Rhai o nwyddau gorau Cymru yn cael eu cyflwyno i arweinwyr byd
Mae detholiad o nwyddau gorau Cymru wedi cael eu cyflwyno i arweinwyr byd yn Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.
Cafodd cacenni cri, p棚l rygbi a barddoniaeth gan Dylan Thomas eu cynnwys mewn basgedi helyg wediu gwneud 但 llaw a fydd yn dangos cynnyrch a chymeriad y wlad ir ymwelwyr, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.
Mae hosanau gwl但n, m棚l a matiau diod llechen o Gymru ymysg eitemau eraill a gyflwynwyd ir arweinwyr byd a oedd yn mynychu Uwchgynhadledd NATO yng ngwestyr Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw (5 Medi)
Mae nwyddau wedi cael eu darparu gan dros 25 o fusnesau Cymru a gwneuthurwyr o Gymru.
Dyma neges oddi wrth y Prif Weinidog a gafodd ei rhoi yn y basgedi:
Yn ystod yr uwchgynhadledd hon fe welwch sawl enghraifft o sectorau amddiffyn ac awyrofod cryf Cymru. Dyma rai enghreifftiau gwych hefyd o dreftadaeth gref y wlad o ran bwyd a chrefftwaith.
O gerddi Dylan Thomas a chrefftwaith y Bathdy Brenhinol i gynnych syn cael ei wneud heddiw yng Nghymru, mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau pob un or rhoddion hyn ac y byddant yn eich ysbrydoli i ddod i wybod am bopeth sydd gan Gymru iw gynnig.
Roedd yr eitemau a roddwyd i westeion yn Uwchgynhadledd NATO yn cynnwys:
- Basgedi helyg, wediu gwneud 但 llaw gan ddefnyddio helyg syn cael ei dyfu yn ne Cymru gan Hatton Willow o Gaerffili, Seren Willow, gwneuthurwyr basgedi helyg o Gaerdydd ac Out to Learn Willow, yn ne Cymru.
- Matiau diod NATO personol wediu gwneud o lechen Gymreig gan Valley Mill
- Darn arbennig i gofio wedii wneud gan y Bathdy Brenhinol, ac wedii ddylunio gan yr ysgythrwr Jody Clark ai gynhyrchu yn Llantrisant yn Ne Cymru.
- Cacenni cri wediu cynhyrchun lleol au cyflenwi gan westyr Celtic Manor.
- Cyfflincs a breichledau wediu llunio gan ddefnyddio aur Cymru gan gwmni Clogau yng Ngogledd Cymru.
- M棚l wedii wneud gan Hilltop Honey yng Nghaersws, canolbarth Cymru.
- Wisgi wedii botelu gan Fragdy Penderyn yn Ne Cymru.
- Peli rygbi, yn cynrychioli prif gamp Cymru, wediu cyflwyno gan Undeb Rygbi Cymru.
- Y llyfr Selected Poems by Dylan Thomas wediu cyflwyno gan Orion Publishing.
- Cyfnodolion o wl但n wediu gwehyddu gan Jane Beck a Nia Hobbs yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru.
- Hosanau gwl但n gan y cwmni teuluol Corgi Hosiery, o Sir Gaerfyrddin.
- Printiadau o ffotograff o Bont Gludo Casnewydd wedii gymryd gan Pradip Kotecha, a enillodd y gystadleuaeth ffotograffiaeth Casnewydd Eiconig. Cyflwynwyd y rhain gan drefnwyr y gystadleuaeth, Prifysgol De Cymru.
- Printiadau wediu fframio o baentiadau ipad o 400 golygfa eiconig o Gasnewydd gan yr artist Joseph Anthony Connor.
- Cyfrifiadur Sony Raspberry Pi maint cerdyn credyd, wedii adeiladu ym Mhencoed yn Ne Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales