfyngedig neu pa gosb arall fyddain briodol?
C17. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd cyfreithlon ohonynt (os oes defnydd cyfreithlon)?
C18. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd anghyfreithlon neu droseddol ohonynt?
C19. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynigion hyn?
a) Ydw
b) Nac ydw
c) Ddim yn gwybod
C20. A oes unrhyw ddulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai hefyd gyflawnir nod o ddiogelur cyhoedd rhag sgamiau negeseuon testun torfol?
a) Oes
b) Nac oes
C21. Beth fyddai effaith y cynnig hwn i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU ar eich busnes neu sefydliad pe bain dod i rym?
C22. A ddylid pennu cyfnod pontio byr, 但 chyfyngiadau amser caeth, i ganiat叩u i fusnesau, sefydliadau ac unigolion gael gwared ar ffermydd SIM?
a) Dylid
b) Na ddylid
C23. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai ein cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ei gael, nad ydym wediu cofnodi yn y ddogfen hon?
a) Ydw
b) Nac ydw
C24. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynnig i wahardd technolegau eraill?
a) Ydw
b) Nac ydw
C25. Beth fyddai effaith y cynnig i wahardd technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ar eich busnes neu sefydliad chi, pe bain dod i rym?
C26. A oes gennych unrhyw sylwadau neu wybodaeth bellach i ychwanegu at y nodyn economaidd a gyhoeddwyd fel sail bellach in cynigion?
a) Oes
b) Nac oes
Y gallu i ychwanegu rhagor o eitemau at y rhestr
Er ein bod yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, nid ydym yn credu bod modd paratoi rhestr gynhwysfawr o eitemau, ar wah但n i ffermydd SIM, iw rhestru wrth gyflwynor gwaharddiad arfaethedig.
Gall twyllwyr addasun gyflym ac mae arnom eisiau sicrhau bod modd addasur darpariaethau hyn yn unol 但 hynny. O ganlyniad, rydym yn cynnig y byddair Ysgrifennydd Gwladol yn gallu diwygior rhestr i ychwanegu eitem newydd yn y dyfodol, os oes tystiolaeth bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn twyll.
Rydym yn cynnig bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu ychwanegu eitem at y rhestr os ywn ymwneud 但 thwyll a bod yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni:
-
Bod tystiolaeth o ddefnydd troseddol, gan gynnwys cyflawni twyll
-
Bod rhanddeiliaid a phart誰on syn cael eu heffeithio gan y newid wedi bod yn rhan o ymgynghoriad, a
-
Bod y Senedd yn cymeradwyor diwygiad drwy weithdrefn gadarnhaol[footnote 11].
Rydym yn gwahodd barn am y darpariaethau hyn ac a ydynt yn sicrhau cymesuredd.
Cwestiynau ir ymgyngoreion
C27. A ddylair Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd yn y dyfodol?
a) Dylai
b) Na ddylai
C28. A oes amodau yn ymwneud 但 thystiolaeth o ddefnydd, ymgynghori 但 rhanddeiliaid a gweithdrefn gadarnhaol briodol ar gyfer ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd?
C29. Rydym yn cynnig y dylair Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd yn y dyfodol. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallair cynnig hwn ei gael, nad ydym wedii gofnodi yn y ddogfen hon?
a) Ydw
b) Nac ydw
C30. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynnig hwn?
a) Ydw
b) Nac ydw
Cais am dystiolaeth ar gyfer gwybodaeth ychwanegol
Oherwydd prinder tystiolaeth nid oes gennym ddarlun llawn o effaith y cynigion ar fusnesau ar costau syn gysylltiedig 但 chyflwyno a gweithredur gwaharddiad. O ganlyniad, ochr yn ochr 但r ymgynghoriad, rydym yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a data a fydd yn caniat叩u amcangyfrifon cywirach or effeithiau ar fusnesau.
Rydym yn gwahodd pob parti sydd 但 diddordeb i ddarparu adborth a thystiolaeth empirig ar fuddion, effeithiau anfwriadol, cysondeb a chydlyniant y fframwaith y mae ffermydd SIM ar gael drwyddo ac yn cael eu gweithredu yn y DU.
Byddwn yn cynhyrchu Asesiad Effaith llawn gan ddefnyddior wybodaeth a gafwyd yn dilyn y cais hwn am dystiolaeth.
C31. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau eraill a ddefnyddir i gyfathrebu ar raddfa fawr?
C32. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfar defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau tebyg?
C33. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar eu defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon?
C34. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallair cynigion ei gael nad ydym wedii gofnodi yn y nodyn effaith economaidd a gyhoeddwyd ochr yn ochr 但r ddogfen hon?
Holiadur
Amdanoch chi
Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch chi:
Enw llawn
Teitl swydd neu ym mha rinwedd rydych yn ymateb ir ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod or cyhoedd, asiantaeth gorfodir gyfraith, gweithiwr proffesiynol cyfreithiol, gweithiwr proffesiynol ym myd diwydiant, ac yn y blaen)
Dyddiad
Enwr cwmni/sefydliad (os ywn gymwys)
Cyfeiriad ebost
Cyfeiriad Cod post
Os byddech yn hoffi i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn
Y cyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth iddo, os ywn wahanol ir uchod
Os ydych yn gynrychiolydd gr典p, dywedwch wrthym beth yw enwr gr典p a rhowch grynodeb or bobl neur sefydliadau rydych yn eu cynrychioli.
Byddem yn croesawu ymatebion ir cwestiynau a ganlyn a nodwyd yn y papur ymgynghori hwn.
A. Diffiniad a defnydd o ffermydd SIM
C1. A ydych yn cytuno 但 diffiniad y llywodraeth o fferm SIM, fel dyfais syn cynnwys mwy na phedwar cerdyn SIM?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C2. Pa dechnoleg arall allai gael ei chyflwyno dan y gwaharddiad hwn a sut y dylid disgrifio hyn?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C3. Pa droseddau y mae ffermydd SIM yn cael eu defnyddio er mwyn eu hwyluso?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C4. A oes gennych unrhyw ddata neu enghreifftiau i ddangos maint defnydd anghyfreithlon ohonynt?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C5. A ydych yn ymwybodol o ddefnydd cyfreithlon o ffermydd SIM nad yw wedii grybwyll yn y ddogfen hon?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C6. A oes gennych ddata neu enghreifftiau i ddangos maint y defnydd cyfreithlon ohonynt?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
B. Technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU
C8. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar- lein neu all-lein, y gellir eu defnyddio i wneud pethau tebyg i ffermydd SIM? Pa mor hawdd fyddai hi i newid ir rhain?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C9. A ydych yn gwybod am unrhyw ddefnydd cyfreithlon or eitemau a nodwyd yn C8?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C10. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai or eitemau a nodwyd yn C8?
a) Ydy
b) Nac ydy
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C11. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar-lein a/neu all-lein, y gellir eu defnyddio i anfon negeseuon testun sgam a/neu wneud galwadau sgam?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C12. A ydych yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd cyfreithlon or eitemau a nodwyd yn C11?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C13. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai or eitemau a nodwyd yn C11?
a) Ydy
b) Nac ydy
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C. Cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU
C14. I ba raddau rydych yn cytuno 但r cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU?
a) Ydw cytunon llwyr
b) Ydw cytunon rhannol/ nid pob agwedd ar y gwaharddiad
c) Nac ydw anghytuno
d) Ddim yn gwybod
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C15. A ddylai hon fod yn drosedd atebolrwydd caeth (h.y. bod y troseddwr yn cael ei ddal yn atebol am weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM pun a yw wedi ymddwyn 但r bwriad i gyflawni trosedd ynteu ag esgeulustod)?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C16. A ddylair gosb am y drosedd hon fod yn ddirwy anghyfyngedig neu pa gosb arall fyddain briodol?
C17. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd cyfreithlon ohonynt (os oes defnydd cyfreithlon)?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C18. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd anghyfreithlon neu droseddol ohonynt?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C19. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynigion hyn?
a) Ydw
b) Nac ydw
c) Ddim yn gwybod
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C20. A oes unrhyw ddulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai hefyd gyflawnir nod o ddiogelur cyhoedd rhag sgamiau negeseuon testun torfol?
a) Oes
b) Nac oes
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C21. Beth fyddai effaith y cynnig hwn i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU ar eich busnes neu sefydliad pe bain dod i rym?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C22. A ddylid pennu cyfnod pontio byr, 但 chyfyngiadau amser caeth, i ganiat叩u i fusnesau, sefydliadau ac unigolion gael gwared ar ffermydd SIM?
a) Dylid
b) Na ddylid
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
D. Cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU
C23. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai ein cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ei gael, nad ydym wediu cofnodi yn y ddogfen hon?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C24. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynnig i wahardd technolegau eraill?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C25. Beth fyddai effaith y cynnig i wahardd technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ar eich busnes neu sefydliad chi, pe bain dod i rym?
