Y Prif Weinidog: Bydd fy llywodraeth Un Genedl yn cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cyfraniad menywod at adfywiad economaidd Cymru "yn cael ei werthfawrogi bob gafael"

-
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol o gymorth i gaur bwlch cyflog rhwng y rhywiau
-
Bydd yn ofynnol i bob cwmni sydd 但 mwy na 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi eu bwlch cyflog
-
Mae ffigurau newydd yn dangos bod cwmn誰au FTSE 100 wedi cyrraedd y targed o sicrhau bod 25% o aelodaur bwrdd yn fenywod
Heddiw (Dydd Mawrth 14 Gorffennaf), bydd y Prif Weinidog yn nodi ei uchelgais i roi terfyn ar y bwlch mewn cyflogau rhwng y rhywiau o fewn cenhedlaeth.
Erbyn hyn mae mwy o fusnesau syn cael eu harwain gan fenywod nag erioed or blaen, y nifer uchaf erioed o fenywod mewn gwaith, ac maer bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.
Yng Nghymru, mae 667,000 o fenywod mewn swyddi cyflogedig - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010.
Ond bydd y Prif Weinidog yn dweud bod rhagor iw wneud.
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, syn dechrau fis Ebrill nesaf ar 贈7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros 贈9 erbyn 2020, yn helpu menywod yn bennaf - syn tueddu i fod mewn swyddi syn talu llai - a bydd yn helpu i gaur bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhan o Gyllideb lle nododd y Llywodraeth yn glir ei hymrwymiad i ail-gydbwysor economi drwy symud o economi syn drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas 但 llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.
Heddiw, maer Llywodraeth yn cyhoeddi rhagor o gamau i fynd ir afael 但r bwlch rhwng y rhywiau.
-
Bydd gofyn i bob cwmni sydd 但 mwy na 250 o weithwyr gyhoeddir gwahaniaeth rhwng cyflog cyfartalog eu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.
-
Bydd ymgynghoriad, a lansiwyd heddiw, yn edrych ar y manylion ynghylch sut bydd y rheoliadau newydd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cynllunio, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn cael ei chyhoeddi, ymhle y gwneir hynny a phryd bydd hynnyn digwydd. Bydd hefyd yn ceisio barn ar beth arall y gellir ei wneud i annog merched i ystyried y rhychwant ehangaf o yrfaoedd, cefnogi rhieni syn dychwelyd ir gwaith a helpu menywod o bob oed i gyrraedd eu llawn botensial a chael y sicrwydd o swydd syn talun dda.
Daw hyn wrth i 100 cwmni FTSE y Deyrnas Unedig gyrraedd targed yr Arglwydd Davies o 25 y cant o swyddi ar lefel bwrdd yn cael ei llenwi gan ferched - targed a osodwyd yn 2011.
Mewn darn yn y Times heddiw, dywedodd y Prif Weinidog:
Heddiw rwyn cyhoeddi cam mawr iawn: byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob un cwmni sydd 但 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddir bwlch rhwng enillion cyfartalog menywod ac enillion cyfartalog dynion. Bydd hynnyn bwrw goleuni ar yr anghysondebau ac yn creur pwysau sydd ei angen arnom ar gyfer newid, a chynyddu cyflogau menywod.
Mae hyn yn mynd yn 担l at yr hyn a gyhoeddom yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf. Ein nod yw adfer cydbwysedd ein heconomi yn sylfaenol, gan drawsnewid Prydain o fod yn economi syn drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas 但 llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch. Rydym eisiau i bawb gael cyflogau uwch. Dyna pam y cyhoeddodd y Canghellor y Cyflog Byw Cenedlaethol, syn dechrau fis Ebrill nesaf ar 贈7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros 贈9 erbyn 2020. Bydd hyn yn helpu menywod yn bennaf, syn tueddu i fod mewn swyddi cyflog is. Bydd yn helpu i gaur bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae angen i ni fynd ymhellach, a dyna pam mae cyflwyno archwiliadau cyflog rhwng y ddau ryw mor bwysig.
