Neges Dydd y Cofio
Stephen Crabb: Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.

Ar Sul y Cofio, safwn gydan gilydd fel cenedl i dalu teyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid an democratiaeth.
Ar adeg fel hon, byddwn yn camu on bywydau prysur, ac yn oedi i feddwl cyn mwynhaur rhyddid ar cyfleoedd rydym wediu cael ar draul colli bywydau, er mwyn dweud, diolch a cofiwn amdanoch.
Yng Nghymru, mae gennym hanes milwrol hir ac anrhydeddus. Gall pob un ohonom ymfalch誰o ym mhroffesiynoldeb llwyr ac yn ymroddiad di-ildio dynion a menywod ein lluoedd arfog. Bydd pobl Cymru yn cofion anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.
Byddwn hefyd yn myfyrio ynghylch y rhyfeloedd syn digwydd ar hyn o bryd ar draws y byd, ar aberthau dyddiol gan y rheini syn parhau i amddiffyn ein gwerthoedd an ffordd o fyw. Rydym yn meddwl amdanynt ac yn diolch iddynt, yn ogystal ag yn meddwl am eu hanwyliaid, syn gweld eu collin fawr ond yn eu cefnogi bob cam or ffordd.
Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.