Creu dyfodol band eang ffeibr llawn a 5G i bawb
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth cysylltedd digidol tymor hir wrth i Sioe Frenhinol Cymru agor ei giatiau

- Cost ehangu band eang llydan i gael ei lleihaun sylweddol
- Blaenoriaethu ardaloedd gwledig anghysbell ar gyfer cyllid
- Y llwyfan yn barod ar gyfer y newid i ffeibr llawn a diwedd ar gopr
- Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol
Byddai ardaloedd gwledig anodd eu cyrraedd yn cael blaenoriaeth ar gyfer band eang sefydlog newydd a chysylltiadau symudol 5G fel rhan o fesurau newydd a gynigir mewn cynllun ledled y DU ar gyfer telegyfathrebu.
Cyhoeddwyd Adolygiad Seilwaith Telegyfathrebur Dyfodol (FTIR) ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU.
Maen cynnig y newidiadau syn ofynnol i roi i fwyafrif poblogaeth y DU fynediad i 5G, cysylltu 15 miliwn o eiddo i fand eang ffeibr llawn erbyn 2025, a darparu band eang ffeibr llawn ledled y DU gyfan erbyn 2033. Mae seilwaith ffeibr llawn yn hanfodol fel sail i ddarpariaeth 5G.
Wrth galon y strategaeth mae pwyslais ar fwy o ddewis i ddefnyddwyr a mentrau i hybu ehangu cyflymach a throsglwyddo o gopr i ffeibr.
Nod y dull newydd o weithredu yw sbarduno buddsoddiad masnachol ar raddfa fawr yn y rhwydweithiau sefydlog a diwifr syn hanfodol er mwyn ir DU barhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang mewn byd digidol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Wright:
Rydyn ni eisiau i bawb yn y DU elwa o gysylltedd o safon byd-eang dim ots ble maen nhwn byw, yn gweithio neun teithio. Bydd y glasbrint newydd radical hwn ar gyfer dyfodol telegyfathrebu yn y wlad hon yn cynyddu cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang ffeibr llawn, yn creu mwy o gyfleoedd masnachol ac yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i ehangu seilwaith ar gyfer 5G.
Heb newid, mae dadansoddiad FTIR yn dynodi mai dim ond tri chwarter y wlad fydd rhwydweithiau band eang ffeibr llawn yn ei gyrraedd o dan yr amodau gorau, a byddain cymryd mwy nag ugain mlynedd i sicrhau hynny. Mae hefyd yn dynodi bod 5G yn cynnig potensial ar gyfer ehangur farchnad telegyfathrebu, gyda chyfleoedd ir chwaraewyr presennol a rhai newydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir ers amser maith am bwysigrwydd cysylltedd symudol da i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.
Mae ei fuddsoddiad o 贈69 miliwn mewn darparu band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi arwain at Gymrun profi cynnydd hynod gyflym mewn mynediad, o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn mis Rhagfyr 2017.
Hefyd maen buddsoddi mewn technolegau newydd fel y fainc brofi wledig 5G y mae Sir Fynwyn rhan ohoni ar 贈6m ar gyfer Rhwydwaith Ffeibr Llawn Leol yng Nghaerdydd - ar cyfan yn gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd nawr fel rhan o ymrwymiad i wireddu potensial 5G a ffeibr llawn, a fydd yn helpu i greu economi ddigidol flaengar yn y byd syn gweithio i bawb.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Llywodraeth y DU eisiau i fanteision digidol gael eu teimlo ledled ein heconomi gyfan, ym mhob rhan o gymdeithas ac ym mhob cornel or wlad. Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar hynny.
Seilwaith ywr allwedd ir ffyniant hwnnw. Maer adolygiad hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd goresgyn rhwystrau syn atal cysylltedd er mwyn sicrhau y gallwn ni fodloni gofynion yr oes ddigidol.
