Consultation Options Assessment (Welsh accessible version)
Updated 29 April 2025
Teitl: Mesurau atebolrwydd personol ar uwch weithredwyr cwmn誰au ar-lein syn torrir gyfraith ar gyllyll.
Math o fesur: Deddfwriaeth Sylfaenol
Adran neu asiantaeth: Y Swyddfa Gartref
Rhif OY: HOCOA1006
Cyswllt ar gyfer ymholiadau: Owen Hanson
Dyddiad: 11 Tachwedd 2024
1. Crynodeb or cynnig
1. Maer llywodraeth yn gweithredu ei hymrwymiad maniffesto i osod mesurau atebolrwydd personol ar swyddogion gweithredol syn torrir deddfau ar werthu cyllyll trwy ei gwneud yn ofynnol i farchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gael gwared yn gyflym ar gynnwys anghyfreithlon ynghylch cyllyll.
2. Byddair cynnwys anghyfreithlon hwn yn cael ei ddiffinio fel cynnwys syn ymwneud 但 gwerthu arfau gwaharddedig o dan adran 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988[footnote 1], gwerthu cyllyll fflicio a chyllyll disgyrchiant o dan adran 1 o Ddeddf Cyfyngu Arfau Ymosodol 1959[footnote 2] a marchnata cyllell syn awgrymu ei bod yn addas ar gyfer ymryson yn erbyn neun annog/efelychu ymddygiad treisgar fel o dan adrannau 1[footnote 3] a 2[footnote 4] o Ddeddf Cyllyll 1997.
3. Maer llywodraeth eisiau rhoir p典er ir heddlu allu rhoi hysbysiadau dileu cynnwys i lwyfannau a marchnadoedd ar-lein au huwch swyddogion gweithredol.
4. Bydd yr hysbysiadau yn galw ar i farchnadoedd a llwyfannau ar-lein dynnu i lawr darnau penodol o gynnwys anghyfreithlon a bostiwyd gan unigolion syn cynnwys arfau ymosodol anghyfreithlon iw gwerthu neu syn marchnata cyllyll yn anghyfreithlon mewn ffyrdd syn awgrymu eu haddasrwydd ar gyfer ymryson neu syn annog trais drwy ddefnyddior gyllell fel arf.
5. Byddair hysbysiad cais dileu cynnwys yn cael ei anfon ir llwyfan ar-lein neur farchnad yn gyntaf ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo dynnur cynnwys i lawr o fewn 2 ddiwrnod. Os bydd y cwmnin methu 但 gweithredu ar hyn bydd yr heddlun rhoi ail gais dileu cynnwys i uwch weithredwr yn y cwmni hwnnw. Os bydd yr uwch weithredwr ym methu 但 sicrhau bod y cynnwys yn cael ei dynnu i lawr o fewn 2 ddiwrnod, byddain agored i gamau sifil. Bydd gan y cwmni ar uwch weithredwr yr hawl i adolygu a ywr cynnwys yn anghyfreithlon ar 担l cael hysbysebiad dileu cynnwys priodol, a byddai gan yr uwch weithredwr yr hawl i wrthwynebu ar 担l iddo gael gwybod ei fod yn cael ei ddwyn ir llys sifil.
6.油Rydym yn cynnig y byddair ddirwy am beidio 但 chydymffurfio 但r hysbysiad i ddileu cynnwys yn o leiaf 贈10,000, a bennir gan y llys. Credwn fod dirwy ar y lefel hon yn ddigon i weithredu fel rhwystr ac y byddain newid ymddygiad, tran cadw cymesuredd.
2. Achos strategol dros y rheoleiddio arfaethedig
Beth ywr broblem dan ystyriaeth?
7.油Maer heddlu wedi adrodd mai un or problemau mwyaf wrth fynd ir afael 但 throseddau cyllyll yw gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr syn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i werthu cyllyll yn anghyfreithlon. Mae unigolyn yn gwerthu cyllell yn anghyfreithlon lle maen gwerthu arfau bygythiol gwaharddedig, yn gwerthu neun cynnig cyllyll ar werth i bobl o dan 18 oed ac yn marchnata cyllyll mewn ffyrdd syn annog trais neun hybu eu haddasrwydd iw defnyddio mewn ymosodiadau treisgar.