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C26. A oes gennych unrhyw sylwadau neu wybodaeth bellach i ychwanegu at y nodyn economaidd a gyhoeddwyd fel sail bellach in cynigion?
a) Oes
b) Nac oes
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
E. Y gallu i ychwanegu rhagor o eitemau at y rhestr o dechnolegau sydd wediu gwahardd
C27. A ddylair Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd yn y dyfodol?
a) Dylai
b) Na ddylai
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
C28. A oes amodau yn ymwneud 但 thystiolaeth o ddefnydd, ymgynghori 但 rhanddeiliaid a gweithdrefn gadarnhaol briodol ar gyfer ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd? (Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gadarnhaol ar gael yn https://guidetoprocedure.parliament.uk/articles/ovuiEncc/what-happens-to- statutoryinstruments-under-the-affirmative-procedure)
C29. Rydym yn cynnig y dylair Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wediu gwahardd yn y dyfodol. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallair cynnig hwn ei gael, nad ydym wedii gofnodi yn y ddogfen hon?
a) Ydw
b) Nac ydw
C30. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithion benodol gan y cynnig hwn?
a) Ydw
b) Nac ydw
Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bon bosibl (Dim mwy na 250 gair)
F. Cais am Dystiolaeth
C31. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau eraill a ddefnyddir i gyfathrebu ar raddfa fawr?
C32. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfar defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau tebyg?
C33. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar eu defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon?
C34. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallair cynigion ei gael nad ydym wedii gofnodi yn y nodyn effaith economaidd a gyhoeddwyd ochr yn ochr 但r ddogfen hon?
Effeithiau ar Gydraddoldeb
C33. A oes gennych unrhyw sylwadau am y cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon mewn cysylltiad ag effeithiau ar bobl ar sail unrhyw rai or nodweddion gwarchodedig a ganlyn dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010: oed; anabledd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd; priodas neu bartneriaeth sifil? Faint allai effeithiau or fath gael eu lliniaru? (Dim mwy na 500 gair)
Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Manylion cysylltu a sut i ymateb
Mae cop誰au or papur hwn yn cael eu hanfon at y canlynol:
-
Gweinyddiaethau Datganoledig
-
Ofcom (Y Swyddfa Gyfathrebiadau)
-
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
-
Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
-
Heddlu Dinas Llundain
-
Gwasanaeth Erlyn y Goron
-
Swyddfa Twyll Difrifol
-
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
-
Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau T但n ac Achub Ei Fawrhydi
-
Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
-
Sefydliadau yn cynrychioli buddiannau busnes a diwydiant
-
Llofnodwyr Siarter y Sector Twyll Cyfathrebu
-
Cyrff masnach telathrebu, er enghraifft Mobile Ecosystem Forum, Mobile UK a GSM Association
-
Cyrff Anllywodraethol sydd 但 diddordeb mewn hawliau defnyddwyr a chefnogi dioddefwyr
-
Academyddion sydd 但 diddordeb mewn twyll
-
Seneddwyr
Er hyn, ni fwriadwyd ir rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr nac yn gyfyngedig ir rhai a enwir yn unig, a chroesewir ymatebion gan unrhyw un sydd 但 diddordeb yn y pwnc y maer papur hwn yn ei drafod neu sydd 但 barn arno.
Anfonwch eich ymatebion erbyn 14 Mehefin 2023 am 17:00 drwy ebost at SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk
Cwynion neu sylwadau
Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau yn ymwneud 但r broses ymgynghori dylech gysylltu 但r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad isod:
SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Ebost: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk
Cop誰au ychwanegol
Gellir cael mwy o gop誰au or ymgynghoriad hwn drwyr cyfeiriad hwn, ac mae hefyd ar gael ar-lein yn gov.uk
Gellir gwneud cais am fersiynau or cyhoeddiad hwn mewn fformat angen drwy gysylltu 但r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.
Cyhoeddi ymateb
Bydd papur yn crynhoir ymatebion ir ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar 担l ir ymgynghoriad ddod i ben. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn gov.uk
Grwpiau cynrychioliadol
Gofynnir i grwpiau cynrychioladol roi crynodeb or bobl ar sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.
Nodyn Preifatrwydd
Cyfrinachedd
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb ir ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol 但r trefniadau mynediad at wybodaeth (y rhain yn bennaf yw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os ydych am ir wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Cod Ymarfer statudol y maen rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac syn ymdrin, ymysg pethau eraill, 但 rhwymedigaethau cyfrinachedd. Oherwydd hyn, byddain ddefnyddiol pe gallech egluro wrthym pam rydych yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wybodaeth gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelur wybodaeth byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn ich eglurhad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddoi hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.
Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol 但r Ddeddf Diogelu Data, ac yn y rhan fwyaf or amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd part誰on.
Hysbysiad Preifatrwydd
Bydd eich gwybodaeth bersonol, a gyflenwyd at ddibenion yr ymgynghoriad hwn, yn cael ei chadw ai phrosesu gan y Swyddfa Gartref:
SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Y Swyddfa Gartref yw rheolwr yr wybodaeth hon. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan fydd yn cael ei chasglu neu ei phrosesu gan drydydd part誰on ar ein rhan.
