Consultation outcome

SIM farm regulation: economic note (accessible Welsh)

Updated 18 December 2023

This was published under the 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Nodyn Economaidd Rhif: HOEN0026

Teitl y cynnig rheoleiddiol: Rheoleiddio Ffermydd SIM

Adran/Asiantaeth Arweiniol: Y Swyddfa Gartref

Dyddiad gweithredu disgwyliedig: Cyhoeddir ymgynghoriad 3 Mai Deddfwriaeth pan fydd amser Seneddol yn caniat叩u

Tarddiad: Domestig

Dyddiad: 21/04/2023

Manylion Cysylltu yr Adran Arweiniol:

Andrei.Skorobogatov@homeoffice.gov.uk

Angeliki.Biliri@homeoffice.gov.uk

Asesiad Adrannol: Gwyrdd

Sail resymegol dros yr ymyriad, amcanion ac effeithiau bwriadedig

Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2022, amcangyfrifir bod 3.7 miliwn o ddigwyddiadau o dwyll yng Nghymru a Lloegr, syn fwy na 40 y cant or amcangyfrif o droseddau. Mae troseddwyr yn defnyddio technolegau fel Ffermydd SIM i dargedu defnyddwyr drwy negeseuon testun a galwadau sgam. Maer Llywodraeth yn credu bod angen deddfwriaeth i reoleiddio technolegau a ddefnyddir gan droseddwyr i gyflawni twyll. Yr amcan strategol yw amddiffyn dinasyddion y DU rhag twyll syn cael ei alluogi gan dechnolegau fel ffermydd SIM drwy alwadau a negeseuon testun, ar bwriad yw lleihau lefelau twyll yn y DU.

Opsiynau polisi (gan gynnwys dewisiadau eraill yn lle rheoleiddio)

Opsiwn 1: Gwneud dim.

Opsiwn 2: Deddfu i greu trosedd newydd o weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, meddu a defnyddio technolegau a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU. Bydd y drosedd yn gymwys i ffermydd SIM yn y DU i ddechrau, ond yn y dyfodol gallai gael ei diweddaru i gynnwys technolegau eraill tebyg.

Crynodeb costau a budd

Ar hyn o bryd nid ywr dystiolaeth yn ddigon cryf ar gyfer arfarniad 但 gwerth ariannol llawn, ac maer costau ar budd wediu hasesu yn ansoddol. Maer prif gostau i fusnesau syn gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu ffermydd SIM, a fydd yn gorfod amsugno costau stoc heb eu gwerthu a refeniw is o bosibl. Y budd mwyaf yw lleihad mewn twyll.

Risgiau

Mae risg bod yr effaith ar fusnes yn fwy nag y bun bosibl ei amcangyfrif, gan fod y sail dystiolaeth yn gyfyngedig, ac maen debyg na fyddai newid y dull o reoleiddio yn atal troseddwyr yn gyfan gwbl rhag gallu anfon negeseuon SMS torfol, a gallai eu symud at ddulliau eraill.

Cyfanswm y Gost 贈m: Gwerth Presennol

N/A

Cost Pontio 贈m

N/A

Cost i Fusnes 贈m

N/A

Cyfanswm y Budd 贈m: Gwerth Presennol

N/A

NPSV (贈m)

N/A

BNPV (贈m)

N/A

EANDCB (贈m)

N/A

Sg担r BIT (贈m)

N/A

Blwyddyn Sail Pris

N/A

Blwyddyn Sail Gwerth Presennol

N/A

Cyfnod Arfarnu

N/A

Cyfnod pontio

N/A

Cymeradwywyd gan yr Adran (Uwch Wasanaeth Sifil):

Jemima Murray, Uwch Berchennog Cyfrifol, Dyddiad: 27/04/2023

Cymeradwywyd gan y Prif Economegydd:

Tim Laken, Uwch Wasanaeth Sifil, Dyddiad: 27/04/2023

Cymeradwywyd gan yr Uned Gwell Rheoleiddio:

Jon Bray, Uned Gwell Rheoleiddio, Dyddiad: 27/04/2023

Sail Dystiolaeth

1. Cefndir

1. Amcan strategol y mesur hwn yw lleihau nifer a graddfa galwadau ff担n a negeseuon testun twyllodrus syn cyrraedd defnyddwyr yn y DU, ac effaith ariannol ac emosiynol y twyll syn deillio ohonynt. Mae twyll yn fygythiad mawr i economi, defnyddwyr a chymdeithas y DU, 但 bron i 3.7 miliwn o droseddau bob blwyddyn, syn fwy na 40 y cant or amcangyfrif o droseddau.[footnote 1]

2. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, derbyniodd Action Fraud, y gwasanaeth adrodd am dwyll a throseddau seiber, adroddiadau dioddefwyr gan unigolion a busnesau a oedd yn cynrychioli colled ariannol o 贈4.2 biliwn.[footnote 2] Maen debyg bod y gwir golledion yn llawer uwch gan mai dim ond 14 y cant or achosion o dwyll syn cael eu riportio1. Yn ychwanegol at hyn, mae costau cymdeithasol ehangach ar ffurf niwed emosiynol i ddioddefwyr, costau cefnogi dioddefwyr a gwariant ataliol gan fusnesau.