Ond eto ni all Llywodraeth y DU weithio ar ei phen ei hun i greur trawsnewid hwn yng Nghymru. Dyma pam rydyn nin galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ni i gyflawni ar y polis誰au hyn a gwireddu ein huchelgeisiau cysylltedd ar y cyd. Rydyn ni wedi bod yn galw arnyn nhw ers amser maith i ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU yn Lloegr ac ystyried mwy o ryddid a hyblygrwydd ar gyfer defnyddio seilwaith symudol ledled Cymru. Rydyn nin gobeithio y byddan nhwn gweithredu ar eu hymrwymiad i roi sylw ir mater real iawn o fannau digyswllt symudol ledled y wlad a chreu diwygiadau cynllunio er mwyn cefnogi ehangur seilwaith symudol yng Nghymru, a ddylai fod wedii weithredu ers amser maith.
Nid yn unig mae hyn yn gwneud synnwyr economaidd ond hefyd maen cefnogir newid digidol a fydd yn trawsnewid ein cenedl ni er gwell.
Dyma argymhellion allweddol FTIR:
- Deddfwriaeth newydd a fydd yn gwarantu cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer datblygiadau a adeiledir or newydd;
- Darparu hawl i fynediad i fflatiau, parciau busnes, blociau swyddfeydd ac eiddo arall i denantiaid i Weithredwyr fel bod y rhai syn rhentun gallu cael cysylltedd cyflym, dibynadwy gan y cyflenwr priodol am y pris gorau;
- Diwygiadau ir amgylchedd rheoleiddiol ar gyfer band eang ffeibr llawn a fydd yn sbarduno buddsoddiad a chystadleuaeth ac sydd wedii deilwra i wahanol amodau marchnad leol;
- Buddsoddiad cyhoeddus mewn ffeibr llawn ar gyfer ardaloedd gwledig i ddechrau ar yr un pryd 但 buddsoddiad masnachol mewn lleoliadau trefol;
- Newid syn cael ei arwain gan y diwydiant (o gopr i ffeibr llawn) yn cael ei gydlynu gydag Ofcom;
- Fframwaith cenedlaethol newydd a fydd yn lleihau costau, amser ar tarfu a achosir gan waith stryd drwy safonir dull o weithredu ledled y wlad;
- Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol;
- Dylai seilwaith (gan gynnwys pibellau a charthffosydd) syn eiddo i gyfleustodau eraill fel p典er, nwy a d典r, fod yn hawdd cael mynediad iddynt ac ar gael ar gyfer defnydd sefydlog a symudol;
- Ofcom i ddiwygio rheoleiddio, gan ganiat叩u mynediad heb gyfyngiad i bibellau a pholion Openreach at ddefnydd preswyl a busnes, gan gynnwys seilwaith symudol hanfodol;
- Ochr yn ochr 但 FTIR, maer Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Pecyn Adnoddau Seilwaith Digidol a fydd yn galluogi i rwydweithiau symudol wneud llawer mwy o ddefnydd o adeiladaur Llywodraeth i wellar ddarpariaeth ledled y DU.
Bydd FTIR yn sbarduno cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol mewn rhwydweithiau ffeibr llawn ledled cymaint or DU 但 phosib. Fodd bynnag, bydd rhai rhannau or wlad lle bydd yn annhebygol y bydd y farchnad yn gallu cyflawni ar ei phen ei hun.
Yn genedlaethol mae argaeledd ffeibr llawn yn debygol o fod angen cyllid ychwanegol o tua 贈3 biliwn i 贈5 biliwn i gefnogi buddsoddiad masnachol yn y tua 10% terfynol o ardaloedd. Ni ddylid gorfodir ardaloedd hyn, syn wledig yn aml, i aros nes bod gan weddill y wlad gysylltedd cyn gallu cael mynediad i rwydweithiau gallu gigabeit.
Felly bydd y Llywodraeth yn ceisio strategaeth or tu allan i mewn syn golygu y bydd y Llywodraeth, tra maer gystadleuaeth rhwydwaith yn gwasanaethur ardaloedd hyfyw yn fasnachol, yn cefnogi buddsoddiad yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar yr un pryd. Rydyn ni eisoes wedi datgan oddeutu 贈200 miliwn fel rhan or rhaglen band eang a all hybur ddarpariaeth o rwydweithiau ffeibr llawn ymhellach ar unwaith.
Camau nesaf
Yn fuan byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriadau ar y newidiadau deddfwriaethol i wneud fforddfreintiau a chysylltiadau ffeibr mandad yn fwy effeithlon mewn adeiladau newydd. Hefyd bydd casgliadaur Adolygiad yn sail i Ddatganiad o Flaenoriaethau Strategol (SSP) y llywodraeth i Ofcom, yn pennur amcanion ar canlyniadau strategol y maen rhaid ir rheoleiddiwr eu hystyried wrth ymarfer ei swyddogaethau rheoleiddiol.
Notes to Editors
- Dim ond 4% o gysylltiadau ffeibr llawn sydd gan y DU ac mae ar 担l llawer on cystadleuwyr allweddol fel Sbaen (71%), Portiwgal (89%) Ffrainc (tua 28% ac yn cynyddun gyflym).
- Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn gyflymach, mwy dibynadwy, a mwy fforddiadwy iw gweithredu na rhwydweithiau copr. Bydd 5G yn darparu band eang symudol cyflymach a gwell ac yn galluogi ceisiadau newydd mewn sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, iechyd a thrafnidiaeth.
- Maer strategaeth yn ceisio cydnabod gwahaniaethau ar draws ardaloedd gwledig a threfol, ac maen datblygu datrysiadau sydd wediu teilwra ir ddau fath o ardal. Dawr Adolygiad ir casgliad mair dull gorau o weithredu yw hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol os yw hynnyn bosib, a dim ond ymyrryd pan fo angen.
- Dylai cystadleuaeth yn y farchnad sicrhau rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhan fwyaf or DU os byddwn yn sicrhau bod yr amodaun briodol (tua 80%). Mae tua 20% or wlad yn debygol o fod angen datrysiadau pwrpasol i sicrhau ehangu rhwydweithiau.
- Nid ond cysylltiadau data symudol cyflymach mae 5G yn ei gynnig, gall hefyd sicrhau amrywiaeth eang o gyfleoedd newydd ar draws sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, ynni, trafnidiaeth a gofal iechyd. Maer Llywodraeth eisiau annog y cyfleoedd masnachol newydd hyn drwy ddiwygiadau polisi, gan gynnwys gwneud yn si典r bod sbectrwm ar gael i bawb ac yn cael ei ddefnyddion effeithlon.
- Mae rhedeg rhwydweithiau copr a ffeibr ochr yn ochr yn ddrud ac yn aneffeithlon a bydd strategaeth newid ffeibr yn angenrheidiol i ysgogi galw am ffeibr, i alluogi rhwydweithiau newydd i gyflawni graddfan gynt, ac i sicrhau proses bontio lyfn i gwsmeriaid. Bydd y broses o newid yn cael ei harwain gan y diwydiant a bydd yr amserun dibynnu ar gyflymder yr ehangu ar rwydweithiau ffeibr, ac ar y defnydd or rhwydweithiau hynny. Maen realistig tybio y gallair newid ddigwydd yn y rhan fwyaf or wlad erbyn 2030, ond yn y pen draw bydd yr amserun dibynnu ar gyflymder yr ehangu ffeibr ac ar y defnydd wedi hynny o gynhyrchion ffeibr.
- Mae cyfarwyddeb newydd yr UE ar gyfer cyfathrebu electronig - y Cod Cyfathrebu Electronig Ewropeaidd - yn cael ei thrafod ar hyn o bryd. Maen debygol o gael ei mabwysiadu gan yr UE yn fuan. Os caiff y gyfarwyddeb ei mabwysiadu, mae gofyn i ni weithredu, os yw hynnyn briodol, y prif ddarpariaethau yng nghyfraith y DU, ar y sail y byddai hynnyn cefnogi amcanion polisi domestig y DU. Bydd hyn yn galluogi ymestyn y cyfnodau adolygu marchnad i bum mlynedd ac yn darparu mecanweithiau i gynorthwyo gydag ehangur rhwydwaith ffeibr mewn rhai ardaloedd.