8.油Maer gwerthwyr neur ailwerthwyr preifat hyn yn gwerthu arfau ymosodol gwaharddedig a chyllyll er elw, maer llywodraeth wedi cael gwybod drwy blismona am ddigwyddiadau lle gwerthwyd y cyllyll hyn i bobl o dan 18 oed ac wediu defnyddion ddiweddarach mewn ymosodiadau cyllyll a lladdiadau.
9.油Maer gwerthwyr hyn yn cyflawni troseddau o dan adrannau 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 1 o Ddeddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959 ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cyllyll 1997.
10.油Fodd bynnag, mae angen i gwmn誰au ar-lein weithredun gyflymach i dynnu i lawr y cynnwys penodol a bostiwyd gan y gwerthwyr hyn er mwyn atal pobl, gan gynnwys pobl dan 18 oed, rhag gallu prynu arf neu gyllell ymosodol waharddedig.
11. Maer llywodraeth wedi ymrwymo i wneud y strydoedd yn fwy diogel, ac i leihau troseddau cyllyll 50 y cant yn y degawd nesaf. Maer addewid hwn yn cynnwys dal swyddogion gweithredol cwmn誰au ar-lein syn torrir gyfraith ar werthu cyllyll i gyfrif trwy sancsiynau llym.
Pa dystiolaeth sydd i gefnogir datganiad problemus?
12. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024, cofnododd yr heddlu gyfanswm o 50,973 o droseddau ym ymwneud ag offeryn miniog. Roedd hyn yn gynnydd o bedwar y cant o gymharu 但r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 (49,187 o droseddau). Gwelwyd cynnydd nodedig hefyd yn nifer y lladdiadau yn ymwneud 但 chyllell neu offeryn miniog, a oedd i fyny 11 y cant o gymharu 但r flwyddyn flaenorol. Or holl lladdiadau a gofnodwyd yn yr un flwyddyn, roedd cyfran y lladdiadau lle defnyddiwyd cyllell neu offeryn miniog fel y dull o ladd yn 44 y cant, cynnydd bychan ou gymharu 但 42 y cant y flwyddyn flaenorol.[footnote 5]
13. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gwnaed dros 18,000 o rybuddiadau ac euogfarnau am feddu ar gyllell neu arf ymosodol, gan gyfrif am 29 y cant o gyfanswm y troseddau. Roedd hyn yn ostyngiad bychan o ddau y cant oi gymharu 但r flwyddyn flaenorol.
14. Mae dull cynhwysfawr y llywodraeth o wella mesurau ataliol yn anelu at leihau nifer y troseddau syn ymwneud ag offeryn miniog, a nifer y bobl syn cario arfau ymosodol. Maer dull hwn yn cynnwys y rhaglen 10 mlynedd newydd Dyfodol Ifanc a chamau llymach a gymerwyd yn erbyn troseddwyr.
15. Rhwng Ebrill 2023 ac Ebrill 2024, bu cynnydd o dri y cant yn nifer y derbyniadau ir ysbyty oherwydd ymosodiad gyda gwrthrych miniog. Mae achos ir llywodraeth ymyrryd fel bod llai o bobl yn cael eu derbyn ir ysbyty oherwydd anafiadau syn gysylltiedig 但 chyllyll. Bydd lleihaur cyflenwad o gyllyll sydd wediu marchnatan anghyfreithlon neu syn waharddedig drwy wneud i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein wneud mwy i ddileu cynnwys yn gyflym yn helpu i gyflawni hyn.
Pam mae angen gweithredu neu ymyrryd gan y llywodraeth?
16.油Mae troseddau cyllyll yn fater cymhleth, syn gofyn am atebion amlochrog, ac maer llywodraeth yn benderfynol o roi mesurau ar waith i leihau trais syn ymwneud 但 chyllyll.
17. Maer llywodraeth yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i fesur barn yr ymatebwyr ar osod sancsiynau sifil ar weithredwyr llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu farchnadoedd ar-lein. Yn benodol, y rhai nad ydynt yn tynnu i lawr yn gyflym cynnwys anghyfreithlon pan hysbysir iddyn nhw gan yr heddlu.
