Stori newyddion

Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd

Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.

Silver ERS Awards 2023. Copyright: RFCA for Wales

Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.

Cafodd cyflogwyr o bob rhan o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Caerdydd ddydd Iau 28 Medi.

Arweinydd y noson oedd Sian Lloyd a thraddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brig但d 160 (Cymru).

Y derbynwyr oedd:

  • Age Cymru Dyfed
  • APK Security Ltd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Espanaro Ltd
  • Heddlu Gwent
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Involve Recruitment
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • North Wales 4x4 Ltd
  • Regimental Cleaning Services Ltd
  • The Family Foundation
  • The Mentor Ring
  • Topwood Ltd
  • Valley Veterans
  • YourNorth Veteran Support CIC

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Cadlywydd Steve Drysdale OBE, y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brig但d 160 (Cymru) a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Adrian Williams OBE.

Traddodwyd yr anerchiad i gloi gan gadeirydd yr RFCA dros Gymru, y Brigadydd Russ Wardle OBE DL.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, maer Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth weithredol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polis誰au ymarferol yn y gweithle.

Er mwyn ennill Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan ou polis誰au recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlun ymwybodol ou polis誰au cadarnhaol tuag at faterion pobl Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai syn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Ar ran ein cymuned yn Met Caerdydd, maen bleser mawr gen i dderbyn y wobr hon

syn cyd-fynd cystal 但n gwerthoedd, ein pwrpas an blaenoriaethau. Maer Brifysgol yn cydnabod gwerth cefnogir Lluoedd Arfog,

gan gynnwys person辿l syn gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol ar ystod eang o sgiliau a phrofiad y maen nhwn eu cynnig in cymuned.

Dywedodd Mr Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 但 Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y De, Rydym wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gydar Wobr Arian.

Mae 2023 yn dathlu deng mlynedd or cynllun gwobrwyo. I gael gwybod mwy am yr ERS a sut y gallai eich sefydliad gefnogi person辿l amddiffyn yn y gweithle drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog, cysylltwch 但:

  • Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 但 Chyflogwyr Rhanbarth y De, wa-reed@rfca.mod.uk Ff担n symudol: 07970 493086.

  • Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 但 Chyflogwyr Rhanbarth y Gogledd, wa-reed2@rfca.mod.uk Ff担n symudol: 07508 193902.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2023