Gofynnwch gwestiwn gwirion...
Heddiw, mae DVLA wedi rhyddhau rhestr o rai o’r cwestiynau anarferol y mae cwsmeriaid wedi gofyn wrth geisio cael gwybod os yw eu car wedi’i drethu.

Mae gwasanaethau DVLA ar Google Assistant ac Amazon Alexa yn galluogi modurwyr i ofyn DVLA pryd mae eu treth cerbyd yn ddyledus gan ddarparu’r rhif cofrestru. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu defnyddio dros 47,000 o weithiau gan dros 20,000 o ddefnyddwyr unigryw ers iddynt gael eu lansio 2 flynedd yn ôl.
Tra bod y nifer helaeth o bobl wedi gofyn pryd mae eu treth yn ddyledus, mae rhai wedi gofyn rhai cwestiynau mwy anarferol, gan gynnwys:
- sut i gael gwm cnoi oddi ar soffa lledr?
- sut gallaf wneud cais am Love Island?
- wyt ti’n gwybod rysáit fegan dda am gyw iâr?
- ydy ceir coch yn gyflymach?
- pa amser mae cinio?
- a fydd hi’n bwrw glaw yn Ellesmere Port heddiw?
- beth oeddet ti’n meddwl o’r ffilm Bumblebee?
- sut allaf stopio fy nghydletywr rhag yfed fy llaeth?
- ble mae fy hosanau?
- ydy’r frech hon yn normal?
Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:
Rydym am i fodurwyr allu ddefnyddio ein gwasanaethau yn gyflym ac yn hawdd ac mae cynorthwywyr llais yn dod yn fwy-fwy poblogaidd. Tra bod rhai o’r cwestiynau y mae cwsmeriaid wedi gofyn i ni ychydig allan o’n hardal o arbenigedd, byddwn yn parhau i wneud ein gwasanaethau yn syml, gwell a diogel.
Mae bron i 98% o ryngweithiadau gyda DVLA nawr yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol DVLA.
Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi cynnig ar yr Alexa Skill , neu os oes ganddynt Google Home neu Google Assistant ar ei ffôn neu lechen gallent ofyn iddo “Talk to DVLA” neu “Ask DVLA”.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r Google Assistant ac Amazon Alexa Skill yn galluogi cwsmeriaid i gadarnhau manylion am eu cerbyd yn yr un modd ag y gallent drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymholiad Cerbyd ar 51.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407