18. Maer llywodraeth or farn y bydd y mesurau hyn yn annog llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein i wneud mwy i darfu ar weithgareddau or fath. Gweithio i atal cofrestriad gwerthwyr cyllell trydydd parti syn ceisio gwerthu arfau neu gyllyll gwaharddedig i bersonau o dan 18 oed, neu farchnata cyllyll mewn ffordd anghyfreithlon trwy sicrhau bod y swyddog gweithredol yn atebol.
19. Maer llywodraeth yn awyddus i gael dealltwriaeth fwy manwl gywir o raddfa ailwerthu cyllyll ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol mawr a marchnadoedd ar-lein. Yn enwedig i ba raddau y mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein eisoes yn mynd ir afael 但r broblem, er enghraifft drwy dimau cymedroli cynnwys a thynnu i lawr cynnwys or fath.
20. Maer llywodraeth yn cydnabod y dylai fod darpariaeth ar gyfer rhai amddiffyniadau i gwmn誰au cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein mewn perthynas 但 diffyg cydymffurfio gyda hysbysiadau dileu cynnwys. Efallai mai dyma lle gallair cwmni ddod ar draws materion technegol a allai achosi oedi cyn cymryd y cynnwys i lawr o fewn y cyfnod penodol o amser.
21. Maer llywodraeth hefyd yn ymwybodol bod angen rhywfaint o amddiffyniad i uwch weithredwyr ar gyfer achlusuron pan ywr uwch weithredwyr yn rhy newydd yn y swydd i gael eu hystyried yn gyfrifol am fethu 但 chydymffurfio 但 hysbysiadau dileu cynnwys neu pan nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am gael eu henwi fel uwch weithredwyr 但 chyfrifoldeb am sicrhau bod yr hysbysiad dileu cynnwys yn cael ei weithredu.
Pa fylchau neu niwed fyddain digwydd pe na bair llywodraeth yn ymyrryd?
22. Mae troseddau cyllyll yn effeithio ar ddioddefwyr trwy niwed emosiynol a chorfforol, yn ogystal ag achosi costau ir economi ar gymdeithas yn ehangach (er enghraifft trwy golli allbwn, a chostau i wasanaethau iechyd a dioddefwyr, yr heddlu, ar system cyfiawnder troseddol ehangach). Bydd y graddau y mae atebolrwydd personol ar weithredwyr ar-lein yn lleihau troseddau a alluogir gan gyllyll yn pennu i ba raddau y caiff y costau hyn eu lleihau.
3. Amcanion SMART ar gyfer ymyrraeth
23.油Fel rhan o addewid y llywodraeth i wneud y strydoedd yn fwy diogel, ac i anrhydeddu ymrwymiad y maniffesto i gyflwyno sancsiynau llym ar swyddogion gweithredol cwmn誰au ar-lein syn torrir gyfraith ar gyllyll, maer llywodraeth yn archwilio gosod atebolrwydd personol ar swyddogion gweithredol cwmn誰au ar- lein syn torrir gyfraith ar werthu cyllyll. Y canlyniad a fwriedir yw tarfu ar weithgareddau gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr, gan leihau troseddau a alluogir gan gyllyll trwy ddefnyddior ataliad lle bydd uwch swyddogion gweithredol yn bersonol atebol i wneud i lwyfannu cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar- lein wneud mwy yn gyflym i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon syn cael ei amlygu iddynt.
24. Y prif amcan yw sicrhau bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein yn cael gwared ar gynnwys anghyfreithlon a amlygwyd iddynt o fewn cyfnod byr o amser. Mae hyn yn cynnwys deunydd o dan adran 141 or Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 1 or Ddeddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959 ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cyllyll 1997.
25.油Ar yr un pryd maer llywodraeth am sicrhau nad yw cynnwys cyfreithiol yn cael ei dynnu i lawr yn anfwriadol ac nad yw cwmn誰au a swyddogion gweithredol yn cael eu cosbin annheg am fethu 但 chael gwared ar gynnwys anghyfreithlon mewn pryd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt iw rheolaeth.
4. Disgrifiad or opsiynau ymyrraeth arfaethedig ac esboniad or broses newid rhesymegol lle mae hyn yn cyflawni amcanion SMART
Opsiwn 0 Gwneud Dim
26. Nid ywr Swyddfa Gartref yn cyflwyno rheoliadau newydd i ategur rhai a nodir yn Neddf Diogelwch Ar-lein 2023 (OSA 2023)[footnote 6] i gynnwys sancsiynau sifil neu sancsiynau ar gyfer swyddogion gweithredol. Mae hyn yn peryglu y bydd y llywodraeth yn methu 但 chyflawni ei hamcan o gwtogi 50 y cant ar droseddau cyllyll yn y degawd nesaf ai hymrwymiadau maniffesto i ddal swyddogion gweithredol yn bersonol atebol am dorri rheolau ynghylch gwerthu cyllyll ar-lein.
Opsiwn 1 Sancsiynau Sifil
27.油Maer Swyddfa Gartref wedi cynnal ymchwil ar ddichonoldeb cynnig i osod cyfundrefn sancsiynau sifil gan sicrhau atebolrwydd personol uwch weithredwyr llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein nad ydynt yn tynnu i lawr cynnwys yn ddigon cyflym pan hysbysir nhw gan yr heddlu. Bydd hyn yn cael ei brofi yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
28. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar yr opsiwn arfaethedig, sut y bydd yn gweithredun ymarferol ac amddiffyniadau.
29.油Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn defnyddior ymgynghoriad cyhoeddus i ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein ar raddfa y mae gwerthwyr preifat ac ailwerthwyr yn gweithredu o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn ymgysylltun rhagweithiol 但 digwyddiadau ar- lein i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad a bwydo i mewn i ddatblygiad pellach yr asesiad effaith.
30. Bydd y cynnig hwn yn dilyn dulliau profedig. Mae llysoedd sifil syn rhoi dirwyon am dorri dyletswydd statudol yn rhan dderbyniol o dirwedd gyfreithiol y DU.
31. Mae fframwaith deddfwriaethol ar waith eisoes mewn perthynas 但 diogelwch ar- lein. Maer OSA 2023 hefyd yn gosod dyletswydd ar farchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael systemau cymesur ar waith i, ymhlith dyletswyddau eraill, ddileu cynnwys anghyfreithlon yn gyflym pan dd担nt yn ymwybodol ohono. Os bydd methiant systemig gan gwmn誰au i ddileu cynnwys anghyfreithlon, gallant gael dirwy o hyd at 18 milliwn neu 10 y cant ou refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf. Maer cynnwys y maer llywodraeth eisiau i reolwyr ei dynnu i lawr yn gynnwys sydd eisoes yn torrir gyfraith bresennol.
32.油Byddair llywodraeth yn cyflwynor cynnig hwn fel deddfwriaeth sylfaenol fel rhan or Bil Troseddu a Phlismona sydd ar ddod.
5. Crynodeb or rhestr hir a dewisiadau eraill
33. Mae dal i gyfrif y gweithredwyr cwmn誰au ar-lein syn torrir gyfraith ar werthu cyllyll yn ymrwymiad maniffesto y llywodraeth.
34. Maer Swyddfa Gartref yn ymgynghori ar sut i gyflawnir ymrwymiad hwn drwy geisio barn am ein sancsiwn sifil arfaethedig syn gosod atebolrwydd personol ar uwch swyddogion gweithredol. Yn ogystal, gweithio i ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein ar raddfa y mae gwerthwyr ac ailwerthwyr preifat yn gweithredu o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll, yn ogystal ag ymgynghorin benodol 但r cwmn誰au ar-lein ar y cynigion.
35.油Nid oedd rhestr hir o opsiynau gan mai ymrwymiad maniffesto yw hwn. Nid oedd yn bosibl eithrio busnesau bach a micro / busnesau canolig o gwmpas y polisi gan y byddai hyn yn tanseilio pwrpas yr atebolrwydd personol arfaethedig ar gyfer sancsiynau sifil (i ddiogelu diogelwch y cyhoedd). Yn ogystal, maer heddlu yn debygol o ganolbwyntio ar y busnesau mawr, (er enghraifft marchnadoedd ar- lein megis Amazon, eBay a Meta) a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr (er enghraifft SnapChat, TikTok, Instagram) gan y bydd cynnwys anghyfreithlon ar y llwyfannau hyn yn cael y cyrhaeddiad mwyaf.
