Stori newyddion

Galw ar gynrychiolwyr y gadwyn gwerth pecynwaith i ymuno â Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun (SASG) pEPR

Mae PackUK bellach yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer penodi aelodau i Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun.

Mae PackUK, Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr am Becynwaith (pEPR), wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn gwerth pecynwaith i’w arwain yn ei waith.

Mae Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi’r berthynas waith agos hon ac mae’n dod â gweithwyr proffesiynol medrus o bob rhan o’r gadwyn gwerth pecynwaith at ei gilydd sy’n frwd dros ailgylchu a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae’r Grŵp Llywio yn darparu safbwyntiau ac argymhellion gwerthfawr i Bwyllgor Gweithredol Gweinyddu’r Cynllun ar swyddogaethau gweithredol Gweinyddu’r Cynllun, gan ei gefnogi i wneud y canlynol:

  • darparu system sy’n creu’r manteision amgylcheddol mwyaf drwy rannu gwybodaeth a chydweithio; a
  • sicrhau bod y system gasglu a phecynnu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

Mae’r argymhellion hyn yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o lunio PackUK wrth iddo dyfu a datblygu. Er nad yw’r grŵp yn ymwneud yn uniongyrchol â gwneud penderfyniadau, mae’n ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth sy’n cynnwys aelodau a fydd â chyfoeth o arbenigedd gweithredol a pholisi o amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rôl Aelod o’r Grŵp Llywio bellach ar agor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer penodi aelodau i Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun.

Mae’r rôl wirfoddol hon yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at un o ddiwygiadau amgylcheddol mwyaf arwyddocaol ein hoes: gan wneud cyfraniad uniongyrchol at gyflawni datgarboneiddio a sero net yn y DU erbyn 2050.

Fel aelod, byddwch yn darparu adborth, argymhellion a chyngor technegol gwerthfawr a fydd yn cyfrannu at gynllun pEPR cyntaf y DU, sy’n garreg filltir allweddol yn y broses o bontio i economi gylchol.

11 Awst yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos amrywiaeth o sgiliau, profiad a gwybodaeth o bob rhan o’r gadwyn gwerth a byddant yn destun proses ymgeisio gystadleuol deg ac agored.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio ar gael isod.

Manylion am y grŵp llywio

Yn unol â’r arferion gorau yn rhyngwladol ar gyfer Cynlluniau Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr, bydd y Grŵp Llywio yn cael ei arwain gan gynhyrchwyr. Dyma gynnwys y seddi yn y Grŵp Llywio:

Bydd y Grŵp Llywio yn cynnwys 10 unigolyn o sefydliadau cynhyrchu a chynrychiolwyr y gymdeithas fasnach (1 sedd ddynodedig ar gyfer y sector bwyd ac 1 sedd ddynodedig ar gyfer gweithgynhyrchu pecynwaith) ac 11 aelod arall, yn cynrychioli Awdurdodau Lleol ym mhob un o’r pedair gwlad, cyrff rheoli gwastraff, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cynlluniau cydymffurfio, a chadeirydd annibynnol.

Sut mae gwneud cais

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfennau canlynol:

  • (PDF, 63.4 KB, 1 dudalen)
  • (PDF, 258 KB, 7 o dudalennau)
  • (MS Word Document, 59.9 KB)

I wneud cais am y rôl wirfoddol hon, dylid dychwelyd eich CV a’ch datganiad ategol i SASteeringgroup@defra.gov.uk erbyn hanner dydd ar 11 Awst 2025, gan nodi ‘Aelod o Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun’ yn y blwch pwnc.

Mae gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno’r canlynol hefyd:

  • Ffurflen Gwybodaeth am Amrywiaeth a Gwrthdaro rhwng Buddiannau
  • CV dwy ochr A4 yn unig, yn amlinellu eich profiad, unrhyw gymwysterau proffesiynol a hanes cyflogaeth.
  • Datganiad ategol yn dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, gan roi enghreifftiau penodol (dim mwy na 750 gair).

Nodwch yn yr e-bost pa sedd ar y Grŵp Llywio rydych chi’n gwneud cais amdani (e.e. Cynhyrchydd, Corff Rheoli Gwastraff, Corff Anllywodraethol Amgylcheddol, Cynllun Cydymffurfio).

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, anfonwch neges i SASteeringgroup@defra.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2025