3. Maer cynigion yn unol 但r ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Swyddfa Gartref yn y Strategaeth Dwyll i atal twyll rhag cyrraedd unigolion a busnesau, drwy ei gwneud mor anodd ag syn bosibl i droseddwyr weithredu ar raddfa fawr heb gael eu darganfod. Maent yn rhan o waith ehangach i ddiogelu rhwydweithiau telathrebu, gan gynnwys Siarter y Sector Twyll Telathrebu [footnote 3] a rheolau a chanllawiau atgyfnerthedig Ofcom [footnote 4] i ddarparwyr er mwyn adnabod a blocio galwadau 但 rhifau wedi eu ffugio.[footnote 5]

4. Maer Swyddfa Gartref yn diffinio ffermydd SIM fel dyfeisiau yn cynnwys pum cerdyn SIM (Modiwl Adnabod y Tanysgrifiwr) neu fwy, ar gyfer un neu ragor o rwydweithiau dyfeisiau symudol, syn galluogi llwybro galwadau ff担n neu anfon negeseuon testun o gyfarpar sefydlog i offer symudol drwy sefydlu cysylltiad galwad ff担n neu ddata o un ddyfais symudol i un arall.

5. Yn y b担n, dim ond pedwar gweithredwr dyfeisiau symudol sydd yn y DU, ac mae pob darparwr arall yn cael ei gario gan eu gwasanaethau hwy. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i ddyfeisiau sydd 但 phum slot SIM neu fwy sicrhau cysylltedd di-dor.

6. O ganlyniad, rhaid i ddyfais syn cynnwys mwy na phum cerdyn SIM fod yn defnyddio rhwydwaith penodol drwy amryfal gysylltiadau, felly gellir ei defnyddio mewn ffordd wahanol i ddyfais 但 phedwar cerdyn neu lai.

7. Yn 担l Arolwg Sgamiau Ofcom [footnote 6], a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022, yn ystod y cyfnod Mehefin-Awst 2022, dywedodd tri chwarter pobl y DU eu bod wedi cael neges amheus, ar ffurf neges destun, neges wedii recordio neu alwad llais byw i ddyfais symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn 40.8 miliwn o oedolion yn y DU. Amcangyfrifir bod 700,000 wedi dilyn cyfarwyddiadaur sgamiwr, gan roi eu hunain mewn sefyllfa lle gallent ddioddef colled ariannol a thrallod emosiynol sylweddol.

8. Negeseuon testun ywr math mwyaf cyffredin o neges amheus, 但 mwy na chwech o bob 10 person (65 y cant or ymatebwyr) yn dweud eu bod wedi cael negeseuon testun amheus. Roedd nifer yr adroddiadau am alwadau ff担n amheus yn llai, ond maen dal yn arwyddocaol. Dywedodd cyfanswm o 21 y cant or ymatebwyr eu bod wedi derbyn galwadau ff担n byw amheus iw dyfeisiau symudol ac 19 y cant iw llinellau tir.

9. Mae cyfran anhysbys or negeseuon hyn yn dod o dechnolegau syn galluogi troseddwyr i weithredu ar raddfa fawr, er enghraifft ffermydd SIM.

10. Prin ywr dystiolaeth o achosion lle gwneir defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM, ac ar gyfer pob achos or fath maen debyg bod opsiynau amgen yn bodoli. O ganlyniad, maer Swyddfa Gartref yn ymgynghori yngl天n 但 chynigion i reoleiddio gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi a meddu ar ffermydd SIM yn y DU, yn ogystal 但 gofyn a ddylai hyn gynnwys technolegau eraill heb ddefnydd cyfreithlon y gwyddys amdano.

11. Nid oes data manwl ar gael ar hyn o bryd yngl天n 但r cysylltiad rhwng ffermydd SIM ac anfon negeseuon testun sgam torfol. Maer cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn ceisio ei gwneud yn anos i droseddwyr ddefnyddio a chael mynediad at dechnolegau syn eu galluogi i dargedu pobl ar raddfa fawr a heb eu darganfod yn y DU, er enghraifft ffermydd SIM. Nid yw hyn yn bosibl dan Ddeddf Twyll 2006 [footnote 7] fel y mae ar hyn o bryd. Maer Swyddfa Gartref yn lansio ymgynghoriad ar y cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, neu gynnig ar werth, rhoi ar osod neu gynnig rhoi ar osod, a meddu neu reoli eitemau a restrwyd dan Ddeddf Twyll 2006. Mae ffermydd SIM yn dechnoleg or fath.

12. Mae galluoedd tebyg ar gael ar wefannau fel iSpoof. Roedd iSpoof yn cynnig gwasanaethau a oedd yn galluogir rhai a oedd yn cofrestru ar y wefan ac yn talu ffi i wneud galwadau wedi eu ffugio, anfon negeseuon wediu recordio a rhyng-gipio cyfrineiriau untro. Roedd hyn yn galluogi troseddwyr i ffugio bod yn fusnesau dilys y mae pobl yn ymddiried ynddynt a chynnal ymosodiadau teilwra cymdeithasol.[footnote 8]

13. Gan nad oes llawer o dystiolaeth o ddefnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon, niwed, graddfa a ffactorau eraill, bydd cais am dystiolaeth yn cael ei gynnwys fel rhan or ymgynghoriad. Bydd y cais am dystiolaeth yn ceisio casglu gwybodaeth a data a fydd yn caniat叩u ir Swyddfa Gartref gael gwell dealltwriaeth or niferoedd ar effeithiau ar fusnesau. Yna bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud arfarniad manylach i gefnogir ddeddfwriaeth.

