Datganiad i'r wasg

Dadlennu logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014

David Jones yn bressenol ar achlysur dadlennu logo NATO Cymru ym Mrwsel

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Caernarfon castle

Heddiw dadlennodd William Hague, yr Ysgrifennydd Tramor ac Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, y logo ar gyfer Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014 ym Mrwsel. Roedd David Jones, Ysgrifennydd Cymru, hefyd yn bresennol yn yr achlysur a oedd yn dilyn derbyniad a gynhaliwyd ddydd Mawrth i arddangos y gorau o gynnyrch Cymru i weinidogion tramor o bob rhan or byd.

Yn y lansiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague:

Maer DU yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu ein partneriaid an Cynghreiriaid yn NATO i Uwchgynhadledd NATO Cymru ym mis Medi. Wrth i Weinidogion Tramor NATO gyfarfod heddiw am y tro olaf cyn yr Uwchgynhadledd, pleser or mwyaf ir Ysgrifennydd Cyffredinol, Anders Fogh Rasmussen, a minnau yw dadlennu logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014. Mae hefyd yn bleser mawr i gael cwmni Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones yma heddiw.

Maer logo yn cynnwys Castell Caerdydd, Cwlwm Celtaidd, y ddraig goch syn cynrychioli ysbryd anorchfygol bobl Cymru, a phont cludo Casnewydd - eicon o ddinas Gasnewydd.

Pan cynhaliodd y DU yr uwchgynhadledd ddiwethaf ym mis Gorffennaf 1990, roedd or Rhyfel Oer yn dod i ben, nid oedd NATO wedi cynnal unrhyw weithrediadau tramor eto. Ers hynny, maer byd wedi newid, a NATO yw conglfaen anhepgor ein diogelwch.

Welsh Nato logo

Dywedodd Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO:

Fel William, rwyn falch iawn o ddadlennur logo ar gyfer uwchgynhadledd nesaf NATO yng Nghymru. Maen ddelwedd egn誰ol syn cynnwys symbolau grymus o Gymru mewn ffordd gyfoes.

Maer cwlwm Celtaidd yn cynrychiolir pedair elfen hynafol t但n, d典r, y ddaear ar awyr. I mi, mae hefyd yn symbol or cwlwm annhoradwy syn cysylltu Cynghreiriaid NATO 但i gilydd.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Maen destun balchder i mi fod yn bresennol yn yr achlysur hwn ym Mrwsel i lansio logo Uwchgynhadledd NATO Cymru. Maen arwydd o ymrwymiad y Llywodraeth i Gymru bod y Prif Weinidog wedi dewis dod ag Uwchgynhadledd NATO i Gasnewydd.

Maen rhaid i bob un ohonom fanteisio ar y cyfle unwaith mewn oes hwn i osod Cymru ar lwyfan y byd, gan arddangos y gorau sydd ganddi iw gynnig ac anfon cynrychiolwyr yn 担l adref gydar neges gadarn ein bod ar agor i fusnes. Maer logo yn symbol gweladwy or neges honno.

Caiff y logo ei ddefnyddio ym mannau cyfarfod yr Uwchgynhadledd ac wrth gyfathrebu 但 miloedd o gynrychiolwyr ac aelodau or cyfryngau a fydd yn mynychur Uwchgynhadledd. Maen seiliedig ar dreftadaeth amrywiol Cymru ac yn cynnwys rhai or delweddau eiconig a gysylltir 但r genedl.

Maer llywodraeth hefyd yn gofyn i bobl ledled Cymru rannu eu lluniau or hyn syn gwneud Cymru mor arbennig iddyn nhw a bydd detholiad or lluniau yn cael ei arddangos o amgylch mannau cyfarfod yr Uwchgynhadledd ym mis Medi. Maen bosib y bydd unrhyw luniau o Gymru syn cael eu hanfon ar Twitter ir hashnod #MyWales rhwng nawr ar Uwchgynhadledd yn cael eu gweld gan y dwsinau o arweinwyr y byd a fydd yn bresennol - gan helpu i wneud yr Uwchgynhadledd yn gyfle i bobl Cymru arddangos y gorau sydd gan y wlad iw gynnig.

Nodyn i Olygyddion:

Mae logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014 yn cynnwys y canlynol:

  • Logo NATO
  • Castell fel symbol o hanes cyfoethog Cymru (gydai 641 o gestyll, mae mwy o gestyll ir filltir sgw但r yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall yn y byd)
  • Draig i gynrychioli Ysbryd Cymru Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn.
  • Cwlwm Celtaidd fel symbol o dreftadaeth Cymru - maer cwlwm yn cynrychioli pedwar pwynt y cwmpawd ar bedair elfen, sef D典r, T但n, y Ddaear ar Awyr
  • Pont Gludo Casnewydd i gynrychiolir ddinas syn cynnal yr Uwchgynhadledd maer bont yn un o eiconau nenlinell Casnewydd ac yn un or chwech o bontydd cludo syn dal yn weithredol yn y byd.

Dilynwch NATO Wales

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mehefin 2014