Prif Weinidog Prydain yn Ymweld a Chymru cyn tanio Erthygl 50
Theresa May yn arwyddo Bargen Ddinesig Bae Dinas Abertawe

Bydd Prif Weinidog Prydain yn ymweld 但 Chymru ddydd Llun (20 Mawrth) fel rhan or broses o ymgysylltu 但r gwledydd datganoledig cyn i Erthygl 50 gael ei thanio yn ddiweddarach y mis hwn.
Mewn cyfres o ymweliadau 但 gwahanol rannau or Deyrnas Unedig gan gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu ac yn gwrando ar bobl o bob cwr o Brydain wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd fel un Deyrnas Unedig.
Maer ymweliad yn digwydd yr un pryd ag y mae Abertawe yn arwyddo Bargen Ddinesig hanesyddol y disgwylir iddi greu dros 9,000 o swyddi a sbarduno buddsoddiad fydd yn werth bron i 贈1.3bn. Maer fargen rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, yn paratoir ffordd ar gyfer buddsoddiad seilwaith mawr yn rhanbarth Bae Dinas Abertawe, a fydd yn amrywio o ganolfannau ymchwil i ranbarth digidol newydd y glannau.
Yn ystod yr ymweliad, bydd y Prif Weinidog, ynghyd 但r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cwrdd 但 phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ogystal 但 chynrychiolwyr gwahanol sectorau a busnesau.
Y prif bwynt trafod fydd sut y gall pob rhan or Deyrnas Unedig gan gynnwys Cymru wneud y gorau or cyfleoedd a gynigir gan Brexit. Mae marchnad allforio Cymru yn werth tua 贈12.3bn y flwyddyn syn dangos na fu erioed well adeg i gwmn誰au Cymreig allforio eu cynnyrch i wledydd tramor.
Mae Cymru eisoes yn allforion llwyddiannus yn anfon adenydd awyrennau ir byd, technoleg oeri ir Dwyrain Canol a fformatau teledu i ddwsinau o wledydd.
Yn 担l Prif Weinidog Prydain, Theresa May:
Om diwrnod cyntaf ar risiau Downing Street, rydw i wedi nodin glir fy mod yn benderfynol o gryfhau a chynnal yr Undeb gwerthfawr. Rydw i hefyd wedi nodin glir y byddaf yn gweithio er mwyn sicrhau bargen syn gweithio ir Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Rydw i eisiau i bob rhan or Deyrnas Unedig allu gwneud y gorau or cyfleoedd sydd on blaenau a sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu elwa or fasnach fwyaf rhydd syn bosibl fel rhan o Brydain syn masnachun fyd-eang.
Mae gan brifysgolion Cymru eisoes enw arbennig o dda ar lefel ryngwladol. Maent yn denu myfyrwyr tramor ac yn arloesi 但 phrosiectau ymchwil yma a thros y m担r.
Rydw i hefyd eisiau i Gymru fod ar y blaen ym maes gwyddoniaeth ac arloesi fel y gwelwn 但r Fargen Ddinesig arbennig hon i Abertawe heddiw.
Maer fargen yn enghraifft wych or hyn y gellir ei gyflawni pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gydai gilydd er mwyn sicrhau bargen sydd o fudd ir ddinas ac i Gymru gyfan.
Bydd Cynllun y Llywodraeth hon ar gyfer Prydain yn ceisio creu Teyrnas Unedig gryfach a thecach a gwell bargen i bobl gyffredin syn gweithio yng Nghymru ac ym Mhrydain.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dangos beth y maen bosibl ei gyflawni pan maer llywodraeth ar sector preifat yn dod at ei gilydd ac yn dod o hyd i atebion lleol a all ddod 但 budd parhaol i ardal.
Bydd y fargen ddinesig yn adeiladu ar gryfderaur rhanbarth ar cyfleoedd sydd ar gael, gan helpu Abertawe i gystadlu 但 rhai o ddinasoedd goraur byd drwy dechnoleg ddigidol gyffrous.
Mae hwn yn gyfle gwych i Abertawe ffynnu ac elwa o bartneriaethau agos syn canolbwyntio ar sicrhau enillion gwirioneddol i ardal leol.
Nodiadau i olygyddion
Mae prif elfennau dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys:
-
Gwerth 贈1.3bn o gyllid yn cynnwys 贈115m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; 贈125.4m gan Lywodraeth Cymru; 贈396 miliwn gan fusnesau ar gweddill yn dod o gyfraniadau gan yr ardal leol a phrifysgolion
-
Darpariaeth 100% i wasanaethau band-eang y genhedlaeth nesaf a meinciau arbrofi 5G
-
Partneriaeth gyda chwmni dur TATA er mwyn sefydlu canolfan arloesi a gwybodaeth ar gyfer dur, gan gynnwys pwyslais ar gynhyrchu dur di-garbon a chynaliadwyedd y diwydiant yn y dyfodol
-
Cyfleusterau newydd amrywiol er mwyn denu busnesau technegol a digidol i Ranbarth Digidol Dinas Abertawe ar Glannau