Tryloywder, sgiliau, cynrychiolaeth, gofal plant fforddiadwy - gall y pethau hyn roi terfyn ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn cenhedlaeth. Dyna fy nod.
Maer Llywodraeth hon yn darparu rhaglen eang o gymorth i fenywod yn y gweithle, gan gyflwyno 30 awr o ofal plant am ddim, 20.6 miliwn o weithwyr cyflogedig bellach yn gallu elwa ar weithion hyblyg, ar gwasanaeth gyrfaoedd newydd yn rhoi busnesau ar y blaen ac yn dangos i ferched ysgol nad oes yr un proffesiwn allan ou cyrraedd.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Yng Nghymru, mae gennym rai or doniau busnes benywaidd gorau a mwyaf disglair. Ar bob lefel ac ym mhob r担l, mae angen iddynt wybod bod eu cyfraniadau at yr adferiad economaidd yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi. Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar bolis誰au fel y Cyflog Byw Cenedlaethol a chynlluniau fel y Rhaglen Waith syn brwydro yn erbyn y rhwystrau syn dal menywod yn 担l rhag llwyddo ym myd gwaith.
Maer llywodraeth hon o blaid pawb syn gweithio; rydym yn credu mewn cefnogi dyheadaur rhai sydd eisiau datblygu eu hunain. Y wobr am wneud hynny fydd economi gryfach a mwy o gyfleoedd ir genhedlaeth hon o fenywod ar genhedlaeth nesaf hefyd.
Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig yng Nghymru 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn.
Abi Carter yw sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig yng Nghaerdydd syn darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmn誰au yswiriant ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Ms Carter:
Weithiau mae menywod yn petruso cyn neidio i mewn i fyd busnes ac entrepreneuriaeth. Os yw menywod am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, maen hanfodol eu bod yn cael yr un gefnogaeth, cymeradwyaeth a phosibiliadau 但u cymheiriaid gwryw. Maen gyfrifoldeb ar bawb ohonom i rymuso menywod i lwyddo yn y gweithle, gan roi iddynt y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny, fel y gallwn harneisior cyfoeth o ddoniau y gallant eu cyflwyno i fyd busnes.
Nodiadau i olygyddion:
-
Mae dadansoddiad gan y Trysorlys o effaith cyhoeddiad y Llywodraeth am y cyflog byw cenedlaethol newydd yng Nghyllideb yr wythnos diwethaf yn dangos y disgwylir y bydd 65 y cant or rhai a fydd ar eu hennill yn ferched.
-
Y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn achos yr holl weithwyr (19.1%) ywr isaf ers i gofnodion ddechrau. Maen dangos bod menyw, ar gyfartaledd, yn ennill tua 80c am bob 贈1 a enillwyd gan ddyn.
-
Bydd y rheoliadau arfaethedig yn gweithredu Adran 78 Deddf Cydraddoldeb 2010 - mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ym Mhrydain Fawr sydd ag o leiaf 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi gwybodaeth am y cyflog y mae eu gweithwyr gwryw a benyw yn ei gael. Rydym yn bwriadu cyflwyno hyn yn ystod hanner cyntaf 2016, a bydd yr ymgynghoriad yn archwilio pa mor gyflym y gellir gorfodir rheoliadau.
-
Yn 2011, gosododd yr Arglwydd Davies o Abersoch y targed o gael 25 y cant o fenywod ar fyrddau ar 担l cael cais gan y Llywodraeth i edrych ar sut i fynd ir afael 但r diffyg merched ar fyrddau cwmn誰au FTSE. Erbyn hyn nid oes byrddau sydd 但 dynion yn unig o gymharur sefyllfa 但 2011.
-
Bydd yr Arglwydd Davies yn awr yn gweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant i ddysgu o brofiadaur pedair blynedd diwethaf, ac yn gwneud cyfres o argymhellion ar sut gall busnesau barhau i wella amrywiaeth o safbwynt y rhywiau.
Menywod ac economi Cymru
- Mae 667,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010
- Merched yw 47.7% or holl weithwyr cyflogedig yng Nghymru erbyn hyn
- Mae 33% o reolwyr neu uwch swyddogion yng Nghymru yn fenywod
- Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn