Datganiad i'r wasg

"Potensial diderfyn" Pwerdy'r Gogledd i ogledd Cymru, meddai Stephen Crabb

Stephen Crabb: "Ni ddylai cyfyngiad fod ar raddfa uchelgais gogledd Cymru o ran Pwerdy'r Gogledd"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Business is GREAT

Mae gan ogledd Cymru gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i fanteisio ar Bwerdyr Gogledd a gyrru ton newydd o fuddsoddi a chyfleoedd ar draws y rhanbarth, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw.

Ni ddylai cyfyngiad fod ar raddfa uchelgais gogledd Cymru o ran Pwerdyr Gogledd, dywedodd Stephen Crabb wrth gyfarfod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Wnaeth hefyd dadlau o blaid datganoli o fewn Cymru i roir offer ar dulliau y mae gogledd Cymru eu hangen i ddatgloi potensial economaidd Pwerdyr Gogledd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae Pwerdyr Gogledd wedi cael dechrau arbennig o dda, wrth i ddinasoedd mawr gogledd Lloegr ffurfio bwa arloesi wedi ei ategu gan gynlluniau rhanbarthol newydd ar gyfer tai, buddsoddi, cyflogaeth a meiri etholedig. Y mis diwethaf, daeth arlywydd Tsieina - arweinydd un o econom誰au mwyaf pwerus y byd - i Fanceinion i ddysgu mwy am yr hyn y gall Pwerdyr Gogledd ei gynnig i weddill y byd.

Maer ffaith bod Tsieina yn ystyried Gogledd Prydain fel rhanbarth ar wah但n o ran cynnal busnes yn brawf bod ein hymdrechion i adfer cydbwysedd economir Deyrnas Unedig yn dwyn ffrwyth.

Dywedodd Mr Crabb y dylai arweinwyr busnes fod wrth y llyw er mwyn sicrhau bod gogledd Cymru yn manteisio ar Bwerdyr Gogledd.

Yng ngogledd Cymru, rydyn ni bob amser wedi edrych tuar dwyrain i Lerpwl a Manceinion ar gyfer twf economaidd, yn gymaint ag y byddwn nin edrych tuar de i Gaerdydd ac Abertawe. Mae Pwerdyr Gogledd yn cynrychioli ein cyfle gorau i ddod 但 newid trawsnewidiol i ogledd Cymru. Ond yn yr un modd ag y mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig hyder i ddatganoli pwerau or canol i lawr i Fanceinion, mae angen i ni weld yr un hyder yng ngogledd Cymru o du gwleidyddion Caerdydd.

Rydw i eisiau gweld cynghrair gref rhwng y gymuned fusnes yng ngogledd Cymru au partneriaid. Eu r担l nhw yw cadw Llywodraethaur Deyrnas Unedig a Chymru yn agos at yr achos fel y gall y rhan hon or wlad sicrhaur seilwaith safon fyd-eang y maen ei haeddu.

Ar 担l annerch Sefydliad y Cyfarwyddwyr, bydd Stephen Crabb yn ymweld 但 charchar Wrecsam gydag Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai.

Fe fyddan nhwn cwrdd 但 rhai or perchnogion busnesau bach a lleol syn cael budd o gontractau syn deillio or gwaith adeiladu.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Ogledd Cymru, sydd ag economi syn tyfun gyflym yn seiliedig ar gymysgedd ddeinamig o allforwyr mawr a sector busnesau bach syn ffynnu, dywed Mr Crabb.

Mae prosiectau sector cyhoeddus fel carchar Wrecsam yn dangos bod y rhanbarth mewn lleoliad gwych i wneud i fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd weithio.

Bydd y carchar yn creu tua 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb aml-filiwn ir economi leol a chenedlaethol unwaith y bydd yn weithredol.

Disgwylir y bydd tua 贈50 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau bach a chanolig eu maint, 贈30 miliwn gyda busnesau lleol, a bydd hanner y gweithlu cyfan yn cael eu recriwtio or ardal leol, gan gynnwys tua 100 o brentisiaethau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2015