Grwpiau syn cael eu Heffeithio

Busnesau

  • Busnesau syn cael eu heffeithio gan negeseuon testun/galwadau ff担n sgam
  • Busnesau syn gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu ffermydd SIM
  • Gweithredwyr Rhwydwaith Ffonau Symudol

Unigolion

  • Teulu, ffrindiau, a chydweithwyr cyflawnwyr
  • Teulu, ffrindiau a chydweithwyr dioddefwyr
  • Y cyhoedd yn y DU
  • Cyflawnwyr

Y Sector Cyhoeddus

  • Y System Cyfiawnder Troseddol
  • Gweinyddiaethau Datganoledig
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
  • Adrannaur Llywodraeth
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlThEF) (gan gynnwys sefydliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon)
  • Asiantaethau Gorfodir Gyfraith ledled y DU ac aelodau or asiantaethau hyn
  • Asiantaethau cudd-wybodaeth y DU ac aelodau o asiantaethau cudd-wybodaeth y DU

2. Mater polisi a sail resymegol dros ymyriadau gan y llywodraeth

14. Maer Llywodraeth wedi nodi ei huchelgais o fynd ir afael 但 thwyll yn y Strategaeth Dwyll, syn cynnwys ymdrech fawr i gynyddur ymateb i dwyll drwy orfodir gyfraith, grymuso dioddefwyr i ddiogelu eu hunain a gweithio mewn cysylltiad agos 但 diwydiant a rheoleiddwyr er mwyn atal twyll rhag digwydd yn y lle cyntaf. Maer gwaith hwn yn elfen allweddol or golofn hon, sydd hefyd yn cynnwys deddfwriaeth i fynd ir afael 但 thwyll ar-lein a mwy o weithgaredd rheoleiddio gan Ofcom i fynd ir afael 但 galwadau ff担n sgam.

15. Mae negeseuon testun sgam yn aml yn cael eu holrhain yn 担l i ffermydd SIM, syn gallu bod 但 channoedd neu filoedd o gardiau SIM. Mae troseddwyr yn eu defnyddio i anfon degau o filoedd o negeseuon testun sgam ar unwaith yn rhad, yn gyflym, ac yn hawdd. Maent yn anfon llawer iawn o negeseuon SMS (Gwasanaeth Negeseuon Byr) i we-rwydo drwy SMS [footnote 9] a chael gafael ar ddata sensitif, er enghraifft manylion personol a manylion banc. Mae ffermydd SIM yn caniat叩u i droseddwyr ddefnyddio holl alluoedd cardiau SIM mewn symiau mawr ac am gost isel.

16. Mae defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM yn cynnwys:

a. Anfon nifer fawr iawn o negeseuon testun sgam am gost isel. Darganfu un ymchwiliad gan yr heddlu fod pum SIM wedi anfon dros 900,000 o negeseuon mewn un fferm SIM rhwng Ebrill a Hydref mewn un flwyddyn.

b. Ymgyrchoedd galwadau ff担n sgam.

c. Defnyddio cardiau SIM data yn unig i dargedu dioddefwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft drwy bostio negeseuon camarweiniol, anwir neu we-rwydo ar-lein ar raddfa fawr yn fwriadol.

17. Gall y negeseuon testun a galwadau ff担n torfol syn cael eu galluogi gan ffermydd SIM achosi rhagor o broblemau, er enghraifft tagur rhwydwaith, atal galwadau ff担n a negeseuon testun dilys rhag mynd drwodd. Mae arbenigwyr[footnote 10] o fyd diwydiant wedi awgrymu bod 10-15 y cant o holl draffig rhwydwaith dyfeisiau symudol yn dod o ffermydd SIM.

18. Mewn un ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr heddlu, darganfuwyd bod un fferm SIM yn anfon cannoedd o filoedd o negeseuon testun bob diwrnod. Bydd gwahardd y defnydd o ffermydd SIM yn ei gwneud yn anos i droseddwyr anfon negeseuon testun sgam ar y math yma o raddfa. Dylai cyfyngu ar nifer y negeseuon testun twyllodrus leihau nifer y dioddefwyr twyll ar costau cysylltiedig, gan gynnwys colledion ariannol a niwed corfforol/emosiynol.

19. Ar hyn o bryd maen gyfreithlon yn y DU i fusnesau neu ddefnyddwyr brynu, gosod a defnyddio ffermydd SIM at ddefnydd personol, mewn gosodiad a elwir yn Byrth GSM Defnydd Untro[footnote 11], ond mae troseddwyr yn manteisio ar hyn er mwyn cyflawni sgam torfol ac anfon negeseuon gwe-rwydo.

20. Mae angen ymyriad gan y llywodraeth er mwyn mynd at wraidd y broblem a thargedur dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr i anfon negeseuon testun sgam a galwadau ff担n sgam, er enghraifft ffermydd SIM. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yw rheoleiddior offer a ddefnyddir gan droseddwyr i gynnal ymgyrchoedd twyll torfol a sicrhau bod gan sefydliadau gorfodir gyfraith yr offer y mae arnynt eu hangen i fynd ar 担l troseddwyr.

