Caerdydd i gael hwb swyddi Llywodraeth y DU i sbarduno twf
Mae Caerdydd wedi cael ei enwi’n un o 13 o leoliadau y bydd mwy o swyddi’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu symud iddynt er mwyn rhoi hwb i’r economi leol.

TÅ· William Morgan House, Cardiff
O dan yr ad-drefnu yma, bydd swyddi’r llywodraeth yn cael eu symud y tu allan i Lundain – i drefi a dinasoedd ym mhedair gwlad y DU, gan gyflwyno a datblygu polisi yn nes at y cymunedau y mae’n effeithio arnynt.
Rhagwelir y bydd hyn yn dod â gwerth £729 miliwn o fudd economaidd i’r 13 o ardaloedd twf erbyn 2030.
Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Pat McFadden:
I gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid, rydym yn symud mwy o benderfyniadau allan o Whitehall ac yn nes at gymunedau ar hyd a lled y DU.
Drwy adleoli miloedd o swyddi’r Gwasanaeth Sifil, byddwn yn arbed arian i drethdalwyr ac yn gwneud y Llywodraeth hon yn un sy’n adlewyrchu’r wlad y mae’n ei gwasanaethu’n well. Byddwn hefyd yn sicrhau bod swyddi’r Llywodraeth yn cefnogi twf economaidd ym mhob cwr o’r wlad.
Wrth i ni ddiwygio’r wladwriaeth yn sylweddol, rydym yn mynd i’w gwneud hi’n llawer haws i bobl dalentog ym mhob man ymuno â’r Gwasanaeth Sifil a’n helpu ni i ailadeiladu Prydain.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n newyddion gwych bod Cymru’n mynd i fod yn un o brif fuddiolwyr cynlluniau Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi yn nes at y cymunedau y mae’n effeithio arnynt.
Mae’r penderfyniad hwn yn adeiladu ar y presenoldeb cryf sydd gan Lywodraeth y DU yng Nghymru eisoes, gan sbarduno twf, rhoi hwb i swyddi, a rhoi cyfle i dalent Cymru ffynnu.
Ar hyn o bryd, mae 9,230 o swyddi’r gwasanaeth sifil wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Mae dros 31,500 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae gan 14 o brif adrannau’r Llywodraeth bresenoldeb yn y wlad.Â
Bydd miloedd yn rhagor o swyddi’r llywodraeth yn cael eu symud i’r 13 o drefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU sydd wedi cael eu henwi heddiw.
Bydd adrannau’r llywodraeth nawr yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer faint o swyddi y maent yn bwriadu eu symud i bob un o’r lleoliadau fel rhan o’r adolygiad o wariant.
Bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno er mwyn i bobl ifanc dalentog o bob cwr o’r DU allu symud yn syth o’r ysgol neu’r brifysgol i’r Gwasanaeth Sifil, a dringo’r holl ffordd i’r swyddi uchaf, heb fod wedi gweithio yn Whitehall erioed.
Er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain yn cael cyfleoedd datblygu a thwf proffesiynol cyfartal, gyda gyrfaoedd llawn o’r dechrau i’r diwedd, bydd y Llywodraeth yn lleoli 50% o Uwch Weision Sifil yn y DU mewn swyddfeydd rhanbarthol erbyn 2030.Â
Cefnogir hyn gan ymagwedd newydd at y rhaglen Llwybr Carlam – sef cynllun y Gwasanaeth Sifil i raddedigion – gydag o leiaf 50% o leoliadau’n cael eu cynnig y tu allan i Lundain.Â
Mae’r Prif Weinidog yn awyddus i wella effaith y Llywodraeth ymhellach mewn mannau ar draws y wlad, er mwyn sicrhau bod gan y Gwasanaeth Sifil bresenoldeb gweithredol mewn cymunedau, a’i fod yn cyfrannu at greu swyddi a thwf lleol.
Bydd y cynlluniau’n arwain at fwy o swyddi’n gweithio’n agosach gyda gwasanaethau rheng flaen, gan hwyluso gwell dealltwriaeth o’r materion go iawn sy’n wynebu gwasanaethau a phobl leol, a sut gall polisi llywodraeth ganolog eu cefnogi.