Llwyddiannau y rheini sydd wedi derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn cael ei ddathlu
Mae'r actor Jonathan Pryce a'r capten rygbi Gamp Lawn Ryan Jones ymhlith pobl o Gymru i dderbyn gwobrau ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Darllenwch y restr lawn o dderbynion yma.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi canmol pobl o Gymru sydd wedi derbyn gwobrau yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021.
Maer rhestr yn cydnabod gwaith a chyflawniadau ystod eang o bobl hynod ar draws y Deyrnas Unedig o bob cefndir.
Mae derbynwyr o Gymru yn 2021 yn cynnwys unigolion a weithiodd yn ddiflino yn ystod pandemig COVID-19, gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi ou hamser i helpu eraill ac wedi gweithio tuag at sicrhau newid cadarnhaol ledled Cymru.
Gan ddiolch o galon am eu cyflawniadau ysbrydoledig llongyfarchodd Mr Hart bawb a oedd yn cael eu cydnabod gyda gwobr.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mewn blwyddyn a fun wirioneddol heriol, maen hanfodol ein bod yn rhoi on hamser i gydnabod a chanmol llwyddiannau ysbrydoledig pobl hynod ar draws cymdeithas.
Maer gwobrau hyn yn dathlur unigolion syn rhoin 担l yn anhunanol ir bobl ou cwmpas, drwy eu gwaith au bywydau personol, ac y gall eu gwaith gael ei anghofio weithiau.
Maen galonogol gweld yr ystod hynod amrywiol o dderbynwyr o gymunedau a chefndiroedd ledled Cymru, syn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i elusennau, addysg, iechyd, chwaraeon ar celfyddydau ac yn ystod pandemig byd-eang gwaith eithriadol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Rydyn ni i gyd yn hynod ddiolchgar am ymdrechion pawb syn cael eu hanrhydeddu ac fe hoffwn i longyfarch pawb syn derbyn gwobr yn bersonol.
Ymysg y bobl o Gymru syn derbyn gwobr mae actor Jonathan Pryce a gafodd ei urddon farchog, cyn gapten rygbi Cymru a enillodd y Gamp Lawn sef Ryan Jones a derbynodd OBE am wasanaethau i rygbir undeb ac i elusennau, cyn Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips a gafodd MBE am wasanaethau i rygbir undeb, Sophie Clodagh Mary Blain (Sopiale Andreae) a derbynodd CBE am wasanaethau i Dreftadaeth, Nigel Vernon Short a gafodd CBE am wasanaethau ir Economi yng Nghymru, Myer Glickman a derbynodd OBE am wasanaethau i Ddadansoddi Iechyd ar Athro Helen James a chafodd OBE am wasanaethau i Addysg Uwch.