21. Er hyn, mae defnydd cyfreithlon posibl. Gall ffermydd SIM gael eu defnyddio yn y farchnad SMS Busnes-i-Gwsmer, i leihau costau anfon negeseuon torfol (er enghraifft ymgyrchoedd marchnata a negeseuon wediu hawtomeiddio i atgoffa pobl am apwyntiadau). Maen bosibl defnyddio dyfeisiau tebyg 但 llai na phum slot ar gyfer llawer or gweithgareddau cyfreithlon a nodwyd.

22. Bydd angen i unrhyw ddeddfwriaeth ystyried y gweithgareddau dilys hyn ochr yn ochr 但r amcan o leihau gallu troseddwyr i gyflawni twyll ar raddfa fawr, ac o bosibl allur Sector Cyhoeddus i anfon negeseuon hysbysu SMS (er bod dewisiadau amgen yn bodoli).

3. Amcanion polisi ar effeithiau bwriadedig

23. Nod y cynigion yw lleihau nifer a graddfar negeseuon twyllodrus syn cyrraedd defnyddwyr drwy ddulliau telathrebu (hynny yw, galwadau ff担n a negeseuon testun). Maer cynigion yn debygol o leihau nifer y negeseuon testun ar galwadau ff担n sgam torfol a anfonir at ddefnyddwyr. Maer Swyddfa Gartref yn disgwyl y bydd hyn yn lleihau nifer yr achosion o dwyll syn deillio o hynny ar costau ariannol ac emosiynol dilynol i ddioddefwyr.

24. Ar hyn o bryd, gellir prynu Fferm SIM ar-lein gan fanwerthwyr a marchnadoedd ar-lein. Canfuwyd bod un platfform yn gwerthu ffermydd SIM 16 slot am 贈1,156. Fel arfer maer rhain yn cael eu gweithgynhyrchu dramor ac yn cael eu mewnforio drwy sianeli manwerthu cyfreithlon. Dylair ddeddfwriaeth hon ei gwneud hin amhosibl i brynur dyfeisiau hyn yn y DU drwy fanwerthwyr dilys.

25. Maer cynigion yn unol 但r ymrwymiad a wnaeth y Swyddfa Gartref yn y Strategaeth Dwyll i atal twyll rhag cyrraedd pobl a busnesau, drwy ei gwneud mor anodd ag syn bosibl i droseddwyr weithredu ar raddfa fawr a heb gael eu darganfod. Maent yn rhan o waith ehangach i ddiogelu rhwydweithiau telathrebu, gan gynnwys Siarter y Sector Twyll Telathrebu[footnote 12] a rheolau a chanllawiau atgyfnerthedig Ofcom i ddarparwyr er mwyn adnabod a blocio galwadau 但 rhifau wedi eu ffugio.[footnote 13]

26. Maer Nodyn Economaidd hwn yn cefnogi ymgynghoriad ar y cynigion i reoleiddio ffermydd SIM. Maer Swyddfa Gartref yn bwriadu gofyn i ymgyngoreion:

a) Pa ddata sydd gennych i ddangos maint y defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM a faint o fusnesau syn defnyddior dyfeisiau hyn yn gyfreithlon ar hyn o bryd?

b) Pa ddata sydd gennych i ddangos maint y defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a beth yw lefel y niwed y maent yn ei achosi ir cyhoedd ar hyn o bryd, o ran colledion, negeseuon testun sgam, niwed emosiynol ac yn y blaen?

c) Pa effeithiau rydych chin meddwl y byddai gwaharddiad ar ffermydd SIM yn eu cael ar ddefnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon?

d) A oes unrhyw dechnolegau eraill rydych yn meddwl y dylid eu hystyried?

Opsiynau polisi a ystyriwyd, gan gynnwys dewisiadau eraill yn lle rheoleiddio

Opsiwn 1: (Gwneud dim)

27. Byddai Opsiwn 1 yn golygu dim ymyriad gan y llywodraeth drwy newidiadau i ddeddfwriaeth. Ni fyddair technolegau sydd o fewn y cwmpas yn cael eu rheoleiddio ac ni fyddai unrhyw newid iw statws. Mae costau a budd ar gyfer yr opsiwn arall syn cael ei asesu yn y Nodyn Economaidd hwn yn cael eu mesur mewn perthynas 但r sefyllfa Gwneud dim (syn cynrychiolir gwrthffeithiol yn y dadansoddiad hwn).

28. Nid yw Opsiwn 1 yn bodloni amcanion y Llywodraeth.

Opsiwn 2

29. Gwahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, gosod neu logi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM.

30. Byddair Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth a fyddain creu trosedd ac yn rhestrur technolegau arfaethedig, er enghraifft ffermydd SIM ac unrhyw dechnolegau eraill a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Byddair Ysgrifennydd Gwladol yn gallu diwygior rhestr i ychwanegu eitem newydd yn y dyfodol, os oes tystiolaeth bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn twyll.

