Datganiad i'r wasg

Carchar newydd i'w redeg gan wasanaeth carchardai ei mawryhdi

Mae'r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn cael ei redeg gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
North Wrexham prison plans in 3D

Bydd y carchar, sydd i fod i agor yn 2017, yn cael ei redeg gan ddefnyddio dull newydd, arloesol a fydd yn gwneud y gorau or sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn gweithio gydai gilydd.

Bydd Gwasanaeth Carcharai Ei Mawrhydi yn berchen ar y carchar yn gyffredinol, ond bydd 34% o wasanaeth y carchar yn dod or tu allan yn cynnwys gweithdy diwydiannol mawr.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Andrew Selous:

Rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd y carchar newydd yng Ngogledd Cymru yn cael ei weithredu gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi fel rhan o ddull newydd arloesol o redeg carchardai.

Maer cyfuniad o feincnodi a chael gwasanaethau or tu allan yn arbed tua 贈300 miliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn, a bydd yn ein galluogi i ddarparu carchar effeithlon iawn yn Wrecsam, sydd wedii seilio ar yr ymarfer gorau o agor carchardai blaenorol.

Maer carchar yn adlewyrchu llwyddiant ein diwygiadau wrth helpu i greu yst但d carchardai cost isel a modern, ac maen rhoi hwb i economi Gogledd Cymru, gan fod 贈1.1miliwn eisoes wedii neilltuo i gwmn誰au lleol ymhell o flaen y targed o 贈250,000 ar gyfer 2014.

Bydd y buddsoddiad o 贈212miliwn yn darparu llety carchar o ansawdd da, sydd o werth ir trethdalwr gan ei fod yn lleihaur gost ar gyfer pob carcharor. Mae diwygiadau diweddar eisoes wedi arbed symiau sylweddol o arian y trethdalwyr, ac mae parhau i greu yst但d carchardai cost isel a modern yn hanfodol i leihau cost gyffredinol y system garchardai.

Pan fydd yn weithredol, bydd carchar Gogledd Cymru o fudd enfawr ir ardal, yn cynyddur economi lleol tua 贈23miliwn y flwyddyn ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Bydd y carchar newydd yn Wrescam yn rhoi hwb enfawr i Ogledd Cymru gan greu cyfleoedd i fusnesau lleol a chreu cannoedd o swyddi yn yr ardal.

Mae hyn i gyd yn rhan on cynllun tymor hir i helpu i adfer cydbwysedd yr economi a buddsoddi mewn seilwaith o safon byd-eang ar hyd a lled y wlad.

Bydd y carchar yn darparu tua 2,100 o leoedd Categori C ar gyfer troseddwyr gwrywaidd o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, yn cynnwys swyddogaeth remand bychan a fydd yn gwasanaethur llysoedd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn cynnwys llefydd ar gyfer addysg, 12 gweithdy mawr, a swyddogaethau ailsefydlu, a fydd yn helpu troseddwyr syn cael eu cadw yn y carchar yn agos iw cartref i ail integreiddio iw cymunedau ar 担l cael eu rhyddhau.

Maer Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd wedi bod yn gweithion agos gyda gwasanaethau datganoledig iechyd ac addysg Cymru i ddatblygu modelau addas ar gyfer y carchar, a bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gytuno ar yr adnoddau angenrheidiol wrth i ofynion y gwasanaeth gael eu cwblhau.

Maer gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac maer bloc tai cyntaf i fod i ddechrau cymryd carchardai yn fuan yn 2017.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Carchar Gogledd Cymru. Cafodd Datganiad Gweinidogol ysgrifenedig ei gyflwyno yn y Senedd fore heddiw am 9:30am.

  2. Maer Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi dweud mair strategaeth ar gyfer yst但d y carchardai ywr mwyaf cydlynol a chynhwysol ers sawl blwyddyn http://www.nao.org.uk/report/managing-the-prison-estate/

  3. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 但 swyddfar wasg DSA ar 020 3334 3536.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2015