Datganiad i'r wasg

DVLA yn cefnogi'r diwydiant ceir clasurol a selogion gyrru gyda pholisïau cofrestru diweddaredig

Mae DVLA yn cyhoeddi polisïau newydd ar gyfer cofrestru cerbydau sydd wedi'u hatgyweirio, eu hadfer a'u haddasu a fydd yn dod i rym o ddydd Mawrth 26 Awst.

  • Mae DVLA wedi cyhoeddi polisïau diweddaredig i foderneiddio’r broses ar gyfer hysbysu DVLA pan fydd cerbyd wedi’i atgyweirio, ei adfer a’i addasu.
  • Ni fydd angen rhoi gwybod i DVLA am atgyweiriadau ac adferiadau tebyg am debyg bellach, a bydd rhagor o gerbydau wedi’u haddasu - gan gynnwys trosiadau cerbydau trydan (EV) - yn gallu cadw eu hunaniaethau gwreiddiol.
  • Bydd newidiadau’n dod i rym o ddydd Mawrth 26 Awst 2025.

Heddiw (20 Awst) mae DVLA wedi datgelu diweddariad mawr i rai o’i pholisïau cofrestru cerbydau, gan ei gwneud hi’n llawer haws i selogion gofrestru cerbydau sydd wedi’u hatgyweirio, eu hadfer a’u haddasu.

Mae’r canllawiau newydd yn adlewyrchu dulliau adfer modern ac yn symleiddio’r broses gofrestru, gan helpu perchnogion ceir clasurol i gadw eu cerbydau ar y ffordd wrth sicrhau diogelwch a chofnodion cywir.

Mae’r newidiadau hyn yn dilyn galwad helaeth am dystiolaeth, a dderbyniodd fwy na 1,350 o ymatebion gan berchnogion ceir clasurol, clybiau moduro a’r sector cerbydau hanesyddol. Mewn ymateb, mae DVLA yn amnewid ei pholisïau presennol ar gerbydau sydd wedi’u hailadeiladu a’u haddasu’n llwyr gyda 2 set newydd o ganllawiau a fydd yn berthnasol i bob cerbyd, waeth beth fo’u hoedran.

Mae newidiadau allweddol yn cynnwys:

  • ni fydd angen hysbysu DVLA bellach am atgyweiriadau ac adferiadau tebyg am debyg, ar yr amod bod ymddangosiad y cerbyd yr un fath ag yr oedd pan gafodd ei gynhyrchu’n wreiddiol ac nad oes unrhyw newidiadau i’r llyfr log (V5CW)
  • bydd cerbydau sydd wedi cael addasiadau strwythurol sylweddol yn gallu cadw eu Rhif Adnabod Cerbyd (VIN) a’u rhif cofrestru gwreiddiol, ond rhaid i’r ceidwad cofrestredig hysbysu DVLA am y newidiadau
  • bydd cerbydau sydd wedi cael eu trosi’n drydanol hefyd yn gallu cadw eu hunaniaeth wreiddiol, ond rhaid i’r ceidwad cofrestredig hysbysu DVLA am y newidiadau

Dywedodd y Gweinidog dros Ddyfodol Ffyrdd, Lilian Greenwood:

Rydyn ni’n gwybod faint o gariad, amser ac ymdrech sy’n mynd i mewn i gadw ceir clasurol – ac rydyn ni’n hollol gefnogol i’r gymuned.

Mae’r newidiadau hyn yn ymwneud â lleihau biwrocratiaeth a gwneud bywyd yn haws i selogion, p’un a ydych chi’n adfer hen berl neu’n ei throsi i drydan. Mae’r cyfan yn ymwneud â dathlu treftadaeth foduro anhygoel y DU a helpu’r diwydiant i ffynnu ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Tim Moss:

Rydyn ni’n cydnabod yr amser, yr angerdd a’r gofal y mae ceidwaid cerbydau clasurol yn eu buddsoddi mewn cadw eu ceir ar y ffordd. Dyna pam rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned i lunio’r newidiadau hyn.

Mae’r polisïau diweddaredig hyn yn cefnogi ceidwaid cerbydau hanesyddol, a’r diwydiant ehangach, gyda phrosesau cofrestru cliriach sy’n adlewyrchu arferion adfer ac addasu modern, gan helpu i ddiogelu hanes modurol cyfoethog a rhyfeddol y DU. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i selogion ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei garu fwyaf: cadw a mwynhau’r cerbydau rhyfeddol hyn.

Bydd y polisïau newydd yn dod i rym ar ddydd Mawrth 26 Awst 2025 a chyhoeddir y canllawiau llawn ar 51²è¹Ý ar yr un diwrnod yn: www.gov.uk/vehicle-registration

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Awst 2025