Y Farwnes Randerson: Mae menywod mewn busnes yn hanfodol ar gyfer economi deg
Y Farwnes Randerson yn cyfarfod gyda menywod busnes ysbrydoledig i weld sut all Llywodraeth y DU gynyddu cyfleoedd i fenywod mewn busnes

Heddiw (29 Ionawr), cyfarfu Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson 但 menywod busnes o Gymru i weld sut y gall Llywodraeth y DU gynyddur cyfleoedd i fenywod ym myd busnes.
Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), ymwelodd y Farwnes Randerson 但 Bragdy Montys Brewery. Mae Pam Honeyman, cyd-sylfaenydd bragdy Montys Brewery yn gyfrannwr allweddol i lwyddiant y cwmni gan greu a chynhyrchur cwrw sydd wedi ennill gwobrau, Sunshine.
Aeth y Gweinidog hefyd i ymweld 但 chwmni Cyfreithwyr Harrisons Solicitors, Cynghorwyr Cyfreithiol Arbenigol or Trallwng ar Drenewydd. Maer Partner Rheoli, Anne Smith wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ar gyfer Mentor Rhagorol Gwobrau Busnes Powys 2014 - gan ddangos bod sgiliau fel mentora, sydd weithiaun gysylltiedig 但 menywod, yn gallu bod yn asedau busnes gwerthfawr.
Yna aeth y Farwnes Randerson i weld Rheolwr Tyddynnod y L担n/L担n Lodges, Kerena Pugh, a aeth ati gydai g典r, i agor dau dyddyn gwyliau hunan-ddarpar ar fferm y teulu. Mae Kerena yn rhan annatod o lwyddiant y tyddynnod, ac mae ei chyfrifoldebaun amrywio o gynllunio a dylunio datblygiadau, dylunio a rheolir wefan a chymryd archebion a gweinyddu.
Daeth ei thaith i ben pan ymwelodd 但r papur newydd lleol, y County Times. Yma, cafodd gyfle i nodi pa mor bwysig ydyw i fenywod yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi au grymuso i wireddu eu holl uchelgeisiau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Mae annog a chefnogi menywod i fentro ym myd busnes yn rhan hanfodol o greu economi gryfach a chymdeithas decach, felly rydw in benderfynol o wneud beth gallaf i ddenu mwy o fenywod ir byd busnes.
Ers 2010, rydyn ni wedi gweld mwy o fenywod ar fyrddau FTSE nag erioed or blaen cynnydd o 10% ers yr etholiad a chynnydd sylweddol mewn busnesau bach a chanolig a gaiff eu harwain gan fenywod cynnydd o 14% ers 2010.
Ond mae angen i ni wneud mwy o lawer er mwyn i fenywod yng Nghymru achub ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt lwyddo ym myd busnes.
Ledled Cymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi menywod syn gweithio drwy eu helpu gyda chostau gofal plant o dymor yr hydref 2015 ymlaen, bydd cynllun gofal plant di-dreth newydd gwerth hyd at 贈2000 y plentyn ar gael ar gyfer bron 2 filiwn o deuluoedd. Ers 2010, mae 9000 yn fwy o fenywod yn cael eu cyflogi yng Nghymru.