Datganiad i'r wasg

Guto Bebb: Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i drechu tlodi yng Nghymru

Gweinidog Llywodraeth y DU yn annerch digwyddiad y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
UK Government Minister Guto Bebb MP speaks to the audience at the Policy Forum event

Gwelwyd Gweinidog yn Llywodraeth y DU, Guto Bebb AS, yn datgan ymrwymiad Llywodraeth y DU i drechu tlodi yng Nghymru mewn digwyddiad gan y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru yng Nghaerdydd heddiw (12 Hydref).

Dywedodd y Gweinidog wrth gynulleidfa o wleidyddion ac academyddion am weledigaeth y Prif Weinidog i greu gwlad lle nad oes unrhyw un, nac unrhyw gymuned, yn cael ei gadael ar 担l, drwy wella mynediad i gyflogaeth a gwneud i bobl fod ar eu hennill mewn gwaith.

Yn ei araith ir fforwm, dangosodd y Gweinidog yr effaith dda y mae gwell cyflogaeth nag erioed or blaen ledled y DU (yn ogystal 但 93,00 yn rhagor o bobl mewn gwaith yng Nghymru o gymharu 但 2010), a chyflwynor Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ei chael ar leihau tlodi absoliwt.

Hefyd siaradodd y Gweinidog am gynlluniau Llywodraeth y DU i leihau nifer y plant syn byw mewn teuluoedd heb waith, drwy gyflwyno mesurau statudol i roi sylw i rieni sydd heb waith a chyflawniad addysgol plant, meysydd syn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i blant difreintiedig.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru:

Maer llywodraeth yma wedi ymrwymon llwyr i drechu tlodi yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweithredu i greur amodau priodol ar gyfer cyflogaeth, gan wneud yn si典r bod mwy o bobl mewn gwaith ac yn ennill cyflog byw.

Mae diwygio lles yng Nghymrun trawsnewid bywydau pobl or cefndiroedd mwyaf difreintiedig er gwell. Maer Credyd Cynhwysol yn symleiddior system dreth a budd-daliadau gan gefnogir rhai sydd ar yr incwm isaf wrth wneud hynny.

Mae creur amodau priodol ar gyfer creu swyddi drwy gyfrwng y Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol yn parhau wrth galon blaenoriaethau Llywodraeth y DU. Rwyf yn optimistaidd, wrth i ni adael yr UE, y byddwn yn datblygu partneriaeth newydd a pharhaus syn galluogi busnesau ledled y DU i barhau i fasnachu 但u partneriaid yn yr UE.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pa mor bwysig yw argaeledd tai fforddiadwy yn y frwydr yn erbyn tlodi. Dyma pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf y bydd 贈2 biliwn ar gael er mwyn cynyddur stoc o dai fforddiadwy yn Lloegr ac rwyf yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried polisi tebyg os oes angen yng Nghymru.

Gwybodaeth pellach:

  • Roedd y Gweinidog Bebb yn cymryd rhan ym Mhrif Seminar y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru Trechu tlodi yng Nghymru: diwygio polisi ar 担l Cymunedau yn Gyntaf, gweithredu ac arfer gorau yng Nghaerdydd ar 12 Hydref.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Hydref 2017