Datganiad i'r wasg

Bydd Bil Cymru diwygiedig yn cyflawni setliad datganoli cryfach

Stephen Crabb yn cyhoeddi newidiadau i Fil Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Secretary of State Rt Hon Stephen Crabb

Heddiw, cyhoeddodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru newidiadau i Fil Cymru i gael gwared 但 biwrocratiaeth gyfansoddiadol a chyflawni setliad datganoli cryfach i Gymru.

Wrth siarad mewn cynhadledd or wasg ym Mae Caerdydd, blwyddyn ar 担l Cytundeb Dydd G典yl Dewi, cyhoeddodd Stephen Crabb y bydd yn:

  • Cael gwared 但r hyn syn cael ei alw yn brawf angenrheidrwydd, fel y bydd y Cynulliad yn gallu newid y gyfraith i helpu gorfodi ei ddeddfwriaeth heb ddefnyddior prawf yn gyntaf
  • Lleihaur nifer o gymalau cadw yn y Bil
  • Cael gwared 但r cyfyngiad cyffredinol ar y Cynulliad gan addasu swyddogaeth Gweinidogion y Goron mewn meysydd datganoledig

Maer newidiadau hyn yn dilyn cyfnod o bedwar mis o graffu cyn y broses ddeddfu yn ystod yr hyn y mae Pwyllgor Materion Cymreig yn Nh天r Cyffredin ar Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cymru wedi clywed tystiolaeth ar sut bydd model cadw pwerau yn gweithio yng Nghymru.

Angenrheidrwydd

Ar y prawf angenrheidrwydd fel yi gelwir fel y maen cael ei ddefnyddio ar gyfer egwyddorion cyffredinol y gyfraith, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod wedi ystyried cynrychioliadau iw ddisodli gyda phrawf gwahanol, ond daeth ir casgliad mair ffordd orau ymlaen yw cael gwared 但r cyfyngiad yn gyfan gwbl.

O gofio mai nod allweddol yw lleihau cymhlethdod, bydd cael gwared 但r prawf angenrheidrwydd yn cael gwared 但 biwrocratiaeth gyfansoddiadol sydd mewn perygl o lesteirio gallur Cynulliad i addasur gyfraith er mwyn gorfodi ei ddeddfwriaeth y maen gyfrifol amdani.

Caniatadau

Pan mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ir Cynulliad ddeddfu ar faterion syn effeithio ar gorff neilltuedig (corff y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano), maen nhwn gofyn am ganiat但d Llywodraeth y DU i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae angen caniat但d yn ogystal ir Cynulliad ddeddfu yngl天n 但 swyddogaethau Gweinidogion y Goron mewn meysydd datganoledig o ganlyniad i gyfyngiad cyffredinol ar yr hyn a elwir yn swyddogaethau cyn-gychwyn. Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd yn cael gwared 但r cyfyngiad hwnnw ac edrych ar bob un or swyddogaethau hyn, gyda golwg ar ddatganoli cymaint ohonyn nhw ag syn bosibl.

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Yn ogystal, maer Ysgrifennydd Gwladol wedi ystyried galwadau am awdurdodaeth unigryw neu awdurdodaeth ar wah但n. Wrth gael pwerau deddfu llawn yn 2011, ceir yn awr gorff cynyddol o gyfraith syn amlwg yn perthyn i Gymru. Ar hyn o bryd, mae hyn yn rhan fechan iawn o gorff cyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol sydd wedi datblygu dros 500 mlynedd o hanes cyfreithiol. Heddiw, eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oes achos ar hyn o bryd ar gyfer rhannu awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr, sydd wedi gweithion dda dros bobl y wlad hon ac syn parhau i wneud hynny.

Fodd bynnag, cyhoeddodd heddiw fod angen eglur i edrych ar sut y mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni yng Nghymru ac ystyried y corff amlwg a chynyddol o gyfraith Cymru sydd yn ein system gyfreithiol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol felly yn sefydlu gweithgor gydar Weinyddiaeth Gyfiawnder, swyddfar Arglwydd Brif Ustus a Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried pa drefniadau penodol sydd eu hangen i gydnabod anghenion Cymru oddi mewn i awdurdodaeth Cymru a Lloegr pan maer model cadw pwerau yn cael ei weithredu.

Cymalau Cadw

Maer Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion yn Swyddfa Cymru i weithio ar restr o gymalau cadw gyda chydweithwyr or Cabinet, er mwyn gweld lle y gellir lleihaur nifer o gymalau cadw a symleiddior rhestr.

Dywedodd Stephen Crabb:

Y llynedd, amlinellais fy ngweledigaeth am setliad datganoli i Gymru a fydd yn dal prawf amser drwy gyflawni model cadw pwerau i Gymru a rhoi pwerau pellach ir Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru.

Maer craffu hwn cyn y broses ddeddfu wedi arwain at ddadl fywiog ar y manylder ac rydw in ddiolchgar ir Pwyllgor Materion Cymreig a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, yn ogystal 但r rhai hynny a roddodd dystiolaeth o gymdeithas ddinesig, sydd wedi helpu i arwain y penderfyniadau yr wyf wediu gwneud.

Maer cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyflawnir ymrwymiadau a wneuthum flwyddyn yn 担l i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol, datganoli mwy o bwerau a chael gwared 但 biwrocratiaeth gyfansoddiadol a chyfreithiol er mwyn creu datganoli cryfach a chliriach i Gymru.

Rydw in ffyddiog y gallwn ni yn awr gyflawni Bil gwell, a setliad gwell, o ganlyniad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Mawrth 2016 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.