6. Disgrifiad or opsiynau polisi ar y rhestr fer a gariwyd ymlaen
36. Mae dau opsiwn wediu cario ymlaen:
- Opsiwn 0 Gwneud Dim
- Opsiwn 1 Sancsiynau Sifil ar swyddogion gweithredol y mae eu cwmn誰au yn mynd yn groes i hysbysiadau dileu cynnwys yn gyson.
37. Pwrpas yr ymgynghoriad:
- a) Mesur y gefnogaeth i ddull arfaethedig y llywodraeth o osod sancsiynau sifil ar effeithiau tebygol o gymharu 但 senario busnes-fel-arfer.
- b)油Darparu mwy o wybodaeth am yr hyn y mae rhanddeiliaid ar cyhoedd yn ei ystyried yn gyfnod teg o amser i roi i gwmn誰au i ddileu cynnwys anghyfreithlon. Bydd hyn yn dilyn unwaith yr hysbysir nhw gan yr heddlu drwy hysbysiad dileu cynnwys.
- c)油Helpur llywodraeth ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll, ar raddfa y mae gwerthwyr ac ailwerthwyr yn gweithredu arni o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll.
- d)油Casglu tystiolaeth o unrhyw gostau posibl syn gysylltiedig 但 rhoir mesur hwn ar waith i fusnesau, er enghraifft y gost bosibl i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein o logi unrhyw gymedrolwyr newydd.
- e) Casglu mewnbwn ar ba amddiffyniadau ddylai fodoli ar gyfer diffyg cydymffurfio.
7. Monitro a gwerthuso
38. Bydd effaith gosod atebolrwydd personol ar uwch swyddogion gweithredol llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein syn methu 但 chymryd camau i atal gwerthiant anghyfreithlon cyllyll ac arfau eraill yn cael ei fonitro gan ddefnyddio adborth/tystiolaeth gan yr heddlu ar ba mor gyflym mae cwmn誰au yn dileu cynnwys anghyfreithlon a thrwy ystadegaur Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud ag erlyn troseddau perthnasol. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn cadw dan adolygiad effaith y mesurau ar fusnes, yn enwedig unrhyw gost ychwanegol i gwmn誰au yn sgil llogi cymedrolwyr cynnwys ychwanegol.
8. Lleihau costau gweinyddol a chydymffurfio
39.油Bydd cost weinyddol i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar- lein am gydymffurfio 但 hysbysiadau dileu cynnwys a gyhoeddir gan yr heddlu. Ni all y Swyddfa Gartref wneud amcangyfrif ar hyn o bryd ond bydd yr ymgynghoriad yn casglu gwybodaeth ar faint o lwyfannau ar-lein fydd yn gorfod newid eu prosesau. Bydd y llywodraeth yn sicrhau bod y broses hon mor syml 但 phosibl ac yn cynhyrchu canllawiau i helpu busnesau i ddeall y broses.
Datganiad
Adran: Home Office Public Safety Group
Y Gweinidog syn Gyfrifol: Minister for Crime, Policing and Fire
Rwyf wedi darllen yr Asesiad Opsiynau Ymgynghori ac rwyn fodlon, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli barn resymol o gostau, buddion ac effaith tebygol yr opsiynau arweiniol.
Llofnodwyd:
Dyddiad:油11 Tachwedd 2024
Crynodeb: Dadansoddiad a thystiolaeth
Ar gyfer AO Ymgynghori, nid ywn ofynnol cwblhau pob un or isod, ond cwblhewch gymaint ag y gallwch lle bo modd. Ar gyfer pob dewis ar y rhestr fer, cynhwyswch golofn yn y tabl isod.