31. Byddair cynigion yn lleihau mynediad troseddwyr at dechnolegau syn caniat叩u iddynt dargedu dioddefwyr ar gyfer twyll ar raddfa fawr ac am gost isel. Maer Swyddfa Gartref yn rhagweld y byddai cymhwysor drosedd yn arwain at leihad mewn twyll.

Opsiynau ar wah但n i reoleiddio

32. Maer llywodraeth, sefydliadau gorfodir gyfraith a diwydiant eisoes wedi cyflwyno mesurau ar wah但n i reoleiddio i fynd ir afael 但 gwe-rwydo torfol drwy SMS. [footnote 14] Yn 2019, sefydlodd Ofcom a UK Finance y rhestr Heb Ddangos Tarddiad (DNO) syn cofnodi rhifau ffonio i mewn yn unig na ddylid eu defnyddio i alw defnyddwyr, gan gynnwys y rhai syn dod o ffermydd SIM.

33. Yn ychwanegol at hyn, ym mis Hydref 2021, lansiodd y Llywodraeth Siarter y Sector Twyll Cyfathrebu3, cod gwirfoddol yn cynnwys naw cam gweithredu ar gyfer darparwyr telathrebu. Maer camau gweithredu yn cynnwys gwaith wedii gydgysylltu er mwyn:

a. Nodi a gweithredu technegau i flocio negeseuon testun a galwadau ff担n sgam.

b. Gweithio mewn cysylltiad agos 但 sefydliadau gorfodir gyfraith ar diwydiant ariannol er mwyn tarfu ar dwyll syn digwydd ac erlyn troseddwyr.

c. Ymgysylltu 但 grwpiau defnyddwyr a chefnogi dioddefwyr er mwyn gwella cefnogaeth i ddioddefwyr twyll telathrebu.

34. Mae mentrau ym myd diwydiant hefyd wedi ystyried diogelu defnyddwyr, busnesau dilys a sefydliadau syn dod yn ddioddefwyr sgamiau negeseuon testun, drwy systemau syn gwirio pennyn neges SMS.

35. Er gwaethar mesurau hyn, mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer a graddfar negeseuon twyllodrus syn cyrraedd defnyddwyr drwy delathrebu yn dal yn uchel. Ar hyn o bryd nid yw troseddwyr yn wynebu unrhyw rwystrau o ran caffael ffermydd SIM.

36. Maer llywodraeth yn ymgynghori er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effeithiau posibl Opsiwn 2. Wrth ystyried a ddylid deddfu, bydd y cydbwysedd rhwng yr effeithiau ar costau ar budd yn cael ei ystyried yn llawn.

Arfarnu

37. Gan nad oes digon o dystiolaeth, mae ansicrwydd o hyd yngl天n ag effaith y cynigion ar fusnesau ar costau syn gysylltiedig 但 chyflwyno a gweithredur gwaharddiad.

38. Bydd y ddogfen ymgynghori yn cynnwys cais am dystiolaeth, er mwyn casglu gwybodaeth a data fel bod modd gwneud amcangyfrifon cywirach or niferoedd ar effeithiau ar fusnesau syn cael eu heffeithio.

Tybiaethau cyffredinol a data

39. Er bod ymdrechion wediu gwneud i ddeall y costau ar budd i bob gr典p syn cael eu heffeithio, nid oes gwerth ariannol ir costau ar buddion. Lle bo modd rhoddir ffigurau er mwyn cael syniad or raddfa a dibynnir ar y tybiaethau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd, yn hytrach na thystiolaeth gynhwysfawr. Ar hyn o bryd nid ywr dystiolaeth yn ddigon cryf er gyfer arfarniad 但 gwerth ariannol llawn, ac o ganlyniad mae costau a buddion wediu hasesun ansoddol.

40. Maer Swyddfa Gartref wedi defnyddio data sydd ar gael i ddatblygur sail dystiolaeth ar gyfer y nodyn economaidd hwn, a bydd yn ceisio defnyddior wybodaeth a gasglwyd drwyr ymgynghoriad i gryfhau a diweddarur dadansoddiad cyn cyhoeddi asesiad terfynol or effaith.

Crynodeb or costau ar buddion yn 担l grwpiau syn cael eu heffeithio:

