Datganiad i'r wasg

Medal Ebola i dros 3000 o arwyr

Mae medal newydd wedi cael ei chreu i gydnabod dewrder a gwaith caled y bobl sydd wedi helpu i atal Ebola rhag lledaenu.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw (11 Mehefin 2015), maer Llywodraeth wedi rhoi manylion medal newydd a fydd yn cydnabod dewrder a gwaith caled miloedd o bobl sydd wedi helpu i fynd ir afael ag Ebola yng ngorllewin Affrica.

Disgwylir y bydd y fedal yn cael ei chyflwyno i dros 3,000 o bobl a deithiodd or DU i weithio mewn ardaloedd risg uchel i atal lledaeniad yr afiechyd.

Dymar tro cyntaf i fedal gael ei chreu yn benodol i gydnabod y rheini sydd wedi ceisio atal argyfwng dyngarol ac maen cael ei rhoi i gydnabod yr amgylchedd peryglus iawn yr oedd yn rhaid i weithwyr fynd iddo.

Dylunydd y fedal yw John Bergdahl, sydd wedi bod yn engrafwr ers dros 40 mlynedd, ac yn ddiweddar mae wedi dylunio set newydd o ddarnau arian i ddathlu genedigaeth y Tywysog George. Cafodd dyluniad Mr Bergdahl ei ddewis yn dilyn cystadleuaeth a gafodd ei chynnal gan Bwyllgor Cynghorir Bathdy Brenhinol. Maen dangos fflam ar gefndir syn portreadur firws Ebola - uwch ei ben y maer geiriau For Service ac o dan Ebola Epidemic West Africa.

Ar y wyneb blaen mae llun o Ei Mawrhydir Frenhines a ddyluniwyd gan Ian Rank-Broadley.

Bydd y fedal yn cael ei rhoi i sifiliaid a pherson辿l milwrol sydd wedi bod yn helpu i drin Ebola ar ran y DU yng ngorllewin Affrica. Yn eu plith y mae aelodau on lluoedd arfog, meddygon a nyrsys or GIG, arbenigwyr labordy ac aelodau or gwasanaeth sifil a chyrff anllywodraethol. Mae pwy syn gymwys iw derbyn yn cael ei nodin fanwl mewn papur gorchymyn a gyhoeddwyd heddiw.

Bydd y medalau cyntaf yn cael eu rhoi mor gynnar 但r haf hwn a byddant yn parhau i gael eu rhoi wedi hynny. Bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad haf i longyfarch yn bersonol rai or bobl a fydd yn ei derbyn.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Roedd yr afiechyd Ebola yn un o epidemigau mwyaf dychrynllyd ein cenhedlaeth. Ond gwnaethom lwyddo iw atal rhag lledaenu diolch i waith caled pobl o Brydain a deithiodd i orllewin Affrica.

Oherwydd eu hymdrechion, achubwyd llawer o fywydau a chafodd yr afiechyd ei atal.

Maer fedal hon yn deyrnged ir bobl hynny. Rhoesant eu hunain mewn perygl personol mawr ac rydym yn ddyledus iawn iddynt.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Gymru rai or gweithwyr iechyd a gwirfoddolwyr gorau yn y byd ac maer fedal hon yn dyst i gryfder ac ymroddiad staff y GIG ledled Cymru.

Diolch i ymdrechion diflinor bobl hyn, mae miloedd o fywydau wedi cael eu hachub ac mae cynnydd anhygoel wedi cael ei wneud tuag at ddileur firws.

Nodiadau i olygyddion

Gwybodaeth am y fedal

  • Roedd y Pwyllgor ar Roi Anrhydeddau, Tlysau a Medalau wedi cyflwyno meini prawf cymhwysedd penodol iw Mawrhydir Frenhines, a fun ddigon caredig iw cymeradwyo.

  • Bydd y rheini syn gymwys, gan gynnwys gweision sifil, y lluoedd arfog, UK Med, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yr Uned Sefydlogi, T樽m Gweithrediadau CHASE (yr Adran Diogelwch, Dyngarol a Gwrthdaro), gwladolion y DU a oedd yn gweithio i gyrff anllywodraethol, a oedd yn cael eu hariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yn cefnogi ymdrechion y llywodraeth a wnaeth o leiaf 21 diwrnod o wasanaeth parhaus (neu 30 diwrnod o wasanaeth cronnus) o fewn tiriogaethau daearyddol Sierra Leone, Liberia, Guinea au dyfroedd tiriogaethol, yn derbyn y fedal yn awtomatig.

  • Bydd y fedal yn cael ei hanfon at y rhan fwyaf o bobl yn awtomatig. Ond bydd angen i rai nad oeddynt wedi mynd yno fel rhan o ymdrech llywodraeth y DU enwebuu hunain.

  • Maer fedal newydd hon wedi cael ei chyflwyno yn dilyn cael cymeradwyaeth Ei Mawrhydir Frenhines ar Pwyllgor Anrhydeddau a Medalau.

  • Bydd y fedal yn cael ei chynhyrchu yn y DU gan Worcestershire Medal Service a bydd yn cael ei dyfarnun gyson or haf hwn i bawb syn gymwys.

Gwybodaeth am ymateb llywodraeth y DU i Ebola

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo 贈427 miliwn ir ymdrech. Mae ein cyfraniad wedi cynnwys cefnogi mwy na hanner yr holl welyau sydd ar gael i gleifion Ebola yn Sierra Leone, ariannu dros 100 o dimau claddu, hyfforddi 4,000 o staff y rheng flaen, darparu tri labordy i brofi traean or holl samplau a gasglwyd yn genedlaethol ac wedi darparu dros filiwn o siwtiau diogelu personol (PPE) a 150 o gerbydau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2015