Blwyddyn sylfaen pris:
Blwyddyn sylfaen PV:
Gellir ail-fformatior tabl hwn ar yr amod y cedwir y gymhariaeth o opsiynau ochr-yn- ochr | 0. Busnes fel arfer (gwaelodlin) | 1. Rhestr fer Opsiwn 1 Sancsiwn sifil i swyddogion gweithredol y mae eu cwmn誰au yn torri hysbysiadau dileu cynnwys yn gyson |
---|---|---|
Gwerth cymdeithasol presennol net (gyda disgrifiad byr, gan gynnwys ystodau, o gostau a buddion unigol) | 油 | Ar hyn o bryd nid yw dadansoddwyr y Swyddfa Gartref yn gallu darparu amcangyfrif NPSV dibynadwy. Bydd yr ymgynghoriad hwn sydd ar ddod yn ein helpu i gasglu gwybodaeth ychwanegol y gellir ei defnyddio i feintioli effeithiaur mesur hwn drwy lenwir bylchau presennol yn y dystiolaeth i ddatblygu amcangyfrif arfarnu mwy cywir. Gallair costau sylfaenol syn gysylltiedig 但r mesur hwn gynnwys newidiadau posibl yn y staffio ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, costau hyfforddi a chynefino, ac effeithiau posibl ar y system CPS, megis achosion llys cynyddol a dyraniad adnoddaur heddlu. Y brif fantais a ragwelir ywr buddion diogelwch cyhoeddus a enillir trwy ostyngiad posibl mewn troseddau cyllyll. |
Costau ariannol y sector cyhoeddus (gyda disgrifiad byr, gan gynnwys ystodau) | 油 | Er nad yw costau CJS penodol ar gyfer yr opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd, mae Prawf Effaith Cyfiawnder blaenorol ar gyfer y Bil Diogewlch Ar-lein yn gyfeiriad defnyddiol o ystyried natur debyg y mesur. Barnwyd mai ychydig iawn o effaith a gafodd y Bil hwn, gyda chostaun ymwneud yn bennaf 但r corff apeliadau. Amcangyfrifwyd y byddair rhain yn 贈3,500 fesul achos, a disgwylir tua 10 achos bob blwyddyn a chost cychwyn chwanegol o 贈7,000. Bydd yr ymgynghoriad sydd i ddod yn helpur Swyddfa Gartref i ddeall y nifer disgwyliedig o achosion y gallai hyn arwain ato mewn blwyddyn. Maer Swyddfa Gartref yn cydnabod y gallai fod costau cyfle yn gysylltiedig ag ailffocysu adnoddaur heddlu. Fodd bynnag, nid yw union faint yr effaith hon yn hysbys ar hyn o bryd a bydd yn brif ffocws ir broses ymgynghori. |
Manteision a chostau buddion sylweddol heb eu meintioli (disgrifiad, gyda graddfa lle bo modd)) | 油 | Maer Swyddfa Gartref yn rhagweld y bydd y mesur yn cyfrannu at wella diogelwch y cyhoedd drwy leihau trais difrifol. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol, ni allwn fesur union faint y gostyngiad hwn ar hyn o bryd. Maen debygol y bydd asesiadau yn y dyfodol yn defnyddio dadansoddiad adennill costau, gan ddefnyddior adroddiad costau economaidd a chymdeithasol troseddu i bennu nifer y lladdiadau, lladradau, ar anafiadau treisgar y byddai angen eu hatal er mwyn cyfiawnhau costaur polisi. |
Risgiau allweddol (a chostau risg, a thuedd optimistiaeth, lle bon berthnasol) | 油 | Un or prif heriau ywr diffyg data gronynnog ar union darddiad y cyllyll a ddefnyddir mewn troseddau. Tra bod y Swyddfa Gartref yn gallu olrhain tueddiadau mewn troseddau cyllyll, nid ywr data cyfredol yn nodi ffynonellau penodol o gyllyll, megis marchnadoedd ar-lein neu siopau. Yn ogystal, gallai effeithiolrwydd y mesur gael ei effeithio gan effeithiau dadleoli posibl, lle bydd troseddwyr yn prynu neun cael cyllyll o leoliadau eraill. |
Canlyniadaur dadansoddiad sensitifrwydd | 油 | 油 |
Atodiad
Sylfaen Tystiolaeth
Effeithiau 但 gwerth ariannol
1.油Ar hyn o bryd ni all dadansoddwyr y Swyddfa Gartref roi amcangyfrif dibynadwy or costau ar buddion ariannol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu dadansoddwyr y Swyddfa Gartref i gasglu gwybodaeth ychwanegol y gellir ei defnyddio i feintioli goblygiadau cost a budd y mesur hwn ac felly datblygu amcangyfrif arfarnu mwy cywir. Maer costau ar buddion y maer Swyddfa Gartref yn disgwyl eu creu au hariannu mewn dadansoddiad yn y dyfodol wediu hamlinellu yn yr effeithiau anariannol.