赫姻典沿 Costau Buddion
Y Cyhoedd Ni ddisgwylir unrhyw gostau uniongyrchol ir cyhoedd o ganlyniad i reoleiddio ffermydd SIM. Byddair gwaharddiad ar ffermydd SIM yn lleihau nifer y negeseuon testun sgam a dderbynnir gan ddefnyddwyr, a disgwylir y bydd hynnyn lleihau nifer y dioddefwyr twyll a cholledion.
Y Sector Cyhoeddus Costau ymgyfarwyddo ir heddlu a staff Llur Ffiniau.
Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol (MNOs) Ar hyn o bryd mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn derbyn refeniw or holl gardiau SIM syn cael eu prynu au defnyddio gan droseddwyr mewn ffermydd SIM. Byddai gwahardd ffermydd SIM fellyn arwain at lai o refeniw i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol. Mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn wynebu costau ychwanegol ar hyn o bryd gan ei bod yn ofynnol iddynt fuddsoddi er mwyn cynyddu capasitir seilwaith, gan fod ffermydd SIM yn achosi mynediad arafach ir rhwydwaith ac yn gallu gwneud i fastiau signal beidio 但 gweithio. Gall cost gweithgynhyrchu a dosbarthu cardiau SIM syn cael eu diffodd cyn pen 30 munud fod yn golled i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol. Gall Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol hefyd wynebu costau wrth geisio canfod ac analluogi cardiau SIM syn cael eu defnyddio mewn ffermydd SIM.
Defnyddwyr cyfreithlon Byddai busnesau syn defnyddior dyfeisiau hyn yn gyfreithlon ar hyn o bryd yn gorfod rhoir gorau iw defnyddio ac ariannur gost o newid i dechnoleg amgen.
Manwerthwyr Byddai manwerthwyr a marchnadoedd ar-lein syn gwerthur dyfeisiau hyn yn wynebu costau cydymffurfio a llai o refeniw yn y dyfodol oherwydd y gwaharddiad, a byddain ofynnol iddynt amsugno costau unrhyw stoc heb eu gwerthu.
Dosbarthwyr a Gweithgynhyrchwyr Byddain ofynnol i fusnesau syn dosbarthu neun gweithgynhyrchur dyfeisiau hyn yn y DU ar hyn o bryd roir gorau iw dosbarthu, ac amsugno costau unrhyw beiriannau a stoc heb eu gwerthu. Ni chanfuwyd tystiolaeth o weithgynhyrchwyr wediu lleoli yn y DU.

Costau sefydlu

Y Sector Preifat

41. Byddain ofynnol i fusnesau syn gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu ffermydd SIM roir gorau iw gwerthu, dosbarthu, a chynhyrchu, ac amsugno costau unrhyw stoc heb eu gwerthu.

42. Byddain rhaid i fusnesau syn defnyddio ffermydd SIM yn gyfreithlon ar hyn o bryd eu cau a dod o hyd i dechnolegau amgen iw defnyddio. Heb ragor o dystiolaeth yngl天n 但 maint y defnydd, ac achosion ou defnyddio, nid oedd modd gwneud asesiad pellach or gost hon.

43. Mae troseddwyr yn defnyddio ffermydd SIM drwy roi nifer fawr o gardiau SIM, syn cael eu prynu mewn symiau mawr, ynddynt. Byddai collir ffermydd SIM hyn yn lleihau refeniw Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol gan fod llai o gardiau SIM yn cael eu gwerthu. Fodd bynnag, fel y nodir yn y manteision, ac y gwelir or camau y mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn eu cymryd er mwyn cau ffermydd SIM, disgwylir y bydd yr arbedion y byddant yn eu gwneud o ran costau yn fwy na hyn.

Y Sector Cyhoeddus

44. Disgwylir costau ymgyfarwyddo ir sector cyhoeddus. Byddai disgwyl i gwnstabliaid ac uwch swyddogion yr heddlu ymgyfarwyddo 但r ddeddfwriaeth newydd. Disgwylir y bydd hyn drwy ebost neu lythyr a fyddain hysbysur darllenydd yngl天n 但r newidiadau mewn deddfwriaeth a diwygiadau i ddogfennau canllaw mewnol.

45. Byddai disgwyl hefyd i staff Llur Ffiniau ymgyfarwyddo 但r ddeddfwriaeth, er mwyn atal ffermydd SIM rhag dod i mewn ir DU. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd drwy ebost neu lythyr a fyddain hysbysur darllenydd yngl天n 但r newidiadau mewn deddfwriaeth a diwygiadau i ddogfennau canllaw mewnol.

Costau rheolaidd a chyfanswm y costau (Preifat a Chyhoeddus)

Y Sector Preifat

46. Byddai manwerthwyr a marchnadoedd ar-lein syn gwerthur dyfeisiau hyn ar hyn o bryd yn wynebu costau rheolaidd, er mwyn sicrhau nad yw ffermydd SIM yn cael eu hysbysebu neu eu cynnig ar werth ar eu platfformau yn y dyfodol, au bod yn cydymffurfio 但r ddeddfwriaeth newydd.

47. Gallai busnesau syn gwerthu ffermydd SIM ar eu platfformau weld gostyngiad mewn refeniw gan nad ydynt yn gallu gwerthur dyfeisiau hyn mwyach.

48. Maen bosibl y byddair atebion amgen i fusnesau syn defnyddio ffermydd SIM yn gyfreithlon yn fwy costus. Byddai hyn yn golygu cost reolaidd syn hafal 但r gwahaniaeth.

49. Nid oedd modd gwneud asesiad pellach or costau ir sector preifat gan nad oes gan y Swyddfa Gartref wybodaeth am y farchnad ar gyfer ffermydd SIM.

Buddion

50. Oherwydd prinder data yngl天n 但 nifer y ffermydd SIM sydd yn y DU, bydd y nodyn economaidd hwn yn darparu asesiad ansoddol yn unig o fanteision posibl y ddeddfwriaeth arfaethedig.

