Hyrwyddwyr cymunedol ac arwyr tawel o Gymru yn cael eu dathlu yn Anrhydeddau 2025
Mae mwy na 50 o bobl o Gymru wedi derbyn anrhydeddau yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Mawrhydi y Brenin ar gyfer 2025.

New Year Honours 2025
Mae 58 o bobl o Gymru wedi derbyn hanrhydeddau yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd EF y Brenin 2025, a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa’r Cabinet.
Mae’r rhai sy’n derbyn yr anrhydedd eleni wedi cael eu gwobrwyo am eu cyfraniadau rhagorol ar draws pob sector, ond mae hyrwyddwyr cymunedol a rhoi anhunanol yn cael eu cydnabod yn benodol. Mae’r Rhestr yn sicrhau bod pobl o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli ac amrywiaeth eang o fathau o waith yn cael eu gwobrwyo, er mwyn dathlu cyfraniad gwych pobl ledled y wlad.
Pobl o Gymru yw 5% o’r rhai sy’n cael eu hanrhydeddu eleni.
Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau eithriadol sy’n haeddu cydnabyddiaeth, gallwch eu henwebu yn /honours
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:
Llongyfarchiadau mawr i bawb o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
Mae’n ysbrydoliaeth gweld y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan gynifer o bobl o amrywiaeth enfawr o gefndiroedd, o bob rhan o Gymru ac ym mhob sector o fywyd. Pobl yw’r rhain sy’n rhoi o’u hamser o’u gwirfodd i godi arian i elusen neu i wirfoddoli i helpu aelodau agored i niwed yn eu cymuned.
P’un ai fod eu hangerdd yn ymwneud â chwaraeon, iechyd a llesiant neu gerddoriaeth a’r celfyddydau, mae eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’n bywydau ni i gyd a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.
Derbynwyr nodedig ledled Cymru
-
Mae Richard Parry o Gaerdydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i Gerddoriaeth ac i Ganu Corawl. Mae wedi cyfeilio i rai o brif berfformwyr Cymru a’r DU, gan gynnwys Rebecca Evans, Katherine Jenkins, Shan Cothi, Gwawr Edwards, Beverley Humphreys, John Owen Jones, Rhys Meirion a Lesley Garrett. Daeth yn gyfeilydd Côr Meibion Pendyrus, sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn 1973 ac mae’n parhau yn y swydd hyd heddiw, gan ennill Aelodaeth Oes o’r côr yn 1994.
-
Mae Diane Locke o Benrhiwceiber yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i gymuned Penrhiwceiber, Rhondda Cynon Taf. Mae’n chwilio am grantiau a chynlluniau sydd â’r nod o roi hwb i ardaloedd difreintiedig, gan wneud cynnydd sylweddol ym maes datblygu cymunedol. Un o’i llwyddiannau nodedig yw trawsnewid Pwll Gerddi Lee, o gyfleuster a oedd wedi’i esgeuluso i fod yn ganolfan gymunedol fywiog. Yn ogystal â’i chynlluniau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mae Diane yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi grwpiau agored i niwed, fel mamau newydd, drwy raglenni fel Baby Basics.
-
Mae Moawia Bin-Sufyan o Gaerdydd yn derbyn MBE am ei wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol a Chysylltiadau Rhyng-ffydd yn Ne Cymru. Mae wedi bod yn sbardun ar gyfer deialog rhyng-ffydd a chydlyniant cymunedol yn Ne Cymru ers dros 20 mlynedd. Mae’n sylfaenydd ac yn aelod o fwrdd nifer o elusennau, ac mae’n gweithio’n frwd yn ei gymuned leol i hyrwyddo amrywiaeth a gofal iechyd, yn enwedig ymysg cymuned Islamaidd Cymru.
-
Mae Sabrina Fortune o’r Wyddgrug yn derbyn MBE am athletau. Mae ei Chorff Llywodraethu Cenedlaethol yn cydnabod mai hi yw taflwr maen F20 i fenywod mwyaf blaenllaw’r byd, ar ôl ennill pencampwriaeth y byd dair gwaith ac yn fwyaf diweddar y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis. Yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016, enillodd fedal efydd pan aeth i’r Gemau am y tro cyntaf, gyda thafliad gorau personol o 12.94m. Yn 2018 hawliodd ei theitl mawr cyntaf, gan ennill y fedal aur yng nghystadleuaeth taflu maen F20 Ewrop yn Berlin. Wrth baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd, gosododd record fyd-eang newydd ym mis Gorffennaf yn Birmingham, yn ogystal ag yn Kobe, Japan, cyn ennill y fedal aur ym Mharis gyda’i thafliad cyntaf yn y gystadleuaeth, gan dorri ei record byd ei hun yn y broses.
-
Mae Francesca Bell o Aberhonddu yn derbyn BEM am wasanaethau i Ddatblygu Cymunedol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hi wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae hi wedi hyrwyddo ymgysylltiad pob rhan o’r gymuned ac ymwelwyr i fwynhau a chael mynediad at harddwch naturiol y Parc Cenedlaethol a’i dirweddau. Yn bersonol, bu’n gwirfoddoli yn y gymuned ers tro byd yn Aberhonddu a’r ardal gyfagos.
Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd yma: /honours.
Darganfyddwch y rhestr llawn yma.