Effeithiau anariannol
Costau
Costau Ymgyfarwyddo
2.油Bydd yr opsiwn arfaethedig yn gofyn am gostau sefydlu trwy ymgyfarwyddo, wrth i staff o lwyfannau ar-lein ar heddlu ddod i arfer 但r mesur newydd. Or ymatebion ir ymgynghoriad, bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu amcangyfrif o nifer y cyflogeion o lwyfannau ar-lein ar heddlu y bydd angen iddynt ymgyfarwyddo 但r mesur newydd.
Costau Staffio
3. Gall y mesur hwn greu costau staffio ar gyfer y llwyfannau ar-lein ar heddlu. Gall llwyfannau ar-lein gyflogi mwy o gymedrolwyr cynnwys i nodi a chael gwared ar gynnwys niweidiol, tra bydd yr heddlu angen adnoddau ychwanegol i fonitro cydymffurfiaeth ac o bosibl ymchwilio i droseddau cysylltiedig. Gall yr effaith hon amrywio o ran maint a chwmpas ar draws lluoedd ar llwyfannau eu hunain. Er nad ywr mesur yn darparu cyllid ychwanegol ir heddlu o ran staff, byddair posibilrwydd o ailddyrannu adnoddau presennol yn golygu costau cyfle. Nid yw union faint hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae ceisio barn ar yr hyn y dylair heddlu fod ac a fydd yn brif ffocws y broses ymgynghori. Unwaith y bydd y llywodraeth yn gwybod beth ywr heddlu bydd y Swyddfa Gartref yn ymgysylltu 但 nhw i ganfod y costau.
4. Gall y costau hyn fod yn fach iawn gan fod y mesur hwn ond yn ychwanegu ataliad a chanlyniad ychwanegol i ddeddfwriaeth sydd eisoes ar waith. Maen bosibl na fydd niferoedd staffion newid naill air yn yr heddlu nar cwmn誰au, cyfryngau ar-lein; fodd bynnag gallair effaith amrywio ar draws cyrff gorfodi a chwmn誰au posibl. Trwyr ymatebion ir ymgynghoriad maer Swyddfa Gartref yn gobeithio cael effaith FTE ar gyfer y cwmn誰au ar-lein ar heddlu ar ysgogwyr posibl i hyn.
Costaur System Cyfiawnder Troseddol (CJS)
5. Maer Swyddfa Gartref yn rhagweld costau syn gysylltiedig ag erlyniadau ac apeliadau posibl. Fodd bynnag, o ystyried lefelau incwm tebygol swyddogion gweithredol ar-lein, ni ragwelir costau cymorth cyfreithiol.
6.油Er nad yw costau CJS penodol ar gyfer yr opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd, mae Asesiad Effaith blaenorol ar gyfer OSA 2023 yn rhoi cyfeiriad defnyddiol o ystyried natur debyg y mesur. Ystyriwyd mai ychydig iawn o effaith y byddai CJS 2023 yn ei chael, gyda chostaun ymwneud yn bennaf 但r corff apeliadau. Amcangyfrifwyd y byddair rhain yn 贈3,500 fesul achos, a disgwylir tua 10 achos bob blwyddyn, a chost cychwyn ychwanegol o 贈7,000. Bydd yr ymgynghoriad sydd ar ddod yn helpur Swyddfa Gartref i ddeall y nifer disgwyliedig o achosion newydd y gallair mesur hwn arwain atynt mewn blwyddyn.
Buddion
Diogelwch y cyhoedd
7.油Nod y polisi hwn yw cyflwyno atebolrwydd personol ar gyfer uwch weithredwyr cwmn誰au ar-lein syn methu 但 nodi a thynnu i lawr cynnwys syn ymwneud 但 gwerthu arfau a waherddir, gwerthu cyllyll i bersonau dan 18 oed, a marchnata cyllyll mewn ffordd syn awgrymu eu bod yn addas ar gyfer ymryson neun annog/efelychu ymddygiad treisgar.