Buddion sefydlu

51. Ni ddisgwylir unrhyw fuddion sefydlu.

Buddion rheolaidd a chyfanswm y buddion

Y Sector Preifat

52. Gall ffermydd SIM arafu mynediad ir rhwydwaith i gwsmeriaid, gan gynnwys achosi i fastiau signal beidio 但 gweithio weithiau. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr fuddsoddi mewn gwaith i ddiweddaru seilwaith er mwyn cynyddu capasiti. Bydd gweithredwyr naill ain pasior gost ymlaen i gwsmeriaid drwy godi eu prisiau neun amsugno cost diweddaru ar eu traul eu hunain. Yn achos un gweithredwr, gwnaethpwyd buddsoddiad o 贈0.25 miliwn er mwyn cynyddu capasiti mewn ardal cell, ond darganfuwyd yn dilyn hynny bod 70-80 y cant or traffig yno yn cael ei yrru gan ffermydd SIM, yn hytrach na defnydd cyfreithlon. Byddair ddeddfwriaeth o fudd i weithredwyr drwy leihaur risg bod ffermydd SIM yn rhoi baich ormodol ar ardaloedd celloedd.

53. Mae costau ffermydd SIM i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol, er enghraifft tagu rhwydweithiau, a chardiau SIM am gyfnodau byr, yn arwain at gymhellion i nodi a blocio cardiau SIM syn cael eu defnyddio mewn ffermydd SIM. Mae un gweithredwr (BT/EE) yn dweud ei fod wedi blocio 30,000 o gardiau SIM er mis Awst 2021. Disgwylir y bydd llai o angen i flocior cardiau SIM hyn yn lleihau costau gweithredu Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol.

54. Fel arfer mae cost gweithgynhyrchu a dosbarthu cardiau SIM yn cael ei chydbwyso wrth ir defnyddiwr brynu contract misol neu funudau/SMS talu-wrth-fynd. Mae ar ffermydd SIM angen nifer fawr o gardiau SIM, syn cael eu cyfnewid, eu blocio au gwaredu yn aml, weithiau cyn pen 30 munud ar 担l cael eu galluogi. Gall hyn fod yn golled i weithredwyr a disgwylir y bydd gwahardd ffermydd SIM yn lleihaur gost hon.

55. Yn 担l y camau y mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn eu cymryd i gau ffermydd SIM, disgwylir y byddair buddion a restrwyd uchod yn fwy nar colledion refeniw a eglurwyd yn yr adran ar gostau ir sector preifat.

Y cyhoedd

56. Gall troseddwyr ddefnyddio ffermydd SIM i anfon degau o filoedd o negeseuon testun sgam ar unwaith. Byddai gwahardd ffermydd SIM yn ei gwneud yn anos i anfon nifer fawr o negeseuon sgam, ac maen debyg y byddain lleihau nifer y negeseuon testun sgam y mae defnyddwyr yn eu derbyn.

57. Disgwylir y bydd hyn yn lleihau lefelau twyll, ar niwed economaidd-gymdeithasol cyfatebol. Byddai lefelau llai o dwyll ir cyhoedd yn lleihaur niwed emosiynol i ddioddefwyr, costau cefnogi dioddefwyr a cholledion ariannol.

58. Os yw ffermydd SIM yn achosi tagfeydd ar rwydweithiau, mae defnyddwyr yn profi llai o gysylltedd rhwydwaith wrth geisio anfon galwadau a negeseuon testun dilys ar rwydwaith. Byddai gwahardd ffermydd SIM yn lleihau tagfeydd rhwydwaith ac yn darparu gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr ar rwydweithiau ffonau symudol wrth geisio gwneud galwadau a negeseuon testun dilys.

Metrigau gwerth am arian

Asesiad o Fusnesau Bach a Busnesau Micro

59. Disgwylir na fyddai llawer iawn o effaith ar fusnesau bach a busnesau micro, gan na fu modd nodi unrhyw ddefnydd cyfreithlon or dyfeisiau hyn gan fusnesau bach a busnesau micro. Maen bosibl bod rhai busnesau bach a busnesau micro wedi prynu ffermydd SIM, ond ni wyddom beth yw maint y broblem hon, a disgwylir y bydd hyn yn cael ei amlygu drwyr cais am dystiolaeth.

60. Yn achos y busnesau hyn, byddai cost ymlaen llaw i newid am ddyfais arall, a gallair gost hon gael effaith ariannol gymharol fwy ar fusnesau bach a micro. Nid ywn glir, fodd bynnag, i faint o fusnesau y byddai hyn yn gymwys, ac o ystyried cost uwch ffermydd SIM nid ywn debygol y byddai hyn yn digwydd.

6. Risgiau

61. Nid ywn ymddangos bod y mesurau arfaethedig yn achosi risgiau mawr; fodd bynnag, maer canlynol wediu nodi fel problemau posibl:

a. Mae risg y byddair effaith ar fusnes yn fwy nag y bun bosibl amcangyfrif, gan nad oes llawer o sail dystiolaeth. Maer broses ymgynghori yn ceisio cael yr wybodaeth hon drwyr ymgyngoreion, a thrwy hynny liniaru risg bosibl cyflwyno deddfwriaeth heb ddeall yn iawn beth ywr gost i fusnes.

b. Byddair gwaharddiad arfaethedig yn cyfyngu ar allu troseddwyr i anfon SMS torfol, ond ni fyddain eu hatal rhag gwneud hynny yn gyfan gwbl. Gallai symud troseddwyr at ddulliau eraill o gyflawni twyll. Maer Swyddfa Gartref yn ymwybodol o nifer o ffyrdd posibl o gwmpas y gwaharddiad a fyddain dal yn golygu bod modd anfon negeseuon SMS ar raddfa fawr.

c. Gan fod dulliau eraill yn bodoli, nid ywr polisi hwn yn disgwyl atal negeseuon SMS torfol troseddol yn gyfan gwbl, ond maen ceisio ei gwneud yn anos i droseddwyr anfon negeseuon or fath.

d. Maer dulliau amgen hyn yn aml yn fwy costus, yn galw am fwy o wybodaeth dechnolegol, neun llai effeithlon. O ganlyniad, gellir disgwyl o hyd ir gwaharddiad leihau nifer y negeseuon testun sgam syn cael eu hanfon.

