Datganiad i'r wasg

Lansio gwobr fawreddog Dylan Thomas yn Swyddfa Cymru

Ysgrifennydd Gwladol i lansio Gwobr Dylan Thomas Rhyngwladol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Dylan

(L-R) Professor Iwan Davies, Pro-Vice-Chancellor of Swansea University, Cerys Matthews and Secretary of State for Wales David Jones MP

Caiff Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a noddir gan Brifysgol Abertawe, ei lansio heno mewn digwyddiad syn cael ei gynnal gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS.

Hon ywr seithfed Wobr Ryngwladol Dylan Thomas, sef y wobr lenyddol fwyaf ar gyfer ysgrifenwyr ifanc gydar bwriad o annog talent greadigol ledled y byd. Maen dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth ryngwladol ym maes ll棚n ar draws pob genre.

Agorodd ceisiadau ar gyfer y Wobr ar ddydd G典yl Dewi 1af Mawrth 2014 ymlaen. Gan gydnabod creadigrwydd a chynhyrchiant llenyddol Dylan Thomas dros 39 mlynedd, maer Wobr ar agor i ysgrifenwyr ifanc 39 oed ac iau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain o Fai 2014

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn croesawu gwahoddedigion i D天 Gwydyr i ddathlu lansiad swyddogol y DU y Wobr. Bydd tri aelod or panel beirniadu yn bresennol, gan gynnwys y canwr ar darlledwr Cerys Matthews, Alison Pearson or Telegraph a Nicholas Wroe or Guardian ynghyd 但r sylfaenydd a llywydd y wobr; Peter Stead.

Dywedodd:

Ac yntau wedi ennill bri yn rhyngwladol, rhaid cofio bod Dylan Thomas yn Gymro ir carn. Rwyn falch o fod yma yn Swyddfa Cymru, yn cofio amdano, gan roi sylw i dalent lenyddol ifanc o bob rhan o fywyd ac o bedwar ban byd.

Lluniwyd y Wobr i adlewyrchu cynnyrch creadigol Dylan, yn cynnwys ei farddoniaeth, ei ryddiaith, ei ddram但u ai straeon byrion. Yma yn Swyddfa Cymru, rydym yn falch iawn o gefnogir cysyniad cyffrous hwn. Rydym yn annog pob ysgrifennwr ifanc au cyhoeddwyr i gyflwyno ceisiadau ir gystadleuaeth hon, a fydd yn cynnig llwyfan byd-eang ir gwaith ac yn ddathliad priodol er cof am fywyd a gwaith Dylan ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant.

Meddai Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas:

Heno, ym mlwyddyn canmlwyddiant Dylan, rydym yn lansio seithfed Wobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae ein henillwyr blaenorol wedi dod o Awstralia, Unol Daleithiau America, Gogledd Iwerddon a Chymru: a llenorion o bob cyfandir wedi cyrraedd y rhestr fer. Maer Wobr er cof am ysgrifennwr a oedd yn adnabyddus yn ei filltir sgw但r ac a aeth ymlaen i ennill bri yn gyflym iawn yn Llundain ac yn rhyngwladol. Gall ysgrifenwyr o dan 39 oed gyflwyno ffuglen, barddoniaeth a drama yn yr iaith Saesneg ar gyfer y Wobr gwerth 贈30,000. Gobeithio y gall y Wobr lansio gyrfaoedd drwy chwilio a chanfod yr ysgrifenwyr newydd mwyaf cyffrous o bedwar ban byd.

Meddair Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:

Rwyn falch iawn bod Prifysgol Abertawe yn noddi Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Dyma un or gwobrau mwyaf mawreddog ar gyfer ysgrifenwyr ifanc yn y byd. Maer Wobr hefyd yn gwneud gwaith sylweddol gyda sefydliadau addysgol, ac rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig 但 phrosiect syn helpu i hyrwyddo ysgrifennu ymysg plant a phobl ifanc. Diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am gefnogir wobr ac am gynnal y digwyddiad lansio hwn.

Ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Dylan Thomas, maen briodol iawn bod y Brifysgol yn ei dref enedigol yn cefnogi gwobr syn dwyn ei enw.

Cadeirydd y panel beirniadu yw Peter Florence, sylfaenydd G典yl y Gelli, ar aelodau eraill yn cynnwys bardd yn seiliedig o India, newyddiadurwr a dawnsiwr Tishani Doshi, canwr ar darlledwr Cerys Matthews, Alison Pearson o The Telegraph, Nicholas Wroe o The Guardian, ysgrifennu a darlledwr Carolyn Hitt a bardd a chyfieithydd Athro Kurt Heinzelman

Nodiadau i olygyddion:

Am ragor o wybodaeth am Wobr Dylan Thomas, ewch i
2014 yw canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Yn ogystal 但 noddi Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, dyma rai or uchafbwyntiau eraill a gaiff eu cynnal gan Brifysgol Abertawe i ddathlur canmlwyddiant:

  • Dylan Unchained cynhadledd academaidd ryngwladol ar Dylan Thomas ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014
  • - Maer Athro John Goodby newydd lansio astudiaeth fawr ar Dylan Thomas, gan ail-werthuso ei waith ar gyfer yr 21ain ganrif
  • cyhoeddi llyfr cynhwysfawr newydd ac awdurdodedig, a olygwyd gan yr Athro John Goodby, syn awdurdod rhyngwladol ar y bardd
  • Mynd 但 llenyddiaeth ir byd ehangach bydd ein beirdd, ein nofelwyr, ein dramodwyr, an beirniaid yn mynd 但u gwaith ir byd ehangach drwy wyliau llenyddol, gan gynnwys G典yl y Gelli, yn ystod 2014.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ebrill 2014