Datganiad i'r wasg

Derbyniad i ddangos y gorau o Cymru o flaen Uwchgynhadledd NATO

Prif Weinidog Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynnal digwyddiad i hybu busnesau Cymru, addysg a twristiaeth.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ar Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb yn cynnal derbyniad heddiw (dydd Iau, 28 Awst) i ddangos y gorau o fyd busnes, addysg a thwristiaeth yng Nghymru ar drothwy Uwchgynhadledd NATO.

Disgwylir gweld rhagor na 200 o westeion gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau a diwydiannau creadigol Cymru yn ogystal 但r cyfryngau tramor yn y derbyniad a gynhelir yn y Swyddfa Dramor yn Llundain.

Ynghyd 但 chlywed anerchiadaur ddau weinidog, caiff y gwesteion gyfle i weld delweddaur ymgyrch Wales is GREAT a sut maer ddwy lywodraeth yn hyrwyddo Cymru dramor gan ddefnyddior rhwydwaith o lysgenadaethau, conswlaethau ac uchel-gomisiwnau sydd gan y Deyrnas Unedig.

Bydd rhai o gynnyrch gorau Cymru hefyd yn cael eu harddangos yn y digwyddiad, gan gynnwys gwin o Winllan White Castle yn Sir Fynwy a sudd afal o Welsh Farmhouse yng Ghrughywel. Bydd arlwyo yn cael ei ddarparu gan y Welsh Culinary Association

Meddair Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Dyma gyfle inni ddangos pam mae Cymrun wlad cystal i ymweld ac i fasnachu 但 hi ac i fuddsoddi ac astudio ynddi. Rydyn nin manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru ac i ganun clodydd dramor. Mae Uwchgynhadledd NATO yn gyfle rhagorol inni wneud hynny.

Rydyn ni newydd gyhoeddir ffigurau gorau erioed ers inni ddechrau gadw cofnodion 30 mlynedd yn 担l am fusnesau tramor syn buddsoddi yng Nghymru, gan greu a diogelu mwy na 10,000 o swyddi. Ac maer ffigurau allforio diweddaraf yn dangos mai Cymru o bedair gwlad Prydain welodd y cynnydd mwyaf yn ei hallforion.

O ran twristiaeth hefyd, mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn dangos bod Cymrun gwneud yn dda o ran niferoedd yr ymwelwyr. Yn ystod tri mis cyntar flwyddyn, roedd tripiau i Gymru i fyny 3.2% ou cymharu 但 llynedd sefyllfa wahanol i sawl rhan arall or DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:

Mae cyfleoedd aruthrol yng Nghymru ar gyfer twristiaeth, addysg a buddsoddi mewn busnesau. Mae gennym enw da trwyr byd am weithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, seiber-dechnolegau ac awyrofod ac rydym yn mentro i farchnadoedd newydd bob blwyddyn.

Diolch i Uwchgynhadledd NATO, mae mwy o lygaid y byd ar Gymru nawr nag a fu erioed or blaen. Maen gyfle unwaith mewn oes i ddangos ir byd y gorau sydd gennym. Mae heddiwn enghraifft ohonom yn gweithio i sicrhau bod Cymrun medir gorau posibl or Uwchgynhadledd.

Mae gennym ddigwyddiadau eraill yn yr arfaeth, fel y gynhadledd fuddsoddi ym mis Tachwedd, fydd yn rhan o waddol yr Uwchgynhadledd. Rydym yn gwneud popeth i wneud yn si典r bod gan Gymru yr hyn sydd ei hangen arni i gystadlu 但r byd.

Maer derbyniad hefyd yn dod diwrnod o flaen Diwrnod Cymru, ymgyrch undydd gan gyfryngau digidol y DU, llysgenadaethau, cenhadon ac uwch gomisiynau ar 1 Medi i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a busnes cyn Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Awst 2014