8.油Maer Swyddfa Gartref yn rhagweld y gallair mesur gyfrannu at wella diogelwch y cyhoedd drwy leihau trais difrifol. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol, nid ywr Swyddfa Gartref yn gallu meintioli union faint y gostyngiad ar hyn o bryd. Un or prif heriau yw absenoldeb data gronynnog ar union darddiad y cyllyll a ddefnyddir mewn troseddau. Tra bod y Swyddfa Gartref yn gallu olrhain tueddiadau cyffredinol mewn troseddau cyllyll, nid ywr data yn caniat叩u iddi nodi ffynonellau penodol o gyllyll, megis marchnadoedd ar-lein neu siopau. Ymhellach, gallai effeithiolrwydd y mesur gael ei effeithio gan effeithiau dadleoli posibl, lle gall troseddwyr brynu neu gael cyllyll o leoliadau eraill.
9. Gallair cynnig hefyd arwain at gynnydd yn hyder y cyhoedd. Ni fydd y budd hwn yn cael ei roi mewn gwerth ariannol ar gyfer yr Asesiad Effaith terfynol oherwydd diffyg tystiolaeth ar y ffactorau penodol syn ysgogi ofn troseddau cyllyll, ac i ba raddau y bydd y cynigion yn effeithio ar hyn.
Effeithiau cyffredinol disgwyliedig
10.油Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth ir Swyddfa Gartref amcangyfrif yn gywir effaith gyffredinol y mesur. Maer Swyddfa Gartref yn rhagweld mai costau staffio fydd y gost gysylltiedig fwyaf. Yn dilyn ymgynghoriad y Swyddfa Gartref dylai fod gan ddadansoddwyr y wybodaeth berthnasol i allu ystyried y gostyngiad troseddu angenrheidiol i adennill costau. Bydd dadansoddwyr yn defnyddio costau economaidd a chymdeithasol riportio troseddau i bennu nifer yr achosion o laddiadau, lladrata ac anafiadau treisgar y byddai angen eu hatal er mwyn cyfiawnhau costaur polisi.
11. Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i gasglu data a thystiolaeth hanfodol i lenwi bylchau presennol a galluogi asesiad mwy cywir.
Effeithiau Dosbarthiadol
12.油Maer buddion syn gysylltiedig 但r mesur yn debygol o fod yn fwy dwys mewn ardaloedd lle mae troseddau cyllyll wediu canolbwyntion fwy daearyddol, megis Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.
Effeithau ar flaenoriaethau pellach llywodraeth
Amgylchedd Busnes
13.油Nid ywr mesur hwn yn debygol o gael effaith ar ba mor ddeniadol yw marchnad y DU i lwyfannau ar-lein, gan fod hyn yn ychwanegu ataliad atodol ar gyfer deddfwriaeth gyfredol (OSA 2023)[footnote 7]. Mae gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr ar y llwyfannau yr effeithir arnynt yn annhebygol o fod yn fusnesau cofrestredig neu gyfreithlon. Bydd hyn yn ychwanegu mwy o amddiffyniad i werthwyr cyllyll ar- lein cyfreithlon.
Ystyriaethau Rhyngwladol
14. Nid oes disgwyl ir mesur hwn gael urhyw effeithiau rhyngwladol.
Cyfalaf naturiol a Datgarboneiddio
15. Nid oes disgwyl ir ddeddfwriaeth gael effaith amgylcheddol.
Dyletswydd Cydraddoldeb Statudol
Maen ofynnol i bob OA Ymgynghori sicrhau bod y Ddyletswydd Cydraddoldeb Statudol yn cael ei hadolygu gan yr SRO cyn ei chymeradwyo.
Prawf effaith penodol gorfodol - Dyletswyddau Cydraddoldeb Statudol | Cyflawn |
---|---|
Dyletswyddau Cydraddoldebau Statudol Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus ir angen i ddileu gwahaniaethau, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da wrth ddatblygu polis誰au a darparu gwasanaethau. Equality Duty Toolkit. Ein barn ni yw na fydd y polisin effeithio ar unrhyw un or nodweddion gwarchodedig. Rydym yn ymgynghori ar y polisi a byddwn yn ymgysylltu 但r cwmn誰au ar-lein i ddeall eu strwythur gweithredol au cyfansoddiad er mwyn nodi a oes unrhyw dystiolaeth syn awgrymu unrhyw effeithiau. Maer SRO wedi cytuno ar y canfyddiadau cryno hyn. (Rhaid i chi gael cytundeb SRO yma) |
Ydy |