Rhoi menywod wrth galon economi Cymru
Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Wales Office
O entrepreneuriaid busnes llwyddiannus ir rheini syn gweithion ddiflino i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cydnabod cyfraniad pwysig menywod yng Nghymru iw cymunedau ac i economi Cymru.
Eleni, bydd Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei hymdrechion ar hyrwyddo Grymuso Menywod yn Economaidd a Chodi Dyheadau Merched gyda golwg ar roi menywod wrth galon twf economaidd y DU.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae blaenoriaethur economi ac arddangos yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael neu syn cael eu cymryd i gefnogi menywod i wireddu eu potensial llawn yn bwysig dros ben, a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ir Llywodraeth hon.
Mae menywod yn hollbwysig i lwyddiant busnesaur DU. Mae wynebur rhwystrau yn y gweithle syn dal menywod yn 担l yn synnwyr busnes call.
Ond wrth i ni barhau ar hyd y llwybr at adferiad economaidd, mae rhagor eto iw wneud. Bydd harneisio talentau menywod yn y gweithle heddiw yn sicrhau bod busnesaur DU yn medi manteision hyn yn y dyfodol.
Mae busnesau syn edrych tuar dyfodol yn gwybod hyn ac eisoes yn dangos y ffordd drwy weithredu a chydnabod y manteision busnes. Rwyf yn annog busnesau eraill yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl ar gyfer iechyd ein heconomi yn y dyfodol.
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd 但 chyfrifoldeb portffolio dros gydraddoldeb, y Farwnes Randerson, yn cynnal swper ar gyfer uwch fenywod busnes amlwg yng Nghymru yn Nh天 Gwydyr. Bydd y digwyddiad yn gyfle i nodi eu cyfraniad at economi Cymru, ar camau syn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i annog rhagor o fenywod i fyd gwaith a menter.
Bydd y gwesteion yn cynnwys Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru, Connie Parry, Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Hurns Brewing a Cilla Davies OBE, Cadeirydd The Princes Trust Cymru.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Fel syn cael ei ddangos gan y menywod syn ymuno 但 mi i nodir diwrnod pwysig hwn, mae gan Gymru rai or talentau busnes gorau a disgleiriaf ac mae arnom eisiau grymuso rhagor o fenywod fel y rhain i swyddogaethau uchel eu proffil er mwyn iddynt allu ysbrydolir genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc a fydd yn arweinwyr busnes.
Mae hyn yn ymwneud 但 chreu economi gryfach a chymdeithas decach. Nid oes dim yn fwy effeithiol ar gyfer datblygu economaidd na grymuso menywod. Gall Cymru a dylai Cymru gymryd yr awenau yn y DU ac yn rhyngwladol wrth chwalur nenfwd gwydr hwnnw ym mhob maes - boed hynnyn wleidyddiaeth, yn fusnes, yn weithgynhyrchu, yn amaethyddiaeth neun gelfyddydau.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn bresennol mewn digwyddiad syn cael ei drefnu gan gangen y Rhyl or Inner Wheel - un o fudiadau gwirfoddol gwasanaeth menywod mwyaf y byd. Bydd y gr典p yn gwneud cyflwyniad i Wasanaeth Cam-drin Domestig Gogledd Cymru i gydnabod eu gwaith yn helpu menywod sydd mewn perthynas gamdriniol.
Maer Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cyhoeddi heddiw (8 Mawrth) y bydd cynllun yn cael ei gyflwyno mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr o heddiw ymlaen a fydd yn caniat叩u ir heddlu ddatgelu manylion am orffennol camdriniol eu partneriaid i unigolion.
Mae Cyfraith Clare - y Cynllun Datgelu Trais Domestig - wedi cael ei dylunio i roi gwybodaeth i ddioddefwyr a all eu diogelu o sefyllfa o gam-drin cyn i bethau droin drychineb. Ar 担l cael cais, maer cynllun yn caniat叩u ir heddlu ddatgelu gwybodaeth am hanes blaenorol partner o drais domestig neu weithredoedd treisgar.
Maen dilyn cynllun peilot 14 mis o hyd mewn pedair ardal heddlu, gan gynnwys Gwent, a ddarparodd wybodaeth a allai achub bywydau i dros 100 o bobl.
Ychwanegodd David Jones:
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoir llwyfan i ailadrodd nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dderbyniol, na chaiff ei ddioddef a bod help a chefnogaeth ar gael ir rheini sydd eu hangen.
Mae gan bawb hawl i fywn ddiogel heb ofn ac mae rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth ir llywodraeth hon.
Roedd Stephen Crabb AS wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu myfyriwr o Ysgol T天 Ddewi yn Sir Benfro iw gysgodi yn ystod ei ddyletswyddau yn y Senedd.
Dywedodd Stephen Crabb:
Maer Llywodraeth hon yn gweithio i gefnogi ac annog cyflogwyr i roir mesurau iawn ar waith i greu gweithleoedd mwy cynhwysol ac i feithrin talent. Wrth ir adferiad economaidd barhau, ni allwn fforddio anwybyddur cyfraniad ychwanegol enfawr y gallai menywod ei wneud at ein cymunedau. Mae rhoir cyfleoedd iddynt gael blas ar fyd gwaith er mwyn helpu i gyfrannu at eu dewisiadau ynghylch eu gyrfa yn y dyfodol yn rhan hollbwysig or ymdrech hon.