7. Gweithredu, monitro a gwerthuso

62. Bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu cynllun monitro a gwerthuso ar 担l ir ddeddfwriaeth ar trefniadau gweithredu terfynol gael eu cwblhau.

Rhestr Wirio Prawf Effaith Benodol

Prawf effaith benodol gorfodol Dyletswyddau Cydraddoldeb Statudol

Dyletswyddau Cydraddoldeb Statudol

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus ir angen i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da wrth ddatblygu polis誰au a darparu gwasanaethau.

Prif amcan y cynigion yw ei gwneud yn anos i droseddwyr gael mynediad at dechnolegau a fydd yn caniat叩u iddynt gyflawni twyll ar raddfa fawr ac am gost isel. Bydd y polisi yn y b担n yn ychwanegu rhwystrau i atal twyllwyr syn ceisio cysylltu 但 darpar ddioddefwyr. Nid oes tystiolaeth o wahaniaethu uniongyrchol o ganlyniad i gynigion y polisi. Yn gyffredinol, maer Swyddfa Gartref yn credu bod y budd or polis誰au hyn yn fwy nag unrhyw risgiau posibl. Drwy roi mwy o bwyslais ar leihau cyfleoedd i dwyllwyr, mae baich atal twyll yn cael ei leihau ir cyhoedd. Mae hyn yn caniat叩u i bawb, gan gynnwys y rhai sydd mewn grwpiau nodweddion gwarchodedig, ymwneud 但 chyfathrebiadau bob dydd yn fwy diogel a heb gael eu cau allan.

Maer cynigion yn ymwneud 但 phob cymuned, demograffeg a nodweddion gwarchodedig fel ei gilydd. Maent yn ceisio atal twyllwyr rhag ceisio cysylltu 但u darpar ddioddefwyr, a thrwy hynnyn rhoi mwy o ddiogelwch i bob darpar ddioddefwr, pa un a oes ganddynt nodweddion gwarchodedig ai peidio. Yn yr un modd, maer cynigion yn rhoi baich cyfrifoldeb ar gwmn誰au i beidio 但 phrynu, gwerthu, meddu a defnyddio ffermydd SIM; a sefydliadau gorfodir gyfraith i ganfod, stopio ac atal y gweithgareddau hyn. Maen debygol o leihaur baich ar bobl oedrannus, nad ydynt wedi cael cymaint o addysg dechnolegol, i addysgu eu hunain am ddiogelwch telathrebu, a bydd yn cynyddur cyfleoedd i bawb sydd 但 nodweddion gwarchodedig ddefnyddior rhwydwaith telathrebu, yn fwy diogel rhag twyll.

Cwblhawyd: Do

  1. Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr: Rhagfyr 2022: 油

  2. Action Fraud. Fraud Crime Trends 2020-21. 油

  3. Fraud sector charter: telecommunications - 51画鋼 (www.gov.uk) - [/government/publications/joint-fraud-taskforce-telecommunications-charter] (/government/publications/joint-fraud-taskforce-telecommunications-charter) -油

  4. Ofcom - 油

  5. Mae ffugio rhifau, lle mae manylion adnabod y galwr yn cael eu cuddio, yn ffactor sydd iw weld yn aml mewn galwadau sgam.油

  6. Arolwg Sgamiau Ofcom: Awst 2022: 油

  7. Deddf Twyll (2006) 油

  8. Defnyddio dichell i gael unigolion i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol a allai gael ei defnyddio at ddibenion twyllodrus.油

  9. Mae gwe-rwydo drwy SMS, sydd hefyd yn cael ei alw yn smishing yn digwydd drwy SMS ar nod yw ceisio twyllo defnyddwyr i ddatgelu gwybodaeth bersonol 但 negeseuon syn ymddangos yn ddilys, er enghraifft rhybuddion yn dod gan fanciau.油

  10. Arbenigwr yn y diwydiant telathrebu syn dymuno aros yn ddienw.油

  11. Mae Porth System Fyd-eang Cyfathrebu Symudol (GSM) yn golygu unrhyw offer yn cynnwys cerdyn SIM syn galluogi llwybro galwadau o gyfarpar sefydlog i offer symudol drwy sefydlu galwad o un ddyfais symudol i un arall.油

  12. Fraud sector charter: telecommunications - 51画鋼:/government/publications/joint-fraud- taskforce-telecommunications-charter

  13. Guidance on the provision of Calling Line Identification facilities and other related services Ofcom: 油

  14. Yr arfer twyllodrus o anfon negeseuon testun syn honni eu bod gan gwmn誰au dibynadwy er mwyn cael unigolion i ddatgelu gwybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau neu rifau cardiau credyd.油