Mae DVLA yn chwalu 9 myth am HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol)
Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd y nifer uchaf o HOSau (Hysbysiadau Oddi-ar-y-ffordd Statudol) yn cael eu gwneud mewn unrhyw fis yn ystod y degawd diwethaf, felly rydym wedi chwalu 9 myth amdano.

Bob blwyddyn mae tua 3.4 miliwn o gerbydaun cael eu datgan fel eu bod oddi ar y ffordd weithiau am ychydig fisoedd ar y tro yn unig. Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd y nifer uchaf o HOSau yn cael eu gwneud mewn unrhyw fis yn ystod y degawd diwethaf, gyda dros hanner miliwn o yrwyr yn dewis HOS eu cerbyd ar ddechraur cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Maen bosibl bod angen i nifer o bobl gael eu cerbydau yn 担l ar y ffordd nawr yn dilyn HOS.
Mae dweud wrth DVLA am HOS ar gyfer cerbyd yn syml ac yn creu ad-daliad ar gyfer unrhyw fisoedd llawn o dreth cerbyd syn weddill yn awtomatig. Maen rhaid i unrhyw un sydd am ddechrau defnyddior cerbyd ar y ffordd eto ei drethu cyn iddynt ei ddefnyddio. Y ffordd hawsaf a chyflymaf yw ei drethu ar-lein - dim ond ychydig funudau sydd angen i wneud hyn ac maer gwasanaeth ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae gyrru neu gadw cerbyd ar y ffordd pan ei fod o dan HOS yn erbyn y gyfraith, felly mae angen i yrwyr sicrhau eu bod yn gwybod beth iw wneud os ydynt am ddechrau defnyddio eu cerbyd eto, a sut i wneud HOS yn gywir os ydynt yn dymuno cadw eu cerbyd oddi ar y ffordd.
Mae DVLA yn helpu gyrwyr drwy ddatgelu a chwalur mythau cyffredin syn bodoli am HOS.
Myth 1: Gallwch gadw eich cerbyd ar y ffordd ond peidiwch 但i yrru
Maer enwn dweud y cyfan. Pan fyddwch chin HOS eich cerbyd, ni ellir ei gadw ar ffordd gyhoeddus felly maen rhaid ei gadw mewn garej, ar l担n y t天 neu ar dir preifat.
Myth 2: Mae HOS yn drosglwyddadwy i berchennog nesaf y cerbyd
Nid yw treth cerbyd yn cael ei drosglwyddo i berchennog newydd y cerbyd. Yn yr un modd, pan fyddwch chin prynu cerbyd, nid yw HOS yn cael ei drosglwyddo chwaith. Felly, os ydych chin prynu cerbyd ac eisiau ei gadw oddi ar y ffordd, cofiwch wneud HOS gyda DVLA.
Myth 3: Mae angen i chi wneud HOS yn flynyddol
Dim ond unwaith y maen rhaid i chi ddweud wrth DVLA pan fyddwch chin HOS eich cerbyd, ac nid oes angen i chi adnewyddu hyn bob blwyddyn. Maer HOS yn para tan fod y cerbyd yn cael ei ail-drethu, ei werthu, ei allforion barhaol neui sgrapio.
Myth 4: Ni allwch yrru cerbyd i gael MOT os ywn HOS
Gallwch yrru i apwyntiad MOT sydd wedii drefnu ymlaen llaw o dan HOS.
Myth 5: Mae llawer o waith gweinyddol i wneud HOS ac maen ddrud
IMae gwneud HOS yn rhad ac am ddim a dim ond ychydig funudau sydd eu hangen iw wneud ar-lein. Dim ond tystysgrif gofrestru (V5C) eich cerbyd sydd ei hangen arnoch. Byddwch yn derbyn cadarnhad gan DVLA yn syth. Os nad oes gennych chi eich V5C ac mae angen i chi archebu un newydd, maen gyflym ac yn hawdd gwneud hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein newydd DVLA - dylech dderbyn eich tystysgrif newydd o fewn 5 diwrnod gwaith os ydych chin gwneud cais ar-lein.