Mae manylion Swyddog Diogelu Data yr Adran iw gweld yn
dpo@homeoffice.gov.uk Ff担n: 020 7035 6999
Neu gallwch ysgrifennu at:
Office of the DPO
Home Office
Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Sut a pham y maer Adran yn defnyddio eich gwybodaeth
Ni all y Swyddfa Gartref brosesu eich data oni bai fod sail gyfreithlon dros wneud hynny.
Bydd t樽m polisi twyll y Swyddfa Gartref yn coladu ac yn dadansoddi ymatebion er mwyn deall yn well beth yw ffermydd SIM, sut y maent yn cael eu defnyddio yn y DU, effaith bosibl y cynigion ar fusnesaur DU ac a fyddair cynigion yn helpu i leihau gwe-rwydo drwy SMS (ymgyrchoedd SMS sgam torfol). Bydd y t樽m polisi yn defnyddior ymatebion i ffurfio ei gynnig polisi terfynol ac i ddatblygu deddfwriaeth os oes angen.
Maen bosibl y bydd y Swyddfa Gartref yn rhannu eich gwybodaeth 但 sefydliadau eraill wrth gyflawni ein swyddogaethau, neu er mwyn galluogi sefydliadau eraill i gyflawni eu swyddogaethau hwy.
Mae mwy o wybodaeth yngl天n 但r ffyrdd y gallair Swyddfa Gartref ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ba ddibenion yr ydym yn ei defnyddio, y sail gyfreithiol, a gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu iw gweld yn Hysbysiad gwybodaeth preifatrwydd hawliau gwybodaeth - 51画鋼 (www.gov.uk)
Storio eich gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am faint bynnag o amser y mae angen ei chadw ar gyfer y diben y maen cael ei phrosesu ar ei gyfer ac yn unol 但r polisi cadw adrannol. Mae rhagor o fanylion am y polisi hwn iw gweld yn Beth iw gadw: Safonau cadw a gwaredu y Swyddfa Gartref - 51画鋼 (www.gov.uk)
Gwneud cais am fynediad at eich data personol
Mae gennych hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol y maer Swyddfa Gartref yn ei chadw amdanoch. Mae manylion yngl天n 但 sut i wneud y cais iw gweld yn Siarter
gwybodaeth bersonol Y Swyddfa Gartref - 51画鋼 (www.gov.uk)
Hawliau eraill
Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i:
-
wrthwynebu a chyfyngu ar y defnydd och gwybodaeth bersonol, neu i ofyn am gael dileu neu gywiro eich data.
-
(os ydych wedi rhoi caniat但d penodol i ddefnyddio eich data personol ac mai dynar sail gyfreithlon dros brosesu) yr hawl i dynnu eich caniat但d i brosesu eich data ar hawl i gludadwyedd data yn 担l (lle maer prosesun cael ei wneud drwy ddull wedii awtomeiddio)
Cwestiynau neu bryderon am ddata personol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon yngl天n 但 chasglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol cysylltwch 但r Swyddfa Gartref drwy info.access@homeoffice.gov.uk
Neu ysgrifennwch atom yn:
Information Rights Team
Home Office
Lower Ground Floor,
Seacole Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth yngl天n 但r ffordd y maer Swyddfa Gartref yn ymdrin 但ch gwybodaeth bersonol. Mae manylion yngl天n 但 sut y gallwch wneud hyn iw gweld yn Siarter gwybodaeth bersonol Y Swyddfa Gartref
Egwyddorion ymgynghori
Maer egwyddorion y dylai adrannaur llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu 但 rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wediu hamlinellu yn yr egwyddorion ymgynghori.
/government/publications/consultation-principles-guidance
-
The Economic and Social Costs of Crime 2022. Maer ffigur hwn yn amcangyfrif y costau ehangach i gymdeithas, gan gynnwys gwariant ataliol, niwed emosiynol ac ymateb sefydliadau gorfodir gyfraith i dwyll a gyflawnir yn erbyn unigolion.油
-
/government/publications/code-of-practice-for-app-store-operators-and-app-developers油
-
; Gweler hefyd: Office of Communications T-Mobile (UK) Ltd v Floe Telecom Ltd [2009] EWCA Civ 47 (10 Chwefror 2009) (bailii.org) - para 27.油
-
Negeseuon testun syn twyllo dioddefwyr i roi gwybodaeth sensitif i ymosodwr cudd油
-
C. F. C. Association, Fraud Loss Survey Report 2021, Communications Fraud Control Association, 2021 - 油
-
Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gadarnhaol iw gweld yn 油