Pob canolfan waith yng Nghymru i gynnig Credyd Cynhwysol o heddiw ymlaen
Alun Cairns: Gwaith o ddiwygio lles yng Nghymru yn trawsnewid bywydau

-
Mae pob canolfan waith yng Nghymru yn cynnig Credyd Cynhwysol erbyn hyn - y genedl gyntaf i gwblhaur gwaith oi gyflwyno yn y Deyrnas Unedig
-
Yn 担l y Gweinidog Diwygio Lles, David Freud, maer Credyd Cynhwysol yn helpu pobl i symud i fyd gwaith yn gyflymach ac i ennill mwy o arian
-
Mae dros 4,000 o bobl ledled Cymru wedi symud i fyd gwaith o dan y Credyd Cynhwysol
Dawr Credyd Cynhwysol i saith canolfan waith arall yng Nghymru heddiw, syn golygu bod pob un or 62 canolfan waith ar draws y wlad yn awr yn cynnig y budd-dal newydd i unigolion syn ceisio gwaith.
Maer Credyd Cynhwysol yn symleiddior system fudd-daliadau ac mae wedi ei gynllunio i bobl elwa ar weithio. Maen sgubo ymaith gymhlethdodau a maglaur system fudd-daliadau flaenorol ac maen ganolog i ddiwygiadau lles y Llywodraeth un-genedl hon.
Mae mwy na 11,000 o bobl yn hawlior Credyd Cynhwysol yn barod ar draws Cymru - ac mae bron 40% or rhai syn hawlio yn gweithio.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Maer gwaith o ddiwygio lles yng Nghymru yn trawsnewid bywydau pobl or cefndiroedd mwyaf difreintiedig er gwell. Maer Credyd Cynhwysol yn symleiddior system dreth a budd-daliadau gan gefnogir rhai sydd ar yr incwm isaf wrth wneud hynny.
Bydd diwygio lles a chefnogi pobl yn 担l i fyd gwaith yn helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair i bobl ar draws Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Diwygio Lles, David Freud:
Mae heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein chwyldro lles, gydar Credyd Cynhwysol ar gael ledled Cymru bellach.
Mae Credyd Cynhwysol yn helpu pobl i symud i fyd gwaith yn gyflymach ac i ennill mwy o arian. Yn barod, mae mwy o bobl nag erioed or blaen yn gweithio yng Nghymru, a chyda chymorth y Credyd Cynhwysol, rydym yn awyddus i helpu mwy fyth o bobl i gael y sicrwydd a ddaw yn sgil swydd a phecyn t但l.
Gan chwarae r担l allweddol yn niwygiadau lles y Llywodraeth, maer Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-daliad gydag un taliad misol ac yn creu system les sydd wedi ei chynllunio i bobl elwa ar weithio.
Ar draws y Deyrnas Unedig mae mwy na 95% o ganolfannau gwaith wedi mabwysiadur gwasanaeth newydd erbyn hyn, a bydd y ddarpariaeth ar gael ym mhob man erbyn y gwanwyn eleni. Ar 担l cyflwynor ddarpariaeth yn llawn, disgwylir i ffigurau cyflogaeth genedlaethol gynyddu cymaint 但 300,000.
Ar draws y wlad mae dros 400,000 o bobl wedi hawlior Credyd Cynhwysol erbyn hyn, gyda thros 10,000 yn rhagor yn gwneud hawliadau newydd bob wythnos.
Nodiadau i Olygyddion
- Maer Credyd Cynhwysol yn awr ar gael ym mhob un o 62 canolfan waith Cymru
- Mae 11,213 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd
- Gyda 4,440 (40%) or rheinin gweithio
-
Ledled y Deyrnas Unedig, maer Credyd Cynhwysol yn awr ar gael mewn 95% or holl ganolfannau gwaith (681) , gan gynnwys pob un yng ngogledd orllewin Lloegr, lle mae ar gael i gyplau a theuluoedd hefyd.
-
Ar 21 Mawrth bydd y Credyd Cynhwysol ar gael ir holl unigolion syn hawlio or newydd yn: * Aberd但r * Llantrisant * Aberpennar * Pontypridd * Porth * Tonypandy * Treorci
-
Maer adroddiad Credyd Cynhwysol ar Waith diweddaraf yn dangos am bob 100 o bobl oedd yn dod o hyd i waith dan yr hen Lwfans Ceisio Gwaith, bydd 113 o hawlwyr Credyd Cynhwysol wedi cael swydd.
-
Telir Credyd Cynhwysol bob mis, gan adlewyrchur ffordd y caiff y rhan fwyaf o bobl eu talu i weithio.
-
Bydd Credyd Cynhwysol yn y pen draw yn disodli; * Lwfans Ceisio Gwaith * Cymhorthdal Incwm
* Lwfans Cyflogaeth a Chymorth * Credyd Treth Gwaith * Credyd Treth Plant * Budd-dal Tai -
Gyda mynediad at ddata Enillion Amser Real Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, bydd y Credyd Cynhwysol yn arbed dros 贈1 biliwn i drethdalwyr bob blwyddyn drwy ostwng achosion o dwyll, gwallau a gordaliadau.