Myth 6: Mae gen i gerbyd trydan ac nid oes angen i mi dalu am fy nhreth cerbyd, felly nid oes angen i mi wneud HOS
Hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu unrhyw beth i drethu eich cerbyd, er enghraifft oherwydd eich bod wedich eithrio gan fod anabledd gennych neu eich bod yn gyrru cerbyd trydan, mae angen i chi ei drethu bob blwyddyn. Os ydych chin tynnu eich cerbyd oddi ar y ffordd ac nad ydych chin bwriadu ei drethu, bydd angen i chi wneud HOS o hyd hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth iw thalu. Bydd hefyd angen i chi drethu eich cerbyd cyn i chi ei ddychwelyd ir ffordd.
Myth 7: Os ydych chin gwneud HOS ar eich cerbyd ac yn methu cael ad-daliad ar eich treth
Bydd y perchennog cofrestredig yn cael ad-daliad yn awtomatig ar gyfer unrhyw fisoedd llawn o dreth syn weddill pan fyddwch chin gwneud HOS. Maen bwysig sicrhau bod gan DVLA eich cyfeiriad cywir er mwyn derbyn eich ad-daliad y ffordd symlaf a chyflymaf i wneud hyn yw defnyddio ein gwasanaeth ar-lein ar 51画鋼
Myth 8: Ni allwch chi ddweud wrth DVLA ymlaen llaw os ydych chi am wneud HOS yn nes ymlaen
Os ydych chin gwybod y byddwch chi am gadw eich cerbyd oddi ar y ffordd yn fuan, gallwch ddweud wrth DVLA hyd at ddeufis ymlaen llaw. Os ydych chi am ir HOS ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis nesaf, mae angen i chi a defnyddior rhif 16 digid ar eich llythyr atgoffa V11.
Myth 9: Maen anodd iawn i ganslo HOS
Nid oes y fath beth 但 chanslo HOS yn bodoli. Pan fyddwch chi am ddechrau defnyddio eich cerbyd eto, gallwch ei drethu ar-lein ymhen munudau ac yna bant 但 chi.
Dywedodd Prif Weithredwr y DVLA, Julie Lennard:
Rydym wedi casglu rhestr o fythau cyffredin am HOS er mwyn rhoir cyngor gorau i yrwyr.
Mae chwalu mythaun helpu gyrwyr i ddeall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud 但 cherbyd pan gaiff ei ddatgan fel HOS, gan gynnwys ei drethu cyn ei ddefnyddio neui gadw ar y ffordd eto. Maen hawdd iawn i wirio ar-lein os yw cerbyd wedii drethu Gall gyrwyr hyd yn oed wirio hyn drwy ofyn i Amazon Alexa neu Google Home. Dim ond munudau sydd eu hangen iw drethu.
Dywedodd llefarydd dros yr RAC, Rod Dennis:
Cyn y pandemig, maen debygol nad oedd yr acronym HOS yn golygu llawer ir rhan fwyaf o bobl ond ymhen wythnosau or cyfnod clo cyntaf, roedd cannoedd o filoedd o yrwyr ychwanegol eisoes wedi stopio defnyddio eu ceir ac wedi gwneud cais HOS i DVLA.
Nawr, gydar cyfyngiadaun llacio, byddem yn annog pob gyrrwr syn defnyddio ei gar does dim ots pa mor anaml i sicrhau ei fod wedii drethu, wedii yswirio ac yn barod ar gyfer y ffordd. Maen hanfodol bod gyrwyr yn cofio bod y statws HOS ond yn berthnasol i geir nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd heb eu parcio ar ffyrdd cyhoeddus.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut, pryd a ble i wneud HOS.
Nodiadau i Olygyddion:
1) Gwnaed 526,747 o ddatganiadau HOS i DVLA ym mis Mawrth 2020.
2) Mae llyfr cofnodion V5CW y cerbyd yn ofynnol wrth wneud HOS. Gall cwsmeriaid gael llyfr cofnodion (V5CW) arall drwy wasanaeth ar-lein y DVLA ar 51画鋼 os yw eu llyfr gwreiddiol ar goll, wedi cael ei ddwyn, ei ddifrodi neui ddifa.
3) Gall gyrwyr fynd ar-lein, 24 awr y diwrnod, i drethu cerbyd neu i wirio a yw eu treth cerbyd yn gyfredol. Gall gyrwyr hefyd ddewis rhannur gost dros y flwyddyn gyda debyd uniongyrchol.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407