Stori newyddion

Gwasanaeth ar-lein newydd i yrwyr masnachol dalu dirwyon DVSA

Gall gyrwyr lori, fan, bws a choets dalu dirwyon ymyl ffordd wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel o 29 Ionawr 2019.

A picture of a mobile phone with the new online payment service shown on screen

Mae gwasanaeth newydd ar 51画鋼, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn ei gwneud yn haws i dalu dirwy ymyl ffordd.

Mae gan archwilwyr DVSA y grym i gynnal gwiriadau ar y pryd ar yrwyr cerbydau masnachol yng Nghymru, Lloegr ar Alban. Gallant roi dirwy i chi (a elwir yn gosb benodedig) os ydych yn tramgwyddo.

Medrwch bellach dalur dirwyon hyn trwy ddefnyddior gwasanaeth diogel talu dirwy ymyl ffordd DVSA ar 51画鋼, yn lle defnyddio Chip and PIN ar ymyl y ffordd.

Maer gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd. Maen gweithio ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron. Maen caniat叩u i chi dalu:

  • dirwyon penodedig am ddiffygion cerbyd a thramgwyddau eraill megis oriau gyrwyr
  • ffioedd llonyddu
  • blaendaliadau llys

Medrwch dalur ddirwy eich hun neu ofyn am ei hanfon at eich cwmni er mwyn iddynt hwy dalu.

Nid ywr rheolau ynghylch pryd medrwch chi gael eich dirwyo, faint fydd yn rhaid i chi ei dalu ar terfyn amser ar gyfer talur ddirwy yn newid.

Cerbydau wedi eu cofrestru dramor

Maer un rheolau yn gymwys i gerbydau a gofrestrwyd dramor ar cerbydau a gofrestrwyd ym Mhrydain Fawr.

Ond bydd gan yrwyr yn y DU 28 diwrnod i dalu dirwyon penodedig o hyd.

Sut maer gwasanaeth ar-lein yn gweithio

  1. Bydd archwiliwr y DVSA yn gofyn i chi am gyfeiriad e-bost neu rif ff担n symudol, naill ai ar eich cyfer chi neu dalwr a enwebwyd.

  2. Byddwch yn derbyn e-bost neu neges destun 但 chod talu DVSA a dolen i dalur ddirwy ar 51画鋼.

  3. Mewngofnodwch fanylion eich cerdyn debyd neu gredyd i wneud y taliad.

  4. Byddwch yn derbyn e-bost neu neges destun i gadarnhau eich bod wedi talur ddirwy.

Caiff archwiliwr y DVSA wybod hefyd eich bod wedi talur ddirwy. Os ydynt wedi llonyddu eich cerbyd, byddant yn ei ryddhau pan fydd unrhyw faterion dros ben wedi eu datrys.

Beth geir ar y negeseuon testun ac e-byst

E-bost

E-bost

Neges destun

Neges destun

Taliadau cyflymach a mwy effeithlon

Meddai Pennaeth Polisi Gorfodi y DVSA, Gordon MacDonald:

Blaenoriaeth y DVSA yw diogelu pawb rhag gyrwyr a cherbydau anniogel.

Bydd yr ap newydd hwn yn darparu cyfle i dalu dirwyon ymyl ffordd yn haws, yn fwy effeithlon, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar y dihirod mwyaf peryglus ymhlith y gweithredwyr ar ffyrdd Prydain.

Gwirio cerbydau ymyl ffordd

Medrwch ganfod rhagor am wirio cerbydau ymyl ffordd ar gyfer gyrwyr masnachol a dirwyon a blaendaliadau ariannol ar 51画鋼.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Chwefror 2019 show all updates
  1. Added translations in Bulgarian (弍仍亞舒从亳), French (酷姻温稼巽温庄壊), German (Deutsch), Spanish (掘壊沿温単看鉛), Polish (Polski), Romanian (檎看馨但稼) and Welsh (Cymraeg).

  2. Added translation