Mae'r gwaith o gyflwyno Band Eang Cyflym Iawn yn yr ardaloedd gwledig yn cyflymu
Cymru yn arwain y ffordd gyda chyflwyno band eang

Superfast broadband
Mae ystadegau newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos bod ymgyrch y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn ar draws y wlad wedi cyflymun ddramatig. Ddiwedd 2013, roedd nifer y safleoedd a oedd yn elwa o fand eang cyflym iawn yn sg樽l y rhaglen wedi bron 但 threblu i 273,731.
Maer prosiect, syn werth 贈1.2 biliwn, yn rhan allweddol o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth i sicrhau dyfodol Prydain drwy ddarparu seilwaith gwell, ac maer prosiect ar y trywydd iawn yn hynny o beth. Ar sail perfformiad blaenorol ar ystadegau newydd hyn, amcangyfrifir bod dros 300,000 o safleoedd yn y DU yn gallu cael gafael ar gyflymderau cyflym iawn erbyn hyn yn sg樽l y rhaglen, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl. Bydd nifer y cartrefi ar safleoedd a fydd yn cael mynediad yn codi o 10,000 yr wythnos i 40,000 yr wythnos erbyn yr haf.
Maer ystadegaun dangos bod gwaith y Llywodraeth yn gweddnewid band eang mewn ardaloedd gwledig yn mynd rhagddon arbennig o dda, ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu band eang cyflym iawn i 95% or wlad erbyn 2017. Mae llawer eisoes yn mwynhaur manteision, gyda theuluoedd yn gallu ffrydio ffilmiau a rhaglenni teledu ar yr un pryd, lawrlwytho cerddoriaeth a llwytho lluniau a fideos i safleoedd cyfryngu cymdeithasol mewn eiliadau. Gall busnesau gydweithio 但 chymheiriaid a chwsmeriaid drwy alwadau fideo neu gynhadledd neu newid eu caledwedd au trwyddedau meddalwedd drud am ffeiliau, p典er prosesu a meddalwedd o gyfrifiadura cwmwl.
Dyma enghreifftiau or cynnydd sydd wedii wneud hyd yma:
- Mae nifer y safleoedd syn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn oherwydd y prosiect wedi bron 但 threblu ers mis Medi (273,731 ar 31.12.13, i fyny o 111,968 yn 31.09.13)
- Mae gan hanner y prosiectau o gwmpas y DU gabinetau byw yn barod, gyda busnesau a chartrefi lleol yn elwa o fynediad cyflym iawn
- Mae oddeutu 1000 o gabinetau wedi mynd yn fyw mewn ardaloedd ledled y DU
- Maer nifer syn derbyn band eang cyflym iawn yn y DU eisoes yn uwch nag yn yr Almaen, yr Eidal a Sbaen, a mwy na dwbl y nifer yn Ffrainc.
- Mae llawer o brosiectau eisoes ar y blaen gydau hamserlen. Eisoes, mae 10,000 o safleoedd yr wythnos yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn, a bydd y nifer yn codi i 25,000 yr wythnos yn ystod gwanwyn 2014, a chodi wedyn i 40,000 yr wythnos erbyn haf 2014.
Dywedodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd Diwylliant:
Mae cael band eang cyflym iawn yn hynod bwysig i bobl ledled y wlad pa un a ydynt ei angen ar gyfer gwaith neu dim ond i lawrlwytho cerddoriaeth neu ffilmiau. Maer ffigurau hyn yn profi bod momentwm go iawn erbyn hyn gyda miloedd o gartrefi a busnesaun cael mynediad bob wythnos. Dyma ran on cynllun economaidd hirdymor a bydd band eang yn hanfodol er mwyn ysgogi twf a hybu econom誰au lleol ledled y DU.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cynlluniaur Llywodraeth hon ar gyfer cyflwyno band eang ar draws y DU yn hynod o uchelgeisiol - ond maent yn uchelgeisiau syn cael eu gwireddun sydyn.
Yn gynharach y mis hwn, cadarnhawyd bod 100,000 o gartrefi a busnesau Cymru bellach yn gallu manteisio ar gyflymderau cyflym iawn ar 担l i Lywodraeth y DU gyflwyno band eang cyflym iawn. Maer ffigurau cadarnhaol hyn, a gyhoeddwyd heddiw, yn dyst i sut y mae arian Llywodraeth y DU yn galluogi Cymru i arwain y ffordd yn y gwaith o ddarparu seilwaith band eang y maer wlad hon ei angen i gystadlu 但r gorau yn y byd.
Dywedodd Stephen Crabb AS, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd 但 chyfrifoldeb dros fand eang:
Ni ellir pwysleisio gormod y cyfraniad y bydd gwaith y Llywodraeth hon yn cyflwyno band eang cyflym iawn yn ei wneud i dwf economaidd Cymru ar DU drwyddi draw.
Drwy gael mynediad i fand eang cyflym iawn, gall busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd a chreur swyddi y mae eu hangen arnom. On hardaloedd gwledig in dinasoedd, maer Llywodraeth hon yn sicrhau y bydd gan bobl Cymru rwydwaith band eang syn addas ir oes ddigidol - ni waeth ble y maent.
Bydd manylion sut y bydd 贈250m arall yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol fel rhan or prosiect i sicrhau bod 95% o safleoedd y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn 2017 yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Nodiadau i Olygyddion
-
Maer adroddiad iw weld yma
-
Rhaglen fuddsoddi gan y Llywodraeth mewn seilwaith band eang a chyfathrebu ledled y DU yw Superfast Britain. Maen cael ei chynnal gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac maer buddsoddiad hwn yn helpu busnesau i dyfu, maen creu swyddi a bydd yn gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen ir portffolio:
- 贈790m i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% or DU erbyn 2017
- 贈150m i ddarparu band eang cyflym i fusnesau mewn 22 dinas
- 贈150m i wella ansawdd a derbyniad gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol a ffonau symudol
Mae Superfast Britain, a weinyddir ar ran y Llywodraeth gan Broadband Delivery UK (BDUK), yn gweddnewid Prydain drwy hybu twf, galluogi pobl i ennill sgiliau a dysgu a gwella ansawdd bywyd. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma
- Dywed yr adroddiad, UK Broadband Impact Study Impact Report, gan y dadansoddwyr SQW (gyda Cambridge Econometrics) y bydd buddsoddiad y Llywodraeth mewn band eang cyflym iawn yn rhoi hwb sylweddol i economir DU, gan gynnig enillion net o 贈20 am bob 贈1 a fuddsoddir. Gellir